Colofnau

Annibyniaeth ysbryd a’r gwacter ystyr

Socrates ar y stryd


Huw L Williams

Amser darllen: 15 munud

25·11·2017

Ym mis Medi, o fewn tridiau i’w gilydd, cynhaliwyd dau ddigwyddiad arwyddocaol ond tra gwahanol yn ein prifddinas: IndyFest gan YesCymru (sydd yn ymgyrchu dros annibyniaeth) a chynhadledd y Sefydliad Materion Cymreig, Wales Said Yes. Un yn edrych yn ôl, os hoffech chi, a’r llall yn edrych ymlaen.

Wrth edrych ar y gwahanol ddelweddau yn ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd yn anodd peidio â theimlo bod yna ryw arwyddocâd dyfnach i’r cyferbyniad rhwng y ddau. Roedd un yn frith o siwtiau, ystadegau a chyflwyniadau PowerPoint yn dadansoddi materion polisi trwy leisiau’r sefydliad, ac yn ystyried aflwyddiant datganoli. Y llall wedyn yn anffurfiol a lliwgar, gydag amryw o weithgareddau a fforymau, yn trafod sut y gallwn ni, y bobl, ysbrydoli ein hunain i symud Cymru ymlaen tuag at ddyfodol mwy llewyrchus.

Efallai na ddylid gorbwysleisio’r agendor rhwng y ddau; mae’n siŵr bod yna ambell un wedi mynychu'r naill a’r llall, gan fod y digwyddiadau yn agored i bawb mewn egwyddor (er bod pris tocynnau’r IWA yn debyg o filwrio yn erbyn mynediad rhai pobl), ond, o blith y gwleidyddion, dim ond wynebau Jill Evans ASE a Neil McEvoy AC a welwyd yn IndyFest. Mae yna angen dybryd i’r bydoedd yma gyd-daro: heb fagu ysbryd annibynnol a'r ‘gallu i wneud’, mae hi’n sicr y bydd yna gynhadledd arall, ymhen ugain mlynedd, i alaru am fwy fyth o flynyddoedd coll.

Sosialaeth ar y stryd

Fy lle i oedd ar y stryd (ble arall?), Stryd Womanby a bod yn fanwl gywir, yn hytrach nag yn ystafell Preseli Canolfan y Mileniwm. Cefais gyfle i eistedd wrth ochr Dr Dan Evans, brodor o Borth-cawl, sydd yn ennill cydnabyddiaeth gynyddol am ei bodlediadau ‘Desolation Radio’. Yn ôl Simon Brooks, mae Dan ‘mewn cymaint o ffyrdd, yn un o feddylwyr gorau’r Gymru gyfoes', ac eiliaf innau hynny.

Thema ein sgwrs oedd ‘Cymru Sosialaidd Annibynnol’ a byrdwn ei gyfraniad ef oedd nad oes modd na diben mewn ymgyrraedd at Gymru Annibynnol oni bai ei bod hi’n un sosialaidd. Yn wir, mae ei llwyddiant yn ddibynnol ar fabwysiadu egwyddorion sosialaeth.

Mentraf fod unigolion fel Dan yn anhepgor o safbwynt yr ymdrech dros annibyniaeth (a chynnydd cyffredinol yn ein gwleidyddiaeth yma yng Nghymru), yn rhannol oherwydd ei fod yn cynrychioli safbwynt beirniadol, beiddgar a radical sy’n deillio o fyd y di-Gymraeg. Mae ganddo’r gallu a’r ddawn i ail-lunio’r naratif am y Cymry di-Gymraeg, a’i greu fel un sydd yn annatod wrthwynebus i’r sefydliad Prydeinig. Gan hynny, mae ei naratif yn fodd i herio gafael ‘Cymru Dai Smith’ ar y canfyddiad o’r cymunedau hyn, ynghyd â chanfyddiadau’r cymunedau hynny ohonynt eu hunain.

Er mwyn hyrwyddo agwedd flaengar, fentrus, rhaid herio’r hen ragdybiaethau am ein dibyniaeth ar Brydain sydd yn llifeirio o enau mab yr hanesydd, yr Aelod Seneddol Owen Smith, a’i debyg. Wrth edrych ar gyflwr ein cymunedau, anodd ydyw dadlau bod yr agwedd yma wedi bod o wasanaeth i ni. Yn ymarferol, wrth gwrs, byddai magu’r annibyniaeth ysbryd yma’n rhoi sylwedd yn y tymor byr i fygythiadau Carwyn Jones ar y lefel Brydeinig am anfodlonrwydd y Cymry ac i'r bygythiad i’r Undeb.

‘Modd o fyw’

Ar lefel sylfaenol, mae’r ailddehongli yma’n gofyn amlygu bygythiad Prydain i gymunedau a ‘ffyrdd o fyw’ ledled Cymru. Awgryma Dan nad yw ei genedlaetholdeb yn deillio o safbwynt ‘diwylliannol’ a phwyslais ar yr iaith ond o’r hyn sy’n ysgogi’r cenedlaetholdeb hwnnw – gwerthoedd megis cydraddoldeb, heddychiaeth, cymuned, goddefgarwch a chydgefnogaeth (‘solidarity’). Fy awgrym i yw ei fod, er hynny, yn sôn am amddiffyn diwylliant yr un fath.

Hynny yw, mae’r syniadau a’r dyheadau yma oll yn adlewyrchu ‘modd o fyw’ - sef yr ystyr a rydd Raymond Williams i ‘ddiwylliant’. Mae hwn yn safbwynt penodol ar y byd sydd yn deillio o ddiwylliant unigryw de Cymru, a’r hyn y mae Dan Evans ac eraill yn tynnu sylw ato yw bod y diwylliant hwn yn wynebu cymaint o fygythiad â diwylliant, neu ffordd o fyw, y Cymry Cymraeg.

Mae’r neoryddfrydiaeth gyfalafol, sydd wedi’i phlethu yng ngwneuthuriad y wladwriaeth Brydeinig ac sydd yn cael ei hatgynhyrchu gan y Cynulliad, yn wenwyn i gymunedau Cymru drwyddi draw. Rydym yn cael ein llethu gan yr un grym. Mae prynwriaeth, tueddiadau atomistaidd y gyfundrefn a’r arfer o osod elw uwchlaw pob gwerth arall yn mynd i fygwth yr hyn sydd ar ôl o ddiwylliant Cymreig – ym mha ffyrdd bynnag y dymunwch adnabod a chydnabod y diwylliant hwnnw.

Yr Argyfwng Gwacter Ystyr

Mae thema ehangach, ddyfnach yn llechu dan y sylwadau hyn, sydd yn berthnasol i’r argyfwng gwleidyddol ehangach sy’n chwyrlïo o’n cwmpas. Gellir dehongli ‘modd o fyw’ fel yr hyn y geilw athronwyr yn ‘gysyniadaeth o’r da’: set o syniadau a gwerthoedd a rydd arweiniad i fywyd person, ac ystyr i’w fywyd. Crefydd, mae’n debyg, yw’r esiampl amlycaf o gysyniadaeth o’r fath.

Pan fydd unigolion a grwpiau yn codi llais i amddiffyn diwylliannau, yr hyn a wnânt, fwy na heb, yw ceisio amddiffyn neu adfer yr hyn sy’n cynnig lle i bobl yn y byd: ‘crud i’r ysbryd’, a defnyddio ymadrodd J R Jones. Fe gyhoeddodd JR, wrth gwrs, ysgrif bwysig am y materion dwfn hyn yn Yr Argyfwng Gwacter Ystyr (1964). Ymateb i ‘farwolaeth Duw’ oedd y llith, yn dilyn rhai o syniadau’r diwinydd Paul Tillich, a awgrymodd fod y diwylliant gwyddonol, empeiraidd wedi’i ladd.

A dwyn i gof ddadansoddiad Marx bod cyfalafiaeth yn creu ei thorwyr beddau ei hun, awgryma JR bod yr ysbryd ‘rhydd-ymofynnol’ a esgorwyd gan Brotestaniaeth yn cael ei danseilio yn y pen draw – yn rhannol oherwydd bod yr un traddodiad wedi ail-greu Duw yn fod ymysg bodau, neu yn wrthrych ymhlith gwrthrychau. Pan gaiff ‘Duw’ ei ddeall yn y fath fodd, ni all oroesi mewn diwylliant sydd yn mynnu bod tystiolaeth empeiraidd yn sail i bob gwybodaeth. Canlyniad y difodiant hwn yw cenhedlaeth o bobl nad oes ganddynt bellach yr un ystyr yn eu bywydau.

Gellir darllen gweddill ysgrifau JR ar iaith a chenedl fel ymgais i ddatgelu ystyr o'r tu fewn i’r gymuned ieithyddol Gymraeg. Iddo ef, arweiniodd y cydymdreiddio hanesyddol rhwng iaith a thir at greu’r bobl Gymraeg. Mae hwn yn ‘fychanfyd’ sydd yn caniatáu i’r ysbryd dynol deimlo’n gartrefol, gan roi iddo gyfle i leoli a deall ei hun yn nhrac hanesyddol gwareiddiad, gan ganiatáu i gyneddfau creadigol gael mynegiant a chyrraedd eu llawn dwf.

Ni throdd JR ei gefn ar ei ffydd ychwaith, ac mae’r Argyfwng Gwacter Ystyr yn gorffen ag ymdrech i ailddehongli gras a’r profiad o Dduw, a chynnig cyfle i’r sawl sydd wedi ei golli ailafael ynddo eto fel ‘profiad o waelod “bod”’. Wedi dweud hynny, mae hi’n anodd peidio â darllen ei ysgrifau dilynol heb amau ei fod yn cynnig dehongliad sydd yn agored yn ogystal i’r sawl nad yw’n dyheu am Dduw, ac sydd yn chwilio ystyr arall.

Yr Argyfwng sydd ohoni

Ymhlyg yn nhrafodaeth JR am ffydd mae’r feirniadaeth a ddyfynnais droeon ynghylch ffawd posib y gymdeithas gyfoes, ddi-dduw, lle mae’r brotest Brotestannaidd wedi chwythu ei phlwc. Heb ystyr, heb asgwrn cefn, ond eto'n dyheu am ystyr, fe fydd trwch y boblogaeth yn ysglyfaeth i ffasgiaeth pan fydd y system gyfalafol yn methu.

Ac mae’r rhybudd hwnnw yn taro deuddeg: mae’r gymdeithas gyfoes yn un lle mae llymder wedi tanseilio gallu pobl i ymgolli yn y weithred o ‘borthi ei [sic] chwantau - am elw, am enw, am gadgets, am excitements,’ chwedl JR, gan ddinoethi prynwriaeth fel modd i leddfu gwacter bywyd. Mae’r pryder a’r dicter sy’n amgylchynu pobl yn ein cyflwr presennol yn eu denu’n anochel at sicrwydd ac awdurdod ymagweddu ffasgaidd ei natur.

Mae rhai o’r sylwebaethau mwyaf adnabyddus ar y themâu hyn i’w cael gan yr athronydd Albanaidd Alasdair MacIntyre, sydd wedi treulio cyfran helaeth o’i oes yn collfarnu’r gyfundrefn ryddfrydol. Yn hytrach na mynd i’r afael â chwestiynau am ffydd a chrefydd, mae MacIntyre yn ymaflyd â bydolwg y mae’n ei ystyried yn gwbl andwyol i gymdeithas fodern ac i wleidyddiaeth yn y Gorllewin – ond yr un yw’r pryder ynghylch diffyg ystyr.

Yn ei lyfr After Virtue (1981), mae MacIntyre yn cynnig ein bod ni bellach yn byw mewn cyflwr o ysmudiadaeth (‘emotivism’), a bod ein gweithredoedd wedi’u hysgogi nid gan gysyniadau o’r da neu’r moesol, ond yn hytrach gan fympwy. Mewn cyfnodau a fu, dadleua MacIntyre, roedd pobl yn byw yn eu cymunedau yn ôl rhyw fath o nod neu telos arbennig – roedd modd mesur eich gweithredoedd a’ch bywyd bob dydd yn ôl eich llwyddiant wrth ymgyrraedd at y gwerthoedd a’r syniadau a oedd yn nodweddu’r telos arbennig hwnnw.

Yr hyn sy’n nodweddu’r gymdeithas fodern, fodd bynnag, yw cyflwr heb telos, lle nad yw ein gweithredoedd yn digwydd oddi mewn i gyfundrefn ehangach o ystyr neu werthoedd. Yn y bôn, felly, ysmudiad – ein hemosiynau a’n teimladau mympwyol – sydd yn cyflyru ein hymateb i’r byd a’i bethau. Mae gwneud y peth iawn neu’r peth anghywir yn gyfystyr, dyweder, â hoffi neu beidio â hoffi blas hufen iâ. Er ein bod ni’n tueddu i ddefnyddio iaith sy’n awgrymu agwedd foesol, neu ryw syniad o werthoedd penodedig, nid yw’r iaith hon ynghlwm go iawn â fframwaith ystyrlon.

Mae MacIntyre yn beio Cyfnod yr Ymoleuo, ac yn benodol yr hyn y mae’n ei ystyried yn duedd gan athronwyr y cyfnod i gynnig moesoldebau yn seiliedig ar reolau haniaethol – yn hytrach nag ar ffyrdd o fyw neu setiau o syniadau wedi’u gwreiddio mewn traddodiad penodol. Wrth wahanu moesoldeb oddi wrth y traddodiad arbennig yr ydym yn rhan ohono, mae MacIntyre yn dadlau inni waredu ein bywydau o’r craidd hanfodol sydd yn rhoi ystyr i’n gweithredoedd.

Yr Argyfwng gwleidyddol

Amlygir yr ysmudiadaeth hon ar y gwastad gwleidyddol gan ryddfrydiaeth, oherwydd hanfod yr athroniaeth wleidyddol honno yw creu gwladwriaethau â llywodraethiant y mae disgwyl iddo fod yn ddiduedd. Nid oes iddi wreiddiau mewn cysyniadaeth o’r da. Pwrpas gwleidyddiaeth yn ôl y safbwynt hwn yw caniatáu i unigolion fyw yn ôl eu hamrywiol gredoau (neu fympwyon) heb gynnig gweledigaeth benodedig o’r bywyd da.

Ond, yn ôl MacIntyre, ffolineb yw credu mai dyma wir hanfod gwleidyddiaeth ryddfrydol. Yn y lle cyntaf, nid yw’r mwyafrif sydd yn byw o dan y gyfundrefn hon yn coleddu cysyniadaeth o’r bywyd da, felly caiff gwacter ystyr eu bywydau ei ategu. Ac yn waeth na hynny, os yw’r gyfundrefn hon yn cynnig gwerthoedd o unrhyw fath neu unrhyw awgrym o telos, gwerthoedd y ddelfryd gyfalafol yw’r rheiny. Trwy arddel safbwynt diduedd, mae gwleidyddiaeth i bob pwrpas yn mabwysiadu’r gwerthoedd hynny sydd yn iro olwyni’r peiriant cyfalafol, ac yn hyrwyddo unigolyddiaeth, prynwriaeth a diystyriaeth o werthoedd moesol pwysig fel cydraddoldeb.

Gwelir hefyd bod yr agwedd ryddfrydol yn gorchfygu'r system wleidyddol i’r fath raddau fel bod pleidiau mwyafrifol yn tueddu i goleddu’r un egwyddorion, a’r un pwyslais ar gynnal y system gyfalafol. Yn hytrach na chynnig safbwyntiau gwahanol am y gyfundrefn, a’r gwerthoedd y dylid eu coleddu, y duedd yw culhau gwahaniaethau, ac i werthoedd traddodiadol pleidiau gael eu haddasu oddi mewn i’r uniongrededd rhyddfrydol. Tuedd gwleidyddiaeth, felly, yw dod yn llai ac yn llai ystyrlon. Yn wir, yn 2004 ysgrifennodd MacIntyre draethawd byr ond adnabyddus lle’r awgrymodd mai’r dewis moesol i Americanwyr mewn etholiadau – mewn cyd-destun lle nad oes yna ddewis ystyrlon – yw peidio â phleidleisio.

Ac unwaith eto, mae’r feirniadaeth hon yn taro deuddeg yn yr argyfwng sydd ohoni, yn enwedig o ddehongli twf yr asgell dde eithafol fel ymateb i’r diffyg dewis ystyrlon a gynigiwyd i’r etholwyr, a’r diffyg cyfle i fynegi ac i arddel safbwyntiau amgen a fyddai’n herio’r uniongrededd hwnnw.

Mae hynny, wrth gwrs, yr un mor wir am boblogrwydd ffigyrau mwy radical ar yr asgell chwith, megis Bernie Sanders a Jeremy Corbyn. Adroddir cyfrolau am gyflwr gwleidyddiaeth a’r diffyg safbwyntiau amgen a chredadwy gan y ffaith mai dau ŵr dros eu trigain a fu’n gyfrifol am ailgyflwyno syniadau felly i’r brif ffrwd. Mae’n awgrym o ddyfnder y gwacter syniadaethol sy’n nodweddu’r genhedlaeth sydd mewn grym.

Ymateb Cymreig?

A dyma ddychwelyd at thema Cymru a sosialaeth. Eisteddais ar bwys Dr Dan yn IndyFest am fod gen i gyfraniad i’r ddadl yn ogystal. Dw i’n tueddu i goleddu agweddau tebyg iddo, er bod y syniadau hynny’n dod o rigol arall. Mae hi’n hollbwysig nad ydym yn ildio i eithafiaeth yr oes, ac fe welaf angen dirfawr i ail-lunio ac i ailddehongli sosialaeth mewn modd nas gwelwyd ei debyg ers dyddiau Blair, Giddens a’r ‘Third Way’.

Mae angen creu gweledigaeth o’r newydd sydd yn wynebu heriau’r oes, set o syniadau a fydd yn fwy na glasbrint ar gyfer diwygio sefydliadau llywodraethol; gweledigaeth ar gyfer ffordd o fyw a all wreiddio ac ysbrydoli unigolion a chymunedau. Nid sôn am syniad uniongred, caeth o ystyr bywyd a rheolau moesol penodol yr wyf ond yn hytrach weledigaeth gyffredinol sydd yn coleddu gwerthoedd a delfrydau mewn modd digon ystyrlon i allu cynnig telos i’r Gymru gyfoes.

Rhaid inni gofio, wrth gwrs, bod deddfau a mesurau’r Senedd yn creu, yn ymarferol, telos o’r math hwn beth bynnag, ond mae hynny’n digwydd heb ystyriaeth hunan-ymwybodol na gweledigaeth gyflawn o’r nod hwn. Mae’n hen bryd inni yng Nghymru, wedi ugain mlynedd o ddatganoli, feddwl o ddifrif am y cyfan hwn – yr hyn y mae bod yn Gymry yn yr 21ain ganrif yn ei olygu.

Yn narlith flynyddol Cymdeithas Niclas y Glais yn yr Eisteddfod, mentrais amlygu rhai o’r syniadau creiddiol y bydd eu hangen arnom er mwyn creu gweledigaeth sosialaidd Gymreig o’r fath. Awgrymaf yn y lle cyntaf mai peth doeth a synhwyrol fyddai gwneud hyn trwy ddechrau gyda’n traddodiad ni yma yng Nghymru, a phwy’n well na Robert Owen (1771-1858), a ysbrydolodd gymaint o bobl, gan gynnwys T E Niclas, ei dad yn y ffydd, R J Derfel, ac, wrth gwrs, eraill y tu hwnt i’n ffiniau ni, megis Karl Marx.

Gwelir yn athrawiaeth Owen sawl egwyddor a safbwynt sydd o bwys mawr wrth inni geisio cymhwyso’r traddodiad sosialaidd i’r oes sydd ohoni.

Yn gyntaf oll, mae yna bwyslais ar y berthynas â natur, a chydbwysedd rhwng dyn a’i amgylchfyd – oni bai bod y sosialaeth newydd yn cofleidio’r egwyddor hon, prin y bydd yn ystyrlon a pherthnasol.

Yn ail, mae safbwyntiau Owen ynghylch mecaneiddio gwaith yn dra optimistaidd. Gwêl bosibiliadau i’r cymeriad dynol trwy ryddfreinio’r hunan o slafdod y bywyd modern – mae hwn yn safbwynt sy’n gwrthod y pwyslais traddodiadol ar werth ‘gwaith’ ac yn cymell ystyriaeth ddifrifol o syniadau megis yr incwm sylfaenol.

Yn drydydd, dylid ystyried natur ryngwladol a chyfanfydol gweledigaeth Owen, elfen y mae angen ei hadfer cyn gynted â phosib os ydym am weld Cymru’n elwa fel endid oddi mewn i’r cyd-destun rhyngwladol.

Yn olaf, gwelwn yn syniadaeth Owen bwyslais ar gymuned, gwerthoedd sylfaenol a’r elfen drosgynnol sydd wedi mynd ar goll yn y safbwynt ‘sosialaidd’ Prydeinig yn ystod yr 20fed ganrif.

Ymlynodd hwnnw, yn hytrach, wrth y cysyniad haniaethol o ‘gydraddoldeb’ a’r moddion gwahanol o gyrraedd y nod hwnnw. Anwybyddwyd y ffaith bod sosialaeth yn athrawiaeth fyw, wedi’i gwreiddio mewn bywyd cydlynol, ac sydd yn arddel y gydgefnogaeth a oedd mor nodweddiadol o gymunedau Cymraeg a fu, boed y rheiny’n rhai diwydiannol, trefol neu wledig. Mae olion y solidariaeth honno ar ddisberod, ond maent yno i’w hadfer os meiddiwn ni.

Totalitariaeth y tecnocrat

Yn anffodus, rwyf hefyd yn tybio y byddai sefydlu gweledigaethau o’r fath yn anos heddiw nag wrth sefydlu'r Cynulliad, a hynny oherwydd natur y gwleidyddion. Yn 2016, yng nghynhadledd y North American Association for the Study of Welsh Culture and History (NAASWCH) yn Harvard, clywais Helen Mary Jones, ymhlith eraill, yn trafod sefydlu deddf plant a oedd yn unigryw ar y pryd. Fe’m synnwyd a’m bodloni’n fawr o’i chlywed hi’n trafod y ddeddf yng nghyd-destun ‘bwa’ hanes Cymru, a hwnnw’n estyn yn ôl at gyfraith Hywel Dda.

Awgrymodd sut y cafodd y ddeddfwriaeth honno ei ffurfio yng nghyswllt ehangach gweledigaeth o Gymru fel cymuned o bobl neilltuol â hanes a dyfodol unigryw. Pan ofynnais iddi ai gweithredu fel yna oedd y duedd gyffredinol ymysg gwleidyddion y Cynulliad, ateb Helen Mary oedd bod nifer o’r genhedlaeth gyntaf o Aelodau – pobl yr oedd ganddynt brofiad eang mewn meysydd amrywiol – wedi ymgasglu yn y Cynulliad a bod delfrydau a syniadau am wahanrwydd Cymru ynghlwm wrth eu cefndir a’u tirlun meddyliol.

Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r lle wedi’i boblogi fwyfwy gan unigolion sydd yn chwennych gyrfa ac yn ymateb i’r uniongrededd gwleidyddol yn hytrach nag i ddelfrydau a rhinweddau ehangach. Efallai fod hynny’n esbonio’r ymateb llesg a disylwedd i heriau’r oes. Anodd iawn yw ymateb ag arddeliad ac argyhoeddiad heb telos, heb ddelfryd, a heb werthoedd sylfaenol cryf a chroyw. Wedi ugain mlynedd o ddatganoli, gellir holi: pa angen Senedd arnom, os nad oes yna ystyr i Gymru, nac annibyniaeth ysbryd?


Cyfrol ddiweddaraf Huw L Williams yw Global Justice: The Basics (Routledge, 2017), a ysgrifennwyd ar y cyd â Carl Death.


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


Mae'r agwedd ryddfrydol yn gorchfygu'r system wleidyddol i’r fath raddau fel bod pleidiau mwyafrifol yn tueddu i goleddu’r un egwyddorion, a’r un pwyslais ar gynnal y system gyfalafol

Dyddiad cyhoeddi: 25·11·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Cefin Roberts

Mae’r theatr yng Nghymru wedi colli dyrnaid creulon o’i mawrion eleni ac roedd clywed am farwolaeth Meic Povey yr wythnos ddiwethaf yn waldan greulon arall i bawb ohonom sy’n caru’r theatr Gymraeg. Roedd Meic yn actor, awdur, cyfaill a Chymro i’r carn ac un a fu’n dyfal osod…

Cyfansoddi


Jan Morris a Twm Morys

Glywsoch chi fi yn crio ddoe? Fy nghyfrifiadur, o bethau’r byd, oedd achos y dagrau. Yn ystod y bore, galwodd dyn fi i ddweud wrthyf beth oedd angen ei wneud ar frys er mwyn cadw’r cyfrifiadur i fynd. Wyddwn i ddim bod dim yn…

Dadansoddi


M Wynn Thomas

Roedd Tony yn un o gymwynaswyr mwyaf gwerthfawr Cymru a’r Gymraeg fy nghyfnod i. Roedd hefyd yn un o’r unigolion mwyaf egwyddorol a llachar o dreiddgar ei feddwl i mi ddod ar eu traws. Fe ddes i’w adnabod gyntaf ar ddiwedd yr wythdegau pan…

Cyfansoddi


Ifor ap Glyn

Rhwng 1914 ac 1918 bu chwarter miliwn o ffoaduriaid o wlad Belg yn byw dros dro ym Mhrydain. Daeth rhai i Gymru ... 

Cyfweld


Ruth Richards

Daeth yn amser i gyrchu hanfodion dianghenraid drachefn; y rhuthr blynyddol am anrhegion Nadolig. Ac os digwydd i chwi fod ym Môn dros y cyfnod hwn, fe welwch fod trefi Biwmares a Phorthaethwy'n prysur gystadlu am y farchnad mewn addurniadau, hylifau a…

Adolygu


Gideon Koppel

Dw i ar awyren Ryanair o Chania, ar ynys Creta, i Stansted. Er bod y profiad yn ddigon anghysurus – cawn ein gyrru fel anifeiliaid ar hyd y maes awyr a’n gorfodi i aros heb eglurhad fan hyn fan draw – mae yna deimlad…

Colofnau


Mihangel Morgan

Fis diwethaf roedd ffrind i mi yn cael ei phen-blwydd yn hanner cant oed. Pan oedd John Betjeman yn fardd y Frenhines cafodd ei feirniadu yn y wasg am beidio â llunio cerdd i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi pan gyrhaeddodd hithau’r hanner…

Dadansoddi


Steffan Gwynn

Mae’r Ffindir yn enwog am ei fforestydd maith a’i chant a mil o lynnoedd disglair. Dyma wlad yr haul ganol nos, a pheth cyffredin yw dal bws o’r ddinas allan i’r wlad er mwyn mwynhau’r tywydd braf gan gasglu llus neu fadarch mewn basged wiail…