Adolygu

Pwyllgor Diddymu neu Ddargyfeirio Cyfrifiaduron

Darllen ffilm

Thomas Dekeyser, Andrew Culp

MACHINES IN FLAMES

50 munud, 2022

Hywel Griffiths

Amser darllen: 6 munud

15·04·2024

Golygfa o'r ffilm Machines in Flames (gyda diolch am y llun i The Destructionist International).

 

Ar ddechrau’r 1980au bu grŵp o anarchwyr o’r enw Comité Liquidant ou Détournant les Ordinateurs (CLODO; Pwyllgor Diddymu neu Ddargyfeirio Cyfrifiaduron) yn difrodi a chynnau tanau mewn adeiladau yn gysylltiedig â chwmnïoedd cyfrifiadurol fel Philips Data Systems, CII Honeywell Bull a Sperry-Univac yn Ffrainc, yn bennaf yn ardal Toulouse. Gan ddilyn arfer rhai grwpiau tebyg ar y pryd, ac yn arwydd o’u hagwedd chwareus, roedd acronym enw’r mudiad – CLODO – yn chwarae ar eiriau, ac yn dwyn i gof air slang Ffrangeg sy’n golygu person digartref. Oherwydd defnydd y grŵp o’r gair détournant yn eu henw, fe'u cysylltwyd gan rai â’r Situationist International, ac roedd eraill yn amau efallai bod cysylltiad rhyngddynt ac Action Directe, ond daethpwyd i’r casgliad nad oedd cysylltiad ffurfiol, ar sail y gwahaniaethau yn eu bydolwg – roedd CLODO yn anarchaidd ac Action Directe yn Farcsaidd-Leninaidd. Mae’n debyg mai gweithwyr ym maes cyfrifiaduron oedd aelodau CLODO, a’u nod oedd protestio yn erbyn potensial y defnydd cynyddol o gyfrifiaduron i arwain at ormesu ac eithrio pobl trwy wyliadwraeth gynyddol, at greu elw i fosys cyfalaf, at ddefnydd cyfrifiaduron at bwrpasau rhyfel, at orfodi dominyddiaeth y Gorllewin ar wledydd datblygol, ac at ddad-ddyneiddio gwaith pobl. Yn ôl CLODO, cyfrifiaduron oedd dewis offeryn y sawl sy’n dominyddu, ac roedd cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio gan y wladwriaeth i niwtraleiddio’r ‘gelyn oddi fewn’. Mae’r tebygrwydd i grŵp arall a fu’n cynnau tân ar ddechrau’r 1980au – Meibion Glyndŵr – yn drawiadol: ni ddaeth y cyhoedd fyth i wybod pwy oedd aelodau CLODO.

Yn y ffilm Machines in Flames mae’r daearyddwr diwylliannol Thomas Dekeyser, Cymrawd Ymchwil 150 Mlwyddiant yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth, ar y cyd ag Andrew Culp a'r artist sain Dana Papachristou, yn mynd ar drywydd CLODO, gan gyfuno olion o’r archif, recordiadau fideo min nos o leoliadau’r gweithredoedd hanesyddol, a ‘choreograffi bwrdd gwaith’. Mae’r olaf o’r elfennau hyn yn wirioneddol drawiadol (ac yn eironig o ystyried targed gweithredoedd CLODO). Dangosir recordiad o fwrdd gwaith Mac gwneuthurwr y ffilm wrth iddynt agor ffeiliau archif a chwarae clipiau fideo ac ati, gan greu teimlad o agosatrwydd at y broses rwystredig o ymchwilio i grŵp a lwyddodd i ddiflannu heb adael rhyw lawer o dystiolaeth ar ei ôl, heblaw llwch y tanau, sloganau, a maniffesto ar ffurf cyfweliad – ‘CLODO yn siarad’ – a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Terminal 19/84. Ceir arwydd o’u hagwedd anarchaidd a chwareus yn y ‘cyfweliad’: ‘What are your chances of success? Aren’t you afraid of getting caught?’ ‘Our chances are fine, thank you.’

 


Dangoswyd y ffilm yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth yn ddiweddar, fel y gyntaf o gyfres o ffilmiau gwleidyddol y mae’n fwriad ei chynnal yno, gyda thrafodaeth i ddilyn. Mae’n ffilm atmosfferig, ymholgar, sy’n llwyddo i dynnu rhywun i fyd yr ymchwiliad yn syth. Mae hefyd yn codi cwestiynau creiddiol am lawer maes. Diddorol oedd gweld y broses esblygol o geisio deall CLODO, gan ddechrau gyda dulliau arferol, dulliau y byddai heddlu Ffrainc eu hunain wedi eu defnyddio i geisio eu dal, mae’n debyg, ac yna sylweddoli mai ofer mynd ar drywydd CLODO trwy gyfrwng dulliau a hwylisir heddiw gan yr union dechnoleg yr oedd y grŵp yn brwydro yn erbyn ei datblygiad. Er mwyn deall CLODO, medd y ffilm, rhaid bod yn CLODO, ac mae hynny’n ein harwain at y darnau ffilm sy’n mynd â ni at yr union strydoedd a’r adeiladau a oedd yn llwyfan i’w gweithredoedd. Trafodwyd beth yw lle ffilmiau dogfen gwleidyddol pan fo cymaint o wybodaeth ar gael ar flaenau ein bysedd a phan fo hynny yn sicrhau ein bod i gyd eisoes wedi ein cyflyru a’n hysgogi i ymwneud â materion gwleidyddol. Gan gymryd gweithredoedd CLODO yn erbyn cyfrifiaduron a chofnodion cyfrifiadurol fel y brif thema, a chan drafod ambell enghraifft arall lle mae archif wedi ei dinistrio gan dân (archif ffilm Fox yn New Jersey yn 1937, er enghraifft), mae’r ffilm yn myfyrio ar yr oblygiadau ar gyfer archifau heddiw, sydd, wrth gwrs, erbyn hyn yn gwbl gysylltiedig â chyfrifiaduron, nid yn unig o ran cefnogi archifau wedi eu digido, ond y ffyrdd y maent yn cael eu diogelu. Beth fyddai’n digwydd pe byddai canolfan gyfrifiadurol yn mynd ar dân heddiw? Beth fyddai’r oblygiadau? Cwestiynau anghyffyrddus! 

Yn y byd sydd ohoni, gyda holl oblygiadau datblygiad deallusrwydd artiffisial i’n bywydau (er enghraifft, fel rhywun nad oes ganddo ond yr ychydig Ffrangeg a ddysgais hyd at Flwyddyn 9 yn yr ysgol, defnyddiais Google Translate i wirio fy nghyfieithiad Cymraeg o CLODO), a’r modd y gall reoli’r wybodaeth yr ydym yn chwilio amdani ac yn ei derbyn, mae gwerth mewn astudio enghreifftiau hanesyddol o ymwrthod â thechnoleg. Un enghraifft ymysg nifer o enghreifftiau o’r ymwrthod hwn yw CLODO – mae eraill yn cynnwys y Ludiaid a gweithwyr eraill yn y diwydannau tecstiliau a gwlân a oedd yn torri periannau a oedd yn bygwth eu bywoliaeth drwy ostwng cyflogau, a’r arfer o falu llusernau strydoedd ym Mharis a dinasoedd eraill yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond fel ag y nodwyd yn eu ‘cyfweliad’, ac fel y mae gwaith presennol Thomas Dekeyser ar yr enghreifftiau hyn yn archwilio, mae’r ymwrthod hwn yn aml yn deillio o gyfuniad cymhleth o resymau. Credai CLODO fod cyfrifiaduron yn gynhenid ddrwg, ond nid oeddent yn credu bod modd troi’r cloc yn ôl. Yn hytrach, credent y gellid defnyddio cyfrifiaduron i bwrpasau eraill heblaw cefnogi rhyfel, rheolaeth a chyfrifeg, ond bod y defnydd o dechnoleg yn adlewyrchu natur y gymdeithas oedd ohoni. Dyna bwyntiau sydd yn dal yn werth eu trafod, bedwar deg mlynedd yn ddiweddarach.

Mae’n bedwar deg mlynedd ers rhyddhau ffilm arall am dechnoleg eleni, sef The Terminator. Mae’n siŵr bod llawer sy’n gweithio o ddifrif ar ddeallusrwydd artiffisial yn gwaredu pan fo’r drafodaeth yn troi at y ffilm ffuglen wyddonol wych hon gan James Cameron. Yn y ffilm, mae cyborg yn teithio yn ôl i’r 1980au o ddyfodol lle mae peiriannau rhwydwaith deallusrwydd artiffisial hunan-ymwybodol Skynet â’u bryd ar ddifa’r ddynoliaeth, er mwyn rhwystro genedigaeth arweinydd y gwrthsafiad ac achubwr dynoliaeth, John Connor, trwy ladd ei fam (nid cyd-ddigwyddiad oedd dewis gwaredwr â’r llythrennau J C). Ffilm a gynhyrchwyd ar gyllideb dynn heb ddisgwyliadau mawr o ran llwyddiant masnachol yw hon, ond cydiodd yn y dychymyg, gan arwain at sawl dilyniant ac at le amlwg yng ngeirfa ddiwylliannol Generation X a millennials. Cynhyrchwyd y ffilm o gwmpas yr adeg pan oedd ymgyrch CLODO yn weithredol, ac mae’r ofn am dechnoleg gyfrifiadurol, wedi ei ddal yn llygad coch a golwg sgrin cyfrifiadur y Terminator, yn dwyn i gof nodweddion systemau cyfrifiadurol yr 1980au yn glir. Ffilmiwyd rhan helaeth o The Terminator gyda’r nos ar strydoedd Los Angeles; mae awyrgylch debyg yn y golygfeydd a ffilmiwyd gyda’r nos yn Toulouse yn Machines in Flames, a thraciau sain y ddwy ffilm fel petaent yn adleisio ei gilydd.

Mae Hywel Griffiths yn Ddarllenydd mewn daearyddiaeth ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hefyd yn fardd. 

Gellir gwylio Machines in Flames a chael ychydig mwy o wybodaeth am CLODO ar machinesinflames.com

[Roeddent yn credu b]od cyfrifiaduron yn gynhenid ddrwg, ond nid oeddent yn credu bod modd troi’r cloc yn ôl

Pynciau:

#Darllen ffilm
#Ffilm
#Hywel Griffiths
#Ffrainc
#Technoleg
#Archifau