J R Jones


Prydeindod

Llyfrau’r Dryw, 61 tt, ail-law, 1966

J R Jones a fflamau casineb
Colofnau

J R Jones a fflamau casineb

Socrates ar y stryd


Huw L Williams

Amser darllen: 10 munud

09·12·2016

Eithr rhag beth y mae gofyn atgyfodi ysbryd y brotest Brotestannaidd[?] [M]ynd yn gynyddol barotach y mae trwch y bobl gyffredin i lyncu personau, syniadau a datganiadau swyddogol, ac i gydymffurfio’n eilunaddolgar […] Ac y mae yma inni rybudd ofnadwy. Canys pan ddyfnha clwyf marwol y Gyfundrefn Elw hyd bwynt ni ellir mo’i  doctora hi mwyach […] fe eill yn hawdd ein bod yn wynebu cyfnod o wrthchwyldro ffasgaidd, – ie hyd yn oed ym Mhrydain. Dan enwau a theitlau newydd, wrth gwrs. Nid ffasgaeth Jordan nac Oswald Mosley, canys adwaenom nodau honno ac ni’n twyllir ganddi, ond rhyw fudiad newydd y bydd digon o gamouflage sosialaidd, gwerin-ddyrchafol a hyd yn oed ‘Gristnogol’ yn cuddio ei fileindra nes dallu y gwerinoedd unwaith eto. Rhag y dynged arswydus hon y mae arwyddion yr amserau yn ein rhybuddio’n daer i beidio â chaniatáu ein rhag-gyflyru i’r lladdfa, ein dirymu a’n meddalu i fyny fel pobl, sugno pob anghydffurfiaeth a phrotest allan o’n gwythiennau.                                         

J R Jones, ‘Yr Argyfwng Gwacter Ystyr’ (1963)

Cyn myfyrio ar y geiriau proffwydol, arswydus hyn, dw i am droi yn ôl am ennyd at fy nghyfraniad i rifyn cyntaf O’r Pedwar Gwynt, er mwyn ailafael yn y cysyniad sy’n ganolog i’m dealltwriaeth i o athroniaeth yng Nghymru, sef athroniaeth fel ymwneud ymarferol, neu ddiwylliant beirniadol ar waith (praxis). Mae’r dull hwn o ymwneud ag athroniaeth yn gosod y pwnc wrth galon ein bywyd cyfun, yn hytrach na’i gaethiwo yn y tŵr ifori academaidd. Mae’n ei wreiddio yn y cwestiynau, y syniadau a’r testunau hynny sydd yn ganolog i ddiwylliant penodol.  

Yn achos athroniaeth Gymraeg, ysgrifau poblogaidd J R Jones, yn y 60au, sydd yn ymgorffori’r ddelfryd hon. Roedd ei ysgrifau ar grefydd, iaith a chenedlaetholdeb yn cynnig ymdriniaethau beiddgar, ysgytwol a deallusol o bynciau llosg ei gyfnod. Eleni, mae hi’n hanner canmlwyddiant cyhoeddi ei gyfrol fwyaf adnabyddus, Prydeindod, a rhaid edmygu’r ffaith bod ei syniadau yn parhau i gynnig dadansoddiad treiddgar o’n cyflwr fel Cymry. 

Prydeindod

Mae hi’n gyd-ddigwyddiad rhyfedd bod Prydeindod yn dathlu pen-blwydd nodedig ar adeg pan fo’r cysyniad sy’n destun i’r gyfrol yn fwy dadleuol, dylanwadol a dinistriol nag a fu ers degawdau. Yn ei hanfod, mae JR yn ystyried Prydeindod yn rhith – ideoleg sydd yn cynrychioli bygythiad einioes i’r Cymry. Nid ar sail tystiolaeth hanesyddol y ceir y ddedfryd hon (er y gellid dadlau bod yna ddigon o blaid JR yn hynny o beth); yn hytrach, mae’n deillio o ddealltwriaeth yr awdur o hanfod pobl a chenedl. Yr hyn sydd yn hanfodol o ran ffurfiant ‘pobl’ yn ôl JR yw cydymdreiddiad iaith a thir. Y broses hanesyddol o wau’r ddau i mewn i'w gilydd – yn yr enwau a roddir ar dir a bro, ond yn bwysicach na hynny yn ymwybod personau – sydd yn ffurfio pobl. Yn yr ysbryd mae pobl (a chenedl) yn bodoli. Pan gaiff y cydymdreddiad ei ddileu o fywydau beunyddiol, mae hynny’n peri tranc ‘gwahanrwydd’ y bobl hynny. Yn ei hanfod, gellir crynhoi dadl JR yn yr addasiad o'r ymadrodd enwog, ‘pobl heb iaith, pobl heb galon’. Prydeindod gan J R Jones

Y mae cenedl yn endid o fath arall, un sydd wedi’i saernïo trwy ffurfiant trichlwm o iaith, tir a gwladwriaeth – a phwrpas creiddiol y wladwriaeth honno wedyn yw gwarchod bywyd, diwylliant ac iaith y bobl. Nid cenedl mo’r Cymry (a dichon na fyddai’r setliad datganoli cyfoes yn peri iddo ailystyried y farn honno). Collasom ein cyfle hanesyddol i greu’r ffurfiant trichlwm ac, yn fwy niweidiol byth, cawsom – o anghenraid – ein traflyncu gan wladwriaeth estron: honno a ffurfiwyd gan y bobl Seisnig. A dyma ddadlennu perygl Prydeindod i’r Cymry. Rhith ydyw. Nid cysyniad mohono sydd yn awgrymu’r posibilrwydd o ffyniant pobloedd dan un gyfundrefn lywodraethol, ond yn hytrach ideoleg sydd yn celu’r gwirionedd gwaelodol, sef mai diddordebau'r wladwriaeth a’r bobl Seisnig a gynrychiolir gan y cysyniad. Mae rhesymeg ei wneuthuriad yn mynnu tanseilio ei gymdogion. Roedd tynged Tryweryn, wrth gwrs, yn ddameg o’r stori athronyddol ehangach y mae JR yn ei hadrodd. 

Ar ambell adeg, awgrymwyd gwedd arall ar Brydeindod: cysyniad mwy goddefgar a fyddai’n caniatáu arwahanrwydd i’w phedair cenedl ac a fyddai’n ymateb i anghenion ei phobl oll. Nid cyd-ddigwyddiad ydyw mai dau Gymro a arweiniodd weddnewidiad Prydain, yn 1909 ac yna wedi’r Ail Ryfel Byd. Ond gellid dadlau hefyd fod sefydlu swydd Ysgrifennydd i Gymru ac yna’r broses ddatganoli ei hun yn gydnabyddiaeth o’r anghydbwysedd cynhenid. Yn ddiddorol ddigon, y Cymro Richard Price oedd yr unig athronydd a geisiodd osod seiliau ‘sifil’ i Brydeindod a’i gyferbynnu â’r hunaniaeth Seisnig. Ond yr hunaniaeth Seisnig aeth â hi, yn gyntaf yng ngweledigaeth bendefigaidd Edmund Burke ac yn hwyrach yn nadleuon y ‘rhyddfrydwr’ John Stuart Mill. Nid oes enghraifft well o’r cysyniad ethnig, Seisnig, cymhathol a ddiffiniodd ddatblygiad Prydeindod na thestun Mill ar genedlaetholdeb yn ei lyfr Considerations on Representative Government (fi piau'r italig isod):

Experience proves that it is possible for one nationality to merge and be absorbed in another; and when it was originally an inferior and more backward portion of the human race, the absorption is greatly to its advantage. Nobody can suppose that it is not more beneficial to a Breton, or a Basque of French Navarre, to be brought into the current of the ideas and feelings of a highly civilized and cultivated people […] than to sulk on his own rocks, the half-savage relic of past times, revolving in his own little mental orbit, without participation or interest in the general movement of the world. The same remark applies to the Welshman or the Scottish Highlander as members of the British nation.

UKIP a llawn dwf Prydeindod Eingl-ganolog

Dychwelwn at yr argyfwng sydd ohoni sydd, ar un olwg, yn ymgais i ailafael yn nelfryd Mill. Dyma, ymhellach, benllanw argyfwng gwacter ystyr JR, â phobl Cymru wedi meddalu i’r fath raddau fel bod y gwrthchwyldro ffasgaidd, wedi’i wisgo yn lifrai Prydeindod, wedi cyrraedd calon ein democratiaeth. Myfyriwch am ennyd ar weithgarwch ein Senedd dros y misoedd diwethaf ac fe welwch fod presenoldeb aelodau UKIP yn y Senedd yn prysur sugno ohonom hynny o brotest ac anghydffurfiaeth sydd ar ôl. Fe’n meddalwyd i’r fath raddau fel nad yw ein gwleidyddion hyd yn oed yn adnabod yr argyfwng. Cydnabyddir mai’r wasg Lundeinig a bennodd gyfeiriad y llwybr hwn i ebargofiant. Fodd bynnag, ar ddechrau tymor newydd y Senedd ym mis Mai, a thrwy lusgo UKIP i ganol y trafodaethau yn hytrach na gosod meini tramgwydd i ymlediad Prydeindod neo-ffasgaidd yng Nghymru, mae cynrychiolwyr ein pleidiau wedi agor y ffordd lydan at ddistryw.

Ymateb rhai yw honni mai twf cenedlaetholdeb Seisnig yw’r hyn a welwn yn awr. Mae yna hanner gwirionedd yn y dadansoddiad hwnnw ond y mae’n camgymryd hefyd y bygythiad mewn modd cwbl dyngedfennol. Ymddengys y bygythiad yn lifrai cenedlaetholdeb Seisnig am ei fod yn coleddu hunaniaeth ethnig Seisnig ac yn tanseilio, neu hyd yn oed yn gwadu, Cymreictod. Ond pe bai’n genedlaetholdeb Seisnig o’r iawn ryw, wrth gwrs, ni fyddai yna fygythiad i Gymru. Yn hytrach, byddai’n llesol i’r gobeithion o weld cenedl Gymreig – oherwydd annibyniaeth i Loegr ar eu talp hanesyddol o dir fyddai’r bwriad. Mae dadansoddiad J R Jones yn amlygu inni'r gwirionedd cyflawn; dinoethwyd Prydeindod yn llwyr, gan ddangos y rhith ar ei wedd fwyaf tryloyw. Bellach, nid oes ymdrech o gwbl i geisio celu rhesymeg y wladwriaeth Brydeinig, Seisnig-ganolog, hanesyddol. 

Nid UKIP yw’r unig fygythiad, wrth gwrs. Yn wir, mae hi’n bosib taw’r bygythiad mwyaf yw’r modd y mae eu syniadaeth, eu gwerthoedd a’u gwenwyn nhw yn llifo i’r brif ffrwd. Cafwyd enghraifft berffaith o hynny ym mherfformiad absẃrd Alun Cairns [ar raglen Question Time y BBC ym mis Hydref]. Ymhellach, mae yna beryg gwirioneddol bod cydweithrediad y pleidiau eraill ag UKIP ar bwyllgorau’r Senedd yn ffordd o sicrhau bod eu safbwyntiau nhw yn cael effaith uniongyrchol ar bolisi, a bod amharodrwydd y pleidiau eraill a sefydliadau’r gymdeithas sifil i bardduo’r blaid yn ei normaleiddio, ac yn caniatáu i’w disgwrs ddatblygu’n rhan arferol o’n diwylliant cyhoeddus.

Ffenics o’r fflamau?

Sut mae ymateb i’r bygythiad hwn? Rhaid i’r gwleidyddion gydnabod yr hyn sydd ar droed yn y lle cyntaf. O blith gwleidyddion y Senedd, dim ond Leanne Wood sydd wedi dangos unrhyw amgyffred, ac unrhyw ewyllys gwirioneddol, i wynebu’r her. Ni ddylem synnu at hynny, wrth gwrs; gyda’i chefndir radical, mae hi’n ymgorfforiad o anghydffurfiaeth a phrotest yn y Gymru fodern, seciwlar. Hi yw un o’r ychydig rai y mae ganddi’r ysbryd, y cadernid moesol a’r crebwyll i ddeall beth sydd yn y fantol, ac i ymateb yn y modd priodol. Mae’r gweddill fel petaent wedi eu dofi gan y diwylliant gwleidyddol modern, sydd yn llethu gwreiddioldeb a diffuantrwydd. 

Gwaedd yng Nghymru, J R JonesNid peth bach, yn ôl JR, yw mynd i’r afael ag argyfwng gwareiddiad. Yn wir, mae’n ein rhybuddio am y fath sefyllfa yn ei ysgrif ‘A Raid i’r Iaith ein Gwahanu?’, sydd yn gofyn am fynd y tu hwnt i natur gwleidyddiaeth fel y mae:

[A]i syniad gwag ac anghyfrifol ydyw hwnnw – ‘gwneud yr amhosibl’? Nage: y mae wedi bod erioed – yn argyfyngau ‘achub’ gwareiddiad – yn her ac iddi gysylltiad â mawredd tufewnol ysbryd dyn […] Crebachodd mawredd mewnol dyn a mynd yn beth corachaidd […] [a] daeth slogan newydd […] i’w gorsedd ym myd gwleidyddiaeth a llywodraeth […] sef mai celfyddyd y posibl yn unig yw byd gwleidyddiaeth [...] Ac y mae’n fas […] yn baseiddio ysbryd dyn ac yn boddi gwarineb mewn banaliaeth a chlyfrwch arwynebol […] Na thwyller chwi; galwad yn ôl at warineb yw’r alwad i adennill y ffydd a gollwyd ym mawredd a menter ysbryd dyn – mawredd yr ewyllys i wneud yr amhosibl er mwyn cadw bychanfyd amhrisiadwy mewn bod.

A ninnau, y ‘werin’ bobl? Ai di-rym ydym yn wyneb grymoedd gormesol? Yn ddi-os, na. Yn wir, ni ein hunain yw ein gobaith mwyaf. Gallwn oll ailafael yn gadarn yn ein gwerthoedd, eu bywiocáu a’u defnyddio fel cynsail i ymateb i’r erchyllterau moesol sydd yn prysur ymledu. Gallwn oll alw ar y mawredd sydd yn gorwedd yn ysbryd pob un ohonom, a’i gatrodi er mwyn gwneud safiad yn erbyn gorymdaith y gwrthchwyldro ffasgaidd; dadebru ffrindiau sydd wedi mynd ar gyfeiliorn, herio anoddefgarwch yn ein bywydau beunyddiol, mynnu ymatebion gan ein gwleidyddion am eu gweithredoedd ac ailafael, fesul tipyn, yn ysbryd protest. Trwy hynny, gafaelwn yn ein hunaniaeth, yn ein gwerthoedd, ac yn wir yn y Gymru yna sydd fel petai wedi bod yn llithro o’n gafael yn ara’ deg yn y misoedd cyn ac ar ôl y refferendwm – refferendwm a oedd yn fesur yn fwy na dim o bobl sydd wedi colli golwg ar yr hyn ydynt. Rhaid inni fynnu ail-greu ac ail-lunio ein cenedl – ‘Ni yw Cymru’, chwedl y brotest ar-lein yn sgil sylwadau dirmygus Alun Cairns.

Gyhyd ag y myfyriwn, y beirniadwn ac y gweithredwn bydd yna obaith yn y byd. Mae’r trobwll dieflig yr ydym yn syllu reit i’w lygad yn golygu na allwn osgoi gafael yn ein ffawd mwyach. Mae newidiadau mawrion yn beryg, ond daw cyfleoedd hefyd yn eu sgil. Yn wyneb yr argyfwng, ac ymchwydd brawychus Prydeindod hiliol, nid gormodedd yw gorffen gyda chri un o’n meddylwyr mwyaf, Morgan Llwyd, a ddyfynnir gan J R Jones ei hun: ‘Mae pyrth dy fforest di, o wlad y Brutaniaid presennol, yn agored i’r eirias dân. Oni ddygwch ffrwyth yr awron, fe a’ch torrir rhag bod yn bobl.’


Mae Huw L Williams yn ddarlithydd mewn athroniaeth gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Trwy hynny, gafaelwn yn ein hunaniaeth, yn ein gwerthoedd, ac yn wir yn y Gymru yna sydd fel petai wedi bod yn llithro o'n gafael yn ara' deg yn y misoedd cyn ac ar ôl y refferendwm

Dyddiad cyhoeddi: 09·12·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…