‘Hunanladdiad Diwylliannol’
Rhybudd beirdd a llenorion i gynghorwyr Gwynedd a Mȏn
Ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mȏn mae rhai o feirdd a llenorion amlycaf Gwynedd a Mȏn yn rhybuddio y gallai mabwysiadu Cynllun Datblygu newydd danseilio’r iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd olaf. Bydd y Cynllun yn arwain at godi 7,902 o dai newydd ar draws y ddwy sir.
Mewn llythyr a anfonwyd ganddynt at arweinyddion Cynghorau Gwynedd a Mȏn mae’r beirdd a’r llenorion hefyd yn feirniadol o’r Cynllun Datblygu am fethu â darparu'n ddigonol ar gyfer anghenion lleol.
Yn ȏl un o’r rhai a arwyddodd y llythyr, y nofelydd Angharad Price, ‘anghenion pobol leol ddylai fod yn greiddiol mewn cynllun o’r fath. Mae 'na angen mawr am dai fforddiadwy, a thai addas i’w gosod ar rent i deuluoedd ifanc. Mae’r Cynllun Datblygu yn ddiffygiol o’r safbwynt hwnnw.’
Ymhlith y rhai eraill sydd wedi arwyddo’r llythyr y mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, yr Athro Derec Llwyd Morgan, y Prifeirdd Myrddin ap Dafydd, Rhys Iorwerth a Cen Williams, y Parchedig Emlyn Richards, y Prif Lenorion Lleucu Roberts ac Annes Glynn, a'r awdur byd-enwog, Jan Morris.
Bydd Cyngor Gwynedd yn trafod Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Mȏn ar 28 Gorffennaf a Chyngor Mȏn yn ei drafod ar 31 Gorffennaf. Gallwch ddarllen y llythyr a anfonwyd isod.
Os hoffech chi anfon eich llythyr eich hun, copïwch y testun isod, a'i anfon - ar e-bost neu drwy'r post - at eich cynghorydd lleol. Mae manylion cyswllt cynrychiolwyr Cyngor Gwynedd i'w cael fan hyn a'r rhestr o gynghorwyr Môn i'w gweld yn y fan hon.
Annwyl Gynghorydd,
Ysgrifennwn atoch ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, ac i fynegi pryder difrifol ynghylch effaith y Cynllun ar iaith a chymunedau'r ardaloedd hynny. Barnwn fod y Cynllun ar ei ffurf bresennol yn amrwd a meiopig, ac y byddai ei fabwysiadu yn gyfystyr â hunanladdiad diwylliannol.
Mae nifer y tai y bwriedir eu codi gennych ei hun yn peri braw, ac mae’n amlwg nad gwir anghenion lleol ac nad cynnydd posibl yn y boblogaeth frodorol yw man cychwyn y ffigyrau hyn. Pryderwn yn ogystal fod canran y tai fforddiadwy a grybwyllir yn boenus o isel: arwydd pellach nad yw anghenion cymunedau presennol Gwynedd a Môn yn cael yr ystyriaeth ddyledus.
Mwy brawychus byth yw'r ffaith na chomisiynwyd gan Gyngor Gwynedd asesiad iaith annibynnol i ymchwilio i effaith y Cynllun Datblygu Lleol ar hyfywedd yr iaith Gymraeg yn yr ardaloedd hyn. Dylai pob cyngor ofalu am les y bobl a gynrychiola. Dyma rai o gadarnleoedd olaf yr iaith. Rydym ninnau fel llenorion, yn drigolion Gwynedd a Môn, yn byw'n bywydau trwy'r Gymraeg, yn creu ynddi ac yn ennill ein bywoliaeth trwyddi - fel y gwna miloedd o'n cyd-drigolion. Mae'n adnodd diwylliannol ac economaidd amhrisiadwy. Ni fyddai neb yn gwadu bod oblygiadau ieithyddol pellgyrhaeddol i gynllun mor enfawr â hwn. Mae'r ffaith na chynhwysir asesiad iaith arbenigol ac annibynnol gennych yn ddiffyg sylfaenol ac yn achos gwir bryder.
Hyd nes y cyflawnir asesiad o'r fath, a hyd nes y creffir mewn ffordd fwy ystyrlon ar wir oblygiadau diwylliannol a chymunedol y datblygiadau dan sylw, pwyswn arnoch i beidio â mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae gormod yn y fantol.
Yr eiddoch yn gywir,
Y Prifardd Myrddin ap Dafydd
Y Prifardd Jason Walford Davies
Jane Edwards
Y Prif Lenor Sonia Edwards
Y Prif Lenor Meg Elis
Gwyneth Glyn
Y Prifardd Ifor ap Glyn
Y Prif Lenor Annes Glynn
Y Prifardd Meirion MacIntyre Huws
Y Prifardd Rhys Iorwerth
Lloyd Jones
Y Prifardd Llion Jones
Mared Lewis
Yr Athro Peredur Lynch
Y Prif Lenor Robin Llywelyn
Yr Athro Patrick McGuinness
Yr Athro Derec Llwyd Morgan
Jan Morris
Y Prifardd Twm Morys
Sian Northey
Y Parchedig Harri Parri
Y Prif Lenor Angharad Price
Y Parchedig Emlyn Richards
Y Prif Lenor Cefin Roberts
Y Prif Lenor Lleucu Roberts
Y Prif Lenor Angharad Tomos
Y Prifardd Gerwyn Wiliams
Y Prifardd Aled Jones Williams
Y Prifardd Cen Williams
Dr Manon Wyn Williams