# Rhifyn 6

# Rhifyn 6


Siôn Tomos Owen

Stori mewn lluniau

Un lôn i fewn, un lôn mas. Yr un hen stori am gymuned fechan yng nghymoedd de Cymru. Wastad yr un hen stori. Stereoteipiau o fywydau caled, brwydro plwyfol a’r bobol sydd yma o hyd. Ond y peth yw ... Mae…

# Rhifyn 6


Jerry Hunter

Dwi wedi dechrau odli eto. Wn i ddim pam mae rhai pobl yn ei gael yn beth mor ddiddorol; dydi o ddim yn ddim byd mwy na rhywbeth fydda’ i’n ei wneud weithia pan fydda’ i’n siarad. Ond dwi ddim yn ei wneud rŵan achos…

# Rhifyn 6


Sioned Puw Rowlands

‘Nid dim ond gwylio ffilmiau yr ydan ni, mae ffilmiau yn ein gwylio ninnau hefyd,’ meddai’r cyfarwyddwr o Rwsia, Andrey Zvyagintsev. Yn ei ffilm ddiweddaraf, Loveless, bob yn hyn a hyn, yn batrwm trwyddi, mae pobl yn gwirio eu ffonau bach neu’n tynnu lluniau ohonyn nhw eu…

# Rhifyn 6


Emyr Ll Gruffudd

Go brin y byddai unrhyw un sy'n fy adnabod yn dyfalu fod Eleanor o Aquitaine yn un o fy hoff gymeriadau hanesyddol. Hi oedd un o ferched mwyaf pwerus Gorllewin Ewrop yn y Canol Oesoedd. Gwraig i Louis’r 7fed, Brenin Ffrainc, ac wedyn…

# Rhifyn 6


Huw L Williams

Tanysgrifiwch i ddarllen yr ysgrif hon

Cyfyd sawl cwestiwn dyrys yn sgil yr achosion diweddar o aflonyddu rhywiol a’r ymgyrch #MeToo, a drafodwyd yn helaeth yn y cyfryngau. Un o’r cwestiynau hynny yw sut y bu modd i hyn ddigwydd gyhyd ac ar raddfa mor eang. Mae’n…

# Rhifyn 6


Mihangel Morgan

Rai blynyddoedd yn ôl fe gyhoeddais gyfrol o storïau byrion yn dwyn y teitl Saith Pechod Marwol (1993). Nid myfi oedd y llenor cyntaf o bell ffordd i weld potensial yn yr hen batrwm hwn sy’n dyddio yn ôl i’r hen Roegiaid; fe’i defnyddiwyd gan Dante,…

# Rhifyn 6


Boz Groden

tywysogaeth, tywysogiaeth:

(a) Gwlad, talaith a thywysog yn ben arni, teyrnas, hefyd yn ffig.; Cymru (fel tywysogaeth) ...

# Rhifyn 6


Huw Lawrence

Dai Loosewheel maen nhw’n galw Dad, sy’n enw doniol efallai, ond nid un sy’n adlewyrchu chwe diwrnod yr wythnos o waith yn y garej, yn cadw llyfrau’r busnes, y tŷ a’r ardd, a chadw llygad ar gymdogion oedrannus hefyd, i gyd ’run pryd ag edrych ar ôl fy mam.…

# Rhifyn 6


Gwyneth Lewis

Rwy’n cofio’r llyfrau na phrynais i lawer gwell na’r rhai sydd ar fy silffoedd. Fe welais i’r Dictionary of Russian Swearing mewn siop lyfrau ieithoedd tramor yn 1983. Roedd yn cynnwys clasuron fel: ‘Sir, you are a striped cock on wheels in a wood.’ Beth oedd arna i na phrynais i…

# Rhifyn 6


Emyr Lewis

Y Tachwedd hwnnw ger Tehuantepec / Llonyddodd llepian llac y môr fin hwyr / Ac yn y bore lliwiai haf y dec ... 

# Rhifyn 6


Jan Morris gyda Twm Morys

Heddiw ar fy nhro boreol, trawais ar gydnabod rwyf yn ei edmygu. Roedd yn coedio mynd yr un fath â mi, ac i’r un perwyl: meddyg wedi ymddeol ydi o, ac mi ŵyr werth corfforol, moesol a deallus ymarfer corff. Ond heddiw’r bore…

# Rhifyn 6


T Robin Chapman

Bydd gofyn sôn cyn bo hir, ymhlith pethau eraill, am sglodion a jeli a nofio ac uwd; ond am y tro, gwell dweud gair am Bobi Jones y beirniad: Bobi qua RM, yn fwy penodol. Ddeugain mlynedd a rhagor yn ôl, pan oedd John Gwilym Jones, er…

# Rhifyn 6


R Gareth Wyn Jones

Mewn ffiseg diffinnir ynni fel ‘y gallu i wneud gwaith’, er bod tarddiad yr ynni a’r gwaith a gyflawnir yn dra amrywiol. Defnyddiaf ddwy enghraifft i egluro hyn. Gellir ffrwyno’r ynni mewn dŵr sy’n llifo o ben y mynydd i’r dyffryn islaw – sef ynni a ddaw drwy rym…

# Rhifyn 6


Carl Morris

Tanysgrifiwch i ddarllen yr erthygl hon

Mae awdur, artist neu ymgyrchydd, entrepreneur, gwleidydd, neu ddeallusyn efallai, wrthi’n cyhoeddi darn ar Facebook yr eiliad hon, yn y gobaith y bydd yn cyrraedd y ‘bobl iawn’. Hyd yn hyn, cynnal a chadw tudalen broffesiynol, yn hytrach na phroffil…

# Rhifyn 6


Catrin Ashton

Gorchuddia’r cen y garreg fel patrwm o rew ar wydr, ond parhau yn weladwy mae’r rhifau sydd wedi eu cerfio yn y piler triongl. Maent yn nodi bod y garreg yn sefyll 1,588 o droedfeddi uwchben lefel y môr. O’r fan hon, mae’r mynydd i’w…

# Rhifyn 6


Geoff Young

Dylanwad Tarkovsky ar y ffotograffydd o’r Alban, Peter Cattrell

Mae’r gangen gwympiedig yn rhwystro mynediad, yn llinell ar letraws dros y llwybr. A hithau’n gangen gwympiedig unig, gorwedd yn lluddedig ar lawr, yn rhwystr i’r llygad rhag gweld y tu hwnt. Mae’r rhes o goed ar y dde yn dywyllach ac…