Adolygu

‘Unig theatr gysefin y Gymraeg’

Hanes sefydlu Theatr Felin-fach

Euros Lewis

Theatr a Chymdeithas

Carreg Gwalch, 286tt, £7.50, 2015

‘Unig theatr gysefin y Gymraeg’
Carys Mai

Amser darllen: 7 munud

19·10·2016

Yn ei hanfod, diwylliant corfforol yw diwylliant y Gymraeg; diwylliant y gwyntoedd a’r glaw a’r haul a’r holl egnïoedd hynny sy’n gyrru cyffro a drama tymhorau bywyd a byw.

Gosodais her i mi fy hun ar ddechrau 2016: darllenwn hanner cant o lyfrau cyn diwedd y flwyddyn. Er taw ffuglen sydd wedi cadw cwmni i mi gan mwyaf wrth erchwyn y gwely, un o’r llyfrau a wnaeth yr argraff fwyaf arnaf hyd yma yw Theatr a Chymdeithas gan Euros Lewis.

Fel y noda’r awdur ei hun yn ei ragymadrodd, llyfr plwyfol, fel petai, yw hwn, sy’n canolbwyntio ar hanes sefydlu Theatr Felin-fach, yn nyffryn Aeron. Agorodd ei drysau am y tro cyntaf yn 1973 ac mae hi'n theatr sydd, yn ei hanfod, yn wahanol i bob un o’r theatrau eraill yng Nghymru a sefydlwyd tua’r un cyfnod. Dywed yr awdur taw 'Theatr Felin-fach yw unig theatr gysefin y Gymraeg'. Er disgrifio’r llyfr fel un plwyfol, felly, mae i'r gyfrol apêl eang – a photensial sylweddol hefyd i drawsnewid ein dirnadaeth o ddiwylliant a theatr yn ein cymunedau. O graffu ar yr hyn sydd yn agos, mae’r awdur wedi gweld ymhell. 

Dyma’r tro cyntaf erioed i mi ddarllen astudiaeth a dehongliad cynhwysfawr o fy mhobl, fy nghymdeithas, fy ffordd i o fyw. Fel arfer, rhaid troi at academyddion y prifysgolion, ‘arbenigwyr’ o’r dinasoedd pell, neu ‘wybodusion’ estron er mwyn darllen erthyglau neu lyfrau sy’n dadansoddi cyflwr cymdeithas, sy’n datgan ag awdurdod pam bod ein hiaith, ein diwylliant a’n cymdogaethau’n dirywio.

Wrth ddadansoddi cyflwr unrhyw gymdeithas, rhaid edrych y tu hwnt i’r dderwen a’i dail a’i mes. Rhaid palu’n ddwfn yn y tir nes dod o hyd i’r gwreiddyn, oherwydd y gwreiddyn a ddatgela i ni’r gwirionedd am darddiad a chyflwr y goeden. Er taw cyfrol yn olrhain hanes sefydlu Theatr Felin-fach yw hon, ychydig o sôn yn unig a geir am weithgarwch y theatr honno'n benodol. Yn hytrach, aiff yr awdur â ni yn ôl at wreiddiau traddodiad drama a diwylliant y sir:

Holl elfennau’r gymdeithas wledig Gymraeg – e.e. addysg, iaith, diwylliant, crefydd, economi, hanes, celfyddyd, gwleidyddiaeth. O’r holl elfennau hyn y daeth yr egni a’r cyd-ddychymyg i godi Theatr Felin-fach.

Cawn ein tywys ar daith o ddiwygiad Methodistaidd y ddeunawfed ganrif i gyfnod pan oedd adeiladu neuaddau coffa ar ei anterth (adeiladau a ddaeth yn theatrau i’r werin ar ôl y Rhyfel Mawr). Cawn ein harwain hefyd  o addysg anghydffurfiol yr 1950au i gyd-fentergarwch cymdeithasol a dylanwad mudiad y Ffermwyr Ifainc. Ond yr ymdriniaeth â’r gair ‘diwylliant’ yn y gyfrol sydd wedi aros gyda mi. Beth yw diwylliant? Neu efallai y dylwn i ofyn, beth yw culture? A yw’r ddau air yn gyfystyr â’i gilydd? Ddim o gwbl, ym marn yr awdur.

Felin Fach Dramatic Society 1916

Cynigir tri diffiniad gan Raymond Williams o’r gair culture:

1. Enw ar broses o ddatblygiad deallusol, ysbrydol neu esthetig;

2. Enw a ddynoda ffordd o fyw o safbwynt pobl, cyfnod neu grŵp penodol, neu’r ddynoliaeth yn gyffredinol;

3. Disgrifiad o weithiau neu weithgareddau deallusol – artistig yn bennaf.

Yn Saesneg, byddwn yn dadlau mai'r ystyr gelfyddydol neu artistig sydd bellach fwyaf blaenllaw. Ond nid yw hynny'n wir yn achos y gair diwylliant. Yn ôl Euros Lewis, yr ystyr sy’n cyfateb orau i’r gair Cymraeg yw’r ystyr anthropolegol, sef ystyr dau, y ffordd o fyw.

I berson di-Gymraeg sydd am ddysgu am Gymru’r Gymraeg nid yw cyfieithu ‘diwylliant’ i 'culture' yn ddigon. Rhaid yw gosod ‘diwylliant’ yn ei gyd-destun er mwyn gwneud ei arwahanrwydd a’i benodoldeb yn weladwy ac yn ddealladwy. Ymdrech ofer yw dwyieithrwydd oni bai bod dauddiwylliannedd yn gywely iddo.

Ond a oes modd gwahaniaethu bellach rhwng diwylliant a culture? Mae’r llyfr yn ein hatgoffa’n gyson o berthynas symbiotig rhwng egalitariaeth a diwylliant y Gymraeg, gan adnabod y diwylliant fel un cydweithredol. Dadleuir mai o gyd-ymdrechu ei wreiddiau y daw ei dyfiant. Deinameg gwbl wahanol sydd i culture: brenhiniaeth, ymerodraeth a phŵer wedi ei ganoli yw ei strwythur cynhaliol o hyd. Beth am berthynas y ddau enw â’i gilydd? Ydy’r naill air yn gallu byw ochr yn ochr â’r llall, yn gydradd yn ein cymdeithas? Dadleua’r awdur bod pegynau cyflyrol o’r fath, yn ddi-ffael bron, yn bodoli mewn perthynas rym gyda’i gilydd – a culture yw’r meistr yn y berthynas honno heddiw. Y sefydliad cydymffurfiol yn erbyn yr egni anghydffurfiol yw hi; y pŵer canolog a hierarchaidd yn erbyn yr ewyllys i gyd-ddychmygu, i gyd-berfformio a chydweithredu.

Dadleua Euros Lewis mai 'gwneud diwylliant y gymdeithas honno’n anweledig – hyd yn oed i’r Cymry eu hunain – yw cenhadaeth gwladychwyr ddoe a heddiw.' Ond nid oedd diwylliant y gymdeithas yn anweledig ym mherfeddion cefn gwlad Ceredigion. Wrth i’r syniad – y weledigaeth – o godi theatr yn nyffryn Aeron ddatblygu yn y saithdegau, gwyddai ei chyfranogwyr nad culture oedd diwylliant. Nid nod y theatr hon fyddai darparu rhaglen o adloniant a chreu cynnyrch addysgol a chelfyddydol a fyddai’n apelio at bawb. Yn hytrach, byddai’n rhoi’r cyfle i bawb ddod at ei gilydd i gyd-drafod, cyd-ddychmygu a chyd-adeiladu. Nid diwyllio trigolion yr ardal fyddai ei phwrpas ond eu hymddiwyllio – yn syml iawn, rhoi i bobl allu i ddysgu gyda’i gilydd ac i greu eu theatr eu hunain.

Beth petai mwy nag un ‘Theatr Felin-fach’ wedi’i chodi yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod -  yn hytrach na’r gadwyn o gestyll celfyddydol a godwyd, megis Theatr y Werin Aberystwyth, Theatr y Sherman Caerdydd a Theatr Ardudwy Harlech? Dyma gwestiwn pryfoclyd yr awdur:

Pe bai gweision 'culture' wedi gallu gweld a chydnabod potensial diwylliant ac wedi ymddiried y potensial hwnnw i frwdfrydedd ac egni y Lles Cymdeithasol – fel a ddigwyddai yng nghefn gwlad Ceredigion – tybed nad positifrwydd y Gymraeg fyddai prif stori Cyfrifiad 2011 yn hytrach na’r negyddoldeb a gafwyd? Trwy fabwysiadu model 'culture' rhoddwyd nerth sylweddol i’r llanw newydd o unffurfiaeth a chydymffurfiaeth a fygythiai amrywioldeb diwylliannol yng Nghymru ac yn fyd-eang.

Agorodd Theatr Felin-fach ei drysau i’r werin yn 1973 a’i 'gwaith fyddai bod yn sianel ac yn adnodd a weithredai yn ddiwylliannol-briodol ... er lles y gymdeithas gydgreadigol; er cynnal egalitariaeth radical theatr y gweithwylwyr.'

Mae cynnal y weledigaeth greiddiol honno yn yr oes sydd ohoni yn frwydr barhaus i Theatr Felin-fach, yn wyneb twf unffurfiaeth ac unigolyddiaeth yn ein cymdeithas. Ond, gyda’n gilydd a chyda hyder ac eangfrydedd, gallwn herio ac ymwrthod â chrafangau culture ar ein diwylliant.

Beth, felly, yw’r cwestiynau y mae’r awdur yn eu cymell yn ei ddarllenwyr am ein ffordd o feddwl, a’n ffordd o weithredu heddiw? A yw ein haddysg yn rhoi lle digon gweladwy i ddiwylliant ein cymdeithas ni, o gymharu â'r culture Eingl-Americanaidd? A oes gormod o ddeisyfu dwyieithrwydd a gormod o bwyslais ar ddysgu’r iaith Gymraeg i newydd-ddyfodiaid, ar draul eu cymhathu'n wirioneddol i’n diwylliant? Ac ydyn ni fel pobl, cymdogaethau a sefydliadau yn ildio’n rhy rhwydd i unffurfiaeth a grym y canol, ar draul y meddylfryd anghydffurfiol, mentrus a chreadigol?

Y tro nesa y clywn ni’r gair ‘diwylliant’ yn cael ei ddefnyddio, boed ar y cyfryngau neu gan newyddiadurwyr, gwleidyddion neu ymarferwyr theatr, ystyriwn ai ‘diwylliant’ neu culture sy’n cael ei drafod mewn gwirionedd.

 

NODYN

Mae Euros Lewis yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw, a chynhelir Yr Ŵyl Ddrama – ffrwyth partneriaeth rhwng y theatr honno a Theatr Felin-fach – ym mis Hydref a Thachwedd eleni. Ar y penwythnos agoriadol (21-22 Hydref 2016) ceir perfformiad o ‘Yr Oruchwyliaeth Newydd’ yn Theatr Felin-fach. Bydd drama newydd Euros Lewis, Atgof Atgof, am fywyd a phryddest fuddugol Prosser Rhys, ar daith dros y gaeaf. Dilynwch @cwmnitroedyrhiw am ragor o fanylion.

Yn rhan o'r Ŵyl Ddrama, casglwyd lluniau i gofnodi hanes cwmnïau drama Ceredigion a'r cyffiniau dros y ganrif ddiwethaf. Bydd arddangosfa gyflawn yn Theatr Felin-fach ar benwythnos yr ŵyl a bydd archif o luniau yn rhan o'r llyfrgell ddramâu ddigidol newydd, a gaiff ei lansio am 3yp ar ddydd Sadwrn 22 Hydref.

 

Magwyd Carys Mai yng nghefn gwlad Ceredigion. Mae hi'n un o gyn-fyfyrwyr drama Prifysgol Aberystwyth ac yn aelod o Gwmni Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw. 

Llun: Cwmni Drama Felin-fach yn perfformio'r ddrama 'Twm-Shon-Catti' yn 1916. Hawlfraint: Ann Evans, Pentrebach.

Wrth ddadansoddi cyflwr unrhyw gymdeithas, rhaid edrych y tu hwnt i’r dderwen a’i dail a’i mes. Rhaid palu’n ddwfn yn y tir nes dod o hyd i’r gwreiddyn ...

Pynciau:

#Theatr
#Raymond Williams