Adolygu

Capten ar y môr, capten ar yr aelwyd

Adolygu Capten Meinir Pierce Jones

Meinir Pierce Jones

Capten

Y Bwthyn, 356tt, £10, 2022

Capten ar y môr, capten ar yr aelwyd
Ceridwen Lloyd-Morgan
18·01·2023

Er gwaetha’r teitl, dynes yw prif gymeriad y nofel hon, ond amhosibl gwahanu ei hanes hi a hanes y capten ei hun. Gwraig i gapten llong fasnach, John Jones, yw Elin, ac ers priodi a gadael fferm fach ei rhieni mae hi’n byw mewn tŷ cydnaws â’i statws newydd ym mhentref morwrol Morfa Nefyn. Ar ddechrau’r nofel, yng ngwanwyn 1893, mae Elin heb newyddion ers sbel am ei gŵr na’i long, y Cambrian Queen, ac mae pryder yn dechrau ei chnoi hi. Dim ond yn raddol y datgelir beth a ddigwyddodd ar y fordaith honno, a’r effaith gafodd ei brofiadau ar bwyll John, a bydd angen cryfder a dyfalbarhad ar Elin wrth iddi wynebu dyddiau go dymhestlog. 

Trwy ei pherthynas ag eraill y datblygir Elin fel cymeriad cadarn, yn gyntaf oll fel gwraig i’r capten ond hefyd yn ferch i bobl cefn gwlad sy’n methu deall ei bywyd fel gwraig i longwr. Mae ei pherthynas hi â’i chwiorydd hefyd yn ddadlennol, yn herio’r rhagdybiaeth syml y bydd chwiorydd ar yr un donfedd, ac yn amlygu’r tyndra sy’n codi pan fo un yn planta’n rhwydd ac un arall heb feichiogi er yn dyheu am blentyn. O gwmpas Elin gwëir hanes nifer o gymeriadau’r ardal, sydd, fel Elin ei hun, yn aros yn hir yng nghof y darllenydd. Dyna Lydia Catrin, er enghraifft, sy’n methu’n lân â dal dau benllinyn ynghyd ers iddi golli ei gŵr ar y môr, a’i merch, Adi, tomboi sy’n ysu am fynd yn llongwr fel ei thad: gwell ganddi gynorthwyo’r hen Gapten Rol gyda gwaith trwsio ei hen racs o long na mynd i’r ysgol. Sam Richards, wedyn, sydd yn ymweld â’r ardal i gladdu ei daid: cymeriad deniadol i ddechrau, yn ymddwyn yn gymwynasgar a chyfeillgar ond yn troi’n elyn hunanol erbyn y diwedd. Ond defnyddir Sam hefyd i’n hatgoffa bod newid yn y gwynt ac y bydd llongau ager newydd cyn hir yn disodli’r llongau hwyliau. Fel gwrthbwynt i Sam ceir cameo cynnes a bywiog o’r cymeriad hanesyddol adnabyddus, J Glyn Davies. 

Yn raddol datblyga o flaen y darllenydd ddarlun byw o gymuned lle mae’r môr, yn negawd olaf y 19eg ganrif, yn sail i’r economi leol ac i brofiadau beunyddiol y trigolion. Bydd rhai ohonynt, fel John, yn teithio’r cefnforoedd, rhai yn pysgota ar yr arfordir, eraill yn adeiladu a thrwsio llongau neu’n gwneud hwyliau. I’r tlodion fel Lydia Catrin wedyn, mae hel broc ar hyd y traeth yn ei helpu i oroesi. Ond ochr arall y geiniog yw’r peryglon a wyneba’r llongwyr a’r pryder a ddaw i ran gwragedd a pherthnasau sy’n disgwyl am newyddion na ddaw.

Yr hyn a’m trawodd i, fel merch i gapten llong fy hun, oedd mor gywir y daliodd y nofelydd y cyfrifoldebau aruthrol sydd ar gapten a chyfleu effaith gyrfa morwr ar fywyd bob dydd gŵr a gwraig. Ar wahân i hiraeth y naill am y llall, tra bydd capten yn gorfod wynebu llu o beryglon ar fwrdd ei long, rhaid i’w wraig hithau ddygymod â’r straen o aros yn hir iawn, ar adegau, am unrhyw newyddion. Yn absenoldeb ei gŵr rhaid hefyd i’r wraig ddod yn gapten ar yr aelwyd. Ar ben dyletswyddau arferol gwraig tŷ, hi sy’n gorfod cadw trefn ariannol a sicrhau bod digon o bres wrth gefn i dalu rhent ac am hanfodion bywyd. Daw arian ‘cadw fusutors’ o Loegr yn y gwyliau yn hynod o bwysig i Elin pan na ddaw’r union dâl disgwyliedig yn brydlon ar ddiwedd mordaith. Trwy ei hanes hi a John gwelwn hefyd sut y mae ei yrfa ef yn chwalu rhai o’r ffiniau rhwng rolau traddodiadol y ddau ryw – yn union fel y bu yn achos fy rhieni yn yr ugeinfed ganrif. Pan fydd John ar y môr rhaid i Elin ymgymryd â thasgau a ystyrid yn rhai gwrywaidd ac yn yr un modd bydd morwr fel John yn meistroli rhai crefftau ‘benywaidd’. Nid yn unig y mae John, fel cyn-wneuthurwr hwyliau, â sgiliau gwnïo ymarferol, mae o hefyd yn medru troi ei law at waith cain, fel brodio. Fo wnaeth y llun brodwaith o’r Cambrian Queen sydd ar glawr cefn y gyfrol, oherwydd stori wir yw un Elin a John, sef hen nain a hen daid y nofelydd. Prif ffynhonnell ei gwybodaeth amdanynt, meddai, oedd y straeon a adroddwyd iddi gan ei modryb a’r llythyron a dogfennau gwreiddiol a gadwyd mor ofalus ganddi hithau. Ond o’r deunydd crai hwnnw lluniodd Meinir Pierce Jones nofel swynol a chofiadwy dros ben. Mewn rhai nofelau hanes rhyw eisin ar y gacen yw manylion y cyfnod, yn gefndir lliwgar i stori ddigon confensiynol allasai berthyn i unrhyw gyfnod. Yn Capten, fodd bynnag, mae’r naratif yn deillio’n uniongyrchol o amgylchiadau go iawn, a’r stori, yr amser a’r lle yn un cwlwm tyn, annatod. 

Yn raddol datblyga o flaen y darllenydd ddarlun byw o gymuned lle mae’r môr, yn negawd olaf y 19eg ganrif, yn sail i’r economi leol ac i brofiadau beunyddiol y trigolion

Pynciau:

#Y môr
#Ceridwen Lloyd-Morgan
#Nofelau
#Meinir Pierce Jones