Adolygu

Ar y bwrdd bach


O’r Pedwar Gwynt

Amser darllen: 10 munud

27·07·2018

Bwrw Blwyddyn gan Bethan Wyn Jones (Gwasg Gwynedd, 1997)

Cyfrol a gyhoeddwyd ugain mlynedd yn ôl bellach yw hon, gyda darluniau cain gan Islwyn Williams. Fe’i hysgrifennwyd ar ffurf dyddiadur ac mae’n gofnod o’r bywyd gwyllt y daw’r awdur ar ei draws dros flwyddyn gron. Mae gwybodaeth Bethan Wyn Jones, fel y gŵyr unrhyw un sy’n gwrando ar Galwad Cynnar ar Radio Cymru, yn syfrdanol, ac mae’r llyfr hwn yn gloddfa aur. Pleser pur yw darllen ei disgrifiadau o greaduriaid Môn, a thu hwnt, trwy dro’r tymhorau. Cawn ddarllen am y gwenoliaid sy’n ‘dawnsio rhyw ddawns gyfrin, wyllt’ a’r gylfinirod yn ‘rhwygo’r awyr â’u cri hunllefus, hudolus’. Cawn glywed am y morloi sy’n ‘sgleinio’n llwydlas yng ngolau’r haul’ ac yn ‘udo’n ddolefus’. Wrth deithio ar hyd y draffordd sylwa Jones ‘fod y ddraenen wen bellach yn ei gogoniant a’r gwrychoedd yn gasgedau o lendid gwyn’. Mae darllen Bwrw Blwyddyn yn ein hannog ninnau, hefyd, i dalu sylw i’r harddwch sydd o’n cwmpas.

Nid yn unig ei gwybodaeth fel naturiaethwr sy’n gwneud argraff; mae gan yr awdur ymdeimlad at iaith hefyd, ac mae ei disgrifiadau yn brydferth a synhwyrus heb fod yn sentimental. ‘Doedd yna neb ond ni yn cerdded y rhostir uwchben y clogwyni,’ ysgrifenna. ‘Roedd tresgl y moch yn harddu pobman a’i felyn siriol.’ Mae hi’n dyfynnu barddoniaeth ac yn tynnu ar hen chwedlau a’i hatgofion fel plentyn; cawn wybod tipyn o hanes Môn, yn ogystal â’r straeon sy’n cwmpasu’r anifeiliaid a’r planhigion sydd i’w canfod ym mhob cwr o’r ynys. Mae hanes byd natur ymhlyg yn hanes dyn, wrth gwrs: nid oes ffin amlwg rhyngddynt.

Yn fwy nag erioed o’r blaen, rydym angen dyfnhau ein dealltwriaeth o fyd sydd o dan fygythiad dwys, ac y mae Bwrw Blwyddyn, felly, yn gyfrol werthfawr tu hwnt. Yn baradocsaidd, gellir canfod rhyw fath o gysur ynddi, yn wyneb y ffeithiau dychrynllyd am yr holl greaduriaid sy’n mynd i ddifancoll. Os nad awn ati i daclo’r argyfwng ecolegol, digon posib mai archif fydd y llyfr hwn rhyw ddiwrnod: cofnod o’r hyn a fu. [Angharad Penrhyn Jones]

 

Kyffin Dan Sylw/In View, gol. David Meredith (Gomer, Mai 2018)

Er mai Kyffin Dan Sylw yw teitl y casgliad hwn o ddarlithoedd, mae’n syndod cyn lleied ohonynt sy’n ymdrin yn uniongyrchol â’r artist a’i waith. Ceir rhestr o gyfranwyr trawiadol yn traethu’n unol â’u harbenigedd, ond yn aml, man cychwyn, neu gyfeirbwynt iddynt yw gwaith Kyffin Williams.

Yn y rhagair, cyfeirir at yr artist fel ‘trysor cenedlaethol’: label sy’n datgan nad oes angen unrhyw ddyfarniad pellach, ac eto’n awgrymu mwy o gymhlethdod na’r hyn a welir ar yr olwg gyntaf. Yn y ddarlith ddiweddaraf, a draethodwyd eleni, mae Peter Lord yn disgrifio Kyffin Williams fel ‘enigma’, wrth iddo ddadansoddi’r parch a roddir iddo ar yr un llaw, a’r amwysedd a fynegir gan eraill. Hon yw’r bennod sydd, ar ei ganmlwyddiant, yn codi’r cwestiwn allweddol ac amserol o sut a phaham y daeth Kyffin Williams yn gymaint o drysor.

Wrth i Kyffin Williams ddatblygu ei yrfa, ymddengys i ansicrwydd personol ac ymdeimlad o gael ei erlid gan y sefydliad celfyddydol chwarae rhan sylweddol. Ac fel un a ddyrchafai draddodiad uwchben popeth arall, ymateb yn adweithiol yn hytrach na radical a wnâi i’r tensiynau hyn. Hyrwyddodd a golygodd ei waith a’i bersona’n ofalus – yn haearnaidd, hyd yn oed. Mae’r gair ‘obsesiwn’ yn britho’r gyfrol, ac efallai mai’r cyfuniad hwn o lunio’i hun ochr yn ochr â’i luniau oedd ei brif obsesiwn a’i gamp yrfaol.

Wrth drafod ei atgasedd at gelf haniaethol, dywed Peter Lord bod tueddiad gan Kyffin Williams i ymddwyn fel Nigel Farage y byd celf. Dywed hyn gyda’i dafod yn ei foch, ac eto anodd fyddai gwadu bod hyn (i rai, beth bynnag) yn gwbl anghydnaws â bod yn drysor cenedlaethol. [Ruth Richards]

 

Cyrraedd a Cherddi Eraill gan Alan Llwyd (Barddas, Mai 2018)

Gyda llawer iawn o gwestiynau yn ei ben y mae rhywun yn troi at gyfrol ddiweddaraf Alan Llwyd: ‘Cyfrol arall?’ ‘Yn ddau gant o dudalennau?’ ‘Lai na thair blynedd ers cyhoeddi’i ail gasgliad cyflawn?’ ‘A’r rhan fwyaf o’r cerddi wedi’u hysgrifennu mewn chwe mis?’ ‘A bron eu tri chwarter nhw’n sôn am gyrraedd 70 oed?’ ‘Ydi’r dyn wedi colli pob synnwyr o quality control?’

Buan iawn y mae’r amheuon hynny’n cilio wrth i’r bardd fynd â ni ar daith i’r ynys y caiff ei alltudio iddi am flwyddyn wedi iddo gyrraedd oed yr addewid. Gallai’r syniad hwnnw fod wedi mynd yn feichus a diflas yn sydyn iawn, ond mae’r blas yn para hyd at y diwedd, a hynny am nad ymdrybaeddu mewn hunandosturi am ei fod yn mynd yn hen a wna’r bardd, ond yn hytrach ymateb yn fyw a sensitif i’r amryfal brofiadau a gafodd yn ei ddeng mlynedd a thrigain. Cawn gerddi am fanylion bychan byw bob dydd ynghyd â marwnadau o bwys i gyfoedion a chydnabod.

Mae’n debyg mai Alan Llwyd ydi’r un â’r afael sicraf ar y gynghanedd yng Nghymru heddiw, ond gwendid yw hynny ar adegau yn rhai o gerddi’r gyfrol hon. Mae’r rhan fwyaf o feirdd yn gorfod ymladd â’r gynghanedd er mwyn ei chael i ddweud yr hyn y maent am ei fynegi. O ddarllen Cyrraedd a Cherddi Eraill mae’n ymddangos mai dim ond chwythu arni y mae angen i Alan Llwyd ei wneud er mwyn ei chael i gydymffurfio â’i ddyheadau barddonol. Canlyniad hynny yn ambell un o gerddi vers libre cynganeddol y gyfrol ydi bod rhai o’r llinellau’n swnio’n rhyddieithol am nad ydi’r bardd wedi gorfod ymdrechu mwy na phetai’n sgwrsio am y tywydd gyda chymydog dros wal yr ardd.

Ond eithriadau yw’r llinellau rhyddieithol hynny. Mae’r gyfrol hon yn ymdriniaeth loyw, sensitif a chyffrous gan Alan Llwyd o’i fywyd – ac o fywyd yn gyffredinol hefyd. [Elis Dafydd]

 

Dirt gan William Letford (Carcanet, 2017)

Efallai fod rhaid i chi weld Billy Letford yn perfformio cyn gallu llawn werthfawrogi ei ddawn farddonol. Cyn imi gael y profiad arbennig hwnnw, braidd yn ddifrïol oeddwn i o’r darnau o gerddi o’i eiddo yr oeddwn wedi eu darllen ar y we. Rhyw fath o ryddiaith farddonol oedd ei waith, meddwn wrthyf fy hun — yr ysgol honno o feirdd sydd yn boblogaidd yn Saesneg ar hyn o bryd ac sy’n rhoi’r argraff eu bod wedi sgrifennu cerdd fel sgrifennu paragraff o stori fer, cyn torri’r llinellau megis ar fympwy. Ond dyna ddangos mor bwysig ac mor ddadlennol, fel yn y cyddestun Cymraeg yn aml, yw’r berthynas rhwng barddoniaeth lafar a barddoniaeth ysgrifenedig. O wrando ar berfformiadau cyfareddol Letford — lle saif, a’i freichiau ymhleth, heb damaid o bapur a chan edrych i fyw llygaid ei gynulleidfa fesul un — dyma ddeall bod pob un o’r diweddebau hynny, pob gorffwysfa a phob toriad, wedi ei dewis yn ofalus, ofalus. A dyma glywed hefyd y miwsig, bron yn selestiaidd, a berthyn i waith Letford wrth iddo lwyddo drosodd a thro i ganfod y goruwchnaturiol a’r cyfrin mewn sefyllfaoedd a bywydau cyffredin, fel y dengys cerddi megis ‘Monuments of the mind’. Perthyn i’w waith, sydd mor ymddangosiadol ryddieithol ar y ddalen, gerddoriaeth ryfeddol o agos at rhythmau llafar naturiol — ac ni ddaw hyn i’r amlwg yn unlle yn fwy nag wrth wrando ar y cerddi hynny o’i eiddo mewn acenion Albanaidd cryf neu hyd yn oed mewn ‘Scots’, fel yn y gerdd arbennig ‘This is it’.

Yn anochel, efallai, cafodd llawer ei wneud yn y wasg Brydeinig o gefndir a dosbarth Letford. Ond fel gyda sawl elfen o’i waith, mae yma dinc perthnasol i’n diwylliant ni: a oes gennym yr awyrgylch, y cyd-destun a’r fframweithiau angenrheidiol o ran cyfleoedd yma yng Nghymru a fyddai’n caniatáu ac annog sgrifennwr hynod ddisglair fel Letford, ac yntau’n döwr wrth ei waith bob dydd a heb ddod o deulu a chanddynt hanes o ymwneud â’r celfyddydau, i ddatblygu ei grefft? A ddaeth yn bryd, er enghraifft, i ni feddwl am sefydlu Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol gyda’r nod o hybu a chefnogi barddoniaeth a’i rhwydweithiau, a’i rhannu â’r gynulleidfa ehangaf bosibl, fel sydd gan yr Alban er 1984? [Llŷr Gwyn Lewis]

 

Kolyma Stories gan Varlam Shalamov, cyf. Donald Rayfield (NYRB, Mehefin 2018)

Fis Mehefin, am y tro cyntaf yn Saesneg, cyhoeddwyd cyfrol sydd mor hanfodol i bob un ei darllen â’r Beibl, sef casgliad cyflawn o ‘Hanesion Kolyma’ gan y Rwsiad Varlam Shalamov (1907-1982) - Kolymskiié rasskazy. Treuliodd yr awdur 17 mlynedd mewn gulag ar benrhyn dwyreiniol Siberia; cafodd yr hawl i adael Kolyma yn 1953, wyth mis wedi marwolaeth Stalin.

Mae rhywbeth yn wahanol am y casgliad hwn i gyfrolau eraill a ddarllenais am y profiad o oroesi gwersyll crynhoi. Nid yw’n nihilistaidd. Ac eto, nid y llenyddiaeth ddyneiddiol, ryddfrydol y mae Rwsia mor enwog amdani a gawn gan Shalamov. Nid ymgais i ddeall y Fall sydd yma ond, i’r gwrthwyneb, rhybudd i gadw’n glir a thynnu llinell rhyngom a drygioni; yn wir, peidio â chyfaddawdu yw’r unig ffordd i oroesi. Mae’r gyfrol ar ei hyd, o’i darllen fel cyfanwaith, yn foesol ddiamwys.

Yn Kolyma, nid yw achos ac effaith yn dilyn yr un rheolau ag ar y ‘Tir Mawr’ tu hwnt - gall cyhuddiad, er enghraifft, arwain at achubiaeth. Fel petai rheolau mater wedi eu drysu hefyd, mae dyn yn rhannu’r un cyflwr yn y byd iasol hwn â mwynau’r ddaear, ‘yn byw diolch i rym yr un egwyddorion ag sydd yn rhoi bywyd i goeden, i garreg, i gi’. Fel petai esblygiad, hyd yn oed, yn gweithredu o chwith, mae dyn, fel aur, i’w ddarganfod yn gyfan yn rhew daear Kolyma: bysedd y meirw yw'r bysedd lluniaidd a ddaw i’r golwg ac a welwn yn yr eira, nid bysedd y cloddiwr sydd eisoes wedi dechrau madru. Dim ond yn fyw y caiff dyn bydru. Mater yw meddwl yn ogystal, ei bresenoldeb i’w adnabod ar ffurf poen.

Yn raddol, trwy gyfrwng yr hanesion cwta hyn, sydd yn llenwi tudalen ar ôl tudalen – bron i fil a hanner o dudalennau i gyd – mae geiriau cyffredin fel bara a choeden, bywyd a gobaith, da a drwg yn cael eu drysu ac yn magu eu hystyr eu hunain. Cawn ein hatgoffa nad yw geiriau, na dyn, yn cadw eu harwyddocâd ym mhob cyd-destun, hyd yn oed yn eu ffurf fwyaf sylfaenol. Ond dim ond wedi darllen y 1,455 o dudalennau yn eu trefn, trwy gyfrwng ailadrodd sy’n gweu ac yn trawsffurfio elfennau, y mae’r geiriau i’w clywed yn canu’n glir fel cloch. Megis yng nghuriad cronnol adeiladwaith Celfyddyd y Ffiwg gan Bach.

Trwy gyfrwng yr epig hwn, dirymir llenyddiaeth a systemau deallusol sydd yn gosod dyn yn ganolbwynt iddynt. Gwrthod rhamantu dimensiwn ysbrydol dyn yw egwyddor moesol Shalamov. Ond yn ein hesgyrn, gwyddom na fyddai Shalamov wedi goroesi petai wedi bradychu ei enaid. [Sioned Puw Rowlands]

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Dyddiad cyhoeddi: 27·07·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…

Cyfansoddi


Casi Dylan

‘Wennol Bwlch a Chilhollt’ Caryl Lewis oedd y stori a’n cyflwynodd ni i’n gilydd. Stori gariad o’r casgliad Plu (2013), wedi ei hadrodd o safbwynt Emrys, mab fferm a glymwyd i’w aelwyd gan amgylchiadau, ac a arhosodd yno yn y gobaith y dôi ei gariad cyntaf ’nôl ato o’i theithio byd: ‘Roedd…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Symudais i Abertawe i fyw ddechrau mis Ionawr 2016, yn ystod y gaeaf hwnnw lle bu hi’n bwrw glaw am bron i ddeufis yn ddi-baid. Gyrrais i lawr mewn car benthyg oherwydd fy mod wedi dinistrio fy nghar fy hun naw mis…

Adolygu


Gruffydd Aled Williams

‘Epig o nofel fydd yn byw yn y cof’ meddai Jon Gower mewn broliant ar glawr y nofel hon. Anodd fyddai anghytuno: o ran rhychwant amser a chymeriadaeth dyma’r fwyaf uchelgeisiol o bum nofel Jerry Hunter, ac, fe ddichon, un o’r nofelau mwyaf uchelgeisiol erioed…

Adolygu


Ceridwen Lloyd-Morgan

Bu pobl yn hoff o wneud rhestri erioed. Cymorth i’r cof, mae’n debyg, oedd diben llawer o’r casgliadau o enwau, ffenomenâu, traddodiadau neu wybodaeth arall a fu’n boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Ar wahân i’r Trioedd, lle crynhowyd traddodiadau storïol mewn cyfresi o dri, bu bri ar restri o bump, o saith, naw,…