Adolygu

Trais gwleidyddol a llenyddiaeth

Dychwelyd i Wlad y Basg

Joseba Sarrionandia

LAGUN IZOZTUA

Elkar, 436tt, 2001

Enzo Traverso

Left-wing melancholia: marxism, history and memory

Columbia University Press, 312tt, £20, (2016) 2021

Patrick Carlin

Amser darllen: 18 munud

07·08·2021

Ondarroa, Gwlad y Basg, Medi 1991 (Llun: Mark Power/Magnum Photos)


Dychwelodd un o awduron cyfoes mwyaf arwyddocaol Gwlad y Basg, Joseba Sarrionandia (1958–) i’w wlad enedigol fis Ebrill eleni, wedi 35 mlynedd yn alltud. Yma mae Patrick Carlin yn myfyrio ar sgwrs a gafodd ag ef yn 2017 ac ar gyfraniad nofelau Sarrionandia i wleidyddiaeth ei wlad.

Gwlad y Basg, Gorffennaf 1985. Pryna dyn ifanc gopi o’r papur newydd Egin o stondin bapurau, rhed i dafarn gyfagos gan ei sodro ar ben y bar a rhannu’r prif bennawd yng nghwmni dau ddyn arall: ‘Pikabea a Sarrionandia yn dianc o [garchar] Martutene.’ Mae eu hwynebau’n goleuo ac mae’r tri’n dechrau canu cân ska – ‘Sarri, Sarri ...’ – a fydd gyda’r enwocaf o ganeuon Basgeg y 35 mlynedd nesaf. Yn y fideo hwn, gan y grŵp Kortatu, fe’u gwelwn yn dawnsio’n llawn gorfoledd i ddathlu’r ffaith bod y bardd ifanc, ac aelod o ETA, Joseba Sarrionandia wedi llwyddo i ddianc o garchar yn Donostia (San Sebastián) – a hynny trwy guddio yng nghyfarpar uchelsain y canwr Imanol a ddaeth i berfformio yn y carchar. 

Ganwyd Joseba Sarrionandia Uribelarrea ym 1958 yn Iurreta, ger tref Durango yng Ngwlad y Basg, ac fe’i magwyd ym mlynyddoedd olaf unbennaeth y Cadfridog Francisco Franco. Ar ôl ennill gradd mewn Astudiaethau Basgeg yn Bilbao, aeth yn athro Basgeg i oedolion a bu’n gweithio fel newyddiadurwr rhan-amser. Yn 1977 ymunodd â’r grŵp llenyddol arbrofol ‘Pott’, y mae llawer o’u haelodau cychwynnol bellach yn enwau arwyddocaol o fri llenyddol a cherddorol. Yn eu plith y mae’r awdur Bernardo Atxaga (yr unig awdur Basgeg sydd yn fwy adnabyddus na Sarrionandia, hwyrach), y canwr Ruper Ordorika, y mae nifer o’i ganeuon yn defnyddio cerddi Sarrionandia, a’r beirniad llenyddol Jon Juaristi. 

Yng ngwanwyn 1978, ymunodd Sarrionandia ag Euskadi ta Askatasuna (ETA: Gwlad y Basg a Rhyddid), mudiad arfog o blaid annibyniaeth i Wlad y Basg a gyflawnodd y weithred dreisgar gyntaf yn 1961 ac a ddaeth i ben yn llwyr yn 2018. Yn 1980, cafodd ei arestio am fod yn rhan o ETA, a fu’n gyfrifol am herwgipio diwydiannwr. Cafodd ddedfryd o 27 mlynedd. Yn ystod ei garchariad parhaodd i ysgrifennu a chyhoeddi (dyfarnwyd tair gwobr iddo gan sefydliadau cyhoeddus ei wlad) – tan fis Gorffennaf 1985, pryd y dihangodd o’r carchar ynghyd â charcharor arall. Wedi cyfnodau byr mewn nifer o wledydd, cafodd Sarrionandia groeso yng Nghiwba, lle bu’n byw am dros 30 o flynyddoedd, gan gyhoeddi’n doreithiog gyda nifer o weisg Basgeg: blodeugerddi i ddechrau, yna nofelau, traethodau estynedig a straeon i blant. Ond bu union leoliad Sarrionandia yn destun diddordeb cyhoeddus a chraffu parhaus ar hyd y degawdau – tan fis Tachwedd 2016, pan roddodd sefydliad Etxepare Llywodraeth Gwlad y Basg, a grëwyd i ledaenu’r iaith a’r diwylliant ledled y byd, wybod y byddai’r awdur yn dechrau swydd fel Darllenydd mewn Astudiaethau Basgeg ym Mhrifysgol Hafana. Fis Ebrill eleni, fodd bynnag, dychwelodd yr awdur i’w wlad enedigol a hynny am y tro cyntaf ers iddo ddianc o’r carchar. 

*

Wrth geisio deall cyd-destunau sy’n wleidyddol gymhleth, megis hanes diweddar Gwlad y Basg, mae gan lenyddiaeth gyfraniad unigryw i’w wneud, a hynny oherwydd bod ganddi y gallu i dynnu cymhlethdodau i’r wyneb. Yn ei gyfrol Republic of Readers? The literary turn in political thought and analysis (2007), dadleua’r beirniad llenyddol Simon Stow ein bod yn fwy parod i ddarllen testunau llenyddol â sensitifrwydd: rydym yn fwy parod i dderbyn y posibilrwydd y byddant yn dadlennu rhywbeth annisgwyl. Mae hynny’n werthfawr yng nghyd-destun gwleidyddiaeth sifig, meddai Stow: ‘such an endeavor might well produce a civil and constructive engagement, one that is possibly beneficial to both parties as well as the broader democratic polity.’

Wrth galon gwaith creadigol Joseba Sarrionandia mae’r profiad o drawsnewid a’r cyfannu sy’n dod yn ei sgil, sef y gwaith o ymberffeithio na fydd byth yn gyflawn oherwydd amherffeithrwydd y cyflwr dynol. Gellir gweld enghraifft gynnar o hyn mewn cyfweliad a roddodd i Punto y Hora, cylchgrawn wythnosol cenedlaetholgar, fis Gorffennaf 1985, ychydig wythnosau cyn iddo ddianc o’r carchar yn 27 oed. Wrth ymateb i gwestiwn ynghylch yr hyn y mae llenyddiaeth yn ei olygu iddo, gwelwn fod cysyniadau ynghylch creu a thrawsnewid yng nghyd-destun gwleidyddiaeth asgell chwith eisoes yn flaenllaw yn ei feddwl: 

Arferai Cesare Pavese ddweud bod llenyddiaeth yn amddiffyniad rhag y sarhad y mae bywyd yn ei hyrddio tuag atom. Fodd bynnag, mae’n anodd egluro beth ydyw a beth nad ydyw. Yn gyffredinol bydd pethau’n cael eu mynegi a posteriori: yn gyntaf, rydych chi’n ysgrifennu. ac yna rydych chi’n holi’ch hun, rydych chi’n chwilio am esboniadau am yr hyn rydych chi wedi’i wneud. Rwy’n credu mai Barthes a ddywedodd nad yw’r byd yn gyflawn eto. I mi, bellach, mae llenyddiaeth yn ffordd o gyfannu’r byd, yn ffordd o barhau i’w adeiladu felly.
 

Gwaith yn Bilbao (Altos Hornos), 1985 (Llun: Stuart Franklin/Magnum Photos)
 

Mae hunaniaeth, yn ogystal â gwahaniaeth ac arallrwydd mewn diwylliant ac iaith, yn ganolog i’w waith, ac yn benodol yr hyn y gall llenyddiaeth ei ddatgelu am gymuned wleidyddol Gwlad y Basg yn ei pherthynas â Sbaen a Ffrainc a chymunedau gwleidyddol eraill. Mewn cyfweliad i’r papur newydd Catalanaidd El Punt Avui fis Medi 2014, myfyria Sarroniandia ar y cyfeiriadau cyferbyniol sydd wrth wraidd ei ddealltwriaeth o’r gymuned wleidyddol, yn ogystal â’r effaith a gafodd ei sefyllfa bersonol ar ei waith ysgrifenedig:

Tra bydd gwaharddiad ar yr hawl i benderfynu o blaid neu yn erbyn annibyniaeth mae’n ymddangos imi fod yn rhaid i’r Basgiaid fod yn genedlaetholgar, hynny yw, fod yn rhaid iddyn nhw broblemateiddio’r genedl. Pe bai ffordd o ddatrys y cwestiwn cenedlaethol mewn modd democrataidd, fyddai dim angen cenedlaetholdeb ... roedd yr hyn a brofais ym 1984 [dywed iddo gael ei arteithio yn ystod y flwyddyn honno] yn hynod Orwellaidd. Ac oherwydd hynny rwy’n credu imi ysgrifennu cryn dipyn mewn dryswch enbyd, ysgrifennu a allai heddiw gael ei ystyried yn ôl-fodernaidd, er mai prin y defnyddid y term hwnnw bryd hynny fel y bydd yn cael ei ddefnyddio heddiw. Er y dywedir bod testunau ôl-foderniaeth yn ysgafn, mae fy nhestunau braidd yn galed oherwydd eu bod yn gysylltiedig â math penodol o bryder.

Yn ei draethawd rhyngweithiol ar y cyd â myfyrwyr prifysgol yng Ngwlad y Basg yn 2015, ‘Lapur Banden Etika ala Politika’ (‘Moeseg neu Wleidyddiaeth Ysbeilwyr’), mae Sarrionandia yn bwrw cip o’r newydd ar ddemocratiaeth Athenaidd Gwlad Groeg, gan ddefnyddio’r sgwâr cyhoeddus canolog, yr agora, er mwyn ailfeddwl y buddiannau gwarchodedig sydd, yn ei farn ef, wrth galon y wladwriaeth: 

Yn y sgwâr does dim lle i Dduw, ffigwr y brenin, y banciau, y fyddin nac academïau iaith gywirol. Dim ond lle sy’n dod â phobl ynghyd; gall pawb gymryd rhan a gall unrhyw un fynegi yno’r hyn a fynno. Dinasyddion cyfartal sy’n dod at ei gilydd. O ystyried ein bod yn byw mewn cymdeithas gymhleth, afraid dweud mai dyna un weledigaeth o bethau, model delfrydol, os mynnwch.

Felly mae Sarrionandia yn holi a stilio ynghylch natur a chynnwys naratifau democratiaeth y genedl-wladwriaeth a’r ffordd y bydd y rhain yn cael eu hail-greu drosodd a thro. Er iddo ddatgan ei fod ‘ar lefel wleidyddol o blaid gwladwriaeth annibynnol’ i bobl Gwlad y Basg, a’i fod yn derbyn bod yr anghydfod gwleidyddol yng Ngwlad y Basg a Chatalwnia wedi’i seilio ar hunaniaethau ‘gwrthrychol’, serch hynny mae’n trin seiliau’r hunaniaethau hyn fel pe baent yn anghyflawn, yn gyfnewidiol neu’n ‘negyddol’. Gwêl hyn yn gyfle i fynd i’r afael â gwahaniaethau gwleidyddol a cheisio tir cyffredin rhyngddynt; mae hefyd yn annog hunanfeirniadaeth. 

Mewn cyfweliad a gynhaliais â Sarrionandia, ychydig wythnosau wedi’r refferendwm ar annibyniaeth a waharddwyd yng Nghatalwnia yn 2017, cyfeiriodd at ‘negyddoldeb gobeithiol’ wrth ddisgrifio hanes yr ornest rhwng cymunedau gwleidyddol, a bod y teimlad o berthyn cenedlaethol yn agored i newid parhaus. Yng nghyd-destun y refferendwm hwnnw, dyma a ddywedodd:

Mae’r Catalaniaid yn dweud ‘gwnaethom ni gontract cymdeithasol ac nid yw’n bodoli bellach’. Ond dyna sydd ei angen o hyd. Y dyddiau hyn fe’i gelwir yn ‘hawl i benderfynu’ ac rwy’n rhannu’r farn honno. I mi, nid yw’r hyn sy’n eich gwneud yn Fasgwr neu’n Sbaenwr yn rhywbeth pendant. I mi, mewn gwirionedd, ei gyfansoddiad yw’r hyn nad yw’n bodoli ... nid wyf yn ystyried fy hun yn genedlaetholwr oherwydd ymddengys imi fod y prosiect cenedlaetholgar o safbwynt damcaniaethol yn hen fusnes digon gwrth-ddemocrataidd. O safbwynt democratiaeth ddelfrydol, mae gennych chi’r sgwâr gwag lle gall pobl gwrdd i wneud penderfyniadau ac ymryson yn eu cylch. Y genedl-wladwriaeth a orfodir arnon ni yw’r model amlycaf hyd heddiw, sef creadigaeth genedlaetholgar sy’n dieithrio’r dinesydd gan nad yw’n caniatáu’r gallu i wneud pender-fyniadau ... nid wyf yn ystyried fy hun yn genedlaetholwr oherwydd fy mod o’r farn na ddylid creu gwladwriaeth gan ddefnyddio meini prawf cenedlaethol a orfodir ar bobl. Nid yn achos Sbaen neu Ffrainc na chwaith yn achos gwladwriaeth Fasgaidd dybiedig. I mi, nid yw tiriogaeth yn amod y mae’n rhaid ei chael.

*

Mae nofel gyntaf Sarrionandia, Lagun Izoztua (Y Cyfaill Rhewedig), a gyhoeddwyd yn 2001, yn cysylltu perthyn yn wleidyddol â sawl math o alltudiaeth. Mae Goio Ugarte, aelod o ETA ar ffo, yn byw yn ardal Bluefields ar arfordir Iwerydd Nicaragwa. Mae’r bobl leol yno’n rhoi lloches iddo, yn bennaf oherwydd ei fod yn nyrs. Yn sydyn mae’n ‘rhewi’: nid yw’n adnabod wynebau cyfarwydd na chwaith bethau o’i gwmpas, ac ymddengys ei fod wedi colli ei allu i lefaru. Mae Maribel, aelod arall o ETA sy’n negesydd rhwng alltudion ETA yn y rhanbarth, yn dod i wybod am ei gyflwr ac yn mynd i Bluefields i ddod â Goio i Ecwador, lle mae ffrind bore oes iddo’n byw, sef Andoni (sydd hefyd yn aelod o ETA). Trwy gysylltiadau Andoni, mae Goio yn mynd i ysbyty seiciatryddol yn Baranquilla, Colombia, lle mae’n cael sylw gan seicotherapydd alcoholig, Imanol Urioste, mab i Fasgwr a ffodd yno yn dilyn cwymp Ail Weriniaeth Sbaen yn 1939. Siarad Basgeg â’i gilydd a wna Imanol a’i chwaer, er nad ydyn nhw erioed wedi bod yng Ngwlad y Basg.

Gosodir y nofel mewn tri chyfnod a thri rhanbarth daearyddol gwahanol – cyfnod Franco yng Ngwlad y Basg, y presennol yng Nghanolbarth America a’r dyfodol rhewedig yn yr Antarctig – ac mae sawl adroddwr ar waith. Deuwn i wybod yn nes ymlaen mai ffuglen mewn llawysgrif yw holl ddigwyddiadau’r llyfr ac mai ei awdur yw Josu, partner Maribel, yntau’n aelod o ETA sy’n ceisio dod i delerau ag alltudiaeth. Mae natur onirig a breuddwydiol y nofel yn ategu’r dryswch y mae’r cymeriadau’n ei brofi wrth iddyn nhw geisio creu bywyd newydd ac ymlafnio i weu eu hatgofion yn rhan o’r bywyd hwnnw. Tua diwedd y nofel, mae Imanol yn yfed yn drwm ac yn llwyfannu drama un dyn lle mae’n cymryd rhan tad a mab sy’n trafod hanfod mamwlad. Dyfais yw hon gan Sarrionandia sy’n dod â ni benben â gweledigaeth ynghylch sut y gallai Gwlad y Basg gael ei hailgyflunio yn y dyfodol. Yn dilyn y perfformiad meddw, mae Imanol yn datgymalu, fesul darn, archeoleg alltudiaeth ei dad:

Yn y bôn, cydiodd ofn ynddo; roedd yn gwybod yn iawn nad oedd pentref Orozko ei blentyndod a’i freuddwydion yn bodoli bellach. Pe bai’n dychwelyd nawr i Wlad y Basg gyda’r mynyddoedd cedyrn wedi’u llorio, yr afonydd glân yn fudreddi, byddai’r arferion roedd yn hen gyfarwydd â nhw wedi hen ddiflannu, byddai’r famwlad yr oedd arno ei heisiau wedi troi’n rhywbeth arall. A fyddai dim lle ar wyneb daear ymhellach i ffwrdd o’i Wlad y Basg yntau nag yno nawr. Roedd arno ofn anymwybodol y byddai’r math hwnnw o ddychwelyd archeolegol yn ei dynnu’n ddarnau’n gorfforol ac yn fetaffisegol ... absenoldeb yw mamwlad, a byddai’n teimlo’r absenoldeb hwnnw’n llawer dwysach yn Orozko. Doedd amser ddim wedi mynd heibio yn ofer. Ac felly arhosodd yno yn y ffermdy ger y coed palmwydd, heb fod yma nac acw, heb na mynd na dod, nes i amser leihau maint ystafell breifat arglwydd y plas. Claddon ni fe mewn arch ddau fetr o hyd, un metr o led a hanner metr o uchder, â baner Gwlad y Basg ac emrallt ym mhob llaw.

Trwy gydol Lagun Izoztua, mae Sarrionandia yn agor cil y drws ar fersiwn amgen o’r melancoli disymud a diymadferth y cyfeirir ato uchod. Mae melancoli gwleidyddol cadarnhaol, â gallu trawsnewidiol, yn bodoli ochr yn ochr â’r dehongliad difywyd a gynigia Imanol inni. Mae’r melancoli swrth hwnnw yn dwyn i gof yr hyn y cyfeiriodd yr athronydd a’r meddyliwr Walter Benjamin ato fel ‘grym meseianaidd gwan’ wrth geisio ailddehongli’r gorffennol er mwyn trawsnewid y dyfodol. Un o elfennau mwyaf grymus gwaith Benjamin (1892–1940) yw ei ddadansoddiad o gynnydd rheibus ein cyfnod modern ochr yn ochr â chynnwys trasig ac anhrefnus y gorffennol. Mae Sarrionandia yn rhoi cliw inni yn y nofel hon o’r hyn a allai fod yn seiliau ar gyfer cymuned wleidyddol Gwlad y Basg yn y dyfodol; cawn ein herio i ystyried ffyrdd newydd o greu’r dyfodol, sef iwtopia sy’n dameidiog ac yn ddarniog oherwydd ein hamherffeithrwydd digyfnewid, ond sydd eto’n dysgu’n barhaus sut i roi o’r neilltu gyfnodau eraill ein hanes diweddar pan fu farw miliynau yn sgil mathau marwol o iwtopia totalitaraidd. Er hynny, bydd byd heb iwtopia gwylaidd sy’n gymesur â’n ffaeleddau yn rhwym o edrych yn ôl yn hytrach nag ymlaen. Gwelir hyn yn llinellau olaf y nofel, lle cawn gipolwg nid yn unig ar felancoli gwleidyddol a lled-obeithiol sy’n asio’r gorffennol wrth y dyfodol ond hefyd ar y ffordd y bydd y ‘gorchfygedig’ yn ystyried nid yn unig bob math o berthyn o fewn y gymuned wleidyddol Fasgaidd ond hefyd ymwneud y gymuned honno â’r llwyfan rhyngwladol. Mae Josu, awdur in situ’r nofel, yn defnyddio’r ail berson unigol drwy gydol y naratif, a osodir yn y dyfodol, ac nid yw’n gwbl glir ai Maribel neu Goio sydd dan sylw ganddo, neu, yn wir, ryw wrthrych arall:

Ac wrth iti deithio ymlaen tua’r dyfodol bydd gennyt ti ryw deimlad dy fod yn teithio tua’r gorffennol. Rwyt wedi colli popeth roeddet wedi’i ennill achos y gwir amdani yw iti gael mwy na’r hyn y gellir ei gael, a serch hynny, byddi di’n gwybod y bydd gennyt ti o hyd un o’r pethau mwyaf sylfaenol sy’n bodoli: amser.
    Ie, amser.

A bydd dy daith yn fwy ysblennydd nag un Wlyses. Does dim ots i ba le yr ei, achos byddi di’n dychwelyd i rywle nad wyt ti erioed wedi bod ynddo o’r blaen. 

*

Mae’r hanesydd diwylliannol Enzo Traverso yn ategu’r dull hwn o gymathu’r gorffennol yn rhan o weithgarwch gwleidyddol y presennol yn ei gyfrol Left-wing Melancholia: Marxism, History and Memory (2016). Ynddi, mae’n dadlau bod ‘melancoli’ y chwith wedi canolbwyntio ar y ‘gorchfygedig’ a’u hanes, gan ddirnad trasiedïau a brwydrau’r gorffennol yn faich ac yn ddyled; ac eto gallai trychinebau fod yn ernes o waredigaeth yn y dyfodol: 

Left-wing melancholy does not mean to abandon the idea of socialism or the hope for a better future; it means to rethink socialism in a time in which its memory is lost, hidden, and forgotten and needs to be redeemed. This melancholia does not mean lamenting a lost utopia, but rather rethinking a revolutionary project in a nonrevolutionary age.

Er mwyn gwneud hyn, awgryma Sarrionandia, rhaid gwaredu’r melancoli ‘anwleidyddol’ sy’n cydymffurfio â mân fuddugoliaethau symbolaidd ac sy’n rhwystro’r dasg o ailgyflunio Basgeidd-dra ar ffurf barhaol yn yr 21g. Yn fy nghyfweliad â Sarrionandia, mae’r awdur yn cwestiynu’r math hwn o symboleiddio diffrwyth drwy gyfeirio at y ffordd mae cenedlaetholwyr Gwlad y Basg yn defnyddio’i ddihangfa o’r carchar yn 1985. Gan wneud y gymhariaeth uniongyrchol â’r cymeriad Goio yn Lagun Izoztua, sydd wedi colli’r grym i lefaru, awgryma fod y diffyg gallu i lefaru neu gyfathrebu’n effeithiol wedi dod nid yn unig i’w ran yntau, er gwaethaf ei hanes toreithiog o gyhoeddi, ond
hefyd i ran y garfan honno o’r gymuned wleidyddol yng Ngwlad y Basg sy’n tadogi’r enw ‘gwladgarol’ arni ei hun:

Mae’r cymeriad yn colli’r grym i lefaru; mae’n methu esbonio’r hyn sy’n digwydd iddo. Fodd bynnag, mae rhywbeth arall yn y cyd-destun hwn nad oes a wnelo’r un iotyn â mi. O ran fy ngwaith ysgrifenedig, mae’r elfen hon wedi’i chamddeall yn llwyr. Mae’n ymwneud â rhywbeth a wnaed yn fy enw i ac yn perthyn i deyrnas ffars. Pan ddihengais o’r carchar aethon nhw ati i greu’r gân ‘Sarri Sarri’, ac yn y blaen. Yn fy marn i, Lefiathan yw’r wladwriaeth, anghenfil o fath, neu finotor; felly, pan fydd rhywun yn tynnu gwaed o drwyn y wladwriaeth, mae pawb yn hoffi hynny – rhywun yn dianc o’r carchar ac yna’n ffoi. Nid y ffaith mai fi oedd yn dianc o’r carchar oedd y peth pwysig oherwydd, o’m rhan innau, nid oedd yn rhywbeth wnes i ar chwarae bach. Beth ddigwyddodd wedyn, felly? I griw’r Chwith Gwladgarol [ymhlith eraill, plaid wleidyddol Herri Batasuna, ar y pryd] honno oedd eu hunig fuddugoliaeth, achos yr unig fath arall o fuddugoliaeth yw lladd cadfridog, er enghraifft ... lladd pobl. Daw adeg yn ystod rhyfel pan fydd yn rhaid gwneud hyn ond, ar ddiwedd y dydd, trasiedi yw’r cwbl. A’r unig fuddugoliaeth gadarn drwy gydol yr 1980au oedd y ffaith bod y ddau ohonon ni wedi dianc o Martutene. O dan amgylchiadau felly, yn fy marn i, pan fydd yr ymdeimlad o golli a chwymp yn cydio, gall rhyw fath o ddigolledu seicolegol ddigwydd ym meddwl pobl, er enghraifft os bydd rhyw foi yn dianc o’r carchar. Iddyn nhw mae’n gwawdio’r wladwriaeth ac felly mae’n parhau’n fyw yn rhan o seici llawer, nid yn unig ymhlith pobl y Chwith Gwladgarol – mae’r un peth yn wir yn achos pobl y PNV [y blaid ddemocrataidd-Gristnogol sydd wedi bod yn hegemonaidd, bron yn ddigyfnewid, yng nghymuned hunanlywodraethol Gwlad y Basg ers ei chreu yn 1979]. Mewn gwirionedd, maen nhw fel pe baent yn dathlu’r ddihangfa’n fwy na phobl y Chwith Gwladgarol ... ac felly’r holl bethau sy’n dod yn sgil hynny sy’n ymwneud â’r ddihangfa a’r gân ‘Sarri Sarri’, ac yn y blaen. Y gwir plaen yw nad yw’r myth a grëwyd o’m cwmpas i a wnelo dim oll â mi. Mae wedi cael effaith yn yr ystyr bod y myth hwnnw, myth y bersonoliaeth, yn mynd yn gymeriad y gallwch chi ddatgan hawl drosto, yn wahanol i lenyddiaeth. Dyna rywbeth nad wyf wedi llwyddo i ddod i delerau ag ef.

Mae cyd-destun ETA yn gefnlen i bopeth sy’n digwydd yn Lagun Izoztua, ond fel y noda’r bardd a’r beirniad llenyddol Eider Rodríguez, ‘os yw’r nofel hon yn ymdrin ag un peth, yna alltudiaeth yw’r elfen honno’. Oherwydd hynny, o bosib, brysiwn i ychwanegu ei bod hefyd yn nofel sy’n cyfeirio’n gyson at ffyrdd newydd o ystyried cymunedau gwleidyddol.

Yn ei erthygl ‘Revolution in Reverse’ (2007), cynigia’r diweddar David Graeber fod meddylfryd y Chwith wedi’i seilio ar ‘a political ontology of the imagination – though I could as easily have called it an ontology of creativity or making or invention’. Mae gwaith creadigol Joseba Sarrionandia yn drwmlwythog o’r ffordd hon o ystyried cymunedau gwleidyddol, ac mae’n hoff o droi ben i waered y cysyn-iadau hynny y tybir eu bod bellach wedi’u bychanu a’u dibrisio yn yr oes sydd ohoni, megis melancoli neu iwtopia. Yn ei lyfr swmpus Moroak gara behelaino artean? (Ai Mwriaid ydym yn y niwl? 2010) – a fu’n destun cryn gecru pan benderfynodd y Llywodraeth dynnu’r wobr gwerth €18,000 a ddyfarnwyd i Sarrionandia amdani yn ei hôl, hyd nes i’w sefyllfa gyfreithiol gerbron awdurdodau barnwrol Sbaen gael ei datrys – mae’n mynd dan groen y cysyniad o gynnydd yng nghyd-destun iwtopia:

Nid rhywbeth yn y dyfodol yw iwtopia ond yn hytrach y mae’n goleuo drwy’r amser. Ni ellir deall iwtopia fel cyflwr terfynol a chronolegol hanes, ond yn hytrach megis grym golau sy’n croesi pob eiliad o hanes ac yn cyfannu ei sylwedd. Hanes, yn ei fersiwn swydd-ogol, yw’r enw a roddir ar ddatblygiad cynnydd, y naratif cronolegol sy’n egluro ac yn cyfiawnhau mathau o oruchafiaeth sy’n bodoli eisoes ... Nid yw’r presennol wedi ymwahanu oddi wrth y gorffennol ond nid yw chwaith wedi’i unioni. Mae’r syniad o rydd-freinio’n bywiogi eiliadau’r bobl hynny sy’n dioddef gormes a chywilydd. Nid yw’r gorffennol wedi’i gau na’i orffen.

Yn yr un modd (a chan ein hatgoffa o angel hanes Benjamin, sy’n symbol  o hanes fel proses o anobaith diddiwedd), mae Maribel yn Lagun Izoztua yn ddiymadferth gerbron helbul hanes, ac yn myfyrio ynghylch ei gwaith fel negesydd ETA yn Nghanolbarth a De’r Amerig ac yna’n mynd rhagddi i ehangu’r cylch:  

Nid oes amheuaeth na fydd ein disgynyddion yn ein hystyried ni, a phobl yr un fath â ninnau, yn angenfilod digon rhyfedd. Beth sy’n cerdded a byth yn sefyll yn stond? Pos ein mam-gu oedd hwn ac roedd yn rhaid i ni, blant, gynnig ateb. Felly, tragwyddoldeb bellach yw llwybr y crwydryn hwnnw. Fel pos jig-so, mae amser yn gadael yn ein meddiant olion myrdd o ddarnau bach o’r gorffennol fel y gallwn ymarfogi â’r deunydd hwnnw. Nid yw unrhyw beth yn cael ei ffurfio’n gyflawn ond efallai y bydd y swmp hwn o ddarnau bach, rywbryd, yn gwneud rhyw fath o synnwyr.

Yn erbyn cefnlen hanes Sarrionandia fel aelod o ETA, ac yn groes i natur ddu a gwyn a di-droi’n-ôl gweithredoedd terfysgol, cawn ein hatgoffa gan gyfraniad llenyddol Sarrionandia sut y gall llenyddiaeth, o’i gosod yn ei chyd-destun, ein cynorthwyo i feddwl am y bau wleidyddol a’i dadansoddi. A’r cyd-destun hwn yw ein bod yn derbyn bod ein gwybodaeth yn fregus ac yn ddamweiniol oherwydd yr ychydig a wyddom. Dylai hyn yn ei dro beri inni bwyllo cyn gwneud datganiadau hy. Ond mae bregusrwydd ein gwybodaeth hefyd yn gryfder: gall llenyddiaeth ein harwain at gyflwr meddwl sy’n gymorth i fyfyrio’n athronyddol ac yn wleidyddol am y byd o’n hamgylch. Pan gefais wybod ganol mis Ebrill eleni fod Sarrionandia wedi dychwelyd i Wlad y Basg, troi a wnaeth fy meddwl at dad Imanol yn y nofel Lagun Izoztua: oherwydd gwnaeth Joseba Sarrionandia yr awdur yr union beth na fentrodd y cymeriad yn y nofel ei wneud o gwbl: wedi degawdau o fyw filoedd o filltiroedd i ffwrdd, dychwelodd i’w wlad enedigol. 

Mae Patrick Carlin yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fis Ebrill eleni, dychwelodd yr awdur i’w wlad enedigol am y tro cyntaf ers iddo ddianc o’r carchar

Pynciau:

#Rhifyn 16
#Gwlad y Basg
#Gwleidyddiaeth