Llwytho pont
Darllen Ivo Andrić
Ivo Andrić, cyf. Lovett F Edwards
The Bridge Over the Drina
Harvill, 320tt, £12.99, (1945) 1959
Dyma Fosnia. Gwelaf y coed orenau yn y dyffryn helaeth, heulog; tes diwedd prynhawn yn araf doddi. Wrth i’r bws ddilyn ei hynt i gyfeiriad Sarajevo, mae’r heol yn culhau. A dyma Gwm Rheidol o dirlun dramatig: creigiau serth, rhaeadrau’n byrlymu, a’r ucheldir yn estyn ei fraich tuag atom. Mae’r gyrrwr wedi newid y miwsig: tonau pruddglwyfus, dwyreiniol sy’n gyfeiliant i rwnan y modur, erbyn hyn. Mae wedi nosi erbyn i ni gyrraedd maestref y brifddinas, a’r mynyddoedd bygythiol yn goron falch o’i hamgylch.
Mae hi’n ugain mlynedd ers Rhyfeloedd Iwgoslafia’r 1990au. O safbwynt Ewropead gorllewinol, sut mae dechrau deall hanes y wlad hon – ynghyd â’i chwaer-wledydd ansefydlog, ymfflamychol yn y Balcanau – y mae ei hetifeddiaeth yn gymysgfa o ddylanwad Cristnogion Catholig, Cristnogion Uniongred a’r Otomaniaid? Bu’r cwestiwn hwn yn llechu yng nghilfachau fy meddwl am flynyddoedd, a phan drawais yn ddiweddar ar gyfieithiad (o’r Serbeg sirilig) o nofel eiconig Ivo Andrić (1892–1975), Le Pont sur la Drina, fe’i darllenais.
Dyfarnwyd Gwobr Nobel i Andrić yn 1961 am ei gyfraniad i lenyddiaeth. Ynghyd â chyfrol daith Rebecca West, Black Lamb and Grey Falcon (1941), mae’n debyg yr ystyrid hon gan lawer yn ddarllen hanfodol yn ystod blynyddoedd Rhyfeloedd Iwgoslafia. Ond nid dim ond y gwleidyddion tramor a’r gwasanaethwyr sifil rhyngwladol a siarsiwyd i’w darllen: ymhell cyn y 1990au, roedd y nofel ar restrau darllen mewn ysgolion uwchradd ledled Iwgoslafia.
Croatiaid oedd rhieni Andrić, ond fe’i ganwyd ef yn Bosnia a Herzegovina, oedd ar y pryd yn rhan o’r Ymerodraeth Awstro–Hwngaraidd. Wedi marw ei dad, fe’i magwyd gan deulu ei fam yn nhref Višegrad, ar lannau afon Drina. Mynychodd yr ysgol uwchradd yn Sarajevo ac aeth yn fyfyriwr athroniaeth i Zagreb i ddechrau, ac yna i Fiena, Kraków a Graz. Cafodd Andrić yrfa lwyddiannus wedyn fel diplomat rhyngwladol ac yn 1939 aeth yn llysgennad Iwgoslafia i Berlin, ond yn 1941 cafodd ei arestio gan yr Almaenwyr. Er cael caniatâd i ddychwelyd i Belgrâd, nid oedd ganddo’r rhyddid i symud fel y mynnai, hyd nes llaciwyd gafael yr Almaenwyr ar y ddinas yn 1945, sef blwyddyn gyhoeddi’r nofel hon. Ni fu’n eiriol erioed dros gomiwnyddiaeth ond roedd ei weledigaeth wleidyddol ar hyd ei oes yn un ban-Iwgoslafaidd.
Wrth ddarllen y nofel odidog hon, gwelwn mai’r bont yw’r prif gymeriad. Ac mae iddi einioes hir: cawn brofi hanfod ei hanes o ganol yr 16g hyd at ei difrodi yn 1914, ar drothwy’r Rhyfel Byd Cyntaf. Meddyliwn am bontydd fel arfer mewn termau cadarnhaol, fel strwythurau sy’n cysylltu bydoedd. Ond yn nofel Andrić gwelwn nad syml mo hanes pont yn nhermau pobl. Mehmed Pasha Sokolović yw’r llywodraethwr Otomanaidd a roes orchymyn i’r strwythur dros afon Drina gael ei adeiladu. Mab i ddau o werin bobl Bosnia oedd Sokolović yn wreiddiol ond fe’i cipiwyd gan yr Otomaniaid fel rhan o’r ‘dreth waed’ yr arferent ei chodi yn y dalaith. Nid ar bont, eithr ar dipyn o hen gwch sigledig, y croesodd Sokolović yr afon ar ei ffordd i Istanbwl, yn un o nifer o fechgyn syn a diymadferth. Maent yn croesi’r afon a lleisiau gorffwyll eu mamau’n galaru am y lan
â nhw.
Daw pob cenhedlaeth i groesi’r bont hon yn ei thro a hithau’n bresenoldeb distaw drwy’r cyfan, yn dyst i anwadalwch bywyd dyn, boed yn Gristion Catholig, yn Gristion Uniongred, yn Iddew, neu’n Fwslem. Prin y mae digwyddiadau’n gadael eu marc ar dragwyddoldeb y dyfroedd sy’n llifo i gwrdd ag afon Sava yn y gogledd, a honno yn ei thro yn ymdoddi i’r Daniwb. Yn hanner cyntaf y nofel, yr Otomaniaid sy’n teyrnasu, ond encilio rhag grym ymerodraeth Awstria a Hwngari yw eu tynged yn y pen draw. Daw gwrthdaro a chwyldro, a daw llofruddiaeth yr Archddug Franz Ferdinand a’i wraig, Sophia, yn 1914 i esgor ar y Rhyfel Mawr.
Mewn llawer ystyr, gellir gweld y bont yn symbol o Iwgoslafia ei hun, gwlad a fu am ran helaeth o fywyd Ivo Andrić ag un droed yn y Dwyrain ac un yn y Gorllewin. Ond o ganlyniad i’r rhyfela rhwng 1991 a 2001 a’r glanhau ethnig a ddaeth yn ei sgil, glastwreiddiwyd yr amrywiaeth diwylliannol a gyflëir yn y straeon a wehyddir o gwmpas y bont. Yn 1992, lladdwyd dau gant o ddinasyddion Bosnia arni gan filisia Serbaidd Bosnia. Yn gynharach yr un flwyddyn, ar ddechrau rhyfel Bosnia, dinistriwyd cerflun pen ac ysgwydd o Ivo Andrić yn Višegrad, gan Fwslem Bosniaidd, ac mae rhai’n dal i weld rhagfarn wrth-Fwslemaidd yn ei waith.
Er mai clytwaith o hanesion pobl yw defnydd y nofel hon, mae grym meta-fforig ei phrif gymeriad – y bont Otomanaidd sy’n cysylltu ac eto’n gwahanu ei phobl – yn cynnal y dwyster drwyddi, gan roi i ni epig o lyfr. Dyma ragoriaeth Ivo Andrić: creu darlun manwl ar gynfas anferth, rhoi lle i bob un yn y darlun hwnnw, a chydymdeimlo â holl drigolion Višegrad a Bosnia, ni waeth pa iaith maent yn ei siarad na pha grefydd y maent yn ei harddel.
Mae Diarmuid Johnson yn gyfieithydd i'r Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel. Ei gyfrol ddiweddaraf yw Éadaoin – Seacht Snaidhm na Seirce (Leabhar Breac 2020). Ymhlith ei gyfrolau yn Gymraeg y mae Tro ar Fyd – Pobl Dwyrain Ewrop a'r Dwyrain Canol Rhwng Dau Chwyldro 1989-2012 (gydag Amanda Reid) a gyhoeddwyd gan wasg y Lolfa yn 2014.