Llyfr y Fedwen – camp a gorchest
Ruth Richards
Pantywennol
Y Lolfa, 128 tt, £7.99, Tachwedd 2016
Cefais gais gan Elwyn Williams, swyddog Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru a threfnydd gŵyl Bedwen Lyfrau, i gynnig ‘Llyfr y Fedwen’ yn ystod y dathliad blynyddol o lyfrau Cymraeg a gynhelir ym mis Mai bob blwyddyn. Gan nad oes sicrwydd o hyd am gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, a weinyddwyd tan y llynedd gan Lenyddiaeth Cymru, teimlai’r gweisg Cymraeg sy’n aelodau o’r Cwlwm y byddai’n dda cael o leiaf un digwyddiad sy’n denu pobl i drafod, darllen a phrynu rhyw lyfr Cymraeg y tu allan i’r Eisteddfod a’i adladd.
Doedd dim pwysau arnaf o gwbl gan ei bod hi’n amlwg i mi y byddai unrhyw un yn sylweddoli mai fy chwaeth, fy newis, fy mympwy i, a hynny’n unig, fyddai’n arwain at ddethol Llyfr y Fedwen. Felly y bu hi. Tasg hawdd oedd ystyried pa lyfr a’m syfrdanodd fwyaf gyda’i ddyfeisgarwch, pa lyfr a’m tywysodd yn llwyr i fyd nad oeddwn am ddianc ohono wrth i mi droi dalen olaf y gyfrol, pa awdur a oedd wedi defnyddio’i adnoddau orau i lunio cyfrol gofiadwy a darllenadwy. Yn fwy na hynny, roeddwn i’n teimlo fod yr awdur a’r gyfrol wedi cael cam, gan hollti’r beirniaid yng Nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2016, ac felly roedd elfen, fechan iawn, o unioni hynny yn fy newis.
Heb oedi ymhellach, Pantywennol gan Ruth Richards yw Llyfr y Fedwen 2017. Mae ysgrifennu nofel hanesyddol nad yw’n rhamantu dim ar y gorffennol, nac ychwaith yn cilio oddi wrth yr agweddau ofergoelus, cul a diobaith oedd yn gymaint nodwedd o’r gorffennol hwnnw, a gwneud hynny wrth ddiddanu a swyno, yn dipyn o gamp. Pan lwydda awdur i wneud hynny gyda’r nofel gyntaf a gyhoeddodd, try’r gamp yn orchest. Nofel fodern, yn delio â themâu sy’n dal i achosi pryder yw Pantywennol, er mai yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y gosodwyd hi. Mae hi’n nofel dafodieithol, blwyfol, wrth-grefyddol, ffeministaidd, Farcsaidd, dywyll. Ac mae hi hefyd yn chwip o stori – wir – a adroddwyd ag arddeliad a chredinedd sy’n gwneud i rywun amau weithiau fod gan yr awdur beiriant amser i fynd yn ôl i blith trueiniaid Llŷn yn Oes Fictoria. Ar ben hyn oll, mae yma hiwmor. Waw!
Sut y gall nofel hanesyddol fod yn nofel gyfoes, dywedwch? Wedi’r cyfan, cymeriad a lethwyd gan gyfyngderau’i hoes yw Elin Ifans, y prif gymeriad. Mae hi’n ddeallus, yn ddychmygus, yn anturus. Ar y llaw arall, mae hi’n dlawd, mae hi’n ferch, ac mae hi’n byw ym mherfeddion Llŷn. Meddyliwch, onid dyna yw ffawd merched mewn cymunedau caeedig heddiw? Wythnos ddiwethaf, gorfodais fy hun i wylio Three Girls, dramateiddiad teledu o’r digwyddiadau erchyll a arweiniodd at garcharu nifer o ddynion am droseddau rhyw yn ardal Rochdale yn Lloegr. Onid stori bwgan Pantywennol, ar ryw wedd, yw stori’r merched ifainc hynny a oedd mor ddiobaith ynghylch posibiliadau’u bywydau fel mai troi at ryw dan oedran, dan orfodaeth, oedd eu hunig ddihangfa? Troi at fân-droseddu a dyfodd yn ellyll wnaeth Elin, ond tybed beth fyddai’i throseddau heddiw? Pydew yw tlodi y mae hi’n eithriadol anodd crafangu allan ohono, ble bynnag, a phryd bynnag, yr ydych yn gaeth iddo.
Prin y byddaf i’n ailddarllen llyfrau. Mae gormodedd o gyfoeth newydd yn ymddangos i allu fforddio amser i ailbori’r un ddôl. Ond ar ôl i mi orffen darllen Pantywennol, euthum ati’n ddiymdroi i’w hailddarllen. Dyna’r clod uchaf y gallaf ei roi i gyfrol – rhoi fy amser yn hael iddi, ac ymgolli yr un faint yr eilwaith ag y gwnes y tro cyntaf. Llyfr y Fedwen a, gobeithio – os caiff y cyfle – Llyfr y Flwyddyn.
Mae Bethan Mair yn gyfieithydd, golygydd a hyrwyddwr llyfrau.