Mwy nag un fi
Paul J D’Ambrosio, Hans-Georg Moeller
You and your profile
Columbia University Press, 312tt, £25, 2021
Mae’r arfer o lunio proffil fel sail i hunaniaeth yn hen dueddiad yn ôl yr athronwyr Paul J D’Ambrosio a Hans-Georg Moeller. Yn eu cyfrol ddiweddaraf, You and Your Profile, maent yn dadlau mai’r cyfryngau cymdeithasol sydd wedi manteisio ar y duedd ddynol hon, yr hyn a elwir ganddynt yn ‘profilicity’. Mae twristiaeth, er enghraifft, yn weithgarwch sy’n cyfrannu at adeiladu proffil ar gyfer y teithiwr a’r gyrchfan fel ei gilydd. Tala’r unigolyn nid yn unig am y pleser o deimlo tywod dan ei thraed, neu’r haul yn cynhesu ei gruddiau, ond am ‘werth proffil’ ei thrip. Ac mae unrhyw un sy’n disgwyl i hunlun (selfie) fod yn weithred ddiffuant yn colli’r pwynt yn llwyr; saernïwyd yr hunan erioed.
Erbyn heddiw, ym mhedwar ban byd, cabolir proffiliau unigolion a sefydliadau fel ei gilydd, yn fuddsoddiad i’r hir dymor. Mae hyn yn digwydd i’r fath raddau nes mai’r ‘arwyneb, yn absenoldeb unrhyw beth arall, yw’r peth go iawn’. Rydym i gyd yn ‘ymhonni’n ddiffuant’, yn mewnoli gwerthoedd ‘profilicity’, boed yn ein ffordd o ymarweddu, o siarad, neu yn ein dewis o ddillad, fel petaem yn grediniol y bydd fideo ohonom yn cael ei lwytho i’r we unrhyw funud. Mae’r darlun a gyflwynir gan yr awduron yn un brawychus. Er hynny, nid milwrio yn erbyn y cyfryngau cymdeithasol yw ateb D’Ambrosio a Moeller ond cynnig ein bod yn dysgu rhoi pellter rhyngom a’n hwyneb cyhoeddus a’i dderbyn am yr hyn ydyw. Diddorol nodi mai maes academaidd yr awduron ill dau yw athroniaeth Tsieineaidd, ac maent yn tynnu ar y traddodiad Daoistaidd yn y gyfrol hon.
Ymddengys fod ‘profilicity’ yn gysyniad mwy bywiog, rhyngweithiol a democrataidd na ‘brand’ Naomi Klein (No Logo, 2000). Ac eto, yn ôl yr awduron, mae gwir ddiffuantrwydd yn amhosib, a gall ei chwenychu arwain at anobaith. Ar ei waethaf, fel y gwyddom, gall ‘profilicity’ arwain at gronni anhwylderau. Mae D’Ambrosio a Moeller yn trafod achos Nasim Najafi Aghdam, a aeth i bencadlys YouTube yng Nghaliffornia yn 2018 gan anafu tri unigolyn a chyflawni hunanladdiad. Yn ôl y sôn, gwnaeth Aghdam hyn oherwydd newidiadau gan YouTube a oedd yn llesteirio poblogrwydd ei sianelau ar y cyfrwng.
Portreadir y cynnwys a lwythir yn ddi-ben-draw i’r we, i’w sgrolio’n ddiderfyn, fel ‘pacemaker’ bywyd heddiw; a hunaniaeth fel rhywbeth sy’n cael ei ail-greu’n barhaus trwy ynfyd fwydo’r cyfryngau hyn. Cawn ein hatgoffa gan yr awduron o realiti llwm bydoedd unigolion blaenllaw ar YouTube, sydd wedi dioddef chwalfa nerfol. Rhoddir sylw hefyd i gysyniad Eva Illoux o ‘gyfalafiaeth emosiynol’, sef bod yr emosiynau a arllwysir i’r cyfryngau hyn yn cael eu defnyddio fel dim mwy na nwyddau i’w masnachu.
Un enghraifft ddiddorol a roddir o fuddsoddiad hir dymor mewn proffil yw Willkommenskultur (diwylliant croeso) yr Almaen. Fe’i disgrifir gan yr awduron fel agwedd sydd wedi bod ‘yn fwrn’ ar ei dinasyddion, yn ariannol ac fel arall. Dadleuant y gellid gweld y ‘bwrn’ hwn fel buddsoddiad hir dymor ym mhroffil yr Almaen. Ond mae disgrifio ffoaduriaid fel ‘bwrn’, wrth gwrs, yn broblematig, ac mae rhannau o’r drafodaeth yn sicr yn peri anesmwythyd, megis y syniad bod yr atyniad at achosion da yn gallu bod yn gymhleth (‘causes are tricky’) a phobl a sefydliadau’n cael eu denu atynt fel pryfaid at bot jam. Un meme a grybwyllir ganddynt ydi’r ‘riot hipster’, sef yn wreiddiol dyn ifanc mewn uwch-gynhadledd G20 yn 2017 yn tynnu hunlun ar iphone ac yn gefnlen iddo ddynion mewn masgiau yn rhoi pethau ar dân. I’r awduron, mae’r ddelwedd hon yn dal gafael ar ragrith defnyddio technoleg ffansi i lwyfannu hunaniaeth mewn protest wrthgyfalafol. Yn fy marn i, dylid gochel rhag gadael i naratif o’r fath – sy’n awgrymu nad yw mudiadau protest cymdeithasol yn ddim mwy na sioe – wasanaethu agenda geidwadol.
Anodd maddau un ddadl rethregol gan yr awduron. Archwilir dwy agwedd ar y syniad o ‘hapusrwydd paradocsaidd’ a achosir gan ‘profilicity’. Y gyntaf yw ‘Climategate’ yn 2009, pan haciwyd cyfrifon gwyddonwyr mewn ymgais i ddadlennu camddefnydd o ddata, gan gyfrannu at fethiant uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd yn Copenhagen. Profwyd yn nes ymlaen na fu unrhyw ffugio data, bod y canfyddidadau mor ddrwg ag a haerwyd, ac yng ngeiriau’r awduron: ‘mynegwyd rhyddhad gan ffrind sy’n ymgyrchydd ecolegol [...] a heb fwriadu hynny, hapusrwydd paradocsaidd ynghylch newid hinsawdd. Oni ddylai fod wedi teimlo’n bruddglwyfus ynghylch y ffaith bod data gwyddonol yn dangos, unwaith yn rhagor, fod y Ddaear yn gorboethi?’
Yr ail enghraifft ganddynt yw helynt Jesse Smollett, y gweithredwr hoyw du y darganfyddwyd iddo ddyfeisio ymosodiadau hiliol yn ei erbyn ei hun yn Chicago yn 2019. Mynegodd cyd-weithiwr i’r awduron siom pan ddadlennwyd twyll Smollett. Dehongliad yr awduron ydi bod hyn yn enghraifft o uniaethu â’r achos sy’n tyfu mor ganolog i bopeth yng ngolwg yr unigolyn nes mai gwell derbyn newyddion drwg – gan fod hynny’n atgyfnerthu gwerth ymroi i’r achos. Mae hon yn ddadl sylfaenol wallus. Mae’n ffaith bod y blaned yn gorboethi ac mae’n ffaith bod trais hiliol yn digwydd. Siawns mai dim ond rhyddhad (yn achos Climategate) a digalondid (yn achos Smollett) fyddai’r gweithredwyr wedi ei deimlo a hwythau’n siŵr o ddeall yn rhy dda sut mae’r drafodaeth gyhoeddus yn cael ei chamliwio gan fuddiannau breintiedig.
Er yn bryfoclyd ar adegau, felly, mae’r gyfrol hon yn cynnig, serch hynny, archwiliad cysyniadol gwerthfawr o wahanol ffurfiau ar hunaniaeth, sy’n cydfodoli heddiw mewn ffyrdd cymhleth. Mae eu datglymu yn gymorth i gamu’n ôl, petai ond er mwyn gweld ein hunain yn well.
Mae Sara Penrhyn Jones yn Uwch-ddarlithydd mewn Cyfryngau ym Mhrifysgol Bath Spa.