Adolygu

Hanes sigledig

Adolygu Johnson at 10: The Inside Story

Anthony Seldon a Raymond Sewell

Johnson at 10: The Inside Story

Atlantic Books, 624tt, £25, 2023

Hanes sigledig
Gruffydd Penrhyn Jones
26·07·2023

Cyfrol yw hon am gyfnod Boris Johnson yn brif weinidog. Mae un o’r ddau awdur, Anthony Seldon, wedi ysgrifennu (gydag amryw o gyd-awduron) gyfrolau cyffelyb ar bron bob un o brif weinidogion y Deyrnas Gyfunol oddi ar Edward Heath. Maent yn cyflwyno eu gwaith fel hanes cyfoes, ac mae Seldon, cyn-brifathro a hanesydd, yn flaenllaw yn y maes. Roedd yn un o sefydlwyr yr Institute of Contemporary British History (sydd erbyn hyn yn rhan o’r Institute for Historical Research). Mae’r llyfr wedi ei rannu yn benodau ar brif themâu cyfnod Johnson yn 10 Stryd Downing, gyda chyfeiriadau ar ddiwedd pob un.

Ymfalchïr yn y ffaith fod y gyfrol yn seiliedig ar dros 200 o gyfweliadau â’r unigolion hynny a oedd yn agos at galon y digwydd, y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio yn y cefndir ac yn annhebyg o gyhoeddi dyddiaduron neu gofiannau eu hunain. Math o hanes llafar, a hanes o’r gwaelod, felly. Ar y llaw arall, nid oes cyfweliadau yma â chymeriadau pwysicaf y cyfnod dan syw, er enghraifft efo Johnson ei hun, Rishi Sunak, Dominic Cummings neu Carrie Symonds. Nid oedd gan yr awduron chwaith fynediad at y dogfennau swyddogol fydd ar gael i haneswyr y dyfodol yn yr archifau cenedlaethol. Ond gwneir defnydd helaeth o’r cyfryngau cymdeithasol (nid yn aml mae hanesydd yn dyfynnu trydariad gan amddiffynnwr canol cae Aston Villa!).

Gan fod y mwyafrif o ffynonellau dynol yr awduron yn parhau mewn swyddi yn y gwasanaeth sifil, neu yn weithgar yn y byd gwleidyddol, cyflwynir nifer sylweddol ohonynt yn ddienw, sydd yn gwanhau y gyfrol i raddau. Heb wybod pa gyfaill neu swyddog o Number 10 sy'n siarad, anodd yw gwybod faint o sylwedd sydd i’r datganiad, yn enwedig mewn gweithle lle ceir atgasedd syfrdanol rhwng gwahanol garfanau gelyniaethus. Ar adegau, felly, mae’n anodd i’r darllenydd wahaniaethu rhwng barn yr awduron a barn eu ffynhonnell.

Ac mae barn yr awduron yn amlwg o’r cychwyn cyntaf. Mae corff y llyfr yn dechrau gyda dyfyniad gan Mary Queen of Scots: ‘Yn fy nechreuad roedd fy niwedd’, gan awgrymu fod methiant Johnson yn dilyn yn anochel o’i wendidau personol, a oedd yn amlwg o’r cychwyn. Dyfynnir adroddiad enwog ei ysgolfeistr Martin Hammond, sy'n awgrymu fod y Johnson ifanc yn ystyried ei hun yn freintiedig, nad oedd dyletswydd arno i barchu'r rheolau, ac y byddai'n digio wrth glywed unrhyw feirniadaeth anffafriol.
 

Boris Johnson (Llun: Flickr/Tom Page)


Mae ambell un wedi cymharu cymeriad Johnson â chymeriad Lloyd George. Roedd y ddau, wedi’r cwbl, yn hoff o fercheta a heb fawr o barch at y rheolau traddodiadol. Ond cymhariaeth arwynebol yw hon, fel mae Seldon yn pwysleisio. Mewn llyfr blaenorol, mae wedi enwi Lloyd George fel un o’r chwe phrif weinidog mwyaf trawsnewidiol yn hanes Prydain – un a gynrychiolodd etholaeth yn ne [sic] Cymru am 55 mlynedd, ac a gyflawnodd gymaint fel ysgrifennydd a phrif weinidog, gartref ac ar y llwyfan rhyngwladol.

Yn ôl Seldon mae tair rhinwedd yn hanfodol i yrfa wleidyddol lwyddiannus ar y lefel uchaf, sef gallu, profiad a ffyddlondeb, a dyma’r rhinweddau y dylai prif weinidog eu hystyried wrth benodi ei gabinet a’i lywodraeth. Er iddo gydnabod fod Johnson â’r gallu i ddiddanu, ysgogi brwdfrydedd a chodi calon pobl ar draws y sbectrwm cymdeithasol, does ganddo fawr o feddwl o'i allu gwleidyddol. Yn wir, mae’n ei weld fel egoist heb unrhyw weledigaeth wleidyddol o fath yn y byd, ar wahân i’w uchelgais bersonol i fod yn 'Frenin y Byd'. Roedd ei amcanion gwleidyddol yn fawreddog; ond heb ddiddordeb yn y manylion, roedd yn amddifad o gynllun ar gyfer sut i’w gwireddu.

Cawn ein hatgoffa sut yr ysgrifennwyd maniffesto etholiad cyffredinol 2019 er mwyn ennill, nid er mwyn llywodraethu ac o ganlyniad, ar ôl y fuddugoliaeth ysgubol, aeth pethau ar gyfeiliorn yn gyflym oherwydd fod gwahanol garfanau â blaenoriaethau anghydnaws, a Johnson yn y canol yn cytuno efo pawb, gan arswydo rhag unrhyw awgrym o amhoblogrwydd. Cwynodd un swyddog y gall Johnson gytuno efo tair set o gynigion hollol anghyson mewn un diwrnod, a gwadu ei fod wedi gwneud y fath beth. Roedd pawb yn cystadlu am ei sylw yn brif weinidog, ac yntau yn plygu fel rhedyn yn y gwynt dan ddylanwad Dominic Cummings, neu Carrie Symonds ei wraig, ac yn amharod i fod yn gadarn o blaid y naill ochr neu’r llall. Cymhara Seldon hyn â chriw o ladron banc yn troi ar ei gilydd ar ôl llwyddo i ddwyn llawer mwy o arian nag a ddisgwylid; ac â llywodraeth Potemkin, pryd doedd neb yn hollol sicr pwy oedd yn rhedeg y wlad. 

Nid yw Seldon yn credu fod profiad yn ddigon i baratoi gwleidydd at swydd unigryw prif weinidog. Mae’r gallu i ddysgu yn y swydd yn hollbwysig. Yn hynny o beth, methu wnaeth Johnson eto. Flwyddyn ar ôl yr etholiad fe’i beirniadwyd gan 'ffrind' am nad oedd ganddo flaenoriaethau. 'Paid â chyboli, mae gen i dri deg o leia...' oedd yr ateb. Y tueddiad mewn llywodraeth o’r fath yw i’r arweinydd amgylchynu ei hun â phobl sy'n barod i ddweud yn ffyddlon yr hyn y mae am ei glywed. Yn ôl Julian Smith, ni fedrai Johson ddygymod ag unrhyw anghydfod yn y Cabinet, ac yr oedd gwirioneddol angen pobl hyderus ac annibynnol o’i gwmpas, ac nid 'a bunch of nodding donkeys'.

Cydnabyddir fod Covid wedi cychwyn ar adeg eithriadol o anffafriol i lywodraeth newydd Johnson, ond dadleuir fod llawer prif weinidog wedi wynebu argyfwng annisgwyl, ac wedi ymateb yn gadarn ac amserol dan amgylchiadau anodd. Nid felly y llywodraeth hon, lle bu anhrefn, diffyg llinellau cyfrifoldeb clir, cliciau gelyniaethus, a diffyg arweinyddiaeth gan y prif weinidog. Yr elfen fwyaf trawiadol yn y bennod am Covid yw pa mor ymylol yr oedd Johnson i’r penderfyniadau pwysig. Drwy’r llyfr ar ei hyd mae barn yr awduron am Johnson yn hollol eglur. Mynegir hyn drwy ddewis gofalus o eiriau ei ffynonellau, e.e. un swyddog sy'n cyhuddo Johnson o 'ddweud celwydd fore, pnawn a nos', ac un arall yn dweud ei fod 'yn wych am argyhoeddi eraill ond 'dach chi byth yn sicr ei fod wedi’i argyhoeddi ei hun'.

Fel llyfr hanes, fodd bynnag, mae'r gwaith hwn yn annigonol. Mae cyfyngu'r astudiaeth dan sylw i’r cyfnod pan oedd Johnson yn ei swydd fel prif weinidog, heb ystyried ei fagwraeth a’i gyfnod fel Maer Llundain, ac fel gweinidog, yn tynnu oddi ar y dadansoddiad o’i bersonoliaeth a’i brofiad gwleidyddol. Cyhuddir Johnson o falio dim am y gwledydd Celtaidd, ond mae Seldon yr un mor gyfyng yn ei safbwynt. Mae popeth o sylwedd yn digwydd yn San Steffan a Downing Street. Nid yw Cymru na’i gwleidyddion yn ymddangos yn y llyfr o gwbl, a does dim sôn am gyfweliadau gyda gwleidyddion yr Alban neu Iwerddon. Mae hefyd yn barod i roi clod i Johnson am y gefnogaeth a roddwyd i Wcráin, heb gynnig unrhyw dystiolaeth am ei gyfraniad personol, na gofyn barn neb tu allan i Lundain. Mae’r llyfr, ar adegau, yn darllen fel gwaith croniglwr o Loegr. 

Er fod hanes llafar cyfoes yn hynod o ddefnyddiol i hanesyddion y dyfodol, ei wendid mwyaf yw nad oes lle i gamu’n ôl a gweld y darlun ehangach dros gyfnod hwy. Bydd angen disgwyl rai blynyddoedd am hanes awdurdodol a chynhwysfawr o yrfa Boris Johnson. Serch hynny, os ydych yn cytuno â’r awduron ynghylch ffaeleddau ein cyn-brif weinidog, mi fwynhewch y llyfr hwn. Mae'n ddarllenadwy, ac â rhywbeth ar bob tudalen i’ch cythruddo, eich syfrdanu, ac i gadarnhau eich safbwynt. 

Meddyg teulu wrth ei waith oedd Gruffydd Penrhyn Jones tan iddo ymddeol. Graddiodd yn ddiweddar â BA gydag anrhydedd mewn Hanes o'r Brifysgol Agored. 

Ymfalchïr yn y ffaith fod y gyfrol yn seiliedig ar dros 200 o gyfweliadau â’r unigolion hynny a oedd yn agos at galon y digwydd

Pynciau:

#Gruffydd Penrhyn Jones
#Hanes llafar
#Gwleidyddiaeth
#Brexit