Adolygu

Nofelydd o ffotograffydd

Ruth Richards

‘Golwg Ehangach’: Ffotograffau John Thomas o Gymru Oes Fictoria

Gwasg Prifysgol Cymru, 208tt, £19.99, 2024

Siwan M Rosser

Amser darllen: 4 munud

30·05·2024

Astudiaeth unigryw o Gymru Oes Fictoria fel y’i gwelid drwy lens camera’r ffotograffydd John Thomas (1838–1905) yw ‘Golwg Ehangach’ gan Ruth Richards. Nid dyma’r tro cyntaf i’r awdur ymhél â’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chawn yn ei nofelau Pantywennol (2016) a Siani Flewog (2018) weithiau sy’n gyforiog o fanylder hanesyddol ond sydd hefyd yn ymhyfrydu yn y rhyddid creadigol i ‘stumio’ confensiynau hanes (fel yr awgrymodd Ruth Richards ei hun yn ei hysgrif ‘Dyna sut yr oedd hi...’ yn O’r Pedwar Gwynt, 10.07.2020). Cawn yr un awydd herfeiddiol i ‘stumio’ confensiynau yn y gyfrol ysgolheigaidd hon hefyd, wrth i’r awdur blygu ffiniau disgyblaethol er mwyn cynnig ‘golwg ehangach’ ar arwyddocâd ffotograffiaeth i’n dealltwriaeth o hanes, celfyddyd a diwylliant. 

Mae delweddau John Thomas yn gefnlen gyfarwydd i’r modd y dychmygwn Gymru Oes Fictoria: ei waith ef yn anad yr un ffotograffydd arall sy’n addurno ymdriniaethau hanesyddol â’r cyfnod a deunydd poblogaidd fel ei gilydd. Ei fara ’menyn oedd y portreadau stiwdio confensiynol o werin gwlad ac enwogion a gynhyrchid ar ffurf cartes de visite i deulu, cyfeillion ac edmygwyr yr eisteddwyr. Ffotograffydd masnachol oedd John Thomas, wedi’r cyfan, ond yr hyn y myn Ruth Richards ei ddadlau yw ei fod hefyd yn artist creadigol.  

Drwy ganolbwyntio ar y lluniau a dynnodd y tu hwnt i’r stiwdio neu fwriad cyhoeddus, â’r awdur ati i ddadlennu craffter, hiwmor a gwreiddioldeb artistig John Thomas ar waith. Yn y ffotograffau hyn gwêl Ruth Richards dystiolaeth o’r ‘olwg ychydig yn ehangach ar yr alwedigaeth’ a oedd yn ei osod ar wahân i ffotograffwyr cyffredin ei gyfnod, yn ei eiriau ei hun. Eto nid arddangos y gelfyddyd honno a wneir yma, ond cynnig darlleniad beirniadol amlddisgyblaethol lachar sy’n cymhlethu a chyfoethogi ein dealltwriaeth o gyfraniad John Thomas i hanes a diwylliant Cymru, ac o arwyddocâd y ffotograff i’r modd y dychmygwn ein byd.  

Dadl ganolog y gyfrol yw y meddai John Thomas ar weledigaeth gymdeithasol a fynegir drwy wisg, osgo a safle’r eisteddwyr y dewisodd dynnu eu lluniau ar ei deithiau mynych drwy Gymru, a bod y ffotograffau hyn yn mynegi’n groyw anesmwythyd yr artist yn wyneb oes cynnydd a menig gwynion. Er mwyn dadlennu’r weledigaeth honno, mae’r awdur yn dehongli archif ffotograffau John Thomas megis nofel a gais adlewyrchu, archwilio ac ymateb i leisiau a safbwyntiau amrywiol a chyferbyniol.

Seilir y dehongliad ‘nofelyddol’ hwn ar gysyniad Bakhtin ynghylch heteroglossia, neu amrywiaith, fel y’i bathwyd gan Lisa Sheppard yn Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’ (2018). I Bakhtin, mae’r nofel yn ffurf aml-leisiol lle mae gwahanol haenau ieithyddol a disgyrsiau mewnol yn cystadlu â’i gilydd, gan rwystro un llais neu ddisgwrs awdurdodol rhag tra-arglwyddiaethu. Yr hyn a wneir gan Ruth Richards yw ehangu’r fframwaith hwnnw i fyd y gweledol: drwy ddarllen ffotograffau John Thomas yn gyfochrog â genres eraill (yn arbennig ysgrifau Thomas ei hun, nofelau Daniel Owen, celfyddyd gain y bedwaredd ganrif ar bymtheg a ffotograffiaeth ddiweddarach yr Almaenwr August Sander (1876–1964)), dangosir sut y gallant amlygu haenau aml-leisiol, cyferbyniol a chymhleth. 

O ganlyniad, dengys yr awdur nad cofnod fforensig o boblogaeth ei oes a gaed gan John Thomas, nac adwaith Rhamantaidd wedi’i siapio gan gonfensiynau celfyddyd gain, ond ymateb nofelyddol, cynhwysol i’r amrywiaeth eang o gymeriadau a gydfodolai yng Nghymru ar y pryd (yn rhagargoel o waith Modernaidd Sander). Dyma gymhwyso ac ymestyn theori feirniadol mewn modd trawiadol a chwbl argyhoeddiadol, megis yn yr ymdriniaeth dreiddgar ag ‘appearance, appearance’ lle dinoethir ymddangosiad yn ddim mwy na ‘phlisgyn bregus’. Yn ogystal, mae’r adrannau’n trafod ‘delwedd broblemus’ y wisg Gymreig yn hynod o loyw gan amlygu sut y mynegir natur berfformiadol hunaniaeth Gymreig yr oes, yn ogystal â chyfyng-gyngor diwylliannol yn wyneb twf diwydiant ac ymerodraeth, at ddibenion dychanol a hiraethus yr un pryd. 

Os mai ffrwyth meddwl beirniadol yw’r fframwaith theoretig, wrth ymdrin â’r ffotograffau, cawn mai synhwyrau llenor sydd ar waith yn dychmygu’r ymddiddan rhwng y ffotograffydd a’i eisteddwyr, megis y gantores Eos Cymru neu Nain Griff Brynglas, sy’n llygadu’r camera’n amheus o fôn clawdd. Mae’r wythïen greadigol hon yn peri i’r darllenydd ei hun edrych yn fanylach ar y delweddau a dychmygu’r hyn a fu, gan fwynhau cael ei dywys i graffu ar fanylion arwyddocaol na fyddai fel arall wedi eu gweld. Yn hynny o beth, mae’n resyn nad yw’r ffotograffau eu hunain wedi eu hatgynhyrchu o’r ansawdd uchaf. Pylu braidd o’n golwg a wna manylion cain ffotograffau John Thomas ar dudalennau’r gyfrol hon, a byddwn yn annog darllenwyr i chwilota yn archif ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol er mwyn gwerthfawrogi’n llawn sut mae’r delweddau hyn, yng ngeiriau’r awdur, ‘yn gorfoleddu mewn manylion ac yng ngraen pob peth, boed hynny’n wedd, gwallt neu wisg’. Fe’n hargyhoeddir gan Ruth Richards nad ymhyfrydu esthetaidd oedd wrth wraidd y gorfoleddu hwn ar ran John Thomas, ond ymdrech ymwybodol artist o ffotograffydd i ymateb i gymhlethdodau ei fyd. 

Un o gyfrolau diweddar Siwan M Rosser ydi Darllen y Dychymyg: Creu ystyron newydd i blant a phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (2020).

Dinoethir ymddangosiad yn ddim mwy na ‘phlisgyn bregus’

Pynciau:

#Ruth Richards
#John Thomas
#Ffotograffiaeth
#Siwan M Rosser
#Rhifyn 24