Byd tu hwnt i gyfalafiaeth
Adolygu The Future is Degrowth
Matthias Schmelzer, Andrea Vetter, Aaron Vansintjan
The Future is Degrowth – A Guide to a World Beyond Capitalism
Verso, 320tt, 2022,
O dan gysgod yr argyfwng costau byw, a phob gwleidydd o bwys – gan gynnwys Sunak a Starmer – yn addo datrys problemau’r wlad trwy gyfrwng twf economaidd, roeddwn yn teimlo fel rebel go fentrus yn darllen The Future is Degrowth – A Guide to a World Beyond Capitalism. Roedd gen i eisoes amheuon am gyfalafiaeth, am ein ffordd o ddosrannu gwerth, a phryderon hefyd ynghylch sut y bydd ein cymdeithas yn ymdopi â’r argyfwng hinsawdd. Roedd hynny’n gymorth i mi ddyfalbarhau gyda'r gyfrol hon oherwydd mae hwn yn llyfr dwys sy'n gofyn canolbwyntio. Mae'n grynodeb swmpus a chynhwysfawr o gysyniadau, safbwyntiau a beirniadaeth ar dwf economaidd; ac yn ffrwyth ymchwil a thrafodaethau gan fudiadau ac academyddion yn fyd-eang. Diweddariad ydyw o lyfr Almaeneg, sef Degrowth / Postwachstum zur Einfürhung, a gyhoeddwyd yn 2019.
I ddarllenydd sy'n anghyfarwydd ag economeg, mae angen egluro ychydig mwy am rai o elfennau sylfaenol y llyfr. Twf economaidd, er enghraifft: mae’r drafodaeth gan yr awduron yn mynd ymhell tu draw i’r feirniadaeth gyffredin o wendidau mesur yn nhermau GDP (cynnyrch domestig crynswth), sef mesuriad gor-syml a ddefnyddir hyd heddiw fel adlewyrchiad o faint ac iechyd economi. Mae digon o sylwebyddion goleuedig wedi ceisio cynnig opsiynau amgenach, megis y Green New Deal. Ond yn y gyfrol hon, enghraifft o post-growth yw hynny, yn hytrach na degrowth, gan fod pwyslais y drafodaeth gan yr awduron hyn ar fynd ymhellach ac ystyried yr holl agweddau seicolegol, diwylliannol a chymdeithasol sy’n gysylltiedig â thwf. Nid yw’r ymdrechion i ddarganfod math gwahanol o dwf yn gwneud y tro oni bai ein bod yn delio’n foddhaol â’r gorddefnydd o adnoddau naturiol sy’n parhau ar draws y byd.

Gweithwyr ger llosgfynydd Kawah Ijen, Dwyrain Java, Indonesia. Llun gan Mario La Pergola / Unsplash.
Rydyn ni sy’n byw yn hemisffer y Gogledd (y 'Global North' yw’r term a ddefnyddir) yn byw mewn modd ymerodraethol, hyd yn oed os nad ydyn ni’n ymwybodol o hynny. Rydym yn amsugno adnoddau o'r De bob tro rydyn ni’n yfed coffi, prynu dillad newydd, neu yn defnyddio teclynnau y mae'r broses o'u cynhyrchu yn dibynnu ar echdynnu adnoddau naturiol ac yn creu llygredd. Nid oes gwerth i unrhyw ddatrysiad 'gwyrdd', meddai'r awduron, os ydym yn parhau i achosi llygredd a chamddefnyddio adnoddau mewn rhan arall o’r byd. Mae ein ffordd 'ymerodraethol' o fyw, a’n cred mewn twf, yn fwy na phroblem economaidd, mae erbyn hyn yn ideoleg ddominyddol (dwi’n sylwi bod hyd yn oed YesCymru yn methu peidio â thrafod ffigwr GDP hynod broblematig Iwerddon). Mae hyn hefyd yn fater cymdeithasol, gan ein bod yn dibynnu ar dwf i ddatrys problemau fel tlodi ac anghydraddoldeb. Ac mae’n gwestiwn materol gan ein bod yn parhau i ddeisyfu amrywiol foethau yn ein siopau ond gan hidio dim am y gwastraff sy’n dilyn. Nid yw ailfeddwl sut i fesur ein economi ar ei ben ei hun yn debygol o arwain at newid digonol gan fod y syniad o dwf economaidd wedi treiddio mor ddwfn i’n meddylfryd fel cymdeithas.
Cwestiwn y bydd rhai darllenwyr beirniadol am ei ofyn cyn dechrau yw beth yw’r cysylltiad rhwng hyn i gyd a chyfalafiaeth? Onid yw sosialaeth hefyd yn hoelio ei sylw ar dwf economaidd? Ydy’r cysylltiad rhwng twf economaidd a chyfalafiaeth mor uniongyrchol â hynny? Gallaf sicrhau’r darllenydd yr ymdrinnir â hyn mewn dyfnder yn y gyfrol hon. Mae sawl math o sosialaeth, wrth gwrs, a rhai mathau yn blaenoriaethu twf, ond ffocws y gyfrol yw sut i ddatblygu sosialaeth degrowth, gan ddangos sut mae cyfalafiaeth yn ddibynnol ar fanteisio ar y llai grymus, y rhai sydd wedi eu hymylu, a'r hyn nad yw mor hawdd ei fesur. Ni all y 'farchnad' greu economi, wedi'r cyfan, heb ddarganfod pobl sy’n 'atgynhyrchu' eu hunain, er enghraifft teuluoedd yn manteisio ar lafur-am-ddim – menywod, yn bennaf – a dyma lafur sydd ar y tu allan i’r farchnad. Mewn geiriau eraill, nid yw’r 'farchnad' yn tyfu heb dynnu adnoddau o gymunedau ac ardaloedd difreintiedig. I sicrhau sefydlogrwydd, mae’r marchnadoedd economaidd hyn wedi dibynnu ar ymestyn eu gafael er mwyn sugno mwy o adnoddau i fwydo’r craidd, ac felly ganiatáu cronni mwy a mwy o gyfalaf. Yr hyn sy’n cael ei gamddefnyddio fwyaf oll i greu’r cyfalaf hwn, wrth gwrs, yw ein hamgylchedd naturiol, adnoddau ein planed. Ond dim ond un blaned sydd gennym.
A yw cyfalafiaeth yn gallu newid ei ffordd? Nid yw'r rhagolwg yn addawol, yn ôl y llyfr hwn, ond ni ddylid digalonni, meddai'r awduron, oherwydd mae yna bethau pwysicach na thwf y dylid eu blaenoriaethu, ac mae opsiynau ynghylch sut i wneud hynny. Ymhelaethir ar hyn mewn manylder. Dyma gyfrol sy’n gwthio yn erbyn y llif arwynebol a welwn yn y cyfryngau poblogaidd am gryfder a chywirdeb y 'farchnad' fel barnwr ein gwerthoedd. Ac er bod bygythiad difodiant amgylcheddol yn hollbresennol, wrth gwrs, llyfr adeiladol yw hwn, sy'n cynnig syniadau ymarferol i gryfhau’r drafodaeth a'r ffordd ymlaen. I unrhyw un sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth ac economeg werdd gyfoes, dyma gyfrol hanfodol, gan fod cymaint wedi ei gasglu ynghyd yma. Rydw innau’n teimlo’n gryfach rebel ar ôl ei darllen.
Mae Einion Gruffudd yn gweithio fel rheolwr Casgliad Clyweled a’r Archif Ddarlledu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.