# Celfyddyd weledol

# Celfyddyd weledol


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

# Celfyddyd weledol


Esyllt Angharad Lewis

Mae Mary Lloyd Jones wedi arddangos yn rheolaidd ers y 60au, yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Mae ei gwaith i'w weld mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat. Bu’n gweithio fel artist preswyl yn yr Iwerddon, Philadelphia, Vermont, yr Eidal, Catalwnia, Rajasthan, yr Alban a Llydaw. Ceir arddangosfa o'i gwaith (25 o baentiadau) yn Oriel Tegfryn,…

# Celfyddyd weledol


Llŷr Gwyn Lewis

O le dwi’n sbio lawr fan hyn, mae pethau’n edrych yn ddu braidd, a gormod rywsut o bren i adael i’r balŵn hwn adael y ddaear; iddo fedru hedeg hyd yn oed o lenwi’r siambar, sori, mor llawn o aer poeth â hyn ... 

# Celfyddyd weledol


Ruth Richards

Maen nhw'n edrych fel pâr o hipstyrs o ddwy wahanol genhedlaeth. Yr hynaf yn farfog (gafrog hefyd, fel mae'n digwydd), a'r llall yn eiddgar a braidd yn betrusgar dan ei gýt powlen. Mae'r ddau yn syllu arnom drwy'r math o sbectolau a ffafrir, hyd heddiw, gan bobl…

# Celfyddyd weledol


Christine James

Odd fel sa pawb ffor ’yn yn wara gêm wrth wilia unwath: rywla ar ’yd llethra’r oesodd glæn, fan ’yn, gollyngws rywun, rywbryd, aitsh; ac wetyn gosod pawb ar waith i’w ffindo.

# Celfyddyd weledol


Geoff Young

Testun real sydd yma, ond un cyfan gwbl gyffredin. Hynny sydd yn ei wneud, yn rhyfedd iawn, yn anarferol, yn ddigon i ennyn diddordeb y darllenydd eto drachefn. Nid oes yma’r posibiliadau ffotograffig fyddai’n denu’r rhelyw i dynnu llun. Ac eto, mae rhywbeth am…

# Celfyddyd weledol


Llion Pryderi Roberts

Mae gan bawb eu cofebion, am wn i; rhai’n swagro’u coffa yng nglendid marmor, neu sglein yr efydd wrthodwyd gan Horas, gynt. Mae eraill yn llai lluniaidd,
gwyfynod sy’n cnoi tyllau yng ngharthen amser, neu blaciau tolciog wedi eu hestyn drachefn o’r gist.

# Celfyddyd weledol


Llion Pryderi Roberts

Ar gynfas pumed canrif dim ond ymylon gwedd yw gwarged lliwiau’r galon a’r meddwl cyn bod bedd, fel pant ar garreg aelwyd lefn y sgwriwyd iddo lendid trefn ... 

# Celfyddyd weledol


Llion Pryderi Roberts

Roedd Seurat wedi dotio at y traeth dan lewych haf, yn ffroeni oglau gwymon; at ruban aur o drai a dŵr y daeth ac erfyn bad i lyfnu’r gorwel union ... 

# Celfyddyd weledol


Geoff Young

Dylanwad Tarkovsky ar y ffotograffydd o’r Alban, Peter Cattrell

Mae’r gangen gwympiedig yn rhwystro mynediad, yn llinell ar letraws dros y llwybr. A hithau’n gangen gwympiedig unig, gorwedd yn lluddedig ar lawr, yn rhwystr i’r llygad rhag gweld y tu hwnt. Mae’r rhes o goed ar y dde yn dywyllach ac…

# Celfyddyd weledol


Ruth Richards

Ai peth fel ’ma, mewn difri, oedd Eisteddfod y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Rhyfeddwn at ffotograffau John Thomas o Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1884, a'r un pryd fe'n gorfodir i'w cydnabod fel cofnod cywir. Ffotograffiaeth, wedi'r cwbl, yw un o'r cyfryngau amlycaf i gyflwyno'r…

# Celfyddyd weledol


Ruth Richards

Ryw drigain mlynedd yn ôl, datgelwyd rhai o gyfrinachau Thomas Jones Pencerrig i'r byd. Daeth nifer o'i luniau ar y farchnad am y tro cyntaf - rheiny'n fychain eu maint, personol eu naws ac arloesol eu mynegiant. Delweddau digon diymhongar ar un wedd, ac eto…

# Celfyddyd weledol


Lloyd Roderick

Caiff nifer o artistiaid eu hadnabod yn ôl eu henwau cyntaf yn unig, wrth gwrs, a daeth enw Kyffin a'i dirluniau at ei gilydd mewn undod. Ond beth yw natur y portread o'r ffermwr - a'i lafur - yn y delweddau eiconig hyn?

# Celfyddyd weledol


Prys Morgan

Mae Peter Lord yn llenor dadleuol. Sylwch ar y teitl: ‘Celfyddyd Gymreig’, nid yr artist yng Nghymru, neu’r celfyddydau yng Nghymru, fel a gafwyd mewn cynifer o lyfrau ac arddangosfeydd. Sylwch yn ogystal ar ‘Y Traddodiad’. Yn 1976 cyhoeddodd y diweddar Gwyn Thomas Y Traddodiad…

# Celfyddyd weledol


Sara Penrhyn Jones

Gofynnodd fy mab i mi’n ddiweddar a oeddwn i erioed wedi gweld draenog. Edrychais arno'n syfrdan. Roedd draenogod yn gymaint rhan o fy mhlentyndod â chrafu pengliniau, danadl poethion a gwneud cadwyni o lygad y dydd. Doedd gen i ddim syniad y gallai…

# Celfyddyd weledol


Daniel G Williams

Ystyried perthynas y beirniad diwylliannol nodedig a'r nofelydd, Raymond Williams, a gweithiau pedwar artist Cymreig y mae eu gwaith i'w gweld ar hyn o bryd yn arddangosfa 'Ffiniau', ym MOMA Machynlleth.