Adolygu

Cysyniadau cymhleth a bywyd bob dydd

Ar y bwrdd bach

Ted Chiang

Exhalation

Picador, 368tt, £9.99, (2019) 2020

Cysyniadau cymhleth a bywyd bob dydd
Sioned Puw Rowlands

Amser darllen: 2 funud

13·12·2023

Pan fyddaf yn derbyn llyfr yn anrheg, byddaf yn falch o’r cyfle mae hynny’n ei roi i symud oddi wrth fy mydolwg fy hun a dod i weld beth sy’n cyfri ym meddwl rhywun arall. Dyna pam mae’r egwyddor o beidio byth â rhoi’n anrheg rywbeth na welwch ei werth eich hun mor bwysig – byddai gwneud fel arall yn tanseilio hanfod y weithred o roi. Weithiau, bydd llyfrau a dderbyniais yn rhodd yn disgwyl am fy sylw am flynyddoedd, ond hyd yn oed heb agor eu cloriau’n iawn, os  rhoddwyd hwy yn yr ysbryd cywir, mi fyddant yn cadw cwmni da i mi, yn llenwi’r aelwyd â’u presenoldeb mud, hyd nes y daw dydd eu hagor. Dwy o’r cyfrolau a dderbyniais a’u darllen yn ddiweddar ydi Stories of Your Life and Others (2002) ac Exhalation (2019), dau gasgliad o straeon ffuglen wyddonol yr Americanwr o dras Tsieineaidd, Ted Chiang. 

Anaml y bydd Ted Chiang (1967–) yn cyhoeddi gwaith newydd – rhyw stori neu ddwy yn unig bob ychydig flynyddoedd – ond mae’n enw adnabyddus ymysg darllenwyr ffuglen wyddonol. Pan euthum ati i ddarllen y straeon hyn am y tro cyntaf, cefais fy nghyffroi gan y cwestiynau athronyddol a gwyddonol cwbl gyfoes a wyntyllir yn gelfydd ynddynt. Dau o brif ddiddordebau’r awdur ydi’r berthynas rhwng iaith a gwybyddiaeth ac i ba raddau mae gennym ewyllys rydd.

Ond roeddwn i hefyd yn ymwybodol o eironi y ffaith fod yr hyn roedd y naratif fel petai’n ceisio ymgyrraedd ato yn ddeallusol eisoes yn bodoli ar ffurf celfyddyd. Petai Ted Chiang wedi deall holl bosibiliadau llenyddiaeth, meddyliais, byddai ei gasgliadau deallusol rywfaint yn wahanol. A byddai ei frawddegau’n llai fflat, a’r profiad o’u darllen yn llai poenus i’r glust. Er hynny, mae Chiang megis gwyddonydd ysbrydoledig yn labordy ymwybyddiaeth, ei syniadau yn drwm o wreiddioldeb, a llwydda i gyfleu cymhlethdod y meddwl dynol yn rhyfeddol; mae pob un o’r straeon a ddarllenais yn agor fy meddwl yn llydan. Ac er diffygion esthetig ei ddefnydd o iaith, mae yna rywbeth arbennig o ddwysingol yn y ffordd y llwydda i ddangos y berthynas rhwng cysyniadau cymhleth a gofynion bywyd bob dydd. 

Sioned Puw Rowlands yw golygydd O’r Pedwar Gwynt.

Pynciau:

#Rhifyn 23
#Sioned Puw Rowlands
#Gwyddonias
#Gogledd America
#Ar y bwrdd bach