Rhifyn 2 / Nadolig 2016
Rhifyn Print

Rhifyn 2 / Nadolig 2016


06·12·2016

Mae ail rifyn O'r Pedwar Gwynt ar gael yn eich siop lyfrau leol o'r 10fed o Ragfyr ymlaen.

I dderbyn pob rhifyn print drwy'r post (Haf, Gaeaf, Gwanwyn) gallwch danysgrifio 
fan hyn neu anfonwch siec am £15 yn daladwy i 'O'r Pedwar Gwynt Cyf' ynghyd â'ch 
enw a'ch cyfeiriad at O'r Pedwar Gwynt Cyf, Blwch Post 91, Aberystwyth SY23 9AY.

I hysbysebu yn y rhifyn print nesaf anfonwch air at post@pedwargwynt.cymru

Rhifyn 2 / Nadolig 2016, 44tt, £4.95, 275 x 370


Cynnwys
 

Dadansoddi

Cyfraith a chyfansoddiad Brexit / Emyr Lewis

'Fel na'n baseiddier': problemau oes 'ôl-wir' / Golygyddol

Y gwynt sy'n chwythu trwy Dwrci / Iolo ap Dafydd

Gweld y byd fel y dylem: ffotograffiaeth Fay Godwin / Sara Penrhyn Jones

Trafod Pam na fu Cymru a methiant cenedlaetholdeb Cymreig / Robin Okey

Ar blyg y map: Jan Morris yn 90 / Angharad Price

 

Cyfansoddi

Stori fer: 'Y Gyfrinach' / Sian Northey

Ysgrif: I'r Galon Goch / Llŷr Gwyn Lewis

Marwnad Gwyn Thomas / Peredur Lynch

Pennod o gyfrol newydd: 'Abermandraw' / Rhys Iorwerth


Cyfweld

Cyfweld enillydd Gwobr Nobel 2015: Sfetlana Aliecsiefits / Ned Thomas


Adolygu

Gwenallt: y delfrydwr a’r perffeithydd / Llion Wigley

Y gwir yn erbyn y byd patriarchaidd: Eluned Phillips, yr optimist absoliwt / Rhiannon Marks

Llygaid i weld: darllen The Tradition gan Peter Lord / Prys Morgan

Yn angof ni chânt fod: cyfrolau'r rhyfel mawr / Meic Birtwistle

Bowie a chymdeithas Caerffili: straeon byrion diweddar / Megan Hughes Tomos

Hywel Teifi a'r Eisteddfod / Jon Gower

Adolygu Lolian, Ymbelydredd a Plant y Dyfroedd / Simon Brooks,
Geraint Evans, Bethan Mair


Colofnau

Socrates ar y stryd: J R Jones a fflamau casineb / Huw L Williams

Yr awdur yn ei helfen: y cyflwr gweithredol / Sarah Reynolds

Gwynt y Dwyrain: ar y ward / Mihangel Morgan

'Llyfrau'r flwyddyn', croesair Morus Venti a'r 'Cofnod'

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Dyddiad cyhoeddi: 06·12·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…

Cyfansoddi


Casi Dylan

‘Wennol Bwlch a Chilhollt’ Caryl Lewis oedd y stori a’n cyflwynodd ni i’n gilydd. Stori gariad o’r casgliad Plu (2013), wedi ei hadrodd o safbwynt Emrys, mab fferm a glymwyd i’w aelwyd gan amgylchiadau, ac a arhosodd yno yn y gobaith y dôi ei gariad cyntaf ’nôl ato o’i theithio byd: ‘Roedd…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Symudais i Abertawe i fyw ddechrau mis Ionawr 2016, yn ystod y gaeaf hwnnw lle bu hi’n bwrw glaw am bron i ddeufis yn ddi-baid. Gyrrais i lawr mewn car benthyg oherwydd fy mod wedi dinistrio fy nghar fy hun naw mis…

Adolygu


Gruffydd Aled Williams

‘Epig o nofel fydd yn byw yn y cof’ meddai Jon Gower mewn broliant ar glawr y nofel hon. Anodd fyddai anghytuno: o ran rhychwant amser a chymeriadaeth dyma’r fwyaf uchelgeisiol o bum nofel Jerry Hunter, ac, fe ddichon, un o’r nofelau mwyaf uchelgeisiol erioed…

Adolygu


Ceridwen Lloyd-Morgan

Bu pobl yn hoff o wneud rhestri erioed. Cymorth i’r cof, mae’n debyg, oedd diben llawer o’r casgliadau o enwau, ffenomenâu, traddodiadau neu wybodaeth arall a fu’n boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Ar wahân i’r Trioedd, lle crynhowyd traddodiadau storïol mewn cyfresi o dri, bu bri ar restri o bump, o saith, naw,…