Colofnau

‘Fel ’na mae bywyd yn mynd â ni’

Llais llyfrau

Casi Dylan

Amser darllen: 5 munud

23·11·2022

Stondin Sbaen yn Ffair Lyfrau Frankfurt 2022 (Hawlfraint: Frankfurter Buchmesse)
 

Wrth i’r Arlywydd Selensci annerch ffair lyfrau Frankfurt, roeddwn i ar goll. Ar ei hôl hi, ac wedi gwthio’n ofer yn erbyn cyfres o ddrysau ar glo, dyma ni’n chwilio am drywydd arall i mewn i’r Ganolfan Gynadledda, un a’n gyrrodd ar ddisberod, yn gylch cyfan o amgylch maes anferthol y Messe. Fe gyrhaeddom ni neuadd Harmonie yn union wrth i’r gymeradwyaeth ddistewi ac wrth i’r rhan fwyaf o’r gynulleidfa droi tua’r drysau: roedd y ffrwd fyw o Ciif ar ddod i ben.

Ceisiais ddarbwyllo Elin, fy nghydweithwraig, fod hyn i gyd yn rhan o’r profiad, yn fedydd tân i fyd y ffair. Dyma ei thro cyntaf hi yn y Messe fel Swyddog Prosiect newydd Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, a dim ond yr eildro i mi droedio ei choridorau. Fel y cyfarfodydd gyda’r cyhoeddwyr, y pwyllgorau ffurfiol a’r partïon diodydd, mae colli ffordd yn y neuaddau enfawr hyn yn rhan o’r profiad – esgus tila gen i i ddangos fy mod yn hen law, mae’n siŵr, a fawr o gysur wrth eistedd yno yn y tywyllwch wedi i ni golli un o uchafbwyntiau ein rhaglen, ein traed yn brifo a’n stumogau’n wag. 

Fel yr oedd hi, doedd y digwyddiad ddim ar ben. O dan felyn a glas y goleuadau, cynrychiolydd o Sbaen oedd y nesaf i godi i’r llwyfan, i ymateb ar ran gwlad wadd eleni i’r araith na chlywais mohoni. Yn ei gydsafiad, troi at eiriau Don Quixote Cervantes a wnaeth yn gyntaf:

Rhyddid, Sancho, yw un o’r rhoddion nefol mwyaf gwerthfawr a gyflwynwyd i ddyn; nid oes yr un trysor ynghudd yn nhir y ddaear na dŵr y môr all gymharu ag ef; dros ryddid, yn yr un modd ag anrhydedd, gellid a dylid mentro bywyd; ac ar y llaw arall, caethiwed yw’r drwg gwaethaf all ddod i ran dyn. 

Wrth i’m hysgwyddau lacio rhyw ychydig ac i fy hwyliau godi, aeth yn ei flaen i grybwyll gwaith Abdulrazak Gurnah, y nofelydd o Tanzania sy’n byw bellach yn Nghaergaint, ac enillydd Gwobr Lenyddiaeth Nobel 2021. Dyma awdur sy’n tynnu ar ei brofiad ef ei hun o geisio lloches, o golli a gorfod ail-greu ei le yn y byd: themâu ei waith yw themâu mawr ein hoes. Fel y dywedodd mewn cyfweliad yn y Guardian

Mae hon yn un o straeon mawr ein hoes ni, y rheidrwydd ar bobl i ail-lunio ac ail-greu eu bywydau y tu hwnt i’w mamwlad. Ac mae sawl dimensiwn iddi. Beth maen nhw’n ei gofio? A sut maen nhw’n ymdopi â’r hyn maen nhw’n ei gofio? Sut maen nhw’n ymdopi â’r hyn a ddarganfyddant? Neu’n wir, y modd y cânt eu derbyn?’

Ceisio dirnad colledion a darganfyddiadau o’r fath yr oeddwn i wrth i’r siaradwr gwadd olaf gamu i’r llwyfan: Olecsander Afonin, Llywydd Cymdeithas Cyhoeddwyr a Llyfrwerthwyr Wcráin. Roedd yno i siarad, meddai’n fwriadol bwyllog, nid fel gwleidydd ond fel aelod o’i broffesiwn. Aeth yn ei flaen i ddisgrifio sut y maent yn Wcráin – yn nannedd y brwydo, yn llwch y taflegrau sy’n dinistrio llyfrgelloedd, tai cyhoeddi, cartrefi, ac isadeiledd – yn dal i greu ac i gyhoeddi llyfrau. Er gwaethaf yr heriau, maent yn parhau i ddosbarthu llyfrau nid yn unig oddi mewn i ffiniau’r wlad ond yn rhyngwladol, mewn ymgais i gyrraedd y miliynau o Wcreiniaid sydd wedi eu digartrefu gan y rhyfel. Gyda chymorth llywodraethau Ewrop a thu hwnt, eu gobaith yw sefydlu casgliadau o lyfrau o Wcráin mewn llyfrgelloedd a siopau llyfrau ar draws y byd. Galwodd am arweiniad ariannol, trefniadaethol a moesol gan aelodau’r llywodraethau a’r corfforaethau yn Frankfurt: ‘Ac fe alwaf arnoch chithau hefyd i ymateb,’ meddai, ‘gyd-gyhoeddwyr, gyd-ddarllenwyr.’ Roedd yn ddigon i dynnu dagrau, i godi croen gŵydd. Cyn camu o’r golau atgoffwyd ni gan Afonin nad oedd eto yr un tŷ cyhoeddi yn Rwsia wedi condemnio’r rhyfel, nac wedi mynegi cefnogaeth i lywodraeth a phobl Wcráin.
 

Abdulrazak Gurnah yn Ffair Lyfrau Frankfurt 2022 (Hawlfraint: Frankfurter Buchmesse)


Nid oes angen edrych dim pellach am dystiolaeth o arwyddocâd diwylliannol a gwleidyddol Ffair Lyfrau Frankfurt. Heb ddiystyru ymdrechion ac ymroddiad gweisg annibynnol, arian llywodraethau sy’n ei chynnal ac yn galluogi cyrff cenedlaethol i gefnogi diwydiannau eu gwledydd yma bob blwyddyn. Llywodraethau sy’n cwrdd â chostau codi stondin genedlaethol, ac sy’n buddsoddi’n sylweddol mewn cynnal rhaglen y wlad wadd o flwyddyn i flwyddyn. Cydnabyddir ganddynt rym codi platfform o’r fath ar lefel ryngwladol. Ond yr hyn yn benodol a’m cyffrôdd i, wedi i mi golli fy ffordd y prynhawn hwnnw, oedd profi o’r newydd y cyfuniad ysgytwol o greadigrwydd a masnach sy’n gyrru’r byd cyhoeddi. Bu’r alwad gan yr Wcreiniad yn un wleidyddol, wrth reswm, ond yn yr un gwynt roedd yn gydnabyddiaeth bod llyfrau a llenyddiaeth yn hanfodol. Trwy ddyfynnu Cervantes a Gurnah mewn cyd-destun mor boenus o amrwd, trwy gyflwyno sefyllfa Wcráin trwy lygaid ei llyfrwerthwyr, fe’n hatgoffwyd yn yr Harmonie o’n hangen elfennol am gelfyddyd i greu a chynnal ein lle yn y byd, hyd yn oed wrth i’r union fyd hwnnw syrthio’n ddarnau o’n hamgylch. Nid rhamantu mo hyn, nid rhywbeth amheuthun y tu hwnt i brofiadau beunyddiol. Meddai un o gymeriadau Gurnah yn ei nofel, By the Sea (2001): 

‘Fel’na ma bywyd yn mynd â ni,’ meddai Elleke unwaith. ‘Mae’n mynd â ni fel ’ny, ac yna mae’n ein troi ni ar ein pennau ac yn mynd â ni fel ’na.’ Yr hyn na ddywedodd oedd sut, trwy’r cyfan, y llwyddwn i ddal ein gafael ar ryw lun o ystyr.

Mae llyfrau, mae geiriau, yn gartrefi, yn gadarnleoedd ystyr, ac fe fynnant fuddsoddiad ym mhob ystyr y gair: yn yr amser a’r ynni personol a roddwn iddynt, yn yr isadeiledd cymdeithasol ac economaidd sy’n hwyluso eu taith.

Wedi cyrraedd nôl gartref o’r ffair lyfrau mae’r gwaith mawr yn dechrau. Mae’r ebostio’n cychwyn, a’r manylu ar y sgyrsiau hwyliog a gaed o stondin i stondin, ac ynghylch hawliau gwerthu a chostau cyfieithu. Ond ynghanol hyn rwyf hefyd yn chwilio am ffigyrau eraill: sawl person o Wcráin sydd wedi ymgartrefu bellach yng Nghymru? A faint o ddeunydd darllen yn eu mamiaith sydd ar gael iddynt, o fewn eu gafael? Law yn llaw â’r pwyslais a roddir ar ryngwladoli llyfrau o Gymru yng ngwaith y Gyfnewidfa Lên, ni ddylid anghofio chwaith y bwriad arall – y broses o gyfnewid. Gallwn deithio i ddau gyfeiriad ar y ffyrdd a adeiladir gan y gwaith hwn. Oni ddylid cynnig yr adnoddau a geisiwyd gan Gymdeithas Cyhoeddwyr a Llyfrwerthwyr Wcráin fel rhan hanfodol o’n cyfnewid diwylliannol, o’n cydsafiad? 

Mae Casi Dylan yn gyfrifol am ddigwyddiadau a phrosiectau ymgysylltu ag ymchwil ym Mhrifysgol Glasgow, ac yn Gydymaith gyda Cyfnewida Lên Cymru.

Maent yn parhau i ddosbarthu llyfrau, mewn ymgais i gyrraedd y miliynau o Wcreiniaid sydd wedi eu digartrefu gan y rhyfel

Pynciau:

#Llais llyfrau
#Casi Dylan
#Frankfurt
#Wcráin
#Ffeiriau llyfrau
#Abdulrazak Gurnah