Stefan Collini


Speaking of Universities

Verso, 304tt, £16.99, 2017

Y ffatri ddysg
Adolygu

Y ffatri ddysg


Gideon Koppel

Amser darllen: 15 munud

29·11·2017

Dw i ar awyren Ryanair o Chania, ar ynys Creta, i Stansted. Er bod y profiad yn ddigon anghysurus – cawn ein gyrru fel anifeiliaid ar hyd y maes awyr a’n gorfodi i aros heb eglurhad fan hyn fan draw – mae yna deimlad o ryddhad ymysg y teithwyr. Caiff ein taith fynd yn ei blaen. Ar y bwrdd mawr yn y derfynfa, rhestrwyd hediadau un ar ôl y llall â’r ddedfryd ‘Cancelled’ nesaf atynt.

Dyma ni, o’r diwedd, yn codi i’r awyr. Ond ar ôl bod i fyny am ddeng munud ar hugain, dw i’n barod yn dechrau mynd o ’ngho’. Mae fy ngolwg wedi ei sodro ar yr headrest PVC lliw melyn-banana o fy mlaen. Ar fy nglin mae copi clawr caled o lyfr Stefan Collini, Speaking of Universities. Mae’r llyfr yno nid am fy mod yn sicr o’i ddarllen ond am y dylwn i ei ddarllen. Rywsut, mae ei gael wrth law yn gwneud i mi deimlo ychydig yn llai pryderus, fel petai’r weithred o’i dynnu o’r bag yn ystyrlon ynddi’i hun. Ond er bod y llyfr hwn yn drafodaeth o fyd sydd yn bwysig iawn imi, am ryw reswm dw i’n ei chael yn anodd canolbwyntio ar drafodaeth mor uniongyrchol ar bolisïau a phroblemau. Yn lle hynny, dw i fel petawn i’n dyheu am aros mewn rhyw gyflwr naïf – fel petawn i hefyd wedi deall y bydd y cyflwr hwnnw’n fwy hwylus o ran bwydo fy nghwyno beunyddiol ...

Chimera gan Kobie Solomon, ar wal yn Detroit, Michigan (Hawlfraint: Kobie Solomon)

Chimera gan Kobie Solomon, ar wal yn Detroit, Michigan (Hawlfraint: Kobie Solomon)

Ac mae’r llyfr yn tynnu gormod o sylw: dyma fi, un o’r darlithwyr prifysgol uchel-ael yna sy’n darllen y Guardian, ac yn dychwelyd o wyliau yng Nghreta ar awyren rad. Rheitiach fallai fyddai cadw’r llyfr ar fy nglin, o olwg fy nghyd-deithwyr. Y tu ôl i mi, clywaf ddarnau o sgwrs – darnau yn unig am fod yr headrest PVC lliw melyn-banana yn amsugno’r geiriau: ‘Beca’, ‘prifysgol’, ‘neuadd breswyl’, ‘y gyfraith’, ‘hyfryd’, ‘Bryste’, ‘diogel’, ‘cynghrair’, ‘benthyciad’, ‘ugain’, ‘uchaf’, ‘hwyl’. Daw’r sgwrs i ben â chyhoeddiad awdurdodol gan griw’r awyren am paninis. Nid yn unig y mae’n hawyren ni wedi esgyn ond mae yna ddewis o paninis ar ei bwrdd – ‘Canoldirol’ neu ‘Ham a Chaws’. Os archebwn ni’n syth fe fyddan nhw’n boeth ac yn flasus erbyn i ni hedfan, yn briodol ddigon, dros yr Eidal. Mae’r cyhoeddiad hwn yn para am ddeng munud – mae paninis yn rhan bwysig o’r ‘profiad Ryanair’, ac mae yna lawer i’w esbonio: mae modd eu prynu nhw yn rhan o’r ‘Meal Deal’ neu’r ‘Snack Pack’, ac ychwanegu ‘Fruit Shoot’ at hwnnw am ddim ond dwy bunt ychwanegol. Neu beth am ddewis y ‘Gourmet Snack Pack’? Sylwaf ar y pennawd ‘Make it a Steal’ - mae hwnnw’n cynnig ‘Dwy ddiod boeth a phecyn i’w rannu o Mini Fingers neu Giant Buttons’.

A dyma fi’n dechrau pendroni eto am yr erthygl hon, ac yn ceisio gwneud defnydd deallus o’r cysylltiad ffonetig rhwng Collini a panini.

Mae un cyswllt amlwg, er na fyddai hwnnw’n debygol o wrthsefyll unrhyw graffu go iawn, sef y ffordd y mae prifysgolion ym Mhrydain bellach yn hyrwyddo cyfalafiaeth bron yn ddiedifar – cynigir cynnyrch neu wasanaeth a hynny er mwyn gwneud elw ariannol.

Fel Ryanair, digon chwerthinllyd yn aml yw eu hagwedd at farchnata eu hunain a’u cyrsiau. Mewn un brifysgol lle bûm yn gweithio, penderfynwyd y dylid sbriwsio’r llyfrgell er mwyn apelio’n well at ddarpar fyfyrwyr: rhoddwyd cynllun ar waith i wared llyfrau er mwyn gwneud lle i bethau a ystyrid yn fwy atyniadol, pethau fel peiriannau gwerthu diodydd. Ychwanegwyd bagiau ffa, er mwyn i ddefnyddwyr y ‘llyfrgell’ allu bwyta, yfed a sgwrsio’n gysurus.

Digon posib hefyd bod prifysgolion wedi dilyn esiampl cwmnïau hedfan wrth fynd ati i greu sloganau. Fel hwn gan United Airlines: ‘It’s time to fly. Life is a journey, travel it well. Fly the friendly skies of United.’ Yn ddiweddar, i roi un enghraifft, mae Prifysgol Essex wedi ceisio diweddaru’r ddelwedd ohoni’i hun fel sefydliad cyffrous a radical. Ac mae ganddi sloganau pwrpasol: ‘On the side of people with guts’ a ‘Home to the brave and the bold’.

Dyma’r brifysgol, dan arweiniad yr Is-Ganghellor Anthony Forster, y bu’n rhaid i’r meddyliwr, yr awdur a’r academydd dylanwadol Marina Warner ei gadael, am nad oedd yn bosib iddi barhau i weithio yno. Yn eironig, cafodd y driniaeth amhriodol o Marina Warner a’r modd y cafodd ei gorfodi i adael y brifysgol hon eu disgrifio mewn ysgrif ‘ddewr’ a ‘beiddgar’ o’r enw ‘Why I Quit’ (2014), a gyhoeddwyd yn y London Review of Books. Gellir ystyried yr ysgrif honno’n gydymaith ysbrydol i lyfr Collini.

Mae esblygiad y berthynas rhwng academyddion, rheolwyr prifysgol a’r Llywodraeth yn rhan bwysig o Speaking of Universities. Llwydda Collini i osgoi’r sinigiaeth sydd yn llechu yng nghefn fy meddwl i trwy ganolbwyntio ar ffeithiau – ac mae rhai o’r rheiny, hyd yn oed ar ffurf amrwd, yn ddigon i aflonyddu unrhyw un. Sioc i mi oedd clywed, er enghraifft, bod Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, sef y system fiwrocrataidd (REF yn Saesneg) a gyflwynwyd gan y Llywodraeth i asesu ‘ansawdd’ yr ymchwil a wneir mewn sefydliadau addysg uwch, wedi costio rhyw £250 miliwn. Mae’r broses hon wedi dominyddu sawl agwedd ar fywyd prifysgol ers dros ddegawd, ac eto does yna ddim tystiolaeth ei bod wedi cyflawni unrhyw beth o werth – ar wahân i wobrwyo prifysgolion sydd wedi llwyddo i fod yn gynhyrchiol yn y meysydd hynny a ystyrir gan y Llywodraeth, am resymau goddrychol, yn rhai ‘da’.

Un elfen o broses yr REF yw mesur effeithiau cyhoeddus ehangach y prosiectau ymchwil a gyflwynir gan adrannau prifysgol. Er y gellir dadlau ei bod hi’n rhesymol i brifysgolion fod yn atebol, mewn rhyw fodd, i gymdeithas ac y dylent allu dangos rhinweddau eu prosiectau ymchwil, yn ôl Collini:

it has to be recognised that these are, necessarily, indirect and long-term. Making it obligatory to pursue certain narrow forms of economic and social impact in the short term ends up damaging the quality of research and thereby reducing its benefit to society.

Ceir goblygiadau gwleidyddol dwys wrth fesur ‘effaith’ yn y ffordd hon. ‘The truth is,’ meddai Collini ymhellach, ‘that “impact” [...] is another metric designed to redirect academic research in politically approved directions.’ Mewn geiriau eraill, trwy gyfrwng y polisi hwn, mae’r Llywodraeth wedi dod o hyd i ffordd gudd o danseilio’r annibyniaeth ddeallusol y mae prifysgolion ac academyddion wedi llwyddo i’w chynnal dros y blynyddoedd, gan sicrhau erbyn hyn mai’r Llywodraeth ei hun sy’n pennu’r hyn sy’n ‘dda’ a’r hyn a ddylai felly dderbyn ‘nawdd ymchwil’.

Mynd yn fwy hurt y mae’r ymdrech hon gan lywodraethau i sicrhau bod prifysgolion ac academyddion unigol yn atebol am ‘ddefnyddioldeb’ honedig eu hymchwil - a defnyddioldeb yr hyn y maent yn ei ddysgu. Defnyddir ystyriaethau am gyflogaeth a ‘defnyddioldeb’ cwrs wrth gystadlu am swyddi maes o law i gyfiawnhau cynnal neu wared cyrsiau. Dyma’r math o resymegu, meddai Collini, ‘that leads us to say that the value of playing Beethoven’s piano sonatas is attested by the way it helps to make us better typists’. O ganlyniad, diddymir cyrsiau yn gyson er mwyn rhoi blaenoriaeth i gyrsiau newydd mwy bwriadol boblogaidd – nid o ganlyniad i ystyriaethau deallusol neu addysgegol, ond fel adwaith uniongyrchol i argyfyngau economaidd. Dw i fy hun wedi gweld hynny’n digwydd fwy nag unwaith, ac ni fu’r un o’r cyrsiau hynny’n llwyddiant; yn wir, effaith y newidiadau oedd esgor ar fwy o lanast.

Un o ganlyniadau’r ffordd gyfredol o fesur yr hyn y mae prifysgolion yn ei wneud yw’r hierarchaeth anochel sydd bellach yn bodoli – mesur statws un brifysgol yn erbyn un arall, a gwerth addysg un person o’i gymharu ag addysg rhywun arall. Mae’r hierarchaeth hon, a gyhoeddir ar ffurf cynghrair, mor amrwd â’r gystadleuaeth rhwng timau chwaraeon. Un ffordd o sicrhau safle uchel yn y gynghrair yw gosod gofynion uchel, hynny yw, graddau uchel, ar ddarpar fyfyrwyr sy’n ymgeisio am le. Mae hynny’n awgrymu mai’r prifysgolion ar frig y gynghrair yw’r rheiny sy’n denu’r myfyrwyr gorau. Gellir rhesymu ar sail hyn mai’r prifysgolion sydd ar frig y rhestr yw’r rheiny sydd hefyd yn denu’r myfyrwyr mwyaf cyfoethog.

Dadleua Collini o blaid polisïau a strategaethau a fydd yn datblygu system addysg uwch gref a hygyrch – nid strategaethau sy’n cadarnhau statws llond llaw o brifysgolion rhagorol. Dyfynnir ganddo’r addysgegwr uchel ei barch, y diweddar Syr David Watson:

It is important to recognise that even the most powerful institutions can’t really go it alone. At some stage and for some important purposes, every institution is going to rely on the strength and reputation of the system as a whole.

Serch hynny, cynyddu y mae’r dulliau ar gyfer mesur ‘llwyddiannau’ prifysgolion. Mae’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol bellach, yn ôl pob sôn, yn adlewyrchu barn myfyrwyr am ansawdd eu cyrsiau. Unwaith eto, y cyfiawnhad dros wneud hyn yw cyfrannu at atebolrwydd cyhoeddus, helpu i lywio dewisiadau darpar fyfyrwyr a darparu data sy’n cynorthwyo sefydliadau i wella ‘profiad y myfyriwr’. Ond sut gellir disgwyl i fyfyrwyr farnu gwir ansawdd eu cwrs pan y gall gymryd misoedd os nad blynyddoedd i’r profiad hwnnw setlo a dod i’r amlwg ym mywyd yr unigolyn? A sut gellir disgwyl i fyfyrwyr gwblhau asesiad gwrthrychol o’u cyrsiau os yw rhai prifysgolion, sydd am wella’u sgôr, yn cynnig cymhellion penodol i’w myfyrwyr gwblhau’r holiaduron mewn modd ffafriol? Nid cyfrinach chwaith yw bod rhai prifysgolion yn defnyddio canlyniadau’r holiaduron myfyrwyr hyn er mwyn tynnu sylw at aelodau unigol o staff sydd yn ‘tanberfformio’, er mwyn eu bygwth â chamau disgyblu. A does dim angen rhyw lawer o ddychymyg wedyn i greu darlun o’r amgylchiadau gwaith annymunol a all ddeillio o’r fath ddulliau rheoli. Wedi’r cyfan, fel y dywed Collini, ‘The paradox of real learning is that you don’t get what you “want” - and you certainly can’t buy it.’

Bellach mae fel petai’n rhan gydnabyddedig o ddiwylliant prifysgolion eu bod nhw’n gwerthu eu hunain a’u cyrsiau mewn ffyrdd sy’n gwneud i addysg – ac felly i ddysg – ymddangos fel nwydd. Mae newidiadau i bolisïau economaidd yn y maes, o ran y modd y caiff prifysgolion eu hariannu, ac erydiad y ddarpariaeth addysgol o’r pwrs cyhoeddus, yn ganolog yn hyn o beth. Ond hyd yn oed ar ôl darllen Speaking of Universities, rhaid i mi gyfaddef nad ydw i’n gwbl sicr o hyd o effeithiau polisïau’r Llywodraeth. Yn nhermau Ryanair, ai ‘Meal Deal’ sydd dan sylw ynteu ‘Make it a Steal’?

Wrth geisio tafoli Speaking of Universities, nid yw’n hollol glir i mi a yw’r materion hyn i gyd yn ymwneud â phrifysgolion ‘y DG’ ynteu brifysgolion ‘Seisnig’. (Mae gan yr Alban a Chymru elfennau polisi gwahanol, wrth gwrs.) Ac wrth sôn am ‘lywodraeth’, nid yw’n amlwg bob amser at ba lywodraeth y cyfeirir. Ond o ystyried yr holl wybodaeth fiwrocrataidd a thechnegol yr ymdrinnir â hi yn y llyfr, gallaf weld nad ar Collini y mae’r bai ond arnaf i, a f’anallu, neu fy niffyg amynedd i, pan ddaw hi’n fater o amsugno’r math hwnnw o drafodaeth.

Ac eto, onid yw strwythurau a hyd yn oed deitlau’r cynlluniau llywodraethol mor chwit-chwat ag amserlen Ryanair ac yn cyfrannu at y dryswch? Ystyriwch yr enwau a fu ar yr adran lywodraethol sy’n gyfrifol am addysg uwch. Ym 1992, yr ‘Adran Addysg a Gwyddoniaeth’ oedd yr enw. Ym 1995, yr ‘Adran Addysg a Chyflogaeth’. Chwe blynedd wedi hynny, yr ‘Adran Addysg a Sgiliau’ a gafwyd, ac roedd hi’n chwe blynedd arall cyn i’r gair ‘Addysg’ gael ei dynnu oddi yno’n llwyr, er mwyn rhoi i ni yr ‘Adran Arloesi, Prifysgolion a Sgiliau’. Cafodd y teitl hwnnw ddwy flynedd cyn cael ei newid eto – i’r ‘Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau’. Mae’r ansefydlogrwydd hwn yn arwydd, siawns, o ryw fath o wallgofrwydd sefydliadol.

Ceir crynodeb defnyddiol gan Collini yn y gyfrol o’r newid cyllidol a welwyd ym myd prifysgolion:

The distinction between private and public universities in the UK is becoming blurred given, first, that some erstwhile public universities have since 2012 received little in the way of direct government subsidy and are so heavily dependent on the income from loan-backed fees; and, second, that approved private institutions can now get the greater part of their revenue from exactly the same source.

Mae ei ymateb i drafodaethau polisi yn ddwys a llwydda hefyd i osgoi’r dull gwleidyddol arferol (a diflas) o gynnig ffeithiau er mwyn ateb neu wrth-ddweud ffeithiau eraill. Er na all osgoi tynnu sylw at flerwch y llywodraeth glymblaid – a’u polisi trychinebus o roi system o fenthyciadau yn lle’r hen grantiau bloc – mae Collini’n datod y dadleuon â gogwydd mwy athronyddol. Wrth drafod ffioedd myfyrwyr, er enghraifft, mae’n trafod nid yn unig o safbwynt polisi economaidd ond hefyd yn nodi:

The fatal conceptual error in the new university funding system introduced in Britain in 2012 is that it treats the fee as a payment by an individual customer to a single institutional provider for a specific service in the present. By contrast, the proper basis for funding education is a form of social contract whereby each generation contributes to the education of future generations.

Heb fod yn or-sentimental a hiraethus, daw Collini’n ôl, dro ar ôl tro, at gwestiynau sy’n ymwneud â gwerth cymdeithasol a chyfunol prifysgolion – ystyriaethau y mae’r disgwrs gwleidyddol a gweinyddol cyfredol fel petai wedi eu hanghofio’n llwyr. Mae angen ailystyried yr hyn yw prifysgol a’r hyn y gallai prifysgol fod:

One way to begin to think about the distinctiveness of universities is to say that they provide a partly-protected space within which trying to extend and deepen human understanding has priority over any other purposes in a way which it would be madness – or, at the very least disruptive – for other institutions in society to even countenance.

Er bod y drafodaeth hon o gyflwr addysg uwch yn ddysgedig a chytbwys ar y cyfan, rhaid i mi gyfaddef ei bod yn rhy oddefol at fy nhast i. Ar adegau, roedd y profiad o ddarllen fel darllen disgrifiad anatomegol fanwl o brifysgolion ond bod y disgrifiad hwnnw wedi’i fwriadu ar gyfer anatomegwyr yn hytrach na llawfeddygon. Roeddwn yn dal i awchu am fwy o liw ac i ddarllen am y profiad dynol o addysg uwch, i gael fy nhywys gam ymhellach hefyd wrth drafod canlyniadau pellgyrhaeddol system addysg uwch nad yw’n darparu ‘dysg’ ddigonol mwyach.

Meddiannwyd ein prifysgolion gan iaith newydd, iaith y mae’r rhan fwyaf o academyddion wedi ei derbyn eisoes ac yn cyd-fynd â hi i raddau. Llygrwyd ac ymgorfforwyd y gair ‘ymchwil’ – sy’n rhan o rethreg bob dydd y brifysgol – gan yr iaith newydd hon. Mewn cyfweliad rai blynyddoedd yn ôl, dywedodd Mark Cousins, Cyfarwyddwr Astudiaethau Hanes a Theori y Gymdeithas Bensaernïol:

Mae’r gair ymchwil yn cael ei orddefnyddio i raddau chwerthinllyd. Ar hyn o bryd, mae unrhyw un sy’n mynegi diddordeb wrth-fynd-heibio mewn pwnc yn disgrifio hynny fel ‘ymchwil’. Mae unrhyw un sy’n darllen nifer o lyfrau am bwnc penodol yn rhan o ‘brosiect ymchwil’. Ac fe ystyrir bod rhywun sydd wedi cael ei ad-dalu am ei docyn bws i’r llyfrgell wedi ‘ennill arian ymchwil’. Gwell o lawer fyddai dychwelyd at gategorïau hŷn fel ‘darllen’ a ‘gweithio’.

Mae’n debyg y dylwn i roi rhywfaint o gyd-destun i’r sylwadau hyn am Speaking of Universities. Er fy mod yn athro prifysgol ac wedi gweithio yn y sector addysg uwch am dros 20 mlynedd, nid wyf yn academydd yn yr ystyr gonfensiynol. Cefais y rhan fwyaf o’m profiad fel myfyriwr ym myd yr ysgol gelf, a oedd fel petai’n gweithredu y tu hwnt i afael y brifysgol yr oedd yn rhan ohoni. Dylwn bwysleisio mor werthfawr oedd fy mhum mlynedd fel myfyriwr. Mae’r tristwch a’r rhwystredigaeth a deimlaf wrth weld addysg uwch yn cael ei droi’n faes ariangar a chorfforaethol yn deillio o’r ffaith bod y prosesau hynny bellach yn rhwystr i’r math o addysg agored ac annibynnol a gefais, a’i bod yn gynyddol anodd i fyfyrwyr heddiw gael y rhyddid digonol i fod yn chwilfrydig o fewn terfynau cwrs addysg uwch.

A beth am effeithiau ehangach system addysg uwch lle caiff myfyrwyr eu hannog, yng ngeiriau Collini, ‘[to] focus upon finding the least expensive course that will get them the highest-paying job’? Pa syndod bod adrannau ieithoedd modern mewn prifysgolion yn crebachu a phobl yn gyffredinol yn mynd yn fwyfwy anoddefgar, yn troi at wleidyddiaeth gul poblyddiaeth genedlaetholgar, ac ofn yn cymryd lle chwilfrydedd? Gallai hynny gyfrannu at system hunanbarhaol: po leiaf y caiff poblogaeth ei haddysgu a’i hannog i ystyried pethau anghyfarwydd, mwyaf y gwêl yr angen i bennu ffiniau, i ddiffinio’r hyn sy’n gyfarwydd ac sydd, o ganlyniad, yn dderbyniol.


Mae Gideon Koppel yn Athro’r Cyfryngau yn Ysgol Gelf Manceinion. 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Rhifyn 5, Addysg

 


Yn nhermau Ryanair, ai ‘Meal Deal’ sydd dan sylw ynteu ‘Make it a Steal’?

Dyddiad cyhoeddi: 29·11·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Jane Aaron

Mae’r elw o werthiant y nofel hon yn mynd tuag at helpu ffoaduriaid rhyfel. Dyna’r hyn mae prif gymeriad Llinynnau, Ceridwen Jeremy, yn ei wneud hefyd, wrth iddi roi lloches yn ei chartref yng nghefn gwlad Ceredigion i ffoaduriaid o’r rhyfel yn Syria, yn ogystal â…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

Bydoedd pell oedd y rhai a lygrwn i, a 'machau ar gontrol pad fy arddegau. Saethu hwrod ar draeth yn Miami; trywanu ellyllod yn Hyrule a Spira, achub Zelda; a liw nos, a'r dref yn dawel, esgyn o'r sybmarîn i hel Natsïaid ynghyd a'u llosgi â'm fflamdaflwr rhwng y sgwâr a'r stryd ... 

Cyfweld


Esyllt Angharad Lewis

Mae Mary Lloyd Jones wedi arddangos yn rheolaidd ers y 60au, yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Mae ei gwaith i'w weld mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat. Bu’n gweithio fel artist preswyl yn yr Iwerddon, Philadelphia, Vermont, yr Eidal, Catalwnia, Rajasthan, yr Alban a Llydaw. Ceir arddangosfa o'i gwaith (25 o baentiadau) yn Oriel Tegfryn,…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

O le dwi’n sbio lawr fan hyn, mae pethau’n edrych yn ddu braidd, a gormod rywsut o bren i adael i’r balŵn hwn adael y ddaear; iddo fedru hedeg hyd yn oed o lenwi’r siambar, sori, mor llawn o aer poeth â hyn ... 

Cyfansoddi


Ruth Richards

‘DEW,’ MEDDAI NOW-HOW, gan ryfeddu at lun y Marcwis yn ei deits gwynion, gyda phlethen hir a phagoda ar ei ben. ‘Tydi hwn ddim byd tebyg i’r crach arferol.’ ​Gwenodd Annie arno, ei phenelin yng nghledr un llaw ac un o sigaréts Senior Service Now yn hongian rhwng deufys y llall, mewn ystum a…

Dadansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Yn y byd cyhoeddi, nodir yr Hydref gan Ffair Lyfrau Frankfurt sydd, gyda llaw, yn arddel ei henw swyddogol Almaeneg, Frankfurter Buchmesse, hyd yn oed wrth gyfathrebu’n Saesneg ac yn rhyngwladol. Dyma ganolbwynt y farchnad ar gyfer y diwydiant hwn, gyda dros 7,000 o stondinwyr, 10,000 o newyddiadurwyr,…

Adolygu


Dyfrig Williams

Cyfrol i herio ein persbectif ar fyd gwaith a'r cyd-destun economaidd sy'n ei hybu yw Bullshit Jobs: A Theory gan yr anthropolegydd David Graeber. Mae'r awdur, sydd yn Athro yn yr LSE, eisoes yn adnabyddus am fathu'r slogan y mudiad Occupy Wall Street, 'We are the 99%', ac am…

Cyfansoddi


Frank Olding

Casgliad Frank Olding ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Rydym yn falch o gyhoeddi detholiad o'r cerddi ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018.