Dwi isio bod yn Sais
Darren Chetty, Grug Muse, Hanan Issa ac Iestyn Tyne (goln)
WELSH (PLURAL): ESSAYS ON THE FUTURE OF WALES
Repeater Books, 260tt, £12.99, 2022
Ar ôl chwalfa’r Deyrnas Gyfunol, mi fydd yn rhaid i bobl fel fi – pobl o aelwydydd Cymraeg Lloegr – benderfynu a ydym am weld y Gymraeg yn goroesi yn ninasoedd Lloegr, lle bu’n iaith gymunedol ers cannoedd o flynyddoedd. Nid fel iaith expats, ond fel iaith sy’n perthyn i dir Lloegr ac i wead amlethnig y gymdeithas yno, am fod ei siaradwyr o Loegr ac yn falch o hynny. O ganlyniad, rwyf wedi gorfod ymdopi â’m hunaniaeth fel ‘Sais’. Rwy’n rhoi’r gair mewn dyfynodau am nad ydw i, na neb yn fy nheulu, erioed wedi fy ystyried yn Sais. Ond os yw’r Gymraeg am oroesi yn Lloegr, mi fydd yn rhaid i mi ‘ddod yn Sais’. Dim ond fel Sais y gallaf ddadlau fod yr iaith Gymraeg yn llawn berthyn i Loegr. Y neges i Gymro fydd, ‘Ewch adra.’ Fynnwn i ddim ‘mynd adra’. Hogyn o Hounslow ydw i, a’r Gymraeg yw un o ieithoedd Middlesex.
Hyfrydwch oedd darllen y gyfrol hon, felly. Mae’n llawn hanesion pobl sy’n mynd i’r cyfeiriad arall i mi: pobl yn hawlio Cymreictod am ei fod wedi perthyn iddyn nhw erioed ond bod hynny wedi cael ei wadu; pobl yn ymdopi â chymhlethdodau man eu geni, magwraeth, mudo, rhieni, crefydd, ethnigrwydd, hil ac iaith. Neu, a bod yn gywir, cymhlethdodau mae cymdeithas wedi eu gorfodi arnynt.
Mae’n wir mai cyfrol y Gymru Saesneg ydyw’n bennaf. Does dim lle fel y cyfryw i draddodiad deallusol y gymuned Gymraeg ynddi. Gan fod y Gymraeg yn rymus yn haniaethol fel symbol o Gymreictod, tueddir i dybio bod ei siaradwyr yn freintiedig, er nad oes tystiolaeth o hynny. Ond rhan o fod yn genedl yw trafodaeth onest, ac mae’r Gymru Saesneg yn haeddu ei llais. A dyw’r gyfrol ddim yn gyfan gwbl Saesneg ei bydolwg ychwaith gan fod dau o’r golygyddion yn Gymry Cymraeg o Wynedd, sef Grug Muse ac Iestyn Tyne, ac yn eu herthyglau am ddatblygu cymunedol ac amaeth mae rhai o safbwyntiau ein broydd Cymraeg i’w clywed. Ceir hefyd erthygl ragorol gan y bardd Morgan Owen am Ferthyr Tudful ac archaeoleg fyw ei bywyd Cymraeg. Dywed i’w gwareiddiad gael ei anwybyddu am fod y byd Cymraeg swyddogol yn adlewyrchu’r dosbarth canol Cymraeg ‘so clearly that they never saw the mirror’s glass’.
O ran y cyfranwyr eraill, mae oddeutu eu hanner yn Gymry o gefndiroedd lleiafrifol ethnig nad ydynt yn wyn. Ceir hefyd Saeson sydd wedi mynd yn Gymry, Cymry di-Gymraeg gwyn yn byw yng Nghymru, a hefyd Cymry di-Gymraeg gwyn ac o liw o Gymru sy’n byw erbyn hyn yn Llundain. Mae’r sylw a roddir i’r diaspora yn ddiddorol oherwydd un o broblemau diweddar cenedlaetholdeb yw tuedd i drin pobl sydd wedi gadael Cymru fel baw isa’r domen.
Un arall o uchelfannau’r gyfrol yw ysgrif Mike Parker, ‘Medium, Rare’, sydd yn fendigedig. Mae’n trafod tipyn ar Jan Morris, a gyda’i ddull meddwl rhyddfrydol, goddefgar ac agored, mae Mike Parker yn olynydd teilwng iddi. Difyr fod Jan Morris tua diwedd ei hoes wedi dechrau cyfeirio ati’i hun fel ‘Welsh culturalist’ yn hytrach nag fel cenedlaetholwraig: hynny yw, un sydd o blaid iaith leiafrifol yn bennaf oll, ac yn poeni llawer llai am sefydlu gwladwriaeth Gymreig. Roedd hyn, meddai Mike Parker, ‘a clear and deliberate shift’.
I mi hefyd, mae ysgrif Durre Shahwar yn odidog o ran ei myfyrdod ar ei hunaniaeth fel Cymraes o gefndir Pacistanaidd, a hefyd bwysigrwydd byd natur yn ystod cyfnod Covid. Mae’n gofyn i ba raddau y dychmygir cefn gwlad ym Mhrydain fel rhywle ar gyfer pobl wyn yn unig. Clywn hefyd hanes Shaheen Sutton o Gasnewydd yn cael ei chyfarch yn Birmingham yn 9 oed fel ‘Taffy’, a hithau’n clywed y gair fel ‘toffee’ am nad yw erioed wedi cael ei hannerch fel Cymraes o’r blaen ac am fod ymosodiadau geiriol hiliol yn gyffredin.
Mae rhai o’r myfyrdodau ynghylch hil yn cynnwys cyfeiriadau at y Gymraeg. Yn ei hysgrif, ‘Have You Heard the One about the Niqabi on a Bus?’, mae Hanan Issa’n dehongli stori a gafodd dipyn o sylw yn y wasg ychydig flynyddoedd yn ôl, am ddynes mewn niqab yn siarad iaith ddieithr ar fws yng Nghasnewydd. Wedi iddi gael ei herio y dylai siarad Saesneg ym Mhrydain, daw i’r amlwg ei bod yn siarad Cymraeg. Cafodd y stori ei hailadrodd droeon gan Gymry gwyn fel prawf o oddefgarwch Cymru a chulni cenedlaetholdeb Prydeinig. Ond dengys Hanan Issa fod grym y trope yn dibynnu ar ddieithrwch dwbl y ddynes (fel un y tybir nad yw o dras Cymreig, a hefyd fel Mwslim) o safbwynt canfyddiad poblogaidd o siaradwyr tebygol y Gymraeg.
Llongyfarchiadau i’r golygyddion a’r cyfranwyr oll. Gallwn anghytuno, mae’n siŵr, efo manion theoretig ar adegau, ond at ba ddiben? Bu gormod o ffraeo ymhlith pobl sydd, yn y bôn, yn cytuno. Rwy’n hyderu y bydd y gyfrol hon yn gam arall ymlaen yn yr ymdaith tuag at y Cymreictod cynhwysol mae’r cyfranwyr yn ei ddeisfyu ac yn ei haeddu. Ac i mi? Ymlaen hefyd, ond i le gwahanol. Ymlaen i’r Lloegr Gymraeg.
Cyfrol ddiweddaraf Simon Brooks yw Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a'r Gwareiddiad Cymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 2021).