Jan-Werner Müller


What is Populism?

Pennsylvania Press & Penguin, 160tt, £8.99, 2016; 2017

Anthony Barnett


The Lure of Greatness: England's Brexit and America's Trump

Unbound, 416tt, £8.99, 2017

John B Judis


The Populist Explosion

Columbia Global Reports, 184tt, £8.99, 2016

Poblyddiaeth: y cysgod arhosol
Adolygu

Poblyddiaeth: y cysgod arhosol


Angharad Penrhyn Jones

Amser darllen: 22 munud

30·11·2018

Nid yw’r cysyniad o boblyddiaeth yn un cwbl eglur. Caiff y gair ei luchio o gwmpas y dyddiau hyn, a’i ddefnyddio mewn ffyrdd mor llac ac amwys nes ei fod, bron iawn, yn ddiystyr. Weithiau, fe’i defnyddir i ddynodi ‘poblogaidd’, dro arall, ‘ffasgaidd’. Nid yr un yw poblyddiaeth yn America Ladin â’r hyn a ystyriwn yn boblyddiaeth yng Ngogledd America; gellir disgrifio Occupy fel symudiad poblyddol, yn ogystal â phleidiau neo-ffasgaidd yn Nhwrci, Gwlad Pwyl a Hwngari. Ac mewn difri, beth yw’r cysylltiad rhwng Syriza, Podemos, Erdoğan a Bolsonaro, sydd i gyd wedi eu disgrifio fel ffenomenau poblyddol?

Oes modd datblygu damcaniaeth i ddisgrifio cysyniad a ddefnyddir mewn modd mor niwlog? Yn fy marn i, mae hon yn dasg hollbwysig mewn cyfnod o dwf byd-eang mewn llywodraethau awdurdodaidd, gwleidyddiaeth ‘strongman’, a mudiadau chwith caled, yn ogystal â mudiadau adain dde-eithafol. Rhagrybudd o argyfwng gwleidyddol yw mudiadau poblyddol, ac mae i bob un ohonynt elfennau cyffredin y gallwn eu dadansoddi.

Y syniad o ‘bobl’ sydd wrth wraidd poblyddiaeth, yn ôl yr academydd Jan-Werner Müller, awdur y gyfrol bwysig What is Populism? (2017). Pwynt amlwg, efallai, ond un gwerth ei wneud gan y camddefnyddir y term, yn ei farn ef. Rhywun sy’n honni ei fod yn siarad ar ran ‘y bobl’ yw poblyddwr, yn ôl ei ddiffiniad; rhywun sy’n gweld ‘y bobl fel un’. Byd-olwg gwrth-blwralaidd ydyw felly, sy’n dychmygu fod modd gweld pawb yn y wladwriaeth fel monolith, fel tyrfa ddiledryw, yn hytrach na chymysgedd o bob math o elfennau. Nid yw poblyddwyr yn awyddus i gydnabod y gymysgedd hon am ei bod yn drysu’r naratif. Mae llunio naratif syml yn hanfodol i’w tasg. Clywir adlais o Brexit yn y diffiniad hwn, er nad yw Müller yn cyfeirio ato yn y gyfrol. Gellid yn sicr ddadlau mai prosiect poblyddol yw Brexit, un sydd wedi ei seilio ar y cysyniad diystyr o ‘ewyllys y bobl’. Dim ond 52% a bleidleisiodd yn 2016 dros adael yr Undeb Ewropeaidd, ond, fel y dywed Müller, yn y dychymyg poblyddol ‘only some of the people are really the people’. Hawdd fyddai credu mai cyfeirio at Brexit, yn wir, mae Müller yn y dyfyniad canlynol:

Political scientists have long argued that a completely coherent, single ‘popular will’ is a fantasy and that no one can credibly claim, as Juan Peron used to do, that ‘the political leader is the one who does what people want.’ What is less obvious is that pretending there is such a will also weakens democratic accountability. Populists can always turn back to the people and say, ‘We implemented exactly what you wanted, you authorized us; if anything goes wrong, it’s not our fault.’

Mae poblyddwyr, felly, yn synio am ‘y bobl’ fel ‘un’, ‘un’ sy’n meddu ar ewyllys amlwg, ac yn credu y dylai gwleidyddiaeth fod yn fynegiant o’r ewyllys hwn. Yng nghyd-destun Brexit, saboteurs a ‘gelynion y bobl’ yw’r rhai hynny sy’n drysu’r broses. Gwelwyd eisoes pa mor hurt a pheryglus yw’r feddylfryd hon.

Er nad yw Theresa May yn ffitio diffiniad Műller o boblyddwr, byddwn yn dadlau ei bod yn ymylu ar fod yn boblyddwraig awdurdodaidd, a hynny mewn mwy nag un ffordd. Yn ei gyfrol The Lure of Greatness (2017) cyfeiria Anthony Barnett at May yn annerch torf mewn cynhadledd yn Glasgow â’r geiriau hyn:

at the heart of the United Kingdom is the unity of the people: a unity of interests, outlook and principles. This transcends politics and institutions, the constitution and the economy ... We are four nations, but at heart we are one people.

Ar ben y syniad peryglus hwn o ‘un bobl’, lle diddymir gwahaniaethau er mwyn gwasanaethu ideoleg benodol (undeboliaeth yn yr achos hwn), mae poblyddwyr o’r farn mai nhw yn unig all gynrychioli’r bobl, nhw yn unig all barchu eu hewyllys. Cyhoeddir soundbites poblyddol yn aml gan May wrth drafod Brexit, megis: ‘I will deliver on the will of the British people’, a ‘Let me fight for Britain’, â’r pwyslais ar yr ‘I’ a’r ‘me’. Nid gwrthwynebu’r syniad o gynrychiolaeth wleidyddol y mae poblyddwyr ond gwrthwynebu’r syniad fod unrhyw un heblaw nhw yn abl i gynrychioli’r bobl. Yn y Ffindir, er enghraifft, nid eu safiad yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd yn unig sy’n gwneud y blaid Perussuomalaiset yn blaid boblyddol, ond hefyd eu honiad mai dim ond nhw all gynrychioli ‘pobl Ffinnaidd go iawn’ (eu henw Saesneg ydi True Finns). Mae pob grŵp arall sydd am gynrychioli’r bobl, ym marn poblyddwyr, yn llwgr, yn elitaidd, yn foesol ddiffygiol, yn anghymwys, yn cynllwynio yn erbyn y bobl. ‘We are the people. Who are you?’ gofynnodd Erdoğan i’w feirniaid ar un achlysur, gan awgrymu nad oes gan unrhyw un nad yw’n perthyn i’r bobl yr hawl i leisio barn. Elfen bwysig yn yr amgyffred hwn yw’r modd y maent yn demoneiddio ac yn bwrw amheuaeth ar eu beirniaid a’u cyhuddo o fod yn elitaidd. Nid yw pawb sy’n beirniadu elitiau yn boblyddwyr, wrth gwrs, ond mae poblyddwyr i gyd yn beirniadu elitiau, boed nhw’n elitiau economaidd, diwylliannol neu ddeallusol. Cofier eiriau’r arch-Frexitwr Michael Gove: ‘People in this country have had enough of experts.’
 

Unsplash/Davide Ragusa

Siaredir am fradwyr, yn ogystal: mae’n ddisgwrs moesolgar iawn, lle ceir llinell amlwg rhwng y poblyddwyr, sy’n foesol bur, a’u gwrthwynebwyr, sy’n anfoesol. Ar symlrwydd, ar y du a’r gwyn, y bradwyr a’r gelynion y mae’r pwyslais bob amser. (Am y rheswm hwn, teimlwn yn anghyfforddus wrth glywed fod Leanne Wood, ar lwyfan etholiad yn ystod y ras arweinyddol, wedi cyfeirio at y Torïaid fel ‘the enemies of everything we hold dear’.) Cynllwynio yn erbyn y bobl y mae’r gelynion hyn, yn eu llygaid nhw, ac mae damcaniaethau cynllwynio yn ganolog, felly, i’w ffordd o weld y byd.

Ystyriwch George Galloway – y cyn-wleidydd ac ymgyrchydd chwith caled – a’i ddisgwrs gorsyml am y Gorllewin anfoesol, ei ddamcaniaethau cynllwynio (nid yw’n credu mai’r Rwsiaid oedd yn gyfrifol am y gwenwyno ar Sergei a Iwlia Scripal), a’i honiad ar Twitter y gellir crynhoi’r sefyllfa yn Israel/Palesteina fel hyn: ‘It’s Jeremy Corbyn versus Netanyahu.’ Dyma’r du a’r gwyn, felly; y bobl dda yn erbyny bobl ddrwg; y gyfundrefn ddeuaidd. Ystyriwch hefyd Aaron Bastani, un o griw Novara Media (platfform newyddion amgen) ac un o ladmeryddion answyddogol Jeremy Corbyn. Disgrifiodd y gwrthdaro yn Israel/Palesteina fel rhywbeth ‘hynod syml’, a thrwy wneud hynny, mewn dau air, diddymodd gannoedd o flynyddoedd o gymhlethdod. Atebion hawdd sydd gan boblyddwyr i gwestiynau cymhleth; maent yn gwrthod cydnabod y tir llwyd.

Tuedd arall ganddynt yw demoneiddio’r cyfryngau. Enghraifft amlwg yw cyhuddiadau newyddion ffug Trump bob dau funud; ond bu Corbyn hefyd yn euog o ddefnyddio’r ymadrodd ‘fake news’ ar fwy nag un achlysur, gan ei fod yn awyddus i danseilio’r cyfryngau yn llygaid y bobl. Sonia’n gyson am ‘The British People’, ‘The British Workers’, fel tasen ni’n ‘un’, yn un dyrfa ddiledryw, nad yw’n cael ei chynrychioli’n deg gan y cyfryngau torfol. Er na ellir disgrifio Corbyn fel poblyddwr pur, gellir gweld sut y mae’n tynnu ar dactegau poblyddol mewn modd peryglus. Mae ganddo duedd i gynnal ralïau mawr a chyfathrebu’n uniongyrchol â’r bobl drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn hytrach na throi at y cyfryngau traddodiadol – y ‘mainstream media’ neu’r ‘MSM’ llwgr, fel y’i disgrifir gan ei gefnogwyr. Ac yntau’n reddfol yn erbyn y Gorllewin, a hynny am fod ei hideoleg imperialaidd a chyfalafol yn wrthun iddo, mae Corbyn hefyd, fel Galloway, yn hoff o ddamcaniaethau cynllwynio sy’n achub croen Rwsia. Nid yw hanes imperialaidd Rwsia o ddiddordeb mawr iddo, na chwaith droseddau Assad. Os ydi’r ffeithiau am elynion y Gorllewin yn hollol ddiymwad, ar y llaw arall, mae’n defnyddio iaith mewn ffordd glyfar i osgoi eu condemnio. Fel y dywedodd Nick Cohen mewn erthygl am ragrith Corbyn ar faterion tramor (The Spectator, 21 Tachwedd 2015):

When anti-western regimes and movements go to war, his language turns slippery. Corbyn never quite has the guts to support the violence of others, but he excuses it like a gangster’s lawyer trying to get a crime boss off on a technicality.
 

✒︎

 

Elfen bwysig arall sy’n nodweddu poblyddiaeth, er nad yw ar waith bob amser, yw hiliaeth. Yn yr Eidal, Sipsiwn sydd yn aml yn cael eu targedu gan boblyddwyr; yn Sweden, y Moslemiaid; yn America, disgrifia Trump fewnfudwyr o Fecsico fel treiswyr a therfysgwyr. Caiff grwpiau lleiafrifol eu defnyddio fel bwch dihangol er mwyn uno’r ‘bobl’, neu cânt eu cyhuddo o fod yn rhan o gynllwyn yn erbyn y bobl. Yn ôl John B Judis, awdur The Populist Explosion (2016), er bod poblyddwyr adain chwith yn pledio achos y bobl yn erbyn yr elît neu’r sefydliad, mae poblyddwyr adain dde yn cyflwyno trydedd elfen i’r darlun, sef ‘out group’, ac yn cyhuddo’r Sefydliad o faldodi’r lleiafrif hwn, megis mewnfudwyr neu Islamwyr.

Gellid dadlau, serch hynny, fod y drydedd elfen hon yn aml yn bresennol ar y Chwith hefyd. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad i ni weld aelodau gwrth-Semitaidd y Blaid Lafur Brydeinig yn dod i’r amlwg o dan Corbyn. (Dengys astudiaethau fod gwrth-Semitiaeth yn broblem fwy yn y Blaid Geidwadol, ond mae’r criw Llafur gwrth-Semitaidd wedi gweiddi’n uwch, efallai, na’r rhai ar yr adain dde, sy’n tueddu hefyd i arddangos Islamaffobia cryf.) Ar y cyfryngau cymdeithasol gwelwyd Llafurwyr gwrth-Semitaidd yn dod allan o’u cuddfannau ac yn creu awyrgylch gwenwynig: ymddengys eu bod wrth eu boddau yn lledaenu damcaniaethau cynllwynio am y ‘Seioniaid’ sy’n rhedeg y byd, ac yn llawn casineb tuag at yr elît yn gyffredinol.

Disgrifiodd yr hanesydd Americanaidd Richard Hofstadter boblyddiaeth fel ‘the paranoid style of politics’, ac ymddengys fod paranoia yn rhemp ar y chwith caled. Rwyf o’r farn mai tueddiadau poblyddol Corbyn sy’n rhannol gyfrifol am y ffenomen hon, er ei fod yntau wedi condemnio’r hiliaeth yn gryf ac yn ei bortreadu ei hun fel ymgyrchydd gwrth-hiliol. Mor hawdd yw deffro elfennau anoddefgar ag ieithwedd boblyddol, wrthsefydliadol, wrthelitaidd. Yn aml, mae gan boblyddwyr fyddin o droedfilwyr sy’n troi yn erbyn ‘bradwyr’ mewn ffyrdd atgas ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y byd go iawn, hyd yn oed os ydi’r poblyddwr ei hun yn cadw at ddulliau cymharol waraidd o ymddwyn.

Mae poblyddiaeth yn bodoli ar ddau begwn y sbectrwm gwleidyddol, felly. Ond pam mae ar gynnydd? Yn ôl John B Judis, mae’n arwydd nad ydi’r normau gwleidyddol sy’n cael eu hyrwyddo a’u hamddiffyn gan arweinwyr y wlad yn asio â gobeithion, dyheadau ac ofnau y bobl: ‘The populists express these neglected concerns and frame them in a politics that pits the people against an intransigent elite.’ Dadl Müller yw fod poblyddiaeth yn rhan annatod o unrhyw ddemocratiaeth gynrychioladol – ‘It is the permanent shadow of representative politics’ – a’i bod yn ffynnu wrth i bobl ddechrau teimlo nad oes ganddynt ddewis go iawn, mai gorfod dewis rhwng Pepsi a Coke, mewn gwirionedd, yw etholiad seneddol. Dyfynnir David Ost ganddo, arbenigwr ar ddwyrain Ewrop:

The problem … is not that people are not committed to democracy. Yes, plenty of people today aren’t committed to democracy but they’re not committed to it because they feel that democracy, packed in neoliberal wrapping, is not committed to them.

Byddai Anthony Barnett yn siŵr o gytuno â’r geiriau hyn. Yn ei farn ef, bydd poblyddiaeth yn parhau i ffynnu oni bai ein bod yn herio ideoleg hegemonaidd neoryddfrydiaeth:

Whether or not neoliberalism can preserve itself by admitting its existence, it cannot be displaced until it has been named in public discourse. Inchoate opposition to it roused many to join the causes of Trump and Brexit. For them to become allies of a better globalisation, neoliberalism’s current domination of it needs to be challenged by speaking its name.
 

✒︎

 

Ond beth, felly, am Gymru, a’n plaid genedlaethol? Dadlennol yw troi at yr ymadrodd ‘y Mab Darogan’, a ddefnyddiwyd i ddisgrifio Adam Price mewn taflen ymgyrchu, a’i ystyried yng nghyd-destun y geriau hyn gan Műller:

Populists hanker after what the political theorist Nancy Rosenblum has called ‘holism’: the notion that the polity should no longer be split and the idea that it’s possible for the people to be one and – all of them – to have one true representative. [...] [The real populist leader] must be charismatic, for one thing, which means endowed with extraordinary gifts.

Yn ystod ei ymgyrch arweinyddol cyflwynwyd Price fel ffigwr Meseianaidd ac eithriadol o ddawnus fyddai’n arwain pobl Cymru at ryddid. Heb os nac oni bai, cysyniad poblyddol yw hwn. (Ac wrth gwrs mae Corbyn, hefyd, wedi ei gyflwyno fel ffigwr Meseianaidd sy’n cynrychioli ‘the many, not the few’.) Mae’r pwyslais ar yr unigolyn carismataidd, ar gwlt y bersonoliaeth; y dyn yn annerch y dorf, y dorf yn ‘un’, a phawb yn deisyfu’r un peth: yn yr achos hwn, ‘A New Wales’. Caiff Price ei ddisgrifio’n aml fel areithiwr cyfareddol, un sy’n medru hoelio sylw â’i lais dwfn, fel areithiwr o’r hen draddodiad yn annerch pobl ar sgwâr y pentref. Tybed a oes elfen o nostalgia i boblogrwydd Price? Tybed a ydi’r gynneddf yn ddwfn ym mhob un ohonom mewn gwlad Fethodistaidd draddodiadol i ddisgwyl i ddyn Meseianaidd ein hachub? Yn ôl y cymdeithasegydd Max Weber, mae arweinyddiaeth garismataidd ac arwrol yn ffynnu mewn cyfnodau o argyfwng, pan fo pobl yn fwy tebygol o ddarganfod cysur yn nodweddion arbennig unigolion yn hytrach na sefydliadau.

Gyda dyfodiad Price, a’r pwyslais ar ‘Y Gymru Newydd’ sy’n rhan o’i weledigaeth, mae’r geiriau ‘sofran’ a ‘gwladgarol’ wedi dychwelyd i’n disgwrs yng Nghymru – geiriau sydd, yng ngwlad Pwyl, yn cael eu defnyddio gan y dde eithafol. Mewn araith ar y llwyfan etholiadol yn Aberystwyth, cyfeiriodd Price at waed y glowyr yn y pridd yn yr ardal lle cafodd ei fagu. Mae’r geiriau ‘gwaed’ a ‘pridd’ hefyd yn rhai sy’n cael eu cysylltu â symudiadau poblyddol a ffasgaidd. Eto, maent yn tynnu ar y syniad poblyddol o ddilysrwydd; ‘y gwir bobl’. Ceir cyfeiriadau cyson at y ffaith fod Price yn fab i löwr, a’i fod wedi ei fagu mewn tŷ cyngor.

Nid yw hyn oll yn golygu mai gwleidydd poblyddol peryglus yw Price, wrth gwrs. Nid yw’n cyfeirio’n benodol at y bobl fel un dorf homogenaidd, nac yn sôn am ‘ewyllys y bobl’, nac ychwaith yn ceisio tanseilio’r cyfryngau a sefydliadau democrataidd. Ond mae elfennau poblyddol yn perthyn i’w ddisgwrs rhamantaidd, gwladgarol a’r modd y’i cynrychiolir – y dyn disglair ar ei bedestal, y Cymro Go Iawn, a’r gwleidydd ‘X Factor’, fel y’i disgrifwyd mewn ymgyrch ar gyfer etholiad y senedd yn 2016. Mewn llythyr diweddar at aelodau’r Blaid soniodd am ‘droi ein plaid yn rym sy’n brwydro’r sefydliad’, a diddorol yw nodi fod ei slogan ‘Yes, Wales can’ yn debyg iawn i slogan y blaid boblyddol Podemos, sef ‘Sí, se puede’ (Gallwn, fe allwn ni), yn ogystal â slogan a ddefnyddir gan gefnogwyr Corbyn, ‘Jez we can’. Ym mis Awst 2018 dywedodd wrth y BBC ei fod am greu ‘a radical Welsh populism’, a fis yn ddiweddarach, ysgrifennodd yn Nation Cymru: ‘I think it is possible for progressive or radical movements and independence movements to learn from some of the elements within what has come to be known as populism.’

Yn ôl yr hanesydd Michael Kazin, gellir disgrifio poblyddiaeth fel ffordd o ddefnyddio iaith: ‘a language whose speakers conceive of ordinary people as a noble assemblage not bounded narrowly by class; [who] view their elite opponents as self-serving and undemocratic; and seek to mobilise the former against the latter.’ (The Populist Persuasion, 1995.) Rydym oll wedi clywed Nigel Farage yn siarad yr iaith hon. Ond mae Price hefyd yn defnyddio iaith debyg ar adegau, er ei fod yn fwy cynnil o lawer. Ar 4 Hydref 2018, cyhoeddodd erthygl arall yn Nation Cymru (nation.cymru/opinion/its-time-to-say-yes-walescan/), lle disgrifiodd yr angen i ‘lunio dyfodol newydd i Gymru’:

Labour will not be its author. And nor will it be written for us in the marbled halls of Whitehall and Westminster. It will be written in the streets and shops, the pubs and rugby clubs, the homes and hearts of our nation.

Er nad yw Price yn poeni am elitiaeth Prifysgol Harvard (mae’n aml yn cyfeirio at yr addysg a gafodd yn y fan honno), nid anfwriadol, yn amlwg, mo’r disgrifiad hwn o natur elitaidd y sefydliad Prydeinig (y ‘marbled halls’) ochr yn ochr â’r lleoliadau cartrefol, ‘go iawn’, lle mae’r Cymry dilys, y ‘noble assemblage’, yn ymgynnull. Heb amheuaeth, trosiad poblyddol yw hwn. Ar ben hynny, yn ei araith yng Nghynhadledd Plaid Cymru, dywedodd nad oedd Rhodri Morgan, sy’n cael ei gydnabod yn un o benseiri datganoli, wedi gwneud unrhyw beth dros Gymru heblaw bod yn gyfathrebwr da, ‘holding court’. Mewn byd poblyddol, ni ellir cydnabod bod gan yr wrthblaid unrhyw rinweddau.

Wrth reswm, mae’r syniad fod poblyddiaeth radical, ochr chwith yn flaengar, fel y rhagdybir gan Price, yn broblematig. Un peth yw chwarae’r cerdyn gwrthsefydliadol er mwyn ennill pleidleisiau, ond beth sy’n digwydd wrth ennill a dod yn rhan o’r ‘Sefydliad’? Nid yw’r teimladau gwrthsefydliadol a ddefnyddiwyd i fwydo’r tân er mwyn curo’r gwrthwynebwyr yn diflannu. I raddau, bu hyn yn broblem i Podemos yn Sbaen, plaid sydd bellach yn cael ei gweld fel rhan o’r sefydliad gwleidyddol. Cyhuddwyd eu harweinydd, Pablo Iglesias, o fod yn bourgeois ac yn elitaidd. Mae’n ddiddorol nodi i gwlt personoliaeth dyfu o’i gwmpas yntau’n ogystal. Ymddengys fod gwisgo mantell wrthelitaidd yn sylfaenol anghynaliadwy, felly, fel dull o ennill mwy o rym, gan mai ffigyrau sefydliadol ar y cyfan ydi’r gwleidyddion hyn yn y bôn, a’r amcan bob amser ydi dod yn ymgorfforiad absoliwt o’r sefydliad hwnnw.

Rhaid cofio fod ffigwr gwirioneddol boblyddol yn perthyn i dirwedd wleidyddol Cymru ar hyn o bryd, sef Neil McEvoy. Mae’r Aelod Cynulliad hwn, a gafodd ei ddiarddel o’r Senedd yn sgil cyhuddiadau o ymddygiad annerbyniol, yn ffigwr dadleuol iawn. Fel nifer o boblyddwyr mae wedi hawlio’r term a’i gyflwyno fel rhinwedd. ‘[There is] a huge snobbery about populism,’ meddai ar Twitter (9 Medi 2018), ‘which is basically about representing everyday people and our concerns.’ Ychwanegodd fod y sawl sy’n cwestiynu poblyddwyr yn rhan o’r ‘disconnected few’ – hynny ydi, nid ydynt yn rhan o’r ‘Everyday People’, ‘y dorf’, yr ‘un’. Nid ydynt yn perthyn; maent yn rhan o’r elît, ac felly i’w diystyru.

Fel poblyddwyr eraill, mae McEvoy yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn delio â phobl yn uniongyrchol yn ei swyddfa, rhywbeth mae Müller yn ei ddisgrifio fel ‘an aesthetic production of “proximity to the people”’. Mae’n ddirmygus o sefydliadaeth a phrosesau technocrataidd; yn dilorni’r wrthblaid ‘lygredig’ ac wedi disgrifio’i haelodau fel ‘bradwyr’; ac mae’n disgrifio’i hun fel ‘sofrannwr’. Hyrwyddir ganddo’r syniad fod pynciau ‘niche’, megis hawliau merched a phobl drawsrywiol, yn tynnu sylw oddi wrth yr hyn sy’n bwysig i’r ‘bobl’; mae'n mynnu bod rhyddid mynegiant yn bwysicach na gwarchod lleiafrifoedd, fel pobl drawsrywiol, rhag cael eu sarhau; ac mae'n defnyddio termau megis ‘plastic lefties’, ‘faux feminist’ a ‘faux nationalists’, gan awgrymu nad ydi’r rhai sy’n ei wrthwynebu yn bobl real. Yn nhraddodiad y ‘strongman’, mae’n meithrin delwedd macho, o’r rebel yn erbyn y ‘Bay Bubble’ sy’n gwrthod ufuddhau i’r safonau ymddygiad arferol.

Yn y misoedd diwethaf bu McEvoy yn gwrthdystio yn erbyn y mwd sy’n cael ei ollwng ger Caerdydd ac sydd, yn ei dyb ef, yn cynnwys lefelau uchel o ymbelydredd. Hyd yma, nid oes unrhyw dystiolaeth fod y mwd gerllaw gorsaf niwclear Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf yn beryglus o ymbelydrol; mae’n ddigon posib mai damcaniaeth gynllwynio sydd wrth wraidd y ddadl. Fel sy’n nodweddiadol o ddisgwrs poblyddol, diystyrwyd consensws gwyddonwyr ac arbenigwyr, a defnyddir ieithwedd ymfflamychol. Ar ben hynny, dywedodd sawl un o’r grŵp ymgyrchu y dylid gollwng y mwd ‘niwclear’, yn hytrach, yn Lloegr, er bod symudiad y llanw yn gwneud ffwlbri, wrth gwrs, o’r syniad o ffin bendant rhwng dwy wlad. Dyma’r naratif Ni a Nhw, y bobl dda a’r bobl ddrwg, a’r amgyffrediad o’r ddynoliaeth yn ei chyfanrwydd, y gymysgedd anorfod gymhleth a lluosog o bobl, yn cael ei ddileu yn enw ‘sofraniaeth’.

Dadleua Müller mai dynion, yn aml, sydd wrth wraidd symudiadau poblyddol yn Ewrop a’r Unol Daleithiau, ac yn y misoedd diwethaf, wrth i broffil Price a McEvoy ddod yn fwy amlwg yng Nghymru, sylwais ar ddatblygiadau pryderus. Ar y cyfryngau cymdeithasol gwelwyd cynnydd yn benodol mewn dynion yn sarhau’r rhai nad oeddynt yn cytuno â’u safbwyntiau, y rhai oedd yn cefnogi Leanne Wood yn ystod yr ornest arweinyddol. Mae ambell un o’r cenedlaetholwyr Cymreig hyn yn hoff o Trump, Aaron Banks a Steve Bannon. (Dim ond ddoe, dywedodd Bannon yn gyhoeddus: ‘Women are gonna take charge of society.’ Dyma yw ofn mawr nifer o’r dynion neo-ffasgaidd.) Mae’r blogiwr Royston Jones – sydd hefyd yn galw ei hun yn ‘Jac o’ the North’ – yn un o sefydlwyr y blaid genedlaetholgar Ein Gwlad, ac yn gefnogol i Bannon, Trump a Viktor Orbán. Ar 13 Ionawr 2017, dyma a ysgrifennodd ar ei flog (jacothenorth.net/blog/):

Plaid is still too cosy with the liberal, statist, anti-Brexit, ‘Isn’t Trump ghastly’ elite, so embittered since they learnt what ordinary people really think of them and their ideas. […] If you believe in honesty and democracy then you should support Neil McEvoy.

Dyma ideoleg y dde amgen yng Nghymru, yr hyn a elwir yn ‘alt right’. Ideoleg ‘gynhwynol’ (nativist) yw hon, ac mae ar gynnydd. Yn aml iawn defnyddir iaith wenwynig, Trumpaidd gan y bobl hyn wrth drafod merched a phobl draws. Soniais yn rhifyn Haf 2018 O’r Pedwar Gwynt (‘#MeToo a’r argyfwng gwrywdod’) am y bygythiadau difrifol a wnaethpwyd yn erbyn Leanne Wood (a arweiniodd at garchariad un dyn), a’r peryglon mae gwleidyddion benywaidd yn gyffredinol yn eu hwynebu. Ond ceir enghreifftiau o gasineb yn erbyn merched llai amlwg hefyd. Soniodd un ddynes wrthyf am ei merch yn cael ei bwlio yn yr ysgol gan ddynion ifanc oedd yn Bleidwyr. Mae’n debyg eu bod yn casáu Leanne Wood (‘yr hwren ffeminist commie’) ac unrhyw un sy’n ei chefnogi ac wedi mynegi eu casineb fwyfwy ers i Trump gael ei ethol. Gwelais ddelwedd gwbl arswydus oedd wedi ei phostio ar Instagram gan un o’r dynion hyn, delwedd o babi melyn Plaid Cymru â gwaed yn diferu o’i ganol a’r geiriau ‘Party of Traitors’ oddi tano. Owain Glyndŵr yw arwr y Pleidwyr ifanc hyn ac maent o’r farn nad oedd Leanne Wood erioed wedi haeddu’r fraint o arwain y Blaid am nad yw’n siarad Cymraeg yn rhugl. Saesnes yw hi, yn eu golwg nhw.

Roedd Leanne Wood yn arweinydd oedd yn deall ar lefel gwbl reddfol y bygythiad hwn, bygythiad poblyddiaeth beryglus, i’n disgwrs cyhoeddus a’n democratiaeth. Galwodd am cordon sanitaire yn erbyn UKIP yn y Senedd, plaid sydd wedi bod yn ceisio tanseilio’r sefydliad ei hun a’r broses ddatganoli: hi oedd yr unig Aelod Cynulliad i wneud hyn. Yn ystod yr ymgyrch arweinyddol hi hefyd oedd yr unig ymgeisydd i fynegi’n glir ei gwrthwynebiad i gydweithio ag UKIP a’r Ceidwadwyr ar unrhyw lefel. Mae hi’n honni fod rhai aelodau o fewn y Blaid wedi rhoi pwysau arni i gymryd trywydd gwahanol. Gwrthododd ildio i’r pwysau i ddefnyddio ieithwedd boblyddol genedlaetholgar am sofraniaeth er mwyn ennill cefnogwyr newydd; cadwodd y ffocws ar genedlaetholdeb ddinesig a’r syniad fod croeso i bawb, gan gynnwys pob un grŵp lleiafrifol, i ymuno â’r ymgyrch dros hunanreolaeth a chyfiawnder cymdeithasol. Nid yw’n un am rethreg wag. Byddai rhai’n ei beirniadu am fod yn rhy absoliwtaidd wrth wrthod gweithio gyda’r Ceidwadwyr, gan ddadlau fod hyn, yn eironig, yn agwedd boblyddol; ond gellid dadlau mai mater strategol yw hwn yn ogystal ag un ideolegol: mae cysgod Thatcher yn parhau i dywyllu rhannau o’r wlad a byddai’r Blaid, o bosib, yn cyflawni hunanladdiad gwleidyddol o gael ei gweld yn cydweithio â nhw, y blaid a ddinistriodd y Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl y glymblaid yn San Steffan rhwng 2010 a 2015.

Pan gyhoeddwyd mai Price oedd wedi ennill gornest arweinyddol Plaid Cymru, cafwyd neges o longyfarchiadau gwresog nid yn unig gan arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, ond hefyd gan Neil Hamilton o UKIP. Efallai fod y blaid wrthfewnfudo hon, oedd mor ganolog i ddisgwrs poblyddol Brexit, yn gweld ei chyfle i gamu dros y cordon sanitaire, i gydweithio. Go brin y bydd Price yn estyn llaw iddi. Ond dylid nodi ei fod wedi cydweithio rhywfaint â Neil McEvoy yn ystod yr ornest. Ymunodd Price â’r brotest mwd ‘niwclear’ a drefnwyd gan McEvoy yn gynnar yn ystod yr ymgyrch arweinyddol, gan ennill cefnogaeth nifer o’i ddilynwyr.

A fydd Price, tybed, yn croesawu poblyddwr fel McEvoy yn ôl i’r Blaid? Bydd nifer fawr ohonom yn disgwyl gweld arweinydd newydd Plaid Cymru yn gwneud safiad digyfaddawd yn erbyn elfennau poblyddol er lles ein democratiaeth. Pryder mawr yw’r ffaith fod Pleidwyr eraill yn gweld McEvoy fel ‘ased etholiadol’ ac yn barod i anwybyddu’r elfennau hynny rwyf yn eu trafod yn yr erthygl hon. Pryder arall yw’r ffaith fod peth gwirionedd i’r honiad fod llywodraethau San Steffan a’r Senedd yn euog, ar adegau, o lygredd a diffyg tryloywder. Mae beirniadaeth poblyddwyr o’n sefydliadau, weithiau, yn gwbl ddilys.

Grymuswyd y dde amgen boblyddol, felly, yn ystod ymgyrch arweinyddol Plaid Cymru. Sut fydd y dynion dig yn ymateb os na fydd Plaid Cymru mewn llywodraeth erbyn 2021, fel y mae Price yn anelu ato, ac os bydd Brexit yn arwain at fwy o dlodi a dioddefaint yn ein cymunedau bregus? A fyddant yn chwilio am fwch dihangol? A fyddant yn troi eu dicter yn erbyn y Senedd ei hun a’r broses ddatganoli? Rhaid cadw mewn cof hefyd fod y neo-ffasgydd Katie Hopkins – a alwodd am ‘final solution’ i Foslemiaid ac sydd wedi ymddangos mewn digwyddiadau gyda rhai sy’n gwadu’r Holocost – wedi cael ei chyfweld ar S4C yn ddiweddar, ar raglen Guto Harri, Y Byd yn ei Le. Arswydus yw gweld unigolion poblyddol a gwenwynig o’r fath yn cael llwyfan yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol iawn o’r problemau hyn yn UDA a Thwrci; hawdd yw bod yn ddall i’r hyn sy’n digwydd dan ein trwynau. Cofier hefyd fod gennym bedwar Aelod Cynulliad UKIP yng Nghymru ac i raddau helaeth, amsugnwyd eu hideoleg beryglus i’r disgẃrs wleidyddol. Normaleiddiwyd eu rhagfarnau yn erbyn mewnfudwyr, yr Undeb Ewropeaidd, Islamiaeth, a’r Senedd ei hun. Mae hyn yn arwydd pellach o fethiant y cyfryngau yng Nghymru i wynebu peryglon poblyddiaeth.
 

✒︎

 

Er mor ddadlennol a phwysig yw cyfrol Müller, anghytunaf â’i safbwynt fod angen cynnal trafodaeth wleidyddol bob amser â’r rhai sy’n lledaenu casineb, er mwyn eu trechu. Dengys ymchwil fod poblogrwydd neo-ffasgwyr fel Stephen Yaxley-Lennon (‘Tommy Robinson’) a Nigel Farage yn cynyddu wedi iddynt ymddangos ar y teledu, er enghraifft, waeth pa mor heriol a chraff ydi’r sawl sy’n eu holi. Mae eu presenoldeb ar y sgrin yn cyfreithloni eu hideoleg wenwynig, sydd fel feirws yn ymosod ar gorff ac yn treiddio i’w graidd. Yn ogystal â phlannu hadau casineb, mae’r bobl hyn yn polareiddio’r disgwrs cyhoeddus, yn dyfnhau rhwygiadau cymdeithasol ac yn tanseilio ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyhoeddus a’r broses wleidyddol: anghyfrifol yw rhoi ocsigen iddynt. Yr un pryd, gellid dadlau bod poblyddwyr ar eu hennill mewn rhai ffyrdd os cânt eu ‘cau allan’, am fod hyn yn atgyfnerthu eu naratif am y Sefydliad Llwgr, elitaidd. Nid oes atebion syml. Ond, yn sicr, rhaid cadw llygad gofalus ar dwf y ‘cysgod arhosol’ yng Nghymru a thu hwnt, a gofyn cwestiynau dwys am wydnwch democratiaeth gynrychioladol.

Mae’n hanfodol ein bod yn cryfhau ein sefydliadau democrataidd ac yn eu gwneud yn fwy tryloyw er mwyn eu hamddiffyn rhag ymosodiadau poblyddol. Golyga hyn fod rhaid buddsoddi mewn newyddiaduraeth ymchwiliadol sy’n dwyn ein sefydliadau i gyfrif; a dylid cyflwyno cyfreithiau cryfach i amddiffyn unigolion dewr sy’n dadlennu twyll a llygredigaeth. Mae’n hollbwysig ein bod yn cryfhau’r cyfryngau yn gyffredinol a datganoli darlledu er mwyn craffu o ddifrif ar ein gwleidyddiaeth a gwyntyllu materion nad ydynt yn cael sylw digonol ar hyn o bryd. Dyma sefyllfa sydd mewn perygl o greu dadrithiad pellach ymysg yr etholaeth. Dengys astudiaethau fod y Cymry yn anwybodus am waith y Senedd, ynghylch pa faterion sydd wedi eu datganoli iddi. Mae yma wactod, a gwyddwn fod poblyddion yn cael eu denu at wactod. Ar ben hyn, mae diwygiad etholiadol yn rhan bwysig o’r ymdrech i wneud ein democratiaeth yn fwy cynrychioladol, fel nad yw poblyddion yn medru manteisio ar y dicter a’r teimlad o ddiymadferthedd a ddaw o gredu nad oes llais gennym yn y broses ddemocrataidd. Rhaid hefyd ystyried sut y gallwn gynnig ffurf newydd ar wleidyddiaeth, un nad yw wedi ei chyflwyno mewn papur lapio neoryddfrydol. Nid tasg hawdd mo hon. Ond, heb os, mae’r frwydr yn erbyn poblyddiaeth yn un o frwydrau pwysicaf ein hoes.


Enillodd Here We Stand: Women Changing the World (Honno, Left Book Club; 2014) gan Angharad Penrhyn Jones a Helena Earnshaw (goln) y Bread and Roses Award for Radical Publishing 2015.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Bydd poblyddiaeth yn parhau i ffynnu oni bai ein bod yn herio ideoleg hegemonaidd neo-ryddfrydiaeth

Dyddiad cyhoeddi: 30·11·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…