Adolygu

Blwyddyn o ddarllen difyr

Dewis aelodau criw darllen a thrafod Y Twlc, Caerdydd

Y Twlc

Amser darllen: 3 munud

08·12·2016

Gwennan Evans
Chwilio am Dân gan Elis Dafydd (Barddas, 2016)

Fy hoff lyfr i eleni yw Chwilio am Dân gan Elis Dafydd. Hon yw ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth ac mae profiadau ieuenctid yn ganolog iddi. Er mai cyfrol fer o ryw ddeg ar hugain o gerddi yw hi, fe'm swynwyd gan nifer ohonynt. Daeth y gyfrol â nifer o atgofion melys yn ôl o'm cyfnod yn y brifysgol ym Mangor, yn enwedig 'Bore yn Eldon Terrace' a 'Mae Gwenan yn gwybod' sydd, ill dwy, yn rhoi darlun o fywyd myfyriwr y bydd sawl un yn gallu uniaethu ag e. Ceir yma gerddi serch hefyd sy'n ei dweud hi fel y mae hi am berthnasau byrhoedlog – mae 'A feddo gof', 'Y Cyfan' ac 'Ac eto nid myfi #2' yn uchafbwyntiau. Mae'r gyfrol yn cloi gyda 'Dw i'm yn licio leim yn fy lager ddim mwy', cerdd am '[d]dyddiau hawdd eu dallt yn dod i ben' a roddodd ysgytwad i mi. Hoffais y cerddi am eu bod yn ddiffuant, yn ddelweddol ac yn ddarllenadwy ac yn perthyn i gyfnod byr ond pwysig yn hanes y bardd.

Glenys M Roberts
Optimist Absoliwt: Cofiant Eluned Phillips gan Menna Elfyn (Gomer, 2016)

Does dim yn denu fel dirgelwch, ac yn sicr roedd digon o hynny o gwmpas bywyd a gwaith Eluned Phillips. Fe'i ganed i fam ddibriod a'i magu gan ei mam a'i mam-gu ar aelwyd fyrlymus gyda'i chwaer hŷn, Madge, a'i chyfnither, Get. Pam nad enwir y tad ar y dystysgrif eni? Pwy ydoedd? Ai ffermwr lleol, ai athro, a laddwyd ef yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf? Ai ef a noddodd y teulu i symud i dyddyn helaethach Glanawmor? Pwy dalai am y gwersi piano? A phwy anfonodd y piano a gyrhaeddodd mewn lorri o Lundain? Pwy yn wir a dalodd am addysg breswyl yn Llundain i Eluned? Mae Menna Elfyn yn holi llu o gwestiynau, ond er ei hymchwil ar sail y dogfennau o eiddo Eluned a roddwyd i'w gofal gan Ann Evans, prin yw'r atebion. Y dirgelwch arall, wrth gwrs, yw'r diffyg parch tug ati gan y 'sefydliad' llenyddol, eisteddfodol, er iddi ennill dwy Goron genedlaethol a dod yn agos i'r brig ar sawl achlysur arall. Ai am mai merch oedd hi yr oedd hynny? Digon tebyg, a merch ddi-goleg at hynny. Dangosir yn glir bod Eluned yn meddu ar ddigon o allu – bu'n sgriptwraig rhaglenni radio am flynyddoedd, fe'i darbwyllwyd i fod yn glerc ac yn gyfieithydd mewn llys barn, a chadwodd lyfrau nodiadau sy'n brawf o'r ymchwil trwyadl y tu ôl i lawer o'i cherddi. Gallwn synhwyro gwrychyn Menna Elfyn yn codi oherwydd diffyg parch, ynghyd â'i hawydd i amddiffyn cymeriad a ddaeth yn fwyfwy annwyl iddi wrthi iddi ymchwilio i'w hanes, ac i fynnu iddi ei ei phriod le yng nghof llenyddol y genedl. Ond erys dirgelwch – a distawrwydd o du'r rheiny a oedd yn amau dilysrwydd y cerddi – ac yn eironig ddigon, hynny fydd yn cyfrannu'n bennaf at y diddordeb parhaus yn y cymeriad unigryw hwn.

Nia Thomas
Deugain Barddas gan Goln Gruffudd Antur a Guto Dafydd (Barddas, 2016)

Rydw i wedi mwynhau dysgu sut i gynganeddu dros y flwyddyn ddiwethaf a sgileffaith hynny yw fy mod wedi bod eisiau gwybod be 'di be yn y byd cynganeddol. Mae'r llyfr yma yn berl i ddiogyn fel fi sydd ddim eisiau gorfod tyrchu drwy ddegawdau o hen rifynnau er mwyn dod o hyd i atebion. Mae'n hawdd parchu ac ymfalchïo yn angerdd obsesiynol cyfranwyr mwyaf cyson y cylchgrawn at eu crefft. Er hyn, un agwedd sydd yn fy mhoeni yw mor wrywaidd yw'r sefydliad sy'n cael ei ddathlu yn y gyfrol hon. Ac efallai fod dewis peidio â dadansoddi'r cynnwys yn gwneud y ffactor hwnnw yn fwy amlwg. Ar ei gorau, mae'r gyfrol yn llwyddo i lywio'r darllenydd rhwng y pwysig a'r gwirion yn ddidrafferth, ac er mai yn yr haf y cyhoeddwyd y gyfrol mae'n teimlo fel llyfr hosan Nadolig perffaith.

Ceir mwy o gyfraniadau am lyfrau difyr 2016 yn y fan hon.