Alun Gibbard


Carwyn: Yn Erbyn y Gwynt

Y Lolfa, 394tt, £14.99, 2016

Alun Richards


Carwyn

Library of Wales / Parthian, 166tt, £9.99, 1984, 2015

Adolygu

Rhwng y rhuo a’r brefu - Carwyn y llew a’r oen


Owen Martell

Amser darllen: 20 munud

29·04·2017

Soniodd Carwyn James sawl tro wrth ei ffrindiau am y gyfrol o hunangofiant yr oedd yn bwriadu’i hysgrifennu. Ni lwyddodd erioed i ddod o hyd i’r amser sbâr – na’r hyfra awdurol efallai – a’i galluogai i gwblhau’r gyfrol honno ond fe ysgrifennodd amrywiol bytiau am ei fywyd ac mewn sgets o’r fath y mae un o’r dyfyniadau allweddol am y gŵr a gyflwynir yn Carwyn: Yn Erbyn y Gwynt gan Alun Gibbard ac yn Carwyn Alun Richards:

I often wondered whether I would have played rugby football at all had I been born in Rhydlewis [...] My father left the farm and came to work as a miner in the Gwendraeth Valley, and so, like Dai Hughes and later Barry John, [...] I was doomed to play rugby.

Mae cynfas thematig y ddwy gyfrol – am ei fod yn gynfas thematig bywyd eu gwrthrych – yn cwmpasu’r berthynas rhwng magwraeth a diwylliant, rhagluniaeth a phersonoliaeth, chwaraeon a bywyd. A’r un endid hwnnw – Cymru – sydd yn dwyn ynghyd yr elfennau hyn, ac eraill lawer, ac yn eu mudferwi tan eu bod yn gymysgedd elfennol.

Chwaraeodd Carwyn James ddwy waith dros Gymru

Mae hi fel petai’n rhan o dynged gwledydd bychain fel Cymru i chwilio am gysur ar feysydd ymddangosiadol wastad fel y maes chwarae. Ar faes o’r fath, nid yw anghyfiawnderau strwythurol gwleidyddiaeth a grym, er enghraifft, neu absenoldeb yr amgylchiadau cymdeithasol breintiedig sydd yn ei gwneud hi’n bosib i bobl ysgrifennu symffonïau mawrion y traddodiad gorllewinol, fel petaen nhw mor amlwg.

Ond os dweud bod y maes chwarae yn faes mwy gwastad na meysydd eraill – a rhannol wir yn unig yw hynny, wrth gwrs; dyw tîm pêl-droed yr Almaen, na Lloegr chwaith, tasai’n dod i hynny, byth yn wirioneddol wael – y demtasiwn wedyn yw ei weld fel ymgorfforiad o’r byd fel y dylai fod, am fod y dydd pan fydd mawr y rhai bychain yn dod yn ddigon aml, ac yn amlach o dipyn na dydd y farn neu ddydd y chwyldro, yn sicr ddigon.

Ar un olwg, felly, mae yna wahaniaeth sylfaenol rhwng colled yr un gŵr ar ddeg a ddaeth o fewn gêm i rownd derfynol Ewro 2016 (er nad ydw i wedi derbyn o hyd na fyddai pethau wedi bod yn wahanol tasai’r dyfarnwr yn y gêm yn erbyn Gwlad Belg heb ‘roi wyneb’ ar ddau Gymro Cymraeg penodol) a’r ‘deunaw gŵr dienw gynt’, yn englyn ysgubol Gerallt Lloyd Owen, a gollodd freuddwyd Cymru yn erbyn y goron Seisnig. Dim ond bod y naill golled, fel y gŵyr cefnogwyr Cymru o’r gorau, yn rhan sylfaenol o’r colledion eraill mwy. Mae’n gyfuniad o’r un ar ddeg ac o’r deunaw. Ac, wedi hynny, mae’n gyfuniad o un ar ddeg a deunaw ac un, sef yr unigolyn sy’n uno’r gwahanol ddimensiynau yn ei gyfansoddiad unigryw ei hun.

Bu farw Carwyn James ar ei ben ei hun mewn gwesty yn Amsterdam, ar ôl cael ei yrru ar wyliau gorfodol gan y rheiny a boenai amdano. Roedd wedi ei wahardd o’i waith gyda’r BBC erbyn hynny ac yn alcoholig, i bob pwrpas. Doedd dim sefydlogrwydd yn ei fywyd personol ac roedd yn methu â byw yn ei groen ei hun, a hynny bron yn llythrennol – mae disgrifiadau Alun Richards o’r psorïasis a effeithiai ar rannau helaeth iawn o’i groen, ac eithrio’i wyneb, yn creu pictiwr o ddyn wedi cyrraedd pen ei dennyn.

Ond erbyn hynny roedd e eisoes wedi dechrau hefyd ar y llwybr tuag at ei ganoneiddio’n sant seciwlar. Roedd yn fyth cyn ei farw ac roedd pawb, fe ymddengys, yng Nghymru benbaladr ac mewn rhannau eraill o’r byd rygbi, yn awyddus i’w hawlio. Dim rhyfedd felly bod y ddau gofiant hyn yn ymgiprys am y dyn ac am yr hyn a gynrychiolai, heb sôn am ymbalfalu am y gŵr y tu ôl i’r masg cyhoeddus.

Gellid dweud bod dau Alun y cyfrolau hyn yn cynrychioli dwy o gymunedau mwyaf nodweddiadol rygbi Cymru a’i ddiwylliant ehangach, sef Llanelli a Phontypridd, a’u bod yn dod at eu gwrthrych o safbwyntiau sydd wedi eu trwytho yn y cymunedau hynny. Mae yna lawer o dir cyffredin – ond digon o lwybrau gwahanol hefyd. Ac efallai mai’r llinyn mesur pwysicaf wrth ystyried y ddau gofiant, felly, yw gofyn pa un sydd yn ‘rhoddi yr eiddo Carwyn i Garwyn’?

Ysgrifennodd Alun Gibbard gofiant trwyadl a deallus sydd yn llawn cydymdeimlad a llenyddiaeth. Mae e’n tosturio wrth ei brif gymeriad a does dim dwywaith nad ef, o’r ddau, sy’n cyflwyno’r portread llawnaf o unigolyn yn ei gynefin ac wedi hynny mewn anghynefin.

Mae hynny’n deillio, dw i’n meddwl, o un ffaith syml, sef y Gymraeg. Gall Alun Gibbard ddweud, heb orfod esbonio popeth, ac mae’r penodau cyntaf yn arbennig, cyn i’r dyn fynd yn gymeriad cyhoeddus, yn cyfleu rhywbeth sylfaenol, rhywbeth sy’n ymdebygu i hawl elfennol cymuned i siarad â hi’i hun mewn modd y byddir yn ei ddeall. Mae’r cofiant hwn – fel cofiant diweddar Alan Llwyd i Gwenallt hefyd – yn bortread o fyd Cymraeg sy’n bodoli mewn llawnder. Ac mae hi’n bosib, wedyn, bod hynny’n esboniad o fath am y mynd mawr sydd ar gofiannau, a hunangofiannau, Cymraeg. Mae’r cofiant yn seiliedig ar absenoldeb, wrth gwrs, ond mae’r gorffennol – a chofiannau, felly, yn anochel – yn dalpiau o amser, ac yn dalpiau o fyw, a gyflawnwyd. Mewn presennol sy’n llawn cymhlethdod a rhwystredigaeth, lle nad yw pethau mor sylfaenol hyd yn oed ag enwau lleoedd yn ddigon pwysig i haeddu gwarchodaeth – heb sôn am ddyfodol sy’n addo gwaeth o lawer – dim ond y gorffennol sydd yn ddiymwad; ein gorffennol ni yw hwn ac ni ddygir mohono oddi arnom.

Mae yna dynerwch yng ngwaith Alun Gibbard. Carwyn yr oen a welir ym mhenodau Cefneithin a’r Gwendraeth ac Aberystwyth, cyn iddo droi’n Garwyn y llew. Mae yna apêl gyson at farddoniaeth, ar ddechrau penodau ac yng nghorff y testun drwyddo draw. Mae Gwenallt fel petai’n gymeriad yn y llyfr, fel yr oedd ym mywyd Carwyn James, ac mae hynny’n fy nharo i fel peth gwir a chyfiawn.

Carwyn James yng ngwisg wen yr Orsedd (Gyda chaniatâd y teulu / Y Lolfa)

Eir i ryw ychydig o drafferth yn nes ymlaen, wrth drafod rhywioldeb Carwyn. Yn ogystal â’r cymdeithion llenyddol ffyddlon – Gwenallt, T H Parry-Williams a Kate Roberts (a oedd hithau yn destun cofiant dadleuol rai blynyddoedd yn ôl) – tynnir sylw hefyd at lyfrau gan Lorca a James Baldwin a oedd ym meddiant Carwyn James adeg ei farw. Mae’r ddau awdur godidog hynny, sydd hefyd yn adnabyddus am fod yn hoyw, yn ymddangos fel petai i dystio drwy ensyniad. Argraff gymysg a geir, felly, tua diwedd y gyfrol. Mae Alun Gibbard yn dyfynnu’r dyfarnwr rygbi enwog Nigel Owens, sy’n dweud wrtho nad ei le ef fel awdur yw pennu rhywioldeb person ar ei ran. Eto, dyw’r awdur ddim cweit yn gallu peidio â gwneud hynny. Mae rhywun yn synhwyro’r pwysau newyddiadurol dan yr wyneb, fel petai gohebu Cymreig neu Gymraeg yn rhy barchus yn gyffredinol – yn rhy ddaionus efallai – i ildio i faseidd-dra’r wasg dabloid Brydeinig, ac i lusgo unigolyn drwy’r mwd yn ystod ei fywyd, ond yn cael ei demtio ar hyd y llwybr hwnnw wedi i’r person farw. O ystyried y lle blaenllaw a roir i lenyddiaeth yn y llyfr hwn, efallai mai doethach fuasai pwysleisio natur amgenach y ‘gwirionedd’. Oherwydd yn y gyfrol drwyddi draw, yr argraff gyffredinol a geir o Carwyn James yw o ddyn yr oedd llenyddiaeth yn ddrych, yn her ac yn noddfa iddo hefyd – un o’r bobl hynny y bydd y byd bob amser, ar ryw wedd, yn destun siom iddo.

Mae Alun Gibbard yn llwyddo’n gelfydd i gyfleu cymhlethdod dyn a chwarddai â phawb a phob un ond a gadwodd iddo’i hun ganol distaw, aflonydd. Mae’r portread o gyfnod olaf bywyd Carwyn yn ddirdynnol drist ac fe’m cefais fy hun yn llawn cydymdeimlad ag un a lwyddodd yn rhyfeddol yn ei faes dewisol – hyfforddi unigolion i fynegi eu hartistri ar faes chwarae gwastad mwy neu lai, ac i ennill hefyd – ond a fethodd mor druenus yn ein maes gorfodol ni bob un, sef byw os nad yn hapus yna’n gytûn ‘ar dipyn byd / Ynghrog mewn ehangder sy’n gam i gyd’. Carwyn druan.

Wedi dweud hynny, yn yr apêl at farddoniaeth y mae un o wendidau’r gyfrol hefyd, dw i’n meddwl. Mae’r adran hir o deyrngedau a marwnadau iddo sy’n ymddangos yn union wedi i stori ei fywyd ddod i ben yn Amsterdam yn gadael argraff ryfedd. Dw i’n tybio mai bwriad yr adran honno oedd mynegi syniad o alar cymunedol neu genedlaethol, hyd yn oed. Mae hynny’n rhan o swyddogaeth barddoniaeth Gymraeg erioed, wrth gwrs, ac mae undod barddonol yn gallu creu effaith arbennig ac unigryw. Ond yn y fan hon, ac wrth i Carwyn newid, bron o un dudalen i’r nesaf, o unigolyn dioddefus yn eicon i’r oesoedd, mae’r ‘swyddogaeth farddonol’ yn fwy amodol ac mae yna deimlad o orfodi unffurfiaeth, neu unrhywedd, ar wrthrych y moli. Daw’r beirdd at ei gilydd i farwnadu ac, yn safon amrywiol y cerddi, ac yn yr amlygiad fel petai o ‘beirianwaith’ marwnadol y gynghanedd yn arbennig, a fu ar hyd y blynyddoedd yn ddigon macho ac yn ddigon secsist, ceir cip ar Gymru Gymraeg geidwadol a chyfyngus o strêt. Mae’n gip, efallai, ar Gymru nad oedd modd iddi lwyr gysuro hoff fab, er cymaint ei gariad ef tuag ati. (Ar ôl gorffen Carwyn: Yn Erbyn y Gwynt, es yn ôl at gyfrol ardderchog a phwysig Mihangel Morgan, Tair Ochr y Geiniog (1996), ac ailddarllen y stori ‘Claddu Wncwl Jimi’. Mae honno, sydd hefyd yn sôn am Gymro nodedig (lled-ddychmygol) yn marw ar ei ben ei hun yn Amsterdam, yn olwg bwysig ar haenen arall o’r profiad Cymraeg – haenen nad yw’n cael y sylw dyledus o hyd.)

Ond os dweud, drwy hynny, na lwyddir i lwyr adnabod y dyn yng nghyfrol Alun Gibbard, nid bai ar yr awdur yw hynny o angenrheidrwydd; mae’n arwydd yn hytrach o ddiffyg y cofiant fel ffurf, neu o ddiffyg mwy sylfaenol na hynny hyd yn oed, diffyg dynol ofnadwy ... Ac fe ellid dweud yr un peth, â mwy o bendantrwydd, dw i’n meddwl, am y darlun o Carwyn James sy’n deillio o gyfrol Alun Richards.

Mae Carwyn yn fwy argraffiadol ac yn fwy personol na chofiant Alun Gibbard, a’r awdur wedi treulio amser yng nghwmni’r gwrthrych. Ac eto, ceir y teimlad ar adegau nad oedd Alun Richards eisiau adnabod Carwyn James yn iawn, hyd yn oed pe bai modd iddo wneud. Fel gyda chyfrol Alun Gibbard, mae’r Gymraeg ei hun wrth wraidd pethau – ond fel negatif ffotograffig yn yr achos hwn. Absenoldeb y Gymraeg sydd yn llywio Carwyn ac mae hynny, yn ei dro, yn enghreifftio’r hollt hanesyddol rhwng dau begwn Pontypridd a Llanelli.

Ar flog ‘Nation Time / Cymru Sydd’, mewn erthygl am ddosbarth cymdeithasol, hunaniaeth a’r Blaid Lafur, mae Daniel Williams yn dweud fel hyn:

[T]he purpose of a movement based on a minority identity is to maintain and respect difference. The purpose of a movement based on the interests of the working class is to eradicate difference. The historic antipathy to Welsh nationalism within elements of the Labour Party can be traced to this divergence between class politics and cultural politics.

Mae’r Gymraeg ym mywyd Carwyn James yn dod dan bennawd ‘cultural politics’ i Alun Richards ac mae e’n llanw’r bwlch hwnnw â hanes diwydiannol, llafurol o Gwm Gwendraeth. Mae adran ddadlennol yn hynny o beth yn seiliedig ar ddyfyniad gan Dai Dan Evans, Prif Ysgrifennydd Glowyr De Cymru, sy’n sôn am y gwahaniaethau rhwng amodau gwaith y dwyrain a’r gorllewin ar yr adeg pan oedd tad Carwyn James yn löwr, yn y 1920au:

The difference between the leader and rank and filer in the anthracite area is much less in the anthracite area [Cwm Gwendraeth] than in the steam coal [pyllau glo cymoedd y dwyrain]. In the anthracite area, if you wanted to dismiss a man who was a bit of a troublemaker, they would have to take possibly a hundred men out before him (because of the Seniority Rule). Consequently, you see, you had lambs roaring like lions in the anthracite, but they had to be a lion to bloody well roar like a lion in the steam coalfield.

Mae hwn yn ddyfyniad digon rhyfeddol, dw i’n meddwl. Yn un peth, mae hi’n destun syndod, i mi beth bynnag, bod undebwr a Llafurwr mawr yn feirniadol o’r ffaith na ellid yn hawdd iawn ddiswyddo gweithiwr yn y gorllewin, neu bod y bwlch rhwng arweinydd a gweithiwr cyffredin yn gymharol fychan. Y mae hefyd yn fynegiant o’r hyn y gellid dweud ei fod yn un o brif nodweddion y gweithiwr gorthrymedig a’r person wedi’i goloneiddio fel ei gilydd – sef y duedd i geisio ‘goruchafiaeth mewn caledi’.

Mae hi’n rhyfeddach wedyn, ond yn anochel hefyd, efallai, bod Alun Richards yn defnyddio’r dyfyniad hwn fel y gwna. Mae’n ei dderbyn fwy neu lai yn ddigwestiwn ond, ar ben hynny, yn ei wneud yn rhyw fath o ffon fesur – a ffon guro hefyd – er mwyn beirniadu amgylchiadau teuluol a diwylliannol Carwyn James, a hynny yn y gyfrol drwyddi draw.

Mae e’n cyfeirio mewn un man at dad Carwyn yn marw mewn gwth o oedran ac yn cymharu hynny â’r cymunedau ym mhyllau glo’r dwyrain lle roedd pob un yn adnabod teulu â thad neu frawd a fu farw’n ifanc iawn. Does dim angen dweud mor ofnadwy o drist yw hynny, ac mae’r ecsbloetio a fu ar y poblogaethau hynny yn drosedd gyfalafol, os nad trefedigaethol, erchyll. Ond, yn y cyd-destun hwn, mae Alun Richards yn defnyddio’r ffaith na fu i Carwyn James golli’i dad yn ifanc fel rhywbeth i’w ddal yn ei erbyn. Mae cyfrol Alun Gibbard, ar y llaw arall, yn ei gwneud hi’n glir nid yn unig bod Michael James wedi dioddef yn ddifrifol o ganlyniad uniongyrchol i’w waith fel glöwr ond bod brwydrau am ‘compo’ i ddioddefwyr anhwylderau cronig yn rhan annatod o fywyd bob dydd i deuluoedd Cwm Gwendraeth. Heb sôn am y ffaith mai dyna oedd pennaf reswm mam Carwyn dros ddymuno gweld ei mab yn gwneud unrhyw beth ond mynd i weithio fel glöwr ...

Canlyniad hyn yn llyfr Alun Richards yw gwneud i Gefneithin hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif swnio fel man gwyn – yn hytrach na man a oedd, gan mwyaf, dan ddwst du – ac i Rydlewis, ymhellach fyth o steam coal y dwyrain, swnio fel gardd Eden.

Y mae hefyd yn gwneud y feirniadaeth o gymuned a magwraeth Carwyn yn feirniadaeth drwy estyniad o’r gŵr ei hun. Caiff Carwyn aml i deitl a llysenw gan Alun Richards – fe’i gelwir yn ‘Countryman Collier’, ‘Laird of Cefneithin’, ‘Head Prefect’ a ‘Just William’ ymhlith eraill – fel petai i ddweud, ‘Not working class enough, boyo, not rough enough, not honest enough.’ Fe’m cefais fy hun yn meddwl ar sawl achlysur bod defnyddio amgylchiadau diddewis rhywun – a’u sgiwio nhw hefyd – i sgorio pwyntiau gwleidyddol yn beth digon shabi, a bod gwneud hynny yng nghyd-destun bywyd un a oedd yn ffrind yn waeth fyth.

Mewn cyfweliad gyda’r Wales Arts Review yn 2015, fe ddywedodd y beirniad a’r awdur Dai Smith hyn:

Yes. Well, Alun – who called himself Alan; and he always called Carwyn, Car-win, deliberately to his face. Alun hated the idea of devolution and despised the Welsh language as a mode of production for the over-privileged; thought devolution was disastrous, and Carwyn, who was very much the opposite of all that, were deeply and intimately friends. Both born in 1929, both served national service in the navy etc. Alun says at one point in the book that Caryn [sic] ‘was the kind of Welshman that made you proud to be a member of the human race.’ And I think that just about gets it.

A dyma weld, felly, yr hyn sy’n digwydd yma go iawn – yr hyn y bydd y darllenydd Cymraeg yn ei synhwyro ond a fydd yn anweledig fel arall. Mae’n rhaid dilorni gwreiddiau dosbarth gweithiol Carwyn James er mwyn cyfiawnhau’r safbwynt gwaelodol am y Gymraeg, er mai nonsens pur, wrth gwrs – a digon di-chwaeth eto – fyddai dadlau bod cymunedau Cwm Gwendraeth y 1920au a’r 1930au yn unrhyw beth tebyg i ‘over-privileged’. Ac am Rydlewis, wel, cael eu gorfodi i symud o ’na i osgoi tlodi wnaeth teulu Carwyn James. A hyn sy’n gwneud i mi feddwl nad oedd gan Alun Richards ddiddordeb mewn adnabod ei gyfaill yn llawn – heb sôn am y cipolwg a geir ar eu cyfeillgarwch: bûm yn pendroni beth ddywedai hynny amdanaf i pe bawn i’n mynd ati’n fwriadol i gamynganu enwau ffrindiau o ddiwylliannau eraill, a hynny yn eu cwmni ... 

Mae Alun Richards fel petai’n enghraifft berffaith ei hun – fel negatif ffotograffig eto – o’r hyn a ddywed am y Gymru Gymraeg, yr ‘Establishment Wales, which, in my view, refuse[s] to admit that there is no greater dividing line than that formed by the language’. Hynny yw, cafodd gyfeillgarwch gŵr hynod – gŵr a oedd yn seren mewn maes a oedd, ac sydd o hyd, yn gymaint o ‘Establishment’ â’r un – ond cyfrifoldeb Carwyn oedd nesu ato ef, nid vice versa. Ni chafodd ei demtio erioed i glosio fwyfwy at ei gyfaill drwy ddysgu ei iaith, na hyd yn oed drwy adael i gariad amlwg Carwyn James at yr iaith honno, a’i lle canolog yn ei hunaniaeth, lywio ei farn yntau amdani. Mae hi hefyd yn bosib, wrth gwrs, mai tipyn o niwsans oedd i Carwyn James – un o’r Cymry ‘over-privileged’, hynny yw – lwyddo cystal mewn maes a oedd yn rhan mor bwysig o hunaniaeth Gymreig Alun Richards ei hun ...

Wedi dweud hynny, teg yw nodi hefyd bod Dai Smith, yn y geiriau uchod, yn camddyfynnu llinell olaf cofiant Alun Richards. Dyma fel y mae honno’n ymddangos yn y llyfr: ‘What also needs to be said is that he [Carwyn] was a Welshman who made you glad you were a member of the human race.’ Ychwanegiad Dai Smith, felly, yw’r cymal ‘the kind of Welshman ...’, er bod gweddill y cyfweliad yn folawd – aneironig, allwn ni ddim ond tybio – i rinweddau cultural criticism.

Yn llyfr Alun Richards, felly, ac er ei fod e hefyd yn dyfynnu Gwenallt, yr un peth na wneir yw ystyried y gallai’r Gymraeg fod yn fyd cyflawn. Ac mae hi’n anodd peidio â meddwl wedyn nad haerllugrwydd – neu waeth – yw ei awgrym bod Carwyn James wedi camddarllen Gwenallt:

Perhaps Carwyn never gave sufficient weight to the early life of his favourite writer, Gwenallt, who wrote with such passion: ‘Capitalism was something living to us [...]’ Carwyn, like his party [fe safodd Carwyn James dros Blaid Cymru yn Llanelli yn 1972], never really came to terms politically with the rest of us, those who see no road back to that homogenous society and will have to fashion the future out of the Wales and the Welsh people who now exist, irrespective of their antecedents, and ever mindful of their rights to speak whatever language they choose, free of stigma and without restriction in the employment they seek.

Braf fyddai gallu dweud bod yr agwedd a fynegir yn y fan hon yn arwydd bod Carwyn yn dangos ei oed ond mae’r dybiaeth am ‘fanteision economaidd’ y Cymro Cymraeg yn y farchnad waith – fel y stori am y Sais yn cerdded i mewn i dafarn yng Nghymru – yn dal yn fyw iawn i nifer, ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach. Rhyfedd hefyd yw nodi mai dadl o blaid diflaniad y Gymraeg, o ddilyn y trywydd i’r eithaf, oedd canfyddiad Alun Richards o ‘fantais economaidd’ yr iaith, yn hytrach na dadl dros sicrhau bod y fantais honno ar gael i bob un o drigolion Cymru.

Mae’r dyfyniad uchod hefyd yn fynegiant clasurol o rwystredigaeth y Cymro angloffon, wrth gwrs, a’i ymchwil yntau am wreiddiau. Ac mae peth o dristwch y Gymru honno i’w glywed yn y gyfrol – ond mae’n rhaid gwrando’n astud. Oherwydd y mae’r tristwch hwnnw hefyd yn fynegiant ar letraws o’r wedd imperialaidd ar feddylfryd y Chwith Brydeinig. Hynny yw, does yna ddim amheuaeth ym meddwl Alun Richards nad y ‘rest of us’, y rheiny nad ydyn nhw am weld ffordd yn ôl i’r ‘homgenous society’, a fydd, ac a ddylai yn wir, ddiffinio a llywio cymdeithas Cymru yn y dyfodol. Ac mae atseiniau hyn oll i’w clywed yn y ddadl ddiweddar am addysg ddwyieithog yn Llangennech ac mewn mannau eraill.

Ond os sôn am dristwch y Gymru angloffon, ar ôl sôn am dristwch y Cymro Cymraeg, efallai y gallwn sôn hefyd am bethau sy’n gyffredin i’r ddau – a’r syniad mai mewn dioddefaint, efallai, y mae Cymru’n un. Yn y ras, orfodol, i gyrraedd gwaelod cynghrair hapusrwydd: y Cymro dosbarth gweithiol Llafurol sy’n gweld cyd-weithiwr glo yng ngorllewin Cymru yn ‘fwy ffortunus’ nag ef, ac sydd yn ymfalchïo yn ei allu i ruo fel llew yn y pyllau glo didostur, a’r Cymro Cymraeg, wedyn, fel y gwyddom yn iawn, sy’n cael rhyw hapusrwydd pruddglwyfus (y math mwyaf nobl o hapusrwydd, mae’n siŵr) mewn cymharu ei dynged â phobloedd ac ag achosion ledled y byd ond sydd yn gweld, o wneud hynny, nad ydyw’n arbennig o lwyddiannus neu unigryw hyd yn oed fel lleiafrif.

A dyma ni’n ôl, felly, ar y maes chwarae gwastad honedig, a gwahanol raddfeydd colled. Roedd Carwyn, yn ei eiriau ei hun, yn ‘doomed to play rugby’ – camp Seisno-Brydeinig par excellence – a’i faes chwarae yn hynny o beth oedd Prydeindod.

Doedd tad a chymdeithion Carwyn yng Nghefneithin ddim yn gallu rhuo yn y maes glo mwy nag y llwyddodd gweithwyr cymoedd y dwyrain i ruo’u ffordd allan o’u tlodi nhw oddi mewn i gyfundrefn Seisnoganolog. Ond fe lwyddodd Carwyn James ar y maes rygbi, a’i orchest fwyaf oedd gwneud i dîm o Lewod Prydain ruo mewn modd na chlywyd ei debyg na chyn nac ers y daith i Seland Newydd yn 1971 (y ‘British and Irish Lions’ yw enw’r tîm ers 2001, ar ôl i’r awdurdodau ddarllen yn rhywle bod Iwerddon yn wlad annibynnol ers yn agos i ganrif).

Gellid dweud bod rygbi fel y’i chwaraeir ym Mhrydain yn gêm drefedigaethol, felly – o’i dechreuadau ar gae chwarae ysgol fonedd Rugby i bresenoldeb bythol y Dywsoges Anne, dan ei blanced dartan, yn Murrayfield. Y Principality Stadium, wedyn, yng Nghaerdydd, a’i sedd ledr arbennig i’r tywysog balch yn ei grys coch, sy’n cymeradwyo’n frwdfrydig bob amser yng ngolwg y camerâu. I fyny’r M4, yn HQ Twickenham, y ‘Rugby Football Union’ yw undeb rygbi Lloegr; ganddyn nhw mae’r hawl symbolaidd i weinyddu’r gêm a’i hysbryd a dim ond undebau lleol sydd gan Gymru, yr Alban, Iwerddon ac ati. Yn y cyd-destun hwnnw, mae ‘cenedlaetholwyr undydd’ rygbi Cymru yn enghreifftio llwyddiant syfrdanol trefn sydd yn gwybod yn iawn pa fuddugoliaethau y mae hi’n iawn iddyn nhw eu hennill.

Carwyn James yn hyfforddi'r Llewod

Carwyn James yn hyfforddi'r Llewod (Llun: Colorsport)

Pinacl y gêm o hyd, i chwaraewyr a hyfforddwyr dawnus ym Mhrydain, ac i’r cyfryngau hefyd, yw’r Llewod. Mae’r tîm hwnnw yn ddatganiad gyda’r huotlaf o’r gred mai Prydeindod yw’r cyflwr naturiol. Y tîm hwnnw sydd yn chwarae ar y maes gwastad, hwnnw sy’n trosgynnu pob anniddigrwydd lleol. Bob pedair blynedd, felly – ychydig yn fwy aml na chylch pum-mlynyddol ein hetholiadau cyffredinol erbyn hyn – fe ddown at ein gilydd i wireddu gweledigaeth Theresa May, neu pwy bynnag sydd wrth y llyw yn Llundain ar y pryd, o’r ‘family of nations’ cytûn.

Os goddefir i mi barhau i leisio barn, felly, fel rhyw gynghorydd UKIP ceiniog a dimai yn cael rhwydd hynt ar Question Time – a heb amau cymhellion unigol unrhyw gefnogwr neu chwaraewr chwaith – dyna pam y mae pêl-droed Cymru yn endid radical, a rygbi Cymru yn endid corfforaethol, breningarol, ceidwadol. Ac mae yna bobl sy’n gwybod hynny’n iawn, wrth gwrs; maen nhw’n codi llais, yn gynyddol erbyn hyn, o blaid un tîm pêl-droed i Brydain gyfan, tra bod Undeb Rygbi Cymru yn fwy na bodlon peryglu datblygiad a llwyddiant ei dîm ei hun, y tîm sydd yn raison d’être iddo, er mwyn hwyluso uchelgais y siwpra-dîm Prydeinig.

Mae pêl-droed Cymru yn ddyhead fel petai i fod yn oedolyn – er bod ei annibyniaeth yn fregus ac yn ddibynnol, ymysg ffactorau eraill, ar uwch-gorfforaeth lygredig ac anwadal FIFA. Mae rygbi Cymru, ar y llaw arall, fel mab sy’n dioddef o ddiffyg cariad tad, yn dyheu am ffafrau un nad yw’n poeni amdano, ac sydd yn meddwl mai trwy ddisgleirio o bryd i’w gilydd ym mhriod faes y rhiant yr enillith ei sylw.

Pwt o ddarogan hefyd, felly. Mae hi’n 2035 ac yng Nghwpan Rygbi’r Byd mae Cymru’n brwydro’n lew, yn unol â’r adnoddau a’r strwythurau, dirywiedig bellach, sydd ar gael i’w chwaraewyr. Ond, a bod yn onest, maen nhw eisoes wedi gwneud mwy na’r disgwyl. Maen nhw wedi cyrraedd y prif dwrnament. Atgof hiraethus yn unig yw’r hyn y gellid ei alw’n waddol Carwyn James – sef syniad o ennill gêmau drwy gyd-gelfyddydwaith corff a phêl.

Ond gwaeth o lawer yw pethau y flwyddyn wedyn. Mae Lloegr yn cynnal Pencampwriaeth Bêl-droed Ewrop ac, yn ogystal â bod yn 500 mlwyddiant y deddfau a unodd Gymru i Loegr, yn ddiwahân hyd byth, mae hi hefyd yn 40 mlynedd ers i bêl-droed hefyd ‘ddod adre’, i’r HQ, yng nghystadleuaeth Ewro ’96 – a’r dyddiad hwnnw sy’n cael y flaenoriaeth, wrth gwrs. Mae yna ddau chwaraewr o Gymru yn y garfan. Dyw’r naill na’r llall wedi gweld mwy nag ambell glip o rediad anhygoel Cymru yn Ewro 2016 ond maen nhw’n gwybod geiriau’r gân a gyfansoddwyd adeg y gystadleuaeth flaenorol yn 1996: ‘Three lions on the shirt ...’ A does yna ddim amheuaeth mwyach, os bu erioed mewn gwirionedd, pa lewod sy’n rhuo go iawn.


Mae Owen Martell yn Gyd-olygydd O'r Pedwar Gwynt.


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


Mae hi fel petai’n rhan o dynged gwledydd bychain fel Cymru i chwilio am gysur ar feysydd ymddangosiadol wastad fel y maes chwarae

Dyddiad cyhoeddi: 29·04·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Iolo ap Dafydd

Mae ffiniau nifer fawr o wledydd Canolbarth Asia a’r Dwyrain Canol wedi symud dros y canrifoedd. Ac mae llawer o bobl y rhanbarth yn parhau i gondemnio imperialwyr Ffrengig a Phrydeinig am ffiniau a gaiff eu hystyried yn rhai ffug. Syria,…

Cyfweld


Dyl Mei a Marged Tudur

Mae Rhywbeth i’w Ddweud yn gyfrol o ysgrifau am ddeg o ganeuon gwleidyddol a ysgrifennwyd rhwng 1979 a 2016. Ymysg y deg mae ‘Gwesty Cymru’ Geraint Jarman a ‘Gwlad ar fy Nghefn’ gan Datblygu. Dewisodd Dyl Mei ysgrifennu ei gyfraniad yntau i'r gyfrol am 'Talu Bils' gan Rodney Evans. Un o'r golygyddion, Marged…

Dadansoddi


Ned Thomas

Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a daeth llu o fedelwyr i Barcelona heb i'r awdurdodau sylwi bod dim anarferol ar y gweill. Ymunodd nifer o arweinwyr y dosbarth canol â'r gwrthryfel, yn eu plith y clerigwr Pau Claris, a gofir hefyd am iddo sicrhau…

Adolygu


Mared Llywelyn

Hawdd dychmygu bod llawer un ar bigau’r drain wrth weld taith Mwgsi yn dynesu a rhywun yn ymwybodol y byddai llygaid pawb ar y cynhyrchiad. Roedd yn addo bod yn brofiad anodd ac emosiynol ar y gorau, oherwydd nid stori wneud yw hon ond stori wir.…

Dadansoddi


Dylan Huw

Yn ei waith dylanwadol Cruising Utopia, mae’r theorïwr José Esteban Muñoz yn galw am ddealltwriaeth o fodolaeth hoyw â gyriad iwtopig yn ganolbwynt iddi. Mae e’n defnyddio 'criwsio' am ryw fel trosiad ar gyfer ei weledigaeth ef o’r modd y gallwn ddod i ddeall y potensial i gymunedau LGBT+ sy’n deillio o…

Cyfansoddi


David Elwyn Lewis

Ymlwybrodd y trên trwy faestrefi Warszawa, heibio'r adeiladau aml-lawr concrid a dienaid. Ychydig a wyddai'r bachgen ar y pryd bod y ddinas hon, gwta ugain mlynedd ynghynt, ac fel cynifer o rai eraill, wedi ei difa'n llwyr. Ar ôl iddynt gyrraedd y brif orsaf,…

Adolygu


Iwan England

Fe’m magwyd i lai na dau gan metr o ddrws ffrynt cartre’r awdur, Huw Lewis. Roedd ei blentyndod e’n cwmpasu’r chwedegau a saithdegau’r ganrif ddiweddaf, cyfnod allweddol yn hanes pentref Aberfan. Dyma’r adeg pan lwyddodd y gymuned i ailadeiladu, gan glirio olion trychineb 1966 a sefydlu…

Cyfansoddi


Ffion Dafis

Er i mi ddatgan, wrth drafod y Mileniwm mewn dosbarth Bywydeg yn 1983, y byddwn – a minnau’n mynd i fod mor hen â 28 oed erbyn y flwyddyn dyngedfennol honno – yn briod â dau o blant erbyn hynny, tydw i erioed wedi gwirioneddol…