Adolygu

Magu adenydd

Adolygu Tu ôl i’r awyr

Megan Angharad Hunter

Tu ôl i'r awyr

Y Lolfa, 192tt, 38.99, Tachwedd 2020

Magu adenydd
Angharad Penrhyn Jones
03·12·2020

Stori am gyfeillgarwch ydi Tu ôl i'r Awyr, yn y bôn, a’r modd y gall ein rhyddhau o’n cewyll. Yn nofel gyntaf yr awdures ifanc Megan Angharad Hunter, cawn bortread tyner ac ingol o’r berthynas rhwng Deian ac Anest, sy’n 16/17 mlwydd oed ac yn cyfarfod am y tro cyntaf ar ward seiciatryddol. Dônt yn gefn i’w gilydd wrth iddynt geisio tramwyo maes ffrwydron y Chweched Dosbarth. Er bod y nofel yn plymio i ddyfnderoedd problemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc (a’u rhieni), mae yma harddwch a chomedi yn ogystal â thrasiedi. Mae’r nofel yn amlwg yn deillio o ehangder dychymyg empathig yr awdur, ac mae’n disgleirio ag angerdd dros gelf weledol a cherddoriaeth. Dyfynnir y cerflunydd ffuglennol Brenda Elias ar ddechrau’r gyfrol (‘creu yn unig sydd yn fy nal yn ôl rhag troedio ar lwybr gwallgofrwydd’): mae creadigrwydd yn thema bwysig drwyddi draw. Er mai nofel ar gyfer oedolion ifanc ydi hon, byddai pob un ohonom yn elwa o’i darllen.

Yn benodol, bywydau pobl ifanc yng Ngwynedd rŵan hyn a bortreadir, pobl yn eu harddegau sy’n ceisio magu adenydd mewn byd cymhleth â dyfodol ansicr (cyfeirir at ‘global warming’, yr Wylfa, a bomiau niwclear). Mae yna rywbeth adfywiol am y blas cyfoes go iawn sydd i’r nofel hon. Ceir sgyrsiau am group therapy ar ffurf Snapchat, a defnyddir y talfyriadau sy’n rhan o ieithwedd y cyfryngau cymdeithasol: ‘idk’, ‘ngl’, ayyb. Nid penderfyniad hawdd, mae’n siŵr, oedd sgwennu’r nofel mewn bratiaith, heb yr atalnodi arferol, ac efallai y bydd yr arddull yn gelyniaethu rhai darllenwyr nad ydynt yn gyfarwydd â thafodiaith Dyffryn Nantlle, neu ddarllenwyr sy’n teimlo bod angen trin ein hiaith fel rhywbeth cysegredig na ddylid ei llygru â geiriau Saesneg a rhegfeydd di-ri. Ond mae’r effaith yn rymus. Symuda’r nofel rhwng meddyliau Deian ac Anest bob yn ail – a chymeriadau eraill, mwy ymylol, yn hwyrach ymlaen – ac wrth ddarllen eu geiriau teimlwn ein hunain yn mynd o dan groen y cymeriadau hoffus hyn, sydd yn mynegi eu hunain â gramadeg a rhythmau unigryw. Awgrymir gan Hunter fod pob un ohonom yn siarad ein hiaith ein hunain – a dyma ydi trasiedi bywyd, efallai: nid pawb sy’n medru deall ein hiaith, a gall y diffyg dealltwriaeth hwn arwain at unigrwydd marwol.

Golyga’r arddull person cyntaf yn amser y presennol ein bod yn cael mynediad i fewnwelediadau amrwd y cymeriadau am bynicau sensitif a thabŵ. Mewn parti, er enghraifft, cawn glywed meddyliau Anest am ddillad a thrais:

ma mam yn deud weithia dyla fi ddim ‘gwisgo fatha slyt’ achos ma hin meddwl fod o fwy likely i rapist ytacio fi os dwin gwisgo mewn ffor syn neud fi teimlo chydig llai hyll neu whatever. di hi ddim yn dalld fod o mots be ffwc tin gwisgo achos os tin hogan mar byd run mor gymaint o minefield os tin gwisgo bikini neu dillad sgio neu fuck all. vaj fi syn neud o mwy likely i rapist ytacio fi, nid ffocin fashion choices fi. mor unfair fod genod methu gwisgo be ffwc ma nw isio heb genod erill i gyd yn jyjo a hogia i gyd yn twtsiad chdi fatha ma nw bia chdi.

Codir cwestiynau pwysig yn y nofel am rywedd a rhywioldeb – mae Anest yn mynnu defnyddio toiledau’r hogiau am nad oes toiledau ‘gender neutral’ yn yr ysgol – a chwelir y stereoteipiau
arferol am ferched a bechgyn. Dyn ifanc artistig, dawnus ydi Deian, ag obsesiwn â gwaith Van Gogh, ond caiff ei blagio gan hunanamheuaeth, ac mae’n dioddef o ymosodiadau panig brawychus. Disgrifia’i hun yn ‘wallgo pathetig gwan ffag sensitif tawel gwahanol boring plentynnaidd rhyfedd hunanol llwfrgi gwirion afiach’, ac fe ailadroddir hyn ar ffurfiau amrywiol drwy gydol y nofel. Mae Anest yn gryfach ar yr wyneb, yn ffraeth, egnïol ac yn ymddangos yn hyderus, ond mae hithau hefyd yn berwi o deimladau negyddol amdani ei hun (‘dwi’n berson shit’, ‘dwi jyst yn bitsh selffish’) ac yn credu nad ydi hi’n perthyn i’w ‘t[h]eulu bach perfect’, dosbarth canol, eisteddfodol. Cyfeiria at ‘mamadadaalys’ wrth drafod ei rhieni a’i chwaer: maent yn uned mor glòs fel nad oes modd gwahanu eu henwau, hyd yn oed, a hithau ar y tu allan, y creithiau ar ei breichiau yn dyst i’w dioddefaint dwys.

Mae’r lleisiau mewnol sy’n mynegi hunangasineb y cymeriadau yn medru teimlo’n syrffedus, ar adegau – oherwydd eu bod, wrth natur, yn ailadroddllyd ac undonog. Sut mae cyfleu’r ymsonau mewnol blinderus hyn heb flino’r darllenydd? Nid yw’n gwestiwn hawdd ei ddatrys. Ond mae’r hiwmor yn lleddfu ar y trymder, yn codi’r nofel o’r gwaelodion tywyll y gallai ddiflannu ynddynt mewn dwylo llai medrus. Mae arsylwadau gwreiddiol a phryfoclyd Anest yn aml yn codi gwên. Disgrifia’r frechdan chicken tikka fel ‘bechdan chwd babi’ ac mae ei phortread o’r brifathrawes, Gwyneth, yn taro’r hoelen ar ei phen (‘di ddim yn ifyn trio cuddiad y stres ar gwynab pam-ffwc-neshi-dysaidio-bod-yn-titshyr hi’). Dro arall, dychanir ystrydebau’r gwasanaeth ysgol: ‘oblegid rydym ni oll megis y daten drwy’i chroen, ein siacedi yn datgelu dim amyrhynsyddarytufewn, yn gynnwys i ni.’ Ac yn y sesiwn therapi grŵp gyda’r arweinydd, Leanne, mae Anest yn poeni mwy am gynnwys y tun siocled na phroblemau pawb arall – y math o solipsiaeth yr ydym i gyd yn euog ohono:

ma leanne yn agor bag hi a tynnu tun o celebrations allan ond pan ma hin agor o [...] dwin neud gwddw fin hir eto a gweld na custard creams sy na nid choclet. Wtf leanne, ffwcio fo brens pobol fela.

Mae’r nofel wedi ei gor-ysgrifennu mewn mannau, gyda gormod o ailadrodd ar ambell drosiad, a gellid cyfeirio at rai ystrywiau rhy amlwg. Gallasai’r gyfrol fod yn fyrrach. Ond does dim amheuaeth nad yw Megan Angharad Hunter yn awdur eithriadol o ddawnus ac yn llais pwysig ar gyfer ei chenhedlaeth. Ymddengys ei bod wedi darganfod ei hadenydd fel awdur, ac mae’r nofel ysgytwol hon yn gyfraniad arloesol i’r sgwrs am iechyd meddwl yng Nghymru, mewn cyfnod lle mae trafodaeth o’r fath yn bwysicach nag erioed.

Awgrymir gan Hunter fod pob un ohonom yn siarad ein hiaith ein hunain – a dyma ydi trasiedi bywyd, efallai: nid pawb sy’n medru deall ein hiaith

Pynciau:

#Rhifyn 14
#Megan Angharad Hunter
#Nofelau
#Iechyd meddwl
#Angharad Penrhyn