Adolygu

Aros am goron bywyd

Clasur o’r Eidal

Dino Buzzati, cyf. Stuart C Hood

The Tartar Steppe

Canongate, (1940) 1952; 2018

Aros am goron bywyd
Morgan Owen

Amser darllen: 5 munud

07·03·2024

Caf fy nenu at lyfrau rhyfedd, a llyfrau sy’n peri teimladau rhyfedd. Weithiau, fodd bynnag, bydd llyfr yn fy nghyrraedd heb gyflwyniad, a heb adnabyddiaeth na rhagdybiaethau ar fy rhan i. I’r dosbarth hwn y perthyn The Tartar Steppe gan Dino Buzzati a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn yr Eidaleg yn 1940. Yn ogystal â’i deitl rhamantus, o’i blaid roedd brawddeg o foliant gan Jorge Luis Borges, felly uchel oedd fy nisgwyliadau. Mae’n syndod cyn lleied rydym wedi’i glywed am yr awdur hwn yng Nghymru, os o gwbl, ac am y llyfr hwn yn enwedig, nofel y dywedir ei bod yn gampwaith. Yn fwy diweddar, fe’i cyhoeddwyd dan y teitl The Stronghold gan New York Review Books, wedi ei chyfieithu o’r newydd gan Lawrence Venuti (2023). Efallai y daw eto ryw fesur o enwogrwydd iddo ymysg y rheiny sy’n darllen llyfrau Saesneg.

Darlunia’r nofel hynt swyddog ifanc yn y fyddin, Giovanni Drogo, sy’n cael ei anfon i gaer bellennig ar ffin bellaf ei wlad i ddechrau ar ei yrfa filwrol. Nid yw’r hen le cysglyd ar ymyl anialwch y Tartariaid wrth fodd ei galon, fodd bynnag, ac yntau’n dyheu am frwydr, am ymdrech arwrol a fydd yn ennill iddo enwogrwydd a bri, ac yn ei achub rhag cyffredinedd. Mae hi fel petai amser yn sefyll yn stond wrth i’r milwyr fynd trwy eu trefniadau’n ddefodol, gan gynnwys eu patrôls rheolaidd a’u gwyliadwraeth barhaus rhag ymosodiad o’r gogledd, ar draws yr anialwch. Mae Drogo, ar y cychwyn, yn teimlo caethiwed y gaer ac yn hiraethu am y ddinas. Gwna gais i adael a chaiff ganiatâd i fynd mewn egwyddor, ar yr amod ei fod yn bodloni aros yn gyntaf am ychydig fisoedd. Yna, os bydd yn dal i fynnu gadael ar ôl y cyfnod hwn, bydd rhwydd hynt iddo.

Er gwaethaf rhybuddion gan hen filwyr y gaer, mae Drogo’n penderfynu aros, yn groes i’w ddisgwyliadau gwreiddiol, fel be bai’r lle wedi bwrw rhyw hud arno. Aiff y drefn yn ei blaen: y patrôls, yr ymarferiadau, y golygon hirbell tua’r anialwch mawr gwag, a’r disgwyl. Nid oes diflastod fel y cyfryw; mae amser yn ffoi ar garlam heb i neb wir sylwi. Un diwrnod, gwelir y gelyn yn gwneud paratoadau, a dônt yn nes ac yn nes dros y paith. Lleda berw gwyllt trwy’r milwyr, a’r diwrnod tyngedfennol wedi dod o’r diwedd, ond mae’r uwchgapten Matti, sy’n gyfrifol am y gaer, yn oedi. Nid yw’n rhoi gorchymyn i weithredu, er rhwystredigaeth eirias i bawb arall; gwnaiff ei orau i gredu bod y frwydr wedi dod a fydd yn rhoi ystyr i’r blynyddoedd hirfaith o aros, ond mae’r blynyddoedd wedi dysgu iddo fod yn amheugar. Daw gair o’r ddinas mewn pryd i ddweud bod y gelyn ar ryw fusnes arall, ac nad oes perygl na rhyfel: dychwelir at bethau fel yr oeddent, a chilia’r gelyn o’r golwg. Ânt yn ôl i’w hir-ddisgwyl.

Felly yn ei flaen yr aiff bywyd Drogo hefyd. Yn ddisymwth, sylwa ei fod yn hen, a’i gorff yn dechrau pallu. Mae ei hen ffrindiau yn y ddinas wedi byw bywydau llawn, ond yn y gaer bellennig, flinedig mae’n dal i aros o hyd. Un diwrnod, mae’r Tartariaid yn ymosod go iawn wrth i Drogo gael ei gludo’n glaf angheuol o’r gaer, ac mae’n marw mewn tafarn ddistadl wrth droi a throsi yn ei feddwl yr antur fawr a lithrodd heibio fel cysgod, fymryn y tu hwnt i’w afael. Ni chaiff gamu’n arwr i faes y gad i farw’n ogoneddus fel y breuddwydiai. Rhwydd yw crynhoi’r stori fel hyn, ac mae’n beryg iddi swnio’n or-syml os nad hollol blaen; ond mae hi’n stori sy’n treiddio’n ddwfn. 

Mewn sawl ystyr, trosiad estynedig yw’r nofel hon, er nad yw’r beirniaid yn gytûn ynghylch yr union drosiad. Mae hefyd yn fwy na dim ond trosiad. Ymgodymir â threigl amser a heneiddio – ond nid henaint ei hun fel cyflwr. Yn hytrach, dyma fyfyrdod ar aros, sef yr aros am yr hyn y tybir ei fod yn well, neu’r hyn a fydd yn coroni bywyd sy’n ymddangos yn ddistadl. Dyma’r freuddwyd sy’n drech na realiti, y freuddwyd ddengar, dwyllodrus sy’n ganolbwynt sylw rhywun ac yn ei rwystro rhag gweld yr hyn sydd o’i amgylch, gan osod amdo rhyngddo a’r byd. Yn y nofel, mae yna draw isorweddol nad yw’n cilio’n llwyr ac sy’n anesmwytho’n gynnil; er gwaethaf y diffyg ‘digwydd’, mae’r traw hwn yn tarfu ar y darllenydd, gan roi aceniad dwys i bob gair syml a leferir. Wrth i fywyd fynd rhagddo yn y gaer ddiarffordd, mae’r milwyr yn aros o hyd, yn llosgi eu llygaid wrth chwilio’r gorwel llachar am ddynesiad y gelyn, yn cadw eu harfau’n lân er nad oes dim wedi digwydd erioed. Teimlais effaith yr aros hwn yn crynhoi fel dŵr amdanaf, a’r nodyn o anghytgord dirgel yn troi yr hyn a fyddai fel arall yn ddarlun cyffredin yn beth ofnadwy. Gallwn glywed amser yn gwibio.

Mae nifer o feirniaid wedi pwysleisio cyd-destun cyhoeddi’r nofel hon yn 1940, dan gysgod ffasgaeth a’i rhyfela, gan weld cyd-drawiadau amlwg: cysegru bywyd i ddelfryd arwraidd uwchlaw realiti, a hithau’n ddelfryd nas gwireddir, er gwaethaf yr oll a roddir iddi. Ei thwyll, hynny yw. A’r gelyn dirgel na cheir byth ond golwg wibiol arno, os hynny, ond a ddefnyddir fel esgus dros fynnu ymroddiad llwyr i’r ‘frwydr’. I mi, fodd bynnag, mae’r ergyd yn un oesol.

Nid yw’r nofel yn felancolaidd i gyd, fodd bynnag. Mae’r ysgrifennu’n gain, ac yn llwyddo i gynnal y tensiwn anesmwyth drwyddo, er gwaethaf gwedd lom bywyd yn y gaer. Ceir golygon syn o brydferth ar yr anialwch hefyd, ac ysbeidiau o ddirnadaeth lathr, megis y prydferthwch sy’n dod i’r amlwg weithiau o aros, a’r elfen o hunan-wastrodi sy’n rhan o’r profiad o ddisgwyl. Mae’r canolbwyntio weithiau’n mynd yn gadoediad yn nwndwr yr oes, neu’n rhyw fath o fyfyrdod ar y presennol tragwyddol. Eto i gyd, pytiog yw’r ysbeidiau hyn. Y cywair pennaf yw pwysau’r cyfleoedd a gollir ac a gollwyd, a’r ‘beth os’ ofnadwy sy’n brathu’r hen filwyr blinedig hyn sydd wedi gwneud bet ag amser, a cholli. Dyma, o bosib, gymar hiraeth, ond ei fod yr un mor ddifaol, sef aros am well, am y peth mawr, am ryddhad, neu am beth bynnag arall, yn lle gwneud yn fawr o’r hyn sydd. Ai rhybudd o nofel yw hon? Dyma ei siars, os oes siars o gwbl: y ceinder yw’r hyn sydd. Mwynheais y llyfr rhyfedd hwn a drodd fy ngolwg at y presennol, rhag i mi ymgolli yn y gorwel pell.

Mae Morgan Owen yn fardd ac ysgrifwr, ac mae'n byw yng Nghaerdydd. Enillodd gystadleuaeth yr ysgrif yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

Mae’r milwyr yn aros o hyd, yn llosgi eu llygaid wrth chwilio’r gorwel llachar am ddynesiad y gelyn, yn cadw eu harfau’n lân er nad oes dim wedi digwydd erioed

Pynciau:

#Morgan Owen
#Cyfieithu
#Yr Eidal
#Clasur
#Amser