Yr hen fenyw a’r hitman
Adolygiad o Tri Deg Tri gan Euron Griffith
Euron Griffith
Tri Deg Tri
Y Lolfa, 206 tt, £8.99, Medi 2016
Prin y byddai rhywun a ddarllenodd ddwy nofel flaenorol Euron Griffith yn medru dweud taw’r un awdur a ysgrifennodd Tri Deg Tri. Ar ôl pardduo’r diwydiant teledu yn Dyn Pob Un, ac yna olrhain hanes hilariws y ditectif di-gliw a di-glem Leni Tiwdor yn y llyfr o’r un enw, dyma nofel bur wahanol - o ran ei saernïaeth, ei chynnwys, ei huchelgais a’i gweledigaeth.
Yn ôl yr awdur ei hun, roedd y broses o sgrifennu hon yn wahanol iawn. ‘Mi oedd fel petai yna law arall wrth y cyfrifiadur,’ meddai. ‘Llaw â bysedd chwareus a oedd wastad yn fy arwain i lefydd tywyll ac anarferol, i lefydd annisgwyl. Fe ysgrifennodd yr arlunydd, Paul Klee, unwaith fod ei waith yn debyg i “fynd â llinell am dro” a dyna’r union deimlad a ges i wrth ysgrifennu’r nofel hon.’
Heb os, mae’r llyfr yn dangos bod yr awdur – sydd yn digwydd bod yn artist gweledol hefyd – wedi newid gêr a newid cyfeiriad. Nid bod yna unrhyw beth yn bod ar ei lyfrau cyntaf; mae’r rheiny’n ddoniol, yn ffraeth ac yn siarp. Ond mae’r gwaith diweddaraf hwn yn amlygu aeddfedrwydd newydd ar ran yr awdur ac mae hynny i’w groesawu’n fawr.

A’r stori wedi ei lleoli ar ynys Japan, yn unigeddau’r Antarctig, ar faes y gad yn Afghanistan, yn jyngl trwchus Affrica ac mewn cartref i’r henoed yng Nghymru, mae’r cynfas dipyn yn ehangach na’r nofelau eraill. Cewch glywed felly am arferion defodol y Samwrai, sut y gall rhew droi’n obsesiwn a’r ffordd orau o gael eich hunan allan o drwbwl pan fydd haid o gorilas candryll yn rasio ar eich hôl. Ydy, mae Tri Deg Tri yn ddychmygus a dyfeisgar, ac mae’r naratifau lluosog yn gweu’n batrwm cymhleth - doliau Rwsiaidd o straeon unigol yn cwato’n dwt oddi mewn i foliau’r doliau eraill.
Eto, nid gwaith yw hwn sydd yn cymryd ei hun ormod o ddifri’ chwaith, fel y gwelwch o ddarllen enwau’r ddau gymeriad ar ddechrau’r llyfr. Mae Heb Degell a Dyn Mewn Dau Geffyl yn frodorion cynhenid Gogledd America sydd yn cyfnewid storïau a chwedlau am lwynogod, y dyn gwyn ac am ddechrau’r byd, a thrwy hynny maent yn fframio’r hyn sydd yn dilyn. Mae’r straeon hyn yn awgrym o’r pethau rhyfedd ac arallfydol sydd ar ddigwydd, i’n gwrth-arwr, yn anad dim, sydd yn dipyn o lwynog ei hun.
Mae’r teitl, Tri Deg Tri, yn cyfeirio at y nifer o bobl y mae’r llwynog yma, yr asasin Meirion Fôn, wedi eu lladd. Ar yr wyneb, mae Meirion yn defnyddio dulliau confensiynol i ladd ond, bob tro y mae’r hit ar gyrraedd, ymddengys bod rhyw rym mwy nag ef ei hun ar waith – ffawd efallai neu bwerau’r fall – fel petai’r farwolaeth wedi ei threfnu rywsut. Yn sicr, mae hwn yn fyd lle mae realiti wastad yn gymysg â hudoliaeth a’r annisgwyl, a’r darllenydd yn clywed adlais pell o storïwyr America Ladin yn y dweud ac yn yr arddull.
Bellach, mae Meirion yn gweithio i ddyn dirgel o’r enw Nelson – gŵr y daeth i gysylltiad ag ef yn ystod ei gyfnod yn y fyddin – ac mae e’n teithio’r byd er mwyn lladd ei dargedau dethol.
Mae gan Meirion ddigon o brofiad ag yntau wedi bod yn lladd ar hyd ei fywyd, hyd yn oed pan oedd yn y groth, pan laddodd ei efell – efallai ar ddamwain, efallai ddim.
Yn hyn o beth mae’r nofel yn gyson â’r syniad craidd sydd yn nofel newydd Ian McEwan, Nutshell, sef creu cymeriad allan o rywbeth, neu o ryw-fod, sydd o’r braidd wedi cael cyfle i ddatblygu hunaniaeth am nad yw wedi ei eni eto.
Mae gogwydd chwareus nofel Griffith yn amlwg iawn yn y neidiau cronolegol a gyflawnir yn gwbl ddidrafferth. Mae’r rhain yn tasgu o gyfnod i gyfnod ym mywyd Meirion Fôn ond wastad yn angori’r plot ym mhrif ddilema’r cymeriad, sef beth i’w wneud â’i fam.
Mae’r wraig honno’n hoff iawn o’i hystafell mewn cartref i’r henoed ac yn gyndyn iawn i symud wrth i waith datblygu ar yr adeilad gael ei gwblhau.
Ond mae’r lle’n gostus ac mae’n rhaid i Meirion dalu’r bils. Wrth i hyn bwyso ar ei feddwl, mae’r hen fenyw 'styfnig yn ystafell 200 yn peri pen tost i berchennog y lle – ac mae ef ei hun angen yr arian a ddaw yn sgil adnewyddu a datblygu’r cartref.
Yn y bennod ‘Tri, Pedwar, Pump a Chwech’ cawn glywed am hanes criw o filwyr yn ardal Helmand yn Afghanistan, ac fe adroddir tipyn o’u stori nhw ar ffurf llythyron. Mae rhai o’r llythyron hynny wedi cael eu sensora mewn modd nid annhebyg i agoriad Catch-22 gan Joseph Heller. (Tybiaf fod Euron Griffith, a astudiodd lenyddiaeth America, wedi darllen y clasur cyfoes hwn ac wedi chwerthin yn braf o weld y sbort sydd i’w gael o gwato geiriau dan haen o inc du.)
Un o’r syniadau eraill sy’n cyfoethogi’r nofel yw gallu Meirion i ddeall synau anifeiliaid a thrydar adar, ac mae’r creaduriaid hyn yn arsylwi ac yn sylwebu ar argyfyngau lu y prif gymeriad.
Os oes yna wendid, gellid dadlau y byddai wedi bod yn werth datblygu un o gymeriadau’r nofel, y nyrs, ychydig ymhellach. Fel y mae hi, mae hithau’n ormod o seiffr i fedru cyfiawnhau clywed y math o straeon y mae ei mam yn adrodd wrthi yn ystod plentyndod yng ngwlad Pwyl.
Ond mae dilyn pererindod llofruddiol Meirion, dysgu am ddraenogod a sut i asesu’r gelyn yng nghrindiroedd Afghanistan yn bleserus a difyr, ac yn ffordd ardderchog o dreulio un o’r nosweithiau hirion sydd yn ein disgwyl yn ystod y misoedd nesaf. Mae Tri Deg Tri yn sbort ac yn sbri, ac fe gaiff mwynhad amlwg yr awdur ei rannu’n hael â’r darllenydd.
Ystrydeb yw dweud bod dyn yn edrych ymlaen at nofel nesaf awdur ond, yn yr achos hwn, mae’n wir bob gair. Dyma awdur ar newydd wedd, a’r wedd honno’n hynod ddeniadol.
Enillodd Jon Gower wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2012 am ei nofel, Y Storïwr. Byddai ei gyfrol ddiweddaraf, Rebel Rebel (Y Lolfa, 2016), yn anrheg Nadolig ardderchog i unrhyw un sy'n hoff o 'sgrifennu afieithus a David Bowie.