# Chwyldro
Iwan Rhys Morus
Mae ynni o’n cwmpas ym mhobman: yn nhonnau’r môr, yn sŵn y gwynt, yn fflamau’r tân, cawn ein hamgylchynu gan ynni. Ynni yw un o gysyniadau mwyaf sylfaenol ffiseg. Caiff ei fynegi drwy symudiad, drwy wres a golau, neu drwy gyfrwng trydan.