Mark Fisher (gol. Darren Ambrose)


K-Punk: The Collected and Unpublished Writings of Mark Fisher (2004–2016)

Repeater Books, 770tt, £20, 2018

Tu hwnt i ffiniau
Dadansoddi

Tu hwnt i ffiniau

Cenedlaetholdeb a’r argyfwng hinsawdd


Gareth Leaman

Amser darllen: 9 munud

29·05·2019

Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i'r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw'r adain Gymreig i'r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn protestio ym Mawrth ac Ebrill eleni, pan ddaeth ymgyrchwyr a disgyblion ysgol i'r Senedd i fynnu bod Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi 'argyfwng hinsawdd'. Yna fis Mai, cafwyd Gorymdaith dros Annibyniaeth 'All Under One Banner' yng nghanol dinas Caerdydd. Dyma'r digwyddiad mwyaf amlwg a fu hyd yn hyn gan y mudiad Cymreig diweddar dros annibyniaeth. 

Gan fod y ddau fudiad wedi ennyn ymateb tebyg o safbwynt gwleidyddiaeth hil ac effeithiolrwydd eu tactegau, a chan y bydd yr argyfwng hinsawdd cyn hir, o ystyried ei ddifrifoldeb, yn tynnu'r holl fudiadau gwleidyddol i'w ganlyn, mae'n werth ystyried pa mor fedrus y bydd ein 'mudiad cenedlaethol' wrth ateb y cwestiynau a ddaw yn sgil yr argyfwng amgylcheddol hwn.

I gychwyn, dylid ystyried a derbyn graddfa'r argyfyngau hyn a hefyd ar ba ffurf y byddant yn datblygu. Mae un agwedd drychinebus – 'pornograffi argyfwng' – eisoes wedi treiddio i'n disgwrs poblogaidd cyhoeddus: mynyddoedd yn toddi; llifogydd; tanau gwyllt; tywydd eithafol. Yn hemisffer y Gogledd, dyma'r delweddau sydd yn dal ein sylw a'n dychymyg gyntaf oll. Ond yr hyn nad yw'n cael digon o ystyriaeth – oherwydd nad yw'r delweddau mor drawiadol – yw'r effaith ar bobl ym mhob rhan o'r byd. Nid darogan dyfodol pell mo hyn; mae'n digwydd y funud hon. Fel y noda Tom Whyman:

the climate change that affects the Gobal North is by no means the only, or even the dominant, experience of climate change worldwide. Climate change is already ravaging the global south, having been blamed, for instance, for exacerbating conflicts in Darfur, Yemen, and Syria. Climate change is already working to parch and to drown and to starve and to displace.

Felly, fel yr ysgrifenna Katy Lederer, er na fydd ‘no single human on this earth, whatever their gender, nationality, color, class, or age, will be untouched by some physical, economic, or other systemic ramification of future warming’, yn y tymor byr bydd yr effeithiau niweidiol a'r goblygiadau i'r ddynoliaeth yn fyd-eang yn dilyn egwyddorion hierarchaeth, ar sail hil, dinasyddiaeth ac imperialaeth. 

Pan ddaeth y mudiad Black Lives Matter at ei gilydd am y tro cyntaf yn 2016, canolbwyntiwyd yn syth ar weithredu amgylcheddol. Pam? Oherwydd, yng ngeiriau Alexandra Wanjiku Kelbert:

the climate crisis is a racist crisis. On the one hand Britain is the biggest contributor per capita to global temperature change. It is also one of the least vulnerable to the effects of climate change. On the other hand, seven of the 10 countries most vulnerable to climate change are in sub-Saharan Africa.

Yn yr un modd, os ydym ninnau yng Nghymru yn debygol o fod wedi ein cysgodi i raddau oddi wrth effeithiau mwyaf trychinebus newid hinsawdd, mae gennym ddyletswydd moesol i sicrhau bod ein llywodraethau yn lliniaru'r effeithiau hyn nid dim ond yn genedlaethol ond hefyd yn fyd-eang. Nid deddfu dros ddadgarboneiddio mo hyn, ond hefyd dros ddadwladychu: sicrhau bod ein ffiniau ar agor i ffoaduriaid hinsawdd a'n bod yn dangos cydsafiad rhyngwladol trwy dynnu ar ba bynnag adnoddau sy'n ofynnol. Yn yr un modd, os yw mudiad cenedlaethol dros annibyniaeth i ffurfio rhan yn y broses ryngwladol o ddadwladychu, rhaid i'r mudiad ystyried y berthynas rhwng chwalfa amgylcheddol, mudo poblogaeth ac egwyddorion rheoli ffiniau nad ydynt ar hyn o bryd yn barod i dderbyn ein dyled i'n hanes imperialaidd. 

Mae'n ddealladwy efallai mai consyrn cyntaf y mudiad annibyniaeth yng Nghymru yw ymwahanu oddi wrth y wladwriaeth Brydeinig; ac yn y modd hwn mae'r hyn a elwir yn gamarweiniol yn 'ddadwladychu' neu yn 'wrthimperialaeth' yn y wlad hon yn golygu'n syml cael gwared â San Steffan a mynnu pwerau cyflawn i Lywodraeth Cymru. Mae'r meddylfryd sydd yn sail i'r gofynion hyn yn aml yn gwyro rhwng ffydd syml mewn dyfodol cryfach ar sail rheolaeth gyflawn dros faterion cenedlaethol, ac ar y llaw arall, ysgogiad dirfodol: i warchod syniadau hanesyddol, a diwylliannol, am 'Gymreictod' – syniadau sydd dan warchae parhaus yn nwylo cenedlaetholdeb Prydeinig cynyddol swnllyd (os llechwraidd).

Ond sut mae modd cysoni'r amcanion hyn â'r dyfodol newydd hwn? Beth yw ystyr gwarchod cymuned a diwylliant yn erbyn cefnlen o 'political destabilization as connected to climate change and mass migration', fel y noda Kate Aronoff. Sut mae ein dirfodaeth genedlaethol yn trosi'n weledigaeth ryngwladol wirioneddol, sydd yn abl i addasu i newidiadau tectonaidd mewn demograffeg fyd-eang?

Does dim amheuaeth y bydd ein canfyddiadau cyffredin am hunaniaeth genedlaethol yn cael eu dymchwel yn yr unfed ganrif ar hugain. Bydd gwneuthuriad ecolegol ac ethnograffaidd ein planed yn newid yn sylfaenol ac yn ddiwrthdro. Rhaid i unrhyw ddealltwriaeth o annibyniaeth ar gyfer Cymru weithredu ar sail y ffaith hon. 

✒︎

Sut y dylid mesur parodrwydd y mudiad cenedlaethol yng Nghymru i wynebu'r heriau hyn? Man cychwyn rhesymol fyddai cynigion polisi cyfredol Plaid Cymru.

I gychwyn, dylid cydnabod mai cadarnhaol yw'r ymdrechion i roi pwysau ar y llywodraeth Lafur yng Nghymru i wneud yr hyn a allant i liniaru effeithiau achosion 'arwynebol' presennol newid hinsawdd yng Nghymru: mae mwyafrif y blaid wedi bod yn feirniadol o'r cynigion i ddatblygu'r M4 ac mae'r llywodraeth yn dal fel petaent yn gyndyn o ddileu'r cynlluniau hynny. Mynegwyd amheuaeth hefyd ynghylch cyhoeddiad argyfwng hinsawdd Llafur, gan wthio'r llywodraeth i drosi rhethreg yn weithrediadau ystyrlon.

Ond mae gennym ddigon o reswm i ddigalonni eto. Er cydnabod difrifoldeb gwirioneddol yr argyfwng hinsawdd, mae'r ymrwymiad i 'adeiladu'r economi, i greu swyddi a chynnal ein diwydiannau' yn parhau, yn ôl eu darllediad gwleidyddol – heb gydnabod cymhlethdod goblygiadau'r egwyddorion hynny ar gyfer yr amgylchfyd. Mae'n destun pryder bod y wleidyddiaeth ddinistriol sydd wrth wraidd y trychineb byd-eang yn parhau ar waith. Fel yn achos llawer o'r problemau a wynebir yng Nghymru, llwydda Plaid Cymru i nodi gwraidd yr argyfwng ond nid yw'n llwyddo i ddamcaniaethu tu hwnt i hynny. Petai argyfwng ecolegol yn mynd yn fater niche arall, yn ddim byd ond achos pryder digon ymylol i'w ohirio ar gyfer diwrnod arall, byddai hynny'n bradychu bwriadau blaengar y blaid.

Felly os oes rhaid aros i weld beth fydd pen draw agwedd y blaid at ddadgarboneiddio, beth am eu hagwedd tuag at ddadwladychu, sydd o raid yn rhyng-gysylltiedig? Gellir rhagdybio rhywfaint o ddarllen deunydd ymgyrchu'r Blaid ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd y mis hwn. Mewn erthygl ddiweddar, galwa Jill Evans ASE am 'a Welsh migration system in order to introduce a system that works for the needs of Wales', gan gyfiawnhau'r polisi ar y sail hwn: 'migrants make a huge contribution to Wales, our communities and our economy, and it's important that we have a system that works for us, not for Westminster.' Y pryder amlwg yn y fan hon yw'r ffaith nad yw'r Blaid yn galw'n benodol am system ar gyfer ymfudo sydd yn gweithio er budd anghenion yr ymfudwyr: mae eu hawl i groesi ein ffiniau yn ddibynnol ar eu budd economaidd yn hytrach nac ar yr egwyddor sylfaenol o ddyngaredd a thrugaredd. Er bod manylion maniffesto'r Blaid ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd yn pwysleisio ymrwymiad i 'a humane approach and show greater solidarity with refugees', mae'n achos pryder bod ysbryd yr addewid polisi hwn mewn peryg o fod yn annigonol o safbwynt y weledigaeth ryngwladol, sy'n edrych tuag allan ac sydd yn angenrheidiol er mwyn wynebu ein hymrwymiadau moesol wrth ddelio â'r argyfwng hinsawdd.

✒︎

Mae'r mudiad cenedlaethol dros annibyniaeth yn fwy na Phlaid Cymru, fel y dylai fod, ond mae'r rhan helaeth o'r disgwrs ehangach hefyd yn dadlennu cenedlaetholdeb sy'n wag o ysbryd rhyngwladol ystyrlon. Mae hyn yn aml yn deillio o'r hyn sydd yn gallu ymddangos fel diffiniad cul ffurfiau gwleidyddol 'cenedlaethol' ac sydd felly'n berthnasol i'w hymgorffori gan y mudiad cenedlaethol. 

Mae'r bygythiad i Wastadeddau Gwent gan y cynlluniau i ymestyn yr M4 yn enghraifft gyfredol o'r argyfwng hinsawdd ar waith o fewn ffiniau Cymru. Ac eto nid yw'n cael ei drafod fel mater ar gyfer cenedlaetholdeb Cymreig o fewn cymuned ideolegol y mudiad cenedlaethol oherwydd nad yw wedi ei fynegi fel bygythiad i sofraniaeth Gymreig – er ei fod yn fygythiad dirfodol i'r blaned ei hun. Mae'n destun pryder mai dim ond pan fo bygythiad gan 'arall' allanol yn mudo dros ein ffiniau – yn yr achos hwn, y tebygrwydd y bydd y draffordd newydd yn hwyluso anghenion cymudwyr o dde-orllewin Lloegr – y mae argyfwng o'r fath yn dod yn fater o bryder cenedlaethol. Nid yw hyn yn arwydd da. 

I roi enghraifft arall: y llynedd, bu farw Mustafa Dawood, ffoadur ifanc a oedd yn byw yng Nghasnewydd, o ganlyniad i gyrch gan yr heddlu mewnfudo. Er y bu rhywfaint o sylw yn y wasg genedlaethol a nifer o brotestiadau lleol, nid oedd y digwyddiad hwn – gydag ambell eithriad, er enghraifft cyfraniad dwysingol Fflur ArwelO'r Pedwar Gwynt - fel petai'n ymddangos ar radar y rhai hynny y mae eu gwleidyddiaeth wedi ei ganolbwyntio ar yr ymdrech i ymwrthod â rheolaeth San Steffan. Hynny er bod marw preswyliwr Cymreig o ganlyniad i weithredoedd heddlu diogelwch ffiniau Prydain yn enghraifft ddybryd o ymyrraeth yn sofraniaeth Cymru. Unwaith eto, nid yw hyn yn argoeli'n dda os gellir casglu, ar sail y diffyg ymateb i'r digwyddiad hwn, bod y mudiad cenedlaethol fel y mae yn amharod i ymgorffori anghenion mudwyr, ffoaduriaid a'r gymuned ryngwladol i'r weledigaeth genedlaethol pan fo'r angen yn codi. 

Gallwn weld, felly, mor hawdd yw hi, trwy amryfusedd, i fudiad cenedlaethol greu cenedlaetholdeb blaengar mewn enw ond sydd, mewn gwirionedd, yn ddall i anghenion y gorthrymedig a'r rhai y mae eu bywydau mewn pergyl os yn perthyn i genhedloedd eraill. Bydd y gwrthddywediadau hyn yn sicr o fynd ben-ben wrth i'r argyfwng hinsawdd garlamu tuag atom. Mae James Tafford, mewn ysgrif gwerth ei darllen ar gyfer Open Democracy, yn dadlau yn erbyn ffurf ar 'genedlaetholdeb gwyrdd', lle mae 'climate crises caused by former colonial powers' yn '[entrenching] hierarchies of citizenship'. Mae Trafford yn ei gwneud yn glir y gall disgwrs sydd yn bennaf genedlaetholaidd fod yn ddinistriol wrth wynebu argyfwng ecolegol byd-eang: ‘The underlying logic of green nationalism is not just that it is inevitable that some people will die. Rather, it is also that only through their extinction that some of us are to survive.’

Y 'securitized eugenicism', fel y'i gelwir gan Trafford, sydd angen i ni fod fwyaf gwyliadwrus yn ei gylch wrth fagu disgwrs cenedlaetholaidd ar yr union foment mewn hanes pan mae ffiniau a chenhedloedd yn fyd-eang yn cael eu corddi – a dim ond y dechrau ydi hyn.

✒︎

Felly lle mae'r peryglon a'r gwrthddywediadau hyn yn gadael y mudiad Cymreig dros annibyniaeth fel y mae ar hyn o bryd? Er mwyn dod o hyd i ffordd tu hwnt i'r cyfyngder ideolegol hwn, dylid dychwelyd i'r orymdaith dros annibyniaeth a fu ym mis Mawrth eleni. Er i amheuaeth, a hynny'n deg, gael ei fynegi ynghylch gwleidyddiaeth hil yr orymdaith a'i natur 'anwleidyddol', roedd nifer o elfennau cadarnhaol ynghylch yr orymdaith hon. Fan lleiaf, mae'n gyfle i orfoledd cyfunol gwrthdystiad torfol gael ei sianelu i greu ffurfiau newydd ar solidariaeth y bydd eu hangen arnom os ydym am wynebu argyfyngau a heriau'r dyfodol agos. Mae'r potensial i wrthdystiadau fynegi '‘the collective capacity to produce, care and enjoy’, yng ngeiriau Mark Fisher (gw. ‘Acid Communism’ in K-Punk: The Collected and Unpublished Writings of Mark Fisher (2004–2016), 2018; t 753), yn arf ideolegol pwerus wrth grisialu synnwyr cyffredin newydd sydd yn rhoi blaenoriaeth i frawdgarwch nid dim ond o fewn ffiniau ond ar draws ffiniau'n ogystal. 

Mynegodd nifer o siaradwyr yr orymdaith hefyd bwysigrwydd solidariaeth ryngwladol wrth adnabod a cheisio goresgyn yr heriau sydd yn wynebu Cymru cyn ac ar ôl annibyniaeth, fan lleiaf, yr argyfwng hinsawdd. Siaradodd Sandy Clubb o'r mudiad Undod, yn benodol nid yn unig am newid hinsawdd ond am gyfiawnder hinsawdd. Dyma'r cysyniad o gyfiawnder sydd fwyaf tyngedfennol: mae angen i ni ymgymryd nid dim ond â her chwalfa amgylcheddol o fewn ein ffiniau, ond hefyd ymestyn ac agor ein ffiniau i'r rhai hynny sydd yn wynebu bygythiadau mwy fyth. Mynegir difrifoldeb y rheidrwydd moesol hwn gan eiriau moel Tommaso Segantini: ‘As climate disruption, economic instability, poverty, and wars propagate global chaos, and as people on the move will increase, there are only two alternatives: solidarity, or else a world of fortresses, walls, and a slow genocide. There is no middle ground.’

Yr ymdeimlad hwn o ryngwladoldeb ddylai fod ar flaen gad ideoleg y mudiad hwn os ydym am ddefnyddio achos annibyniaeth i ddychmygu ffurfiau newydd, gwell o fyw a chyfrannu i'r byd mewn cyfnod o dryblith enbyd.


Llun: protest Extinction Rebellion, Llundain, Ebrill 2019. Hawlfraint: Will Bamford. 

Cerddor ac awdur o Gasnewydd ydi Gareth Leaman


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Does dim amheuaeth y bydd ein canfyddiadau cyffredin am hunaniaeth genedlaethol yn cael eu dymchwel yn yr unfed ganrif ar hugain

Dyddiad cyhoeddi: 29·05·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Owain Schiavone, Toni Schiavone ac Y Cyrff

Roedd y bws ola i Lanrwst o Ganolfan Aberconwy, Llandudno nos Sadwrn 12 Awst 1989 dan ei sang. Wrth deithio i lawr y dyffryn trwy Glan Conwy ac ymlaen i Maenan roedd pawb mewn hwyliau da ar ddiwedd noson gofiadwy…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

Fe lynai’r smwclaw’n styfnig at ffensys dur y gwaith ac arwydd ‘stop’ annhymig y reilwe’n grachen-graith pan o’wn heb styried clywed clais ym mhen y lein, mond cwmni’i lais ... 

Adolygu


Morgan Owen

Er mwyn creu hanes, sef naratif yn y bôn, mae’r hanesydd yn dethol o blith digwyddiadau di-ben-draw nad ydynt o anghenraid yn gysylltiedig â'i gilydd yn yr ystyr wrthrychol, ddilyniannol. Yn yr un modd, mae’r ffotograffydd, wrth dynnu a threfnu lluniau at gasgliad, yn dethol o blith…

Cyfansoddi


Qing Niao

Yn Tsieina, ceir diwylliant y sgwâr cyhoeddus: Sgwâr Tiananmen, Sgwâr y Weriniaeth, sgwariau bychain mewn trefi, a’r gerddi, a ddefnyddir ar gyfer ymgynulliadau mawr, cyhoeddus. Mae’r gofod hwn ar gyfer pawb; yn ystod y bore, maent yn aml wedi eu llenwi gan bensiynwyr, o bump tan…

Dadansoddi


Rhys Llwyd

Yn 1974, bu R Tudur Jones yn ddylanwadol wrth i Blaid Cymru geisio penderfynu lle y safai ar y sbectrwm dde-chwith. Roedd Tudur Jones, fel Gwynfor, yn credu na ddylai Plaid Cymru ildio i rethreg yr oes, hynny yw na ddylai ddatgan a…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Meddai bardd Her Gyfieithu 2019, Julia Fiedorczuk o Wlad Pwyl: ‘Yr hyn sy'n ddelfrydol i mi ydy barddoniaeth sydd yn ymgomio gyda disgyblaethau eraill, er enghraifft bioleg; barddoniaeth sydd yn agored i ystod eang o fodau ac emosiynau, ond sydd hefyd ar yr un pryd yn ostynedig ac yn…

Dadansoddi


Aled Gruffydd Jones

‘La verdad no le interesa a nadie’, nid yw’r gwir o ddiddordeb i neb. Rhain oedd geiriau rhybuddiol ac iasoer un o gyfeillion Javier Cercas pan glywodd am fwriad disyfyd yr awdur i gychwyn cloddio i hanes ac ymdreiddio i feddylfryd ewythr ei fam, y ffasgydd brwdfrydig Manuel…

Dadansoddi


Gareth Leaman

Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i'r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw'r adain Gymreig i'r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn…