Adolygu

Anweledig gan Aled Jones Williams

Rhagflas yn Pontio, 23 Medi 2016


Llŷr Titus

Amser darllen: 5 munud

05·10·2016

Mae Anweledig - Rhan 1 gan Aled Jones Williams ymysg y profiadau theatrig mwyaf cofiadwy i mi eu cael yn Gymraeg. I’r rhai ohonoch fuodd ar eich colled ac na welodd y dangosiad hwnnw, monolog hir a dirdynnol wedi ei berfformio a’i ysgrifennu’n feistrolgar ydoedd. Fe'i perfformiwyd mewn gofodau cyfyng nes bod y gofod rhwng yr actores, Ffion Dafis, a’r gynulleidfa bron wedi ei ddiddymu. Go brin fod rhaid i mi ddatgan, felly, cymaint yr oeddwn yn edrych ymlaen at y rhagflas hwn o'r ail a'r drydedd rhan yn Pontio ddiwedd Medi.

Annheg, a dibwrpas yn y pen draw efallai, fyddai cymharu’r ddau berfformiad. Yn un peth, elfennau gwahanol o’r un gwaith gorffenedig ydynt. Er i nifer ddatgan nad oedd yr ail a'r drydedd rhan mor ysgytwol â'r rhan gyntaf, rhaid cofio mai dwy ffurf wahanol ydy sgwrs rhwng cymeriadau a monolog. Ac mae'r profiad o weld drama mewn stiwdio ac eistedd hyd braich oddi wrth fonolog yn sicr o greu awyrgylch wahanol. Cyflëwyd yr agwedd fwyaf dirdynnol ar salwch y prif gymeriad, Glenda yn ei monolog yn y rhan gyntaf; nid syndod yw bod ffocws y sgript wedi newid wrth drafod ei hymgais i ddod ati hi'i hun yn yr ail a'r drydedd rhan.

Y tu allan i'r stiwdio yn adeilad Pontio gosodwyd gweithiau celf a oedd yn ymwneud mewn rhyw ffordd â'r cynhyrchiad. Dw i’n hoff o arddull Mirain Fflur, yr artist a fu wrthi’n llunio’r darnau; mae yna ryw brydferthwch maluriedig i'w gwaith, sydd yn arbennig o wir yn achos y deunydd wedi'i ailgylchu a ddefnyddir ganddi. Ar y llaw arall, gallai'r dangosiad fod wedi sefyll ar ei draed ei hun heb yr ychwanegiadau hyn.

Cyfnod datblygu cymharol fyr a gafwyd ac, o ystyried hynny, roedd safon yr actio i’w ganmol. Difyr oedd gweld y datblygiad yng nghymeriad Ffion Dafis ers y rhan gyntaf, a chael gweld ar lwyfan fel pobl o gig a gwaed y cymeriadau a grybwyllwyd ganddi yn y rhan honno. Llwyddodd i bortreadu esblygiad ei chymeriad wrth iddi nesáu at wellhad mewn modd sensitif, gan argyhoeddi ei chynulleidfa unwaith eto. Cafodd Huw Garmon hwyl arni: llwyddodd, gydag ychydig ddeialog yn unig, i gyfleu rhwystredigaeth, ofn a gwylltineb rhywun sydd ar dir hollol ddieithr ac yn brwydro i ddeall pam fod ei wraig heb wella.

Cafwyd ym mhortread Gwenno Hodgkins o Beryl ddarlun o rwystredigaeth debyg, er mai perthynas wahanol, fel ffrind, a oedd ganddi â Glenda. Roedd ei hagwedd ddiystyriol tuag at y broses boenus o wella o salwch meddwl yn argyhoeddi'n llwyr; trwy gyfrwng ei sgyrsiau hi a Glenda y cafwyd nifer helaeth o’r pyliau o ysgafnder hefyd, ac roedd ei hamseru naturiol gomedïaidd yn gaffaeliad.

O dan gyfarwyddyd medrus Iola Ynyr, roedd y cyfuniad o olygfeydd emosiynol, teimladwy a digon cignoeth ar brydiau, a rhai mwy hwyliog, yn gweithio’n dda. Roedd y newid rhwng y llon a’r lleddf yn sydyn iawn ambell dro a hynny'n dra effeithiol; nid oedd yna ormod o un na'r llall a pheth braf oedd hynny — digon anodd yw cynnal cydbwysedd.

Gwnaed defnydd trawiadol o’r gofod actio hefyd. Gosodwyd y llwyfan yn syml: tair cadair, cylch o dywod a cherrig glan môr, a dau droli. Doedd dim angen mwy na hynny. Aildrefnid y cadeiriau'n achlysurol ac roedd hynny'n ddigon i gyfleu newid lleoliad neu amser. Arhosodd y cymeriadau ar y llwyfan drwy gydol y dangosiad a chefais yr argraff fod y cyfan wedi ei deilwra, i raddau helaeth, i’r stiwdio benodol hon. Yn un peth roedd wal gefn y stiwdio yn cael ei defnyddio fel sgrin taflunydd ac er i mi weld defnydd o sgrin ar lwyfan droeon dw i ddim yn meddwl i mi weld tafluniad mor fawr ar lwyfan erioed.

Rhoddodd y fath amlygrwydd naws ychydig yn sinematig i’r perfformiad ac roeddwn yn teimlo ar adegau fel petawn i mewn sinema. Tafluniwyd delweddau ar y wal — glan y môr, tonnau neu’r olygfa o draeth Dinas Dinlle, dyweder. Er bod y delweddau yn amlwg ac yn mynnu sylw, ni theimlwn eu bod yn tynnu oddi ar yr hyn a oedd yn digwydd ar y llwyfan; roeddent yn fodd effeithiol o ategu’r awyrgylch.

Mae awyrgylch yn air pwysig wrth drafod y darnau hyn o Anweledig a does dim dwywaith bod y gwaith sain yn cyfrannu at greu awyrgylch trawiadol. Haws fyddai defnyddio’r term tirwedd sonig nag ‘effeithiau sain’ mewn gwirionedd, gan fod y defnydd o sain yn hynod atmosfferig. Un enghraifft gofiadwy oedd sŵn anadlu’n troi'n sŵn tonnau ar ddechrau’r dangosiad. Roedd cyffyrddiadau bychain, ymddangosiadol syml fel hyn, a thwrw nodyn unigol wrth i Glenda ddal y tegeirian, yn ddigon i fy mherswadio bod y sain, fel y taflunio, yn rhan bwysig o’r gwaith ac anodd yw dychmygu’r cynhyrchiad terfynol hebddynt. I Osian Gwynedd mae’r diolch am hynny.

Creu naws freuddwydiol oedd effaith hyn oll, ac ychwanegodd natur bytiog y dangosiad at hynny wrth i’r naratif neidio o un digwyddiad i’r llall. Gwahanwyd cyfres o olygfeydd gan gyfnodau o ail-drefnu’r llwyfan neu symud a oedd yn ymylu ar ddawnsio creadigol. Nid drwg o beth oedd y naws freuddwydiol, ddarniog hon - cyflëwyd cyfnod gwellhad Glenda dros amser mwy estynedig na’r fflachiadau o’i bywyd a welsom cyn hynny, er enghraifft. Rhaid cyfaddef, serch hynny, bod y symudiadau creadigol yn fy mlino ar adegau. Ar eu gwaethaf, roeddent yno er eu mwyn eu hunain, yn amherthnasol ac yn torri ar y llif yn ddiangen. Ar y llaw arall, o dynnu’r gwaith corfforol hwn o’r cynhyrchiad, mae'n bosib y byddai’n rhy fyr. 

Nid bod y symudiadau hyn heb eu rhinweddau. Yn sicr roedd rhai darnau 'dawns' yn werth eu gweld. Roedd yr olygfa fer lle roedd Huw, cymeriad Huw Garmon, yn codi ei wraig yn ei freichiau ac yn ei chario dan wegian, yn wirioneddol dda. Roedd y symud corfforol yn fodd i adlewyrchu ei ganfyddiad ef o’i rôl yn eu perthynas, ac roedd y gwegian corfforol wrth iddo ei throi hi yn cyd-fynd â’r ing emosiynol a oedd yn amlwg yn rhan greiddiol o'i gymeriad — ing a dorrai i'r wyneb yn achlysurol yn unig.

Fel y byddai rhywun yn disgwyl gan ffan o waith Aled Jones Williams, roedd y ddeialog, i mi, yn taro deuddeg. Cafwyd cymysgedd ddidwyll o ddeialog fwy naturiolaidd a'r arddull farddonol hwnnw sydd yn nodweddiadol o’i waith. Mae gallu Aled Jones Williams i daclo testun astrus mewn modd mor uniongyrchol a gonest yn destun cryn edmygedd gennyf. Roedd rhai cyffyrddiadau - ‘Woblar’ y ci pren, a'r modd y datblygodd tegan fel hwnnw yn drosiad o wellhad o salwch meddwl - yn wirioneddol dda. Syniadau felly sydd wedi aros efo fi ers y perfformiad.

Mae hi’n ddifyr cymharu'r rhannau hyn o Anweledig â drama ddiwethaf Aled Jones Williams, Pridd. Roedd honno’n ddrama hynod Jones-Williamsaidd, tra bod Anweledig fel petai wedi ei hysgrifennu gan lais fymryn yn wahanol.

Mae Anweledig yn awgrymu trywydd newydd a dw i’n mawr edrych ymlaen at weld hynny'n dwyn ffrwyth. Mae un peth yn sicr — bydd y gallu i fynd at galon pethau a phobl yn parhau. Rhaid aros yn amyneddgar, felly, am gael gweld y cynhyrchiad yn ei gyflawnder yn 2017/18.


Cynhyrchwyd drama Llŷr Titus, Drych, gan Gwmni’r Frân Wen yn 2015.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Mae Anweledig yn awgrymu trywydd newydd ... ond bydd y gallu i fynd at galon pethau a phobl yn parhau.

Dyddiad cyhoeddi: 05·10·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Dyfrig Williams

Mae cyfrol ddiweddaraf Mariana Mazzucato, Athro yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yn ddadl angerddol dros fuddsoddi a gwario er budd ein dyfodol. Yn ôl yr awdur, dylid ailfeddwl y berthynas rhwng marchnad a llywodraeth a bod yn gwbl lygatglir ynghylch pwy sydd yn…

Adolygu


Pedr Jones

Ar drothwy’r Rhyfel Mawr, roedd tueddiad gan y Cymry i gysylltu militariaeth â Seisnigrwydd, Eglwys Lloegr a gormes landlordiaeth. Yn y gyfrol bwysig hon gan Aled Eurig, sydd yn ffrwyth ymchwil archifol sylweddol, cawn ein hatgoffa bod nifer y Cymry a ymunodd â’r Fyddin yn…

Dadansoddi


Angharad Dafis

Aeth tridiau heibio bellach ers i gabinet Cyngor Dinas a Sir Abertawe benderfynu yn unfrydol i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Bu’n dridiau anodd. Rwyf wedi bod yn galaru droeon am anwyliaid. Mae hwn yn alar gwahanol: galar am gymuned benodol iawn…

Dadansoddi


Mabon Llŷr Hincks

Benben â’i gilydd, mewn cydbwysedd perffaith, mae dau gerflun yng nghanol cylch. Heb fwy na lled bys rhyngddyn nhw, does dim dwywaith nad ar y bwlch bychan hwn yr hoelir ein sylw gyntaf. Nid sefyll yn urddasol a wna’r siapiau rhyfedd ychwaith, ond…

Adolygu


Llio Mai Hughes

Nos Wener, 15 Mawrth, perfformiodd Cymdeithas John Gwilym Jones eu cynhyrchiad cyntaf yn Stiwdio Pontio, Bangor. Ac Eto Nid Myfi oedd y ddrama, a phob tocyn wedi’i werthu. Roedd Pontio yn llawn bwrlwm wrth i’r dorf ymgasglu; yn eu mysg roedd myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, darlithwyr,…

Cyfansoddi


Emyr Lewis

Mae Lana Turner 'di colapsio! O'n i'n trotian heibio ac yn sydyn ddechreuodd hi fwrw glaw a bwrw eira a deudist di ei bod hi'n bwrw cenllysg ond mae cenllysg yn dy hitio di ar dy ben yn galad felly go iawn ... 

Cyfweld


Sioned Puw Rowlands

Roedd hi'n llonydd braf uwch ben moryd Dyfi fis Chwefror eleni. Yn gynnes. Roedd yr eithin wedi hen agor ei des melyn i'r cloddiau. A oedd pioden ddŵr – yr halcyon – wedi drysu a rhithnythu ar y môr gan leddfu'r dyfroedd? Fel y byddai ar fyrddydd gaeaf, yn ôl awduron…

Adolygu


Angharad Tomos

Da oedd gweld y theatr yn Pontio yn gyfforddus lawn ar nos Iau, 21 Chwefror ar gyfer y ddrama Anweledig. Roedd y cynhwysion cywir ar gyfer noson dda yno – Ffion Dafis yn gwneud sioe un wraig, ac Aled Jones Williams yn awdur. Ychwanegwch ddyfeisgarwch…