Amser gwrando
A ydym yn clywed yr un pethau?
Dafydd Johnston
‘Iaith Oleulawn’: Geirfa Dafydd ap Gwilym
Gwasg Prifysgol Cymru, 320tt, £24.99, 2020
Adin E Lears
World of Echo: Noise and Knowing in Late Medieval England
Cornell University Press, 248tt, £42, 2020
Diana Luft
Medieval Welsh Medical Texts: Volume 1, The Recipies
Gwasg Prifysgol Cymru, 640tt, £45, 2020
Dafydd Johnston et al.
Cerddi Dafydd ap Gwilym
Gwasg Prifysgol Cymru, 544tt, £40, 2010
Alain Corbin, cyf. Martin Thom
Village Bells: Sound and Meaning in the nineteenth-century French countryside
Papermac, 418tt, £12, 1999
Bruce R Smith
The Acoustic World of Early Modern England: Attending to the O-Factor
The University of Chicago Press, 400tt, £36, 1999
R Murray Schafer
The Soundscape: Our Sonic Environment and the tuning of the world
Destiny Books, 320tt, $16.95, 1993

Pasg yng nghymuned Taizé, Ffrainc (1980) / Llun: Richard Kalvar/Magnum Photos
Wedi deffro gyda chloch y bore a chlwydo gyda chloch yr osber, a hithau’n noson oer yn y 1370au, pendwmpiai Dafydd ap Gwilym yn ei wely. Roedd yn ceisio syrthio i gysgu er mwyn breuddwydio am ei gymar. Llwyddodd, i ddechrau, gan ddychmygu ei chanlyn a’i chofleidio. Ond yn fuan wedi hynny, tarfai sain aflafar ar draws y rhamant, gan ddychryn y ferch a’i ddeffro yntau. Sain cloch wahanol ydoedd. Cloch ryfedd ynghlwm wrth ryw dic-tocian mecanyddol. Sain newydd y cloc. Pwy a ŵyr a oedd testun ‘Cywydd y Cloc’ yn gloc go iawn neu’n gloc yn nychymyg Dafydd yn unig, ond mae un peth yn sicr: heb ymdrech fwriadol, mae’r hyn a glywn ninnau wrth ddychmygu sefyllfa’r gerdd yn wahanol iawn i’r hyn a glywodd Dafydd ap Gwilym.
Fel y mae Alain Corbin, yr hanesydd cymdeithasol o Ffrainc, yn nodi, nid yw’r synhwyrau yn sefydlog dros amser. Gyda’r clyw, er enghraifft, mae rhai seiniau yn aros yr un fath am ganrifoedd ond mae dirnadaeth pobl ohonynt yn medru amrywio’n sylweddol o le i le, o gyfnod i gyfnod, ac o ddiwylliant i ddiwylliant. Nid yw caledwedd ffisioleg y corff na chaledwedd sain o reidrwydd yn newid ond mae meddalwedd y clyw a meddalwedd ystyron y seiniau hynny yn sicr yn gwneud; hynny yw, mae bioleg y corff a seiniau’r byd yn aros yr un fath, ond nid felly’r meddwl.
Mae cydnabod hyn yn arbennig o bwysig wrth geisio deall y byd yng nghyfnod Dafydd ap Gwilym ac mewn unrhyw gyfnod cyn y Cyfnod Modern. Gwelodd canrif Dafydd ap Gwilym y byd yn cyrraedd sawl croesffordd, a gyda thwf trefi a dyfeisio offer fel y cloc a’r dryll, un o’r croesffyrdd hynny oedd dechrau mecaneiddio. Dyma fyd a oedd wrthi’n troi’n swnllyd. Cyn pwysigrwydd tystiolaeth weledol yng Nghyfnod yr Ymoleuo, cyn y wasg argraffu a’r felin wlân, cyn griddfannau diddiwedd peiriannau’r Chwyldro Diwydiannol, cyn dwndwr moduron a theledau’r 20g, a chyn stŵr clustffonau a seinyddion heddiw, roedd y byd yn lle tawelach. Yn yr Oesoedd Canol, prin y clywid seiniau uwchben 60 dB, a sain tywydd stormus neu sain cloch fyddai hynny. Heddiw, fodd bynnag, y ffigwr hwn yw’r norm. Dyma lefel y sain sydd yn y cefndir wrth sgwrsio, heb sôn am y toreth synau eraill, fel injan car, a all yn hawdd gyrraedd dros 100 dB.
Serch hynny, yn baradocsaidd braidd, gan fod llai o seiniau’n cystadlu â’i gilydd, roedd y seiniau oedd i’w clywed yn yr Oesoedd Canol yn haws i’w hadnabod ac yn fwy ystyrlon. Mewn sawl ffordd, cawsom oll flas ar y math hwn o glywed yng ngwanwyn 2020 wrth i’r cyfnod clo cyntaf daro’r byd yn fud. Bid siŵr, yn ôl yn nyddiau’r ‘awr o ymarfer corff’ fe sylwoch ar synau ‘newydd’. A dynnwyd eich sylw gan drydar adar nad oedd yno o’r blaen, neu a oedd dynesiad y postmon yn swnio’n amlycach nag erioed? Heb garthen lo-fi y synau eang a diystyr arferol – sŵn cefndir llawn traffig yn un – roeddem yn medru clywed, a gwrando, yn fwy astud. Diau fod R Murray Schafer, arloeswr maes ymchwil ‘astudiaethau sain’ a dyfeisiwr y termau ‘tirsain lo-fi’ (lo-fi soundscape) a ‘sain gyweirnod’ (keynote sound), wedi’i blesio’n fawr gan sefyllfa glywedol y misoedd hynny. Heb seiniau niwlog yn cymylu rhai llai grymus ond mwy arwyddocaol, mae’n debyg mai dyma’r ‘dirsain’ a oedd yn gyfarwydd i’r glust ganoloesol.
Does dim angen cytuno â phob rhan o’r theori (apocalyptig, ar brydiau) a gyflwynodd Schafer yn ei gyfrol, The Soundscape (1993), i gytuno fod angen i’n clustiau modern ni felly wrando’n fwy astud ar unrhyw ffynhonnell cyn tua’r flwyddyn 1550, yn enwedig ar destunau llenyddol. Dyma’n union y mae’r ysgolheigion llenyddol Adin E Lears a Dafydd Johnston wedi ei wneud yn ddiweddar: deallant ill dau fod ceisio clustfeinio â’r clyw canoloesol yn gymorth mawr i werthfawrogi llenyddiaeth y cyfnod fel y byddai darllenydd, neu wrandäwr mwy na thebyg, o’r oes wedi ei wneud.
Cymerwn brofiadau Dafydd ap Gwilym â’r cloc fel enghraifft. Am ganrifoedd lawer tan tua’r 19g, un o seiniau sefydlog Ewrop a angorai’r seiniau mwy newydd ac ysbeidiol, hynny yw, un o’r ‘seiniau cyweirnod’, oedd clychau. Dyma sain a lywiai fywydau drwy’r dydd gan atseinio o dyrau eglwysi, mynachlogydd, a chanolfannau trefi. Caent eu canu gan bobl i ddechrau ond yng nghanrif allweddol Dafydd – 14g – daeth y cloc i’w canu’n awtomatig.
Yn yr Eidal ym 1335 y sefydlwyd y cloc mecanyddol cyntaf, ac roedd un wedi dod i Brydain erbyn 1370. Dyma tua’r un flwyddyn ag y mae Dafydd ap Gwilym yn diflannu’n gymylog o’r cofnod hanesyddol. Mae’n eithriadol felly fod y peiriant newydd-ddyfeisiedig hwn yn cael cymaint o sylw ganddo. Defnyddia’r gair ‘cloc’ a geiriau cysylltiedig megis ‘orloes’ yn gyson, ac yn aml yn haniaethol – nodwedd sydd, yn ôl llawlyfr newydd Dafydd Johnston, ‘Iaith Oleulawn’: Geirfa Dafydd ap Gwilym, yn dangos fod y teclyn yn
lled gyffredin ym myd y bardd. Yn anuniongyrchol, cana glodydd y cloc am ei sain gyson a di-ffael: cloc yw Dafydd ei hun wrth ganmol Morfudd yn ddi-baid yn y gerdd ‘Talu Dyled’ ac ‘eos’ sydd fel ‘orlais goeth ar irlas gainc’ ydyw yn ei alar tragwyddol pan fu farw ei gyfaill Gruffudd ab Adda. Ond droeon eraill, mae Dafydd ap Gwilym yn talu sylw penodol a diriaethol i’r teclyn sy’n awgrymu nad rhywbeth hollgyffredinol ydoedd.
Fel y crybwyllwyd, naratif ‘Cywydd y Cloc’ yw ymweliad Dafydd â’i gariad dienw mewn breuddwyd, ond buan y daw sain y cloc i dresmasu ar ei feddyliau. Heddiw, mae’n anodd dychmygu cloc yn achosi cymaint o stŵr, nid yn unig oherwydd prinder clociau analog, ond oherwydd, i’n clustiau ni yn yr 21g, dydy cerdded eu bysedd ddim yn sain eithriadol o gryf. Ymhellach, rhywbeth i’w wirio’n weledol, ac nid yn glywedol, yw’r cloc erbyn heddiw – doedd dim bysedd, wyneb na rhifau ar y clociau cyntaf – a dim ond yr etymoleg sydd bellach yn ei gysylltu â chlychau: fel ‘cloch’, daw ‘cloc’ yn anuniongyrchol o’r Lladin clocca (‘cloch’). Nid yw bellach yn beth prin nac yn gynnyrch gwaith llaw unigryw a chostus. Yn gryno, nid yw’n nodedig.

Llun: Tsiecoslofacia, 1966 gan Josef Koudelka/Magnum Photos
Yn oes Dafydd ap Gwilym, fodd bynnag, roedd popeth am y cloc yn newydd sbon, gan gynnwys sain cliciadau rheolaidd y dannedd metel a thic-tocian trawiadol y darn haearn troellog, sef y foliot. Bryd hynny, doedd y cloc ddim eto yn ‘sain gyweirnod’ fel sail i seiniau newydd: y cloc oedd y sain newydd. Yn wir, mae disgrifiad manwl gywir Dafydd ap Gwilym yn ei gywydd yn dangos nad oedd yn olygfa nac yn sain gyfarwydd. Mae’r cyfeiriadau at raffau, olwynion, a phwysau, sy’n cydweddu â chloc Eglwys Gadeiriol Caersallog, un o glociau cynharaf Prydain sydd wedi goroesi (c. 1380), yn awgrymu archwilio chwilfrydig. Perthnasol felly yw theori’r hanesydd Bruce R Smith fod synau estron i’w clywed yn gliriach na synau cynhenid, hyd yn oed os yw’n sain wannach.
Yn ogystal â bod yn rhywbeth syfrdanol, roedd dyfodiad y cloc hefyd yn symbolaidd gan mai dyma un o gamau breision cyntaf y Chwyldro Diwydiannol ac mae gyrfa Dafydd ap Gwilym yn ei rychwantu’n dwt. Yn wir, fel llenor ar sawl croesffordd y gwêl Dafydd Johnston y bardd hwn, a dyma brif linyn ei astudiaeth o’i eirfa. Prif ddiddordeb ‘Iaith Oleulawn’ yw rôl Dafydd ap Gwilym yn cyfoethogi a gwireddu potensial yr iaith Gymraeg drwy dynnu ar bob agwedd ohoni ac o’r byd clywedol o’i gwmpas. Serch hynny, nid oes modd gwadu nad oes croesffyrdd eraill i’w canfod yn ei waith.
*
Un ohonynt yw’r groesffordd a archwilir gan Adin E Lears yn World of Echo: Noise and Knowing in Late Medieval England (2020), sef twf llythrennedd y cyfnod ac felly dwf awdurdod yr haenau islaw’r haenau uchelwrol. Wrth i lenyddiaeth Saesneg ffynnu, sef iaith israddol Lloegr am ganrifoedd lawer, esgorodd ar feddylfryd newydd a ffyrdd newydd o fynegi’r meddylfryd hwnnw. Canolbwyntia Lears felly ar y seiniau dynol anghonfensiynol a ddaeth yn sgil hyn oll a’u hymddangosiad yn llên Saesneg y 14g: seiniau Gwraig Caerfaddon yn Chwedlau Caergaint, y Lolardiaid yn y testun alegorig Piers Plowman (hynny yw, dilynwyr y diwygiwr proto-Brotestannaidd John Wycliffe), a’r cyfrinwyr Richard Rolle a Margery Kempe. Cymer iaith y lleygwyr hyn, iaith a labelwyd yn ddifrïol fel sŵn gan awdurdodau eglwysig ac aristocrataidd y cyfnod, a’i hailddiffinio fel sain ystyrlon.
Mewn astudiaeth sy’n ceisio canfod meddylfryd awduron a chymeriadau mewn cyfnod o newid yn ein perthynas ni â’r byd, does dim syndod bod Lears yn tynnu ar yr hyn mae Bruce R Smith yn ei alw’n ‘ffenomenoleg hanesyddol’, sef damcaniaeth Alain Corbin uchod fod y byd yn medru aros yr un fath ond bod ein dirnadaeth ni ohono yn newid. Perthyn cyfrol Dafydd Johnston i’r theori hon hefyd drwy ganolbwyntio ar ddefnydd a dealltwriaeth newidiol geiriau. Gan gyfeirio at eiriau a chysyniadau fel ‘rhad’, ‘hoyw’, ‘glas’, a ‘chof’, dywed mai ‘hawdd iawn yw darllen y rhain fel Cymraeg modern a cholli eu hergyd yng nghyd-destun y gerdd’, e.e. ‘rhad Duw’ (God’s grace). Yn wir, ceir yr un syniad mewn cyfrol arall am y canrifoedd hyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sef cyfrol gyntaf catalog arbennig Diana Luft o ddysgeidiaeth feddygol Cymru ganoloesol: Medieval Welsh Medical Texts. Yno, nodir y newid yn ystyron cyflyrau, e.e. y rhai a ddosbarthid fel ‘cancr’ a ‘gowt’ sy’n wahanol iawn i’r hyn a olyga’r termau hynny heddiw. Mae gwaith Johnston a Luft, felly, yn mynd ati i sicrhau bod darllenwyr Cymraeg modern yn ymwybodol o’r newid yn ystyron geiriau canoloesol, tra mae gwaith Lears yn sicrhau bod clustiau modern yn ymwybodol o’r newid yn ystyron seiniau canoloesol.
Mae’r ddau yn bwysig wrth ddod ar draws sain annisgwyl o echrydus cloc Dafydd ap Gwilym. Gwyddom fod Dafydd yn synhwyro hon fel sain echrydus ar sail y ribidirês o ddychan sydd ganddo i’w disgrifio: ffyrdd sy’n derbyn esboniadau manwl gan Dafydd Johnston wrth astudio morffoleg feiddgar y bardd. Technegau ieithyddol gweddol syml yw sawl un o’r rhain yn ein tyb ni, ond technegau a feistrolwyd neu a ddyfeisiwyd hyd yn oed gan Dafydd ap Gwilym, yn enwedig wrth iddo gyfuno sawl un ohonynt yn yr un gerdd. Ceir geiriau cyfansawdd megis ‘mynychglap’, dyfeisiadau drwy ragddodiaid megis ‘anfwyn’, a hefyd fenthyceiriau newydd i’r cyfnod fel y ‘cloc’ ei hun.
Mae’n amlwg felly fod y sain yn glir yng nghlustiau Dafydd ap Gwilym, ac un rheswm dros hynny, fel yr awgrymwyd eisoes, oedd ei bod yn sain newydd wrth i Gymru ddechrau trefoli. Felly, y cwestiwn nesaf i’n clustiau modern yw: pam mae’n sain mor boenus o swnllyd? Daw un ateb wrth gofio mai yng nghanol nos y clywid y cloc: ‘Melin ŵyll yn malu nos’ ydyw. Os cofiwn fod y byd yn lle tawelach yn oes Dafydd ap Gwilym, yna cofiwn hefyd fod y byd yn lle tawelach fyth fin nos. Un diffiniad cyffredin o ‘sŵn’ yw ‘sain allan o’i lle’. Felly, ar noson ganoloesol, byddai unrhyw sain, yn enwedig un annaturiol, fan lleiaf yn sain ‘allan o’i lle’, ac yn aml yn sain drawiadol o arswydus.
Daw rheswm pellach dros gŵyn Dafydd wrth inni, gyda Lears, ddiffinio ‘sŵn’ fel ‘sain heb reolaeth’. I’r gramadegwyr canoloesol, roedd rhyw fath o hierarchiaeth sain yn bodoli, â’r seiniau ystyrlon ar y brig a’r rhai diystyr ar y gwaelod. Sain ddynol oedd y fwyaf ystyrlon; ceid llai o ystyr mewn sain ddynol nad oedd yn iaith (h.y. ochneidio, crio, ayyb), llai fyth mewn seiniau anifeiliaid, a’r sain fwyaf ddiystyr oedd sain endid anfyw. Er mwyn cadw sain yn ystyrlon a sicrhau nad oedd yn boddi’r ystyr ymhlyg ynddi, rhaid oedd ei rheoli. Roedd y gagendor rhwng sain ac ystyr yn cynyddu wrth fynd i lawr yr hierarchiaeth hon. Ond hyd yn oed gyda sain ddynol, roedd yn rhaid rheoli sain yn llym fel na fyddai’n troi’n anhrefnus nac yn bleserus na chwaith yn bechadurus.
Fel endid anfyw, lleolir y cloc ar waelod tomen y seiniau ystyrlon. Does dim syndod felly mai sain aflafar, ddiystyr sydd i’r teclyn metelaidd hwn ym meddwl Dafydd a’i gyfoeswyr. At hynny, fel carwr byd natur, mae’r trosiadau a ddefnyddia Dafydd i ddisgrifio’r sain yn siarad cyfrolau am ei farn ynghylch trigolion y ddinas a’u diwydiannau swnllyd: nonsens endid anfyw neu stŵr anifeilaidd y ‘cnecian ci yn cnocian cawg’ a ddaw o enau’r ‘cobler brwysg’, yr ‘eurych celwyddawg’, y ‘sadler’, y ‘crwper crach’, a’r ‘[t]eiler anwadal’. Yn ôl uchelwr fel Dafydd ap Gwilym, rhyw lol afreolus oedd ieithwedd lleisiau gweithwyr fel y rhain ac annynol oedd eu hawdurdod – barn a glywn yng ngwneuthuriad label y ‘Lolardiaid’ nad yw’n gyd-ddigwyddiad. Ar ben hynny, yn achos Dafydd ap Gwilym, mae’n bosib fod agwedd wrth-Seisnig ynghlwm wrth ei agwedd wrth-drefol. O gofio sut y defnyddid – ac y defnyddir hyd heddiw – y cysyniad o ‘sŵn’ i ddisgrifio iaith estron, yn rhannol er mwyn pwysleisio arallrwydd ei siaradwyr, mae’n annhebyg mai cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith mai benthyciadau Saesneg yw teitlau’r swyddi swnllyd a dinesig hyn. (Er nad yw Dafydd Johnston yn cynnwys y gerdd benodol hon yn ei gyfrol – oherwydd ei fod wedi trafod ei hawduraeth amheus yn Cerddi Dafydd ap Gwilym [2010], efallai – mae ei benodau ar eiriau benthyg a chefndir amlieithog y bardd yn cadarnhau mai iaith y trefi oedd y Saesneg iddo.)
Yr unig beth a allasai achub sain cloc rhag bod yn ‘sŵn’ oedd ei natur reoledig: cofier am yr esiamplau uchod lle canmolodd Dafydd ei sain gyson a rheolaidd. Mae’n hanfodol felly nad yw’r cloc penodol hwn yn sefydlog: fe’i clyw fel ‘cobler brwysg’, a rhaid i Dafydd ofyn: ‘A fu sadler, crwper crach, / Neu deiler anwadalach?’ Dydy sain cloc ‘anwadl’ a meddw (‘brwysg’) ddim o dan reolaeth. Gan gofio’r hierarchiaeth ystyr, os oedd raid bod yn llym wrth reoli sain iaith ddynol, yna roedd yn rhaid bod yn llymach fyth wrth reoli sain endid anfyw. Heb wneud hynny, amhersain yw ei sŵn a dyma, mae’n debyg, sy’n gwylltio Dafydd.
Ceir rheswm arall dros ei ddicter wrth ystyried dealltwriaeth y cyfnod o’r corff ac o wyddoniaeth sain. Ar adegau fel y rhain, mae canllaw Diana Luft yn ddefnyddiol tu hwnt. Yn ychwanegol at y gwaith pwysig o ddryllio’r gred fod pob testun meddygol Cymreig yn perthyn i’r un traddodiad a bod y fath destun â ‘Meddygon Myddfai’ yn bodoli, mae Luft wedi llwyddo i greu cyfeirlyfr hanfodol i unrhyw ymchwilydd Cymraeg Canoloesol a chatalog a fydd yn sicr yn hwyluso ymchwil ryngddisgyblaethol. Yn nisgyblaeth astudio sain, mae’n egluro agweddau ar y ddealltwriaeth ganoloesol o ddiffyg ar y clyw a’r lleferydd, e.e. byddardod a achosid gan fwydyn neu gan ‘leithder’ gormodol ac a gâi ei drin â sudd mintys neu droeth rhyw greadur. Agwedd wyddonol arall sy’n ein cynorthwyo i gydymdeimlo â Dafydd yw’r cysyniad mai rhywbeth diriaethol oedd tonnau sain: ‘aer toredig’ a fyddai’n taro tympan y glust yn llythrennol. Fel y noda Lears, ceir awgrym o ergyd gorfforol o’r fath yn y ferf Saesneg Canol clappen, sef ‘dweud’ ond hefyd ‘clapio’. Yr un yw’r stori gyda’r Gymraeg ‘clap’, sy’n golygu sain curo dwylo yn ogystal â ‘siarad gwag’ neu ‘glebran’. Goblygiadau hyn yw nad oes raid darllen poen Dafydd wrth glywed y cloc yn drosiadol. Roedd cliciadau a chlychau’r cloc yn wir yn brifo. Ym mhennod arbennig o berthnasol Dafydd Johnston ar y synhwyrau a’r meddwl, gwelir yr un ffenomenon ar waith gyda threm dorcalonnus merch yn gwanu ‘[t]rwy ’mron a’m calon a’m corff’; nid yw’n anochel o gwbl mai trosiad sydd yma gan mai’r gred gyfredol oedd bod argraffiadau allanol yn llythrennol yn treiddio i’r galon.
*
Y cwestiwn olaf i lenor fel Dafydd ap Gwilym yw: sut, felly, mae mynd ati i gyfleu’r fath synau mewn geiriau? Wrth ddarllen neu wrando ar gerdd fel ‘Cywydd y Cloc’, mae’n amhosib peidio â chytuno â Dafydd Johnston fod Dafydd ap Gwilym yn cael mwynhad mawr yn gwrando ar y byd o’i gwmpas ac yn chwarae â seiniau’r byd hwnnw. Cytunwn hefyd mai rhywbeth materol oedd iaith iddo, ac yma clywn gyseiniant rhwng damcaniaethau Dafydd Johnston a rhai Adin E Lears. Gan chwalu cysyniadau’r ieithyddion strwythurol fod gwahaniaeth clir rhwng yr ‘arwydd’ a’r ‘arwyddedig’, h.y. y gwahaniaeth rhwng y gair ‘cath’ a’r cysyniad o ‘gath’, a gan ffafrio yn hytrach ffordd ôl-strwythurol o feddwl, mae Lears yn trin pob math o sain ar hyd un sbectrwm ystyrlon lle mae seiniau anifeiliaid neu bobl, byw neu anfyw, iaith neu ddi-iaith i gyd yn amrywiadau ar ei gilydd. Dyma sy’n ei galluogi hi i glywed ystyr ym mhob sain ddynol a ddaw o enau rhywun fel y gyfrinwraig ganoloesol Margery Kempe, a feirniadwyd yn hallt am lefaru â thafodau, boed hynny mewn sain ieithyddol ai peidio.
Mae’r sbectrwm yma hefyd yn ymhlyg yn astudiaeth Dafydd Johnston wrth iddo ddangos sut y mae athrylith barddoniaeth Dafydd ap Gwilym a chyfoeth ei eirfa – yn enwedig o’i gymharu yntau â’i ragflaenwyr a’i gyfoeswyr – yn tarddu o’r ffaith iddo wrando ar bob un sain oedd o’i gwmpas a’i fod yn barod i dylino pob un ohonynt yn ôl gofynion y gynghanedd. I Dafydd, roedd potensial barddonol i bob un sain. O eiriau hynafol fel ‘gwrm’ (‘tywyll’) i fenthyceiriau Ffrengig fel ‘propr’, o gyfansoddeiriau fel ‘hydwyll’ a fathwyd gan y bardd ei hun i’r amwysedd a ddaw wrth dreiglo, fel gyda ‘bedd/medd/fedd’. Doedd ystyr ieithyddol gonfensiynol ddim yn rhwystr iddo chwaith, fel y clywir gyda’r ‘cnecian ci yn cnocian cawg’ yng ‘Nghywydd y Cloc’ neu yn y toreth o enghreifftiau yn yr enwog ‘Trafferth mewn Tafarn’. Ond cyflëir synau di-iaith yn uniongyrchol hefyd drwy ei ddefnydd arloesol o onomatopeia: dyma fe’n gwatwar cri’r dylluan, ‘“hw ddy hw,” hoyw ddyheadd’ ac yn dynwared atal dweud Gruffudd Gryg fel ci meddw yn igian, ‘Cuc cuc yn yfed sucan’.
Mae’r sylw a rydd Dafydd Johnston i’r trysor o eiriau a gyflwynodd Dafydd ap Gwilym i’r Gymraeg yn tywys ei gyfrol i’r un byd â’r astudiaethau lu sy’n cyflwyno Geoffrey Chaucer a William Shakespeare fel tadau ystrydebol yr iaith Saesneg. Ond yng nghyd-destun ehangach y gyfrol, deellir nad Dafydd ap Gwilym o reidrwydd oedd ‘tad y Gymraeg’ – a naïf yw’r fath gysyniad beth bynnag – ond yn hytrach mai bardd talentog a thoreithiog ydoedd, un nad oedd arno ofn gwireddu potensial yr iaith ar drothwy tyngedfennol yn ei hanes.
Boed yn Gymraeg gwerinol neu’n drydar adar, yn galc ar Ladin neu’n riddfanau gefail, gwrando fyddai Dafydd ap Gwilym yn ei wneud o hyd. Nid yw hyn, wrth gwrs, yn ddim byd newydd i’r cynganeddwyr yn ein plith; clywed y gynghanedd a wneir hyd heddiw, nid ei darllen na’i hysgrifennu. Ond wrth wrando ar farddoniaeth o’r oesoedd a fu, nid yn unig y mae’n rhaid gwrando ar y gair, ond rhaid gwrando hefyd ar y byd, a mwy na hynny, ar y byd fel yr oedd dros bum canrif yn ôl. Gallwn osgoi colli haenau o ystyron drwy geisio dychmygu’r tirsain, parchu’r cynodiadau, a deall y wyddoniaeth. Os gwrando a wnaeth Dafydd ap Gwilym, does bosib mai gwrando y dylem ninnau ei wneud hefyd; mae cyfrolau Dafydd Johnston ac Adin E Lears yn brawf o’r deall dyfnach all ddod drwy wneud hynny.
Mae Llewelyn Hopwood yn fyfyriwr doethuriaethol yng ngholeg Corpus Christi, Rhydychen.