Portreadau Inta Ruka
Darllen llun

Gwaith y ffotograffwraig o Latfia, Inta Ruka
Mae’n her creu cofnod o gymuned gyda chamera. Mae’n gofyn am gyd-weithio efo pobl ond hefyd dal gafael ar weledigaeth artistig. Llwyddodd Inta Ruka, a hynny gyda gonestrwydd. Does dim ymdeimlad o ystryw ar waith yn ei phortreadau. Gellir synhwyro ynddynt ddylanwad yr Almaenwr August Sander a’i gyfres People of the 20th Century a gwaith Walker Evans a Dorothea Lange ar gyfer yr FSA (Farm Security Administration) yn ystod dirwasgiad America’r 1930au. Ond mae rhywbeth unigryw am naws gweledol portreadau Inta Ruka, am y modd maen nhw’n cyfleu agweddau ar ddiwylliant sy’n sicr yn llai cyfarwydd i ni sydd wedi ein lleoli yn ddaearyddol ac yn ddiwylliannol fwy i’r gorllewin.
Y ffotograffwraig sydd wrth y llyw wrth dynnu portread, yn naturiol. Ond nid perthynas naturiol na chytbwys sydd rhyngddi a’i thestun. Does dim modd i’r un sy’n cael ei bortreadu wybod sut lun sy’n cael ei greu ohono, a rhaid aros hefyd cyn gweld y canlyniad – i’r llun gael ei ddatblygu. Mae llawer yn dibynnu ar feithrin ymddiriedaeth. Does ond angen edrych ar y portreadau hyn i ddeall i Inta Ruka lwyddo.
Ym mhrifddinas Latfia, Riga, lle cafodd ei geni, y mae hi’n dal i fyw hyd heddiw. Roedd eisoes yn tynnu lluniau pobl leol yno yn 1983, yn 26 mlwydd oed. Byddai’n treulio oriau bwy gilydd yng nghwmni’r bobl y byddai’n eu portreadu, yn gwrando ar eu hanesion unigol. Yna, ymhen rhyw flwyddyn, dychwelai gyda phrint yn anhreg – ac i dynnu mwy o luniau. Roedd yna gefnogaeth iddi a’i gwaith. Cytunodd un dyn dall iddi dynnu ei lun, er mwyn iddo gael ei helpu. Daliodd i ddychwelyd fel hyn am dros ugain mlynedd.
Yn y lluniau a dynnwyd tu mewn i gartrefi gellir gweld bod Ruka’n amrywio ei harddull trwy ddefnyddio shots llydan ambell dro a shots mwy agos dro arall. Defnyddir cefndir tywyll ganddi i dynnu sylw at wynebau ac osgo’r bobl mae hi’n eu portreadu. Ffactor o bwys iddi ydi golau: o ba gyfeiriad y daw, faint ohono sydd, ei ansawdd. Tuedda i osod grwpiau o ddau neu dri ar wahân, ym mhen draw ystafell – weithiau’n eistedd; neu mae’n eu tynnu yn nes at ei gilydd, mewn cyfuniadau mwy agos-atoch, ym mlaen y llun. Ond mae’r mwyafrif o’r portreadau’n rhai sy’n mynegi awyrgylch breifat, bersonol: lluniau o unigolion, yn aml ar eu pennau eu hunain, a welaf, pobl nad ydynt wedi arfer bod o flaen camera. Gwerthfawrogaf yn y darluniau hardd hyn y prydferthwch a wêl Ruka ym mhob un o’i thestunau. Lluniau pobl yn eu pethau ydynt. Caf ymdeimlad o sensitifrwydd dwys ac empathi’r ffotograffydd. Maent yn nodweddiadol o’i ffordd o fynd ati, a’r lleoliad yn ychwanegu manylion at yr awyrgylch a gyfleir.

Ffrwyth yr ymrwymiad hwn ganddi, a hithau’n dychwelyd drosodd a throsodd i dynnu lluniau’r un gymuned dros gyfnod o flynyddoedd, yw cyfres ddigyffelyb o ffotograffau nas gwelwyd fawr o gwbl ym Mhrydain. Un llyfr yn unig sydd ar gael yn Saesneg am ei gwaith, sef People I Know (2012), sy’n cyfuno tri phrosiect: People I Know, People I Happened to Meet ac Amalias Street 5a, lle tynnodd luniau mewn tŷ mawr pren a godwyd ddechrau’r 20g ac a rannwyd yn 36 o fflatiau, yn gartref i 100 o Latfiaid a Rwsiaid ar gyrion Riga.
Arddangosir ei gwaith yn rheolaidd yn Latfia a Sweden ond unwaith yn unig y bu arddangosfa yn y Deyrnas Unedig, yn y Barbican yn 2006. Dyma lle y gwelais ei ffotograffau am y tro cyntaf: In the Face of History – European Photographers in the 20th Century. Yn 1990, bu farw ei gŵr Egons Spuris yn 58 oed. Bu’n ddylanwad artistig pwysig arni a bu’n rhai blynyddoedd cyn iddi gael y galon i ailafael yn ei chamera – gwaith sy’n gofyn am egni, penderfyniad, ac yn fwy na dim, agwedd bositif at fywyd, boed ei bywyd hi ei hun neu fywyd y bobl mae hi’n eu portreadu. Yn ystod y cyfnod hwn dibynnai am incwm ar waith fel glanhawraig lawn-amser i Lysgenhadaeth Sweden yn Riga, a dyna lle mae hi’n dal i weithio, hyd heddiw.
Geoff Young yw perchennog Galeri a Siop Lyfrau Pen'rallt a Ffotogaleri y Gofeb ym Machynlleth, ar y cyd â Diane Bailey.