Colofnau

Ywen

Natur heddiw

Siân Melangell Dafydd

Amser darllen: 3 munud

31·10·2026

 Ywen (Manylion y llun: creativecommons)
 

Yn gyntaf, roedd coed yw Pennant Melangell, ac i fanno, ar ôl pasio prawf gyrru, y byddwn yn mynd ar bererindod pan oedd mynd i lefydd ar ben fy hun yn bosib. Ym mis Hydref, wrth roi troed ar garreg porth y fynwent, byddai aeronen ywen yn berl coch, llachar. Y croeso cyn y canghennau. Bob blwyddyn, prin y gallwn i gredu fod y fflach benodol honno o goch, a’r belen fach berffaith grwn, yn beth naturiol. 

Yna, roedd yw Corsham Court ger Caerfaddon, lle bûm yn gweithio o bryd i’w gilydd. Cyrraedd ym mis Hydref am wythnos o waith fyddwn i yn ei wneud. Cyrraedd wrth i’r yw ruddo. Byddai’r peunod yn clwydo yn y ginko, a’r ddinas fechan o yw ger y drws cefn wedi ei thorri yn ôl ar ffurf cymylau. Collais fy hun y tu mewn i’w llwybrau sawl tro.

Dechreuais wneud mwy na phererindod at goeden. Roedd gweld yr aeron pefriog yna’n hudo rywsut, neu’n ffordd o ddaearu fy hun lle bynnag y byddwn yn mynd. Ac aeron coch o ywen yng nghoedwig Fontainebleu yn dod â mi at fy nghoed, i gôl gartrefol Pennant Melangell. 

Yn Ffrainc yr oeddwn pan ddywedodd dynes yn ei chrwman yn y farchnad ei bod yn arfer bwyta – ie bwyta’r aeron ar y ffordd i’r ysgol – gan boeri’r hedyn gludiog allan. Edrychais arni i weld a oedd hi’n mwynhau rhaffu straeon er mwyn gweld ymateb ar fy wyneb, ond trodd i archebu moron. Gwenwyn yw pob un darn o’r goeden ywen – pren, rhisgl, pinnau, a hedyn y ffrwyth – popeth heblaw cnawd yr aeron. Ond chlywais i erioed tan y foment honno sôn am unrhyw un yn mentro. A fyddwn i fyth yn argymell gwneud fel yr oedd hi’n taeru iddi wneud ychwaith. 

Trodd y ddynes yn ôl ataf wedyn, gan gynnal dwy sgwrs yr un pryd – un gyda’r gwerthwr ac un â dieithryn!  

‘Byddai un o’r hadau yna wedi stopio ’nghalon fach i,’ meddai, gan gyhoeddi’r goeden yn poison gan boeri’r ‘s’.  

Welais i mohoni fyth wedyn er mai cymuned glòs oedd yn mynd a dod yn y farchnad fore Sul. Ac ers y dyddiau hynny, rydw i wedi meddwl amdani sawl tro. Pan fydda i’n cymryd un o’r aeron rhwng bawd a bys a’i gwasgu nes bod llysnafedd yr aril arnaf, fel surop, byddaf yn cofio ei gwên.

‘Snotberries’ a ‘snotty gogs’ glywais i am yr aeron yn Saesneg. A oes enwau cyffelyb yn Gymraeg tybed? Gwelais fwyeilch yn gwledda arnyn nhw, a gwiwerod hefyd, gan ddefnyddio beddi fel byrddau. Ond mae chwedl oedolion wrth siarsio plant i beidio bwyta aeron dieithr yn un dda yma – ‘Gad lonydd! Bwyd i’r adar ydi rheine!’

Mae cymhlethdod yr ywen, fel ei hoedran, yn hirfaith. Nid dim ond gwenwyn mewn mwclis sydd yma. Mae yn y rhisgl gyfansoddyn cemegol o’r enw taxol, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio fel rhan o driniaeth cancr. Fel digitalis o fysedd y cŵn sy’n meddu’r gallu i fygwth neu gywiro curiad calon, mae marwolaeth a meddyginiaeth yn byw mewn un planhigyn, yn tyfu o’r un gwraidd. Nid trap wedi’i osod gan fyd natur yw’r gwenwyn ond ffordd o’n harwain at y geiriau arbennig sydd gennym yn Gymraeg: parchus ofn. Mae cymaint ohonom yn barod i goelio fod planhigion yn medru gwneud niwed, ond llai ohonom yn barod i roi ffydd yn eu daioni. Eto, mae siâp yr ywen yn dangos bywyd a marwolaeth yn cyd-fyw.

Af yn ôl i Bennant Melangell ac ystyried un o’r coed yw yno: mae’n tyfu’n araf, araf am allan, yn twchu, ond eto’n ceuo o’r tu mewn nes creu simnai ddigon mawr i sefyll ynddi. Yn wahanol i goed eraill sy’n tyfu am i fyny at y golau, mae’r ywen yn plygu, yn ailgysylltu â hi ei hun, yn creu graen fel troellau a chysodau o sêr, yn biws, pinc a brown o amgylch twll du lle bu’r rhuddin. Mae’n creu ac yn dinistrio olion bywyd. 

Eleni, mae fy mhererindod yn dod â mi i sefyll yn y gwagle, ac mae rhywbeth yn wahanol. Rhywbeth sy’n gwneud i mi feddwl fy mod eisiau gwahodd mwy o sylw i ba ywen bynnag sydd agosaf atoch – mewn mynwent fwy na thebyg. Mae hi wedi bod yn flwyddyn o fwyar cynnar, aeron ysgaw prin, ac egroes wedi chwyddo’n ddwbl eu maint arferol. A nawr hyn. Uwchben, prin yw’r lle rhwng chwydd yr aeron ar yr ywen. Ni welais erioed ywen fel hyn. Maent yn fwy niferus ac yn fwy eu maint eleni. Ar lawr, mae’r pridd o dan fy nhraed yn teimlo’r glud yn tynnu ar wadnau fy esgidiau. Beth yw ystyr hyn yng nghydbwysedd pethau, wn i ddim – tydw i ddim yn dueddol o gredu fod aeron hael yn arwain at aeaf caled. Mae’n golygu’n syml fod eleni’n flwyddyn yr ywen.

Byddai’r peunod yn clwydo yn y ginko, a’r ddinas fechan o yw ger y drws cefn wedi ei thorri yn ôl ar ffurf cymylau

Pynciau:

#Natur heddiw
#Siân Melangell Dafydd