Ffêc tan, lager a merched Abermandraw
Adolygiad o Abermandraw gan Rhys Iorwerth
Rhys Iorwerth
Abermandraw
Gomer, 136 tt, £7.99, Chwefror, 2017
Dyma gyfrol ryddieithol gyntaf y bardd o Gaernarfon, Rhys Iorwerth, a honno'n dilyn Eisteddfod lle daeth dau fardd adnabyddus i’r brig yn y cystadlaethau rhyddieithol. Oes yna ryw glwyf erchyll yn y gwynt dwedwch, sy’n effeithio ar ein beirdd? Ond beth bynnag am hynny, roedd disgwyl llawer gan gyfrol gyntaf Rhys Iorwerth, a dwi’n amau na fyddai’r un o’i ffans wedi ei siomi gan ei baragraff agoriadol:
Abermandraw, go fuck yourself, baby. Mae’r parti ar fin dechrau go iawn.
Boom.
Mae strwythur y gyfrol yn un gofalus. Cawn ein tywys trwy hanesion y gwahanol gymeriadau gan adroddwr anhysbys. Y llais hwn yw’r llinyn cyswllt rhwng y cymeriadau i gyd ac, er na wyddwn yn iawn pam ar y dechrau, fe ddaw pethau’n gliriach drwy gydol y nofel, nes dod at y clo ysgytwol sy’n nodweddiadol o hiwmor sych-dywyll Rhys Iorwerth.
Mae’r ysgrifennu'n amrywio rhwng naratif realaidd, traddodiadol, a rhannau sy’n fwy arbrofol a swrrealaidd a’r rheiny, lle mae Rhys Iorweth wedi mentro, ydi’r rhai cryfaf yn sicr. Y mae ‘Peter Jêc a Petal Wyn (neu, Yr Hogyn Ifanc a’r Dylwythen Deg)’ yn cynnwys elfennau sy’n ymylu ar fod yn realaeth hudol Gymreig:
Mae’n chwe mis yn ddiweddarach ond tydi hi ddim chwaith. Ddim mewn gwirionedd, ddim go iawn. Mae Peter Jêc wedi’i ddal ers y bore hwnnw o wanwyn mewn cylch lle safodd amser yn stond, lle daeth stop ar edrych yn ôl a dim ond gorwedd yn ei wely’n ochneidio.
Mae’r awdur yn adleisio storïau tylwyth teg Cymreig am ddynion ifanc sy’n cael eu dal mewn cylchoedd dawns lle mae ansawdd amser yn newid, gan blethu’r cyfoes a’r is-fydol yn iasol. Y piti yw na lwyddodd i gynnal y swrrealaeth hyn trwy weddill y gyfrol.
Byd diarth-gyfarwydd yw byd Abermandraw, a rhyw fersiwn amgen o Gaernarfon. Wrth gwrs, fe bwysleisir mai byd ffuglennol yw byd Abermandraw. Mae hynny felly yn rhoi carte blanche i Rhys Iorwerth gynnig ambell i sylw miniog ar gyflwr cymdeithas y Gymru drefol a gwledig:
Am y bobol leol go iawn, mi welech y rheini’n dal i fyw mewn tai a’u muriau’n damp ac yn treulio’r dydd yn ei shlipars. Shef, yn nhyb llawer o’r gwleidyddion, y lle shaffaf iddyn nhw fod.
Mae nifer o’i sylwadau yn taro’r hoelen ar ei phen. Ac eto, a oes yna duedd, o bosib, i fod yn rhy hunan-dosturiol, ac i fod yn rhy barod i feio eraill am sefyllfa Caernarfon a Gwynedd ... sori, Abermandraw? Stroclyd a blinedig ydi defnyddio Saeson fel cocynau hitio byth a hefyd, er enghraifft.
A hyn, o bosib, sy’n rhannol gyfrifol am y ffaith na lwyddodd Rhys Iorwerth i’m darbwyllo yn llwyr gyda byd Abermandraw. Ydi, mae’r sgwennu yn grefftus, y naratif yn llifo, a'r hanesion yn realistig o drist. Ac eto, wedi rhoi’r llyfr i lawr, llithrodd yr holl gymeriadau yn ddiffwdan a di-sylw o’m pen, heb adael unrhyw beth ar eu hôl ond am ryw fymryn o lwch sigarét ac ogla tamp.
Mae yna ryw ddehongliad gwawdluniol o’r dosbarth gweithiol Cymraeg sydd fel petai wedi dod yn ffasiynol yn ddiweddar. Mae’n dilyn patrwm lle ceir dynion yn yfed lager mewn tafarn efo enw fel y ‘Cwariman’s Arms’ tra bod Mrs Jones adre’n gwneud ei ffêc tan ac yn gwrando ar Tommo. Ychwanegwch sbliff at y gymysgedd, a defnydd strategol o’r gair ‘reu’, a dyna chi. Mae hi’n gwbwl deg dweud fod yna ddiffyg portreadau o gymunedau dosbarth gweithiol mewn ardaloedd gwledig, ôl-drefedigaethol yn ein llenyddiaeth, a bod Rhys Iorwerth yn ymdrechu i lenwi’r bwlch hwn. Ond ga’ i awgrymu mai ysgrifennu am yr hyn yr oedd o’n disgwyl (neu eisiau?) ei weld a wnaeth, yn hytrach nag ysgrifennu am yr hyn sydd i’w weld yno go iawn?
Alla’ i ddim dweud i mi gael fy mherswadio gan gymeriadau fel Ronan a Regan Brenig, Marsipan Morris na Slender Len. Mae hanes Ronan a Regan, er enghraifft, yn ymdebygu i gynnwys ffeil gwasanaethau cymdeithasol ac ni lwyddir i fynd y tu hwnt i hynny na than groen y naill na’r llall. Delweddau stoc o fywyd dosbarth gweithiol a geir ac arwynebol, ar y cyfan, yw’r ymdriniaeth.
Ond yr hyn a berodd siom wirioneddol i mi oedd y cymeriadau benywaidd. Prin eu bod yn fwy nag ystrydebau diog. Ni chaniateir i fenyw yn Abermandraw ddatblygu y tu hwnt i fod yn fam neu’n bâr o goesau. Ar y cyfan, propiau ydyn nhw i gynnal naratifau y cymeriadau gwrywaidd.
Mae cymeriad Heather yn enghraifft berffaith o ystrydeb y fenyw syrthiedig. Dyma Efa ei hun, y wraig sy'n dinistrio dynion. Yr un sbit â Polly Garter Dan y Wenallt, ac efo’i phersonoliaeth fel papur wal, dyw hi’n ddim mwy na phrop i gynnal ffantasïau rhywiol y cymeriadau gwrywaidd; mae hi’n cysgu efo pawb heblaw’r un bachgen arbennig hwnnw yr oedd yn ei garu pan oedd hi’n ifanc, a hwnnw bellach heb fod ar gael. Ydi ‘Little Willy Wee’ yn canu cloch, tybed? Nid yw swyddogaeth Heather yn y gyfrol yn fwy na darn o drimin i wneud i hanes Deio Llŷn ymddangos yn fwy trasig, a gwneud i dafarn y Windsor Hotel ymddangos yn fwy mochaidd. Ac Elin Baba? Wele ystrydeb y fam anghyflawn a fethodd ag esgor ar blentyn, wedi methu â chyflawni ei phrif bwrpas mewn bywyd ac sydd wedi troi, o’r herwydd, yn hen widdon hesb. A’r hyn sy’n peri’r rhwystredigaeth fwyaf yn hyn oll yw’r dystiolaeth yng ngweddill y gyfrol fod Rhys Iorwerth yn gallu creu cymeriadau credadwy a diddorol.
Mae’n bosib bod y nofel hon yn dioddef yn sgil y disgwyliadau uchel a gysylltwyd â hi. Cyfrol ryddiaith gyntaf yr awdur yw hi, ac mae’n waith cyntaf cryf. Ond nid oedd datganiadau mawreddog i’r wasg yn ei disgrifio fel cyfrol ‘athrylithgar’ yn gwneud tegwch â’r gyfrol na'r gynulleidfa - nac â’r awdur ei hun. Dyma nofel gan awdur y mae ganddo’r gallu i’n gogleisio a’n hysgwyd, ein swyno a’n synnu. O barhau i feithrin y doniau hyn, gallwn edrych ymlaen at weithiau gwirioneddol gyffrous ganddo yn y dyfodol.
Enillodd Elan Grug Muse Gadair Eisteddfod yr Urdd 2013. Mae hi'n fyfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn un o gyd-sylfaenwyr Y Stamp.
Darllenwch hefyd adolygiadau Elan Grug Muse o Merêd: Dyn ar Dân gan Eluned Evans & R Arwel Jones (goln) a Cam Arall i'r Gorffennol gan Rhys Mwyn.