Canmlwyddiant
Croesair Rhifyn 13
Anfonwch eich atebion i’r cyfeiriad hwn erbyn 15 Hydref 2020, os gwelwch yn dda: O’r Pedwar Gwynt, Dôl Bebin, Rhydypennau, Aberystwyth SY24 5BE. Bydd tocyn llyfr gwerth £25 i’r datrysiad cywir cyntaf a ddaw allan o’r het.
Llongyfarchiadau cynnes i Andrew Green, Abertawe – enillydd croesair Rhifyn 12 / Gwanwyn 2020 Morus Venti.

Ar Draws
1,24,36 Hanesydd, awdur a chrwydryn. Ganwyd yn nhref 7 (5,5,5)
4 Mae’n bosib mai dadl sydd yma na ellir ei hadfer (7)
10 Heb ei hyfforddi, dringo’n llwyddiannus? Nage, disgyn yn glogyrnaidd (10)
13 O’u cymharu ag ewros, mae ychydig mwy o werth i’r rhain (7)
14 Mwy nag un tlws sy’n fy nghryfhau (6)
15 Poblogrwydd caws y clywn amdano (3)
16 Un sy’n aros am ddyn i fynd ar ddêt (5)
17 Rhiannon fach, ydi o’n chwarae efo top y llefrith, yn ei hidlo? (7)
18 Offeryn diafol drwg, nid da (4)
19 Islaw i chi mae fflamau gwae! (5)
25 Camgymeriad pedwar o’r Blew (4)
26 Loetred yn amheus ar y sathrfa hon (7)
28 Slogan asiantaeth? (5)
30 Dyfarnwr sy’n troi cymal yn ei ôl (3)
31 Sam Cwrw wrth ei waith? Bron iawn(6)
33 Canfod pwy yw rhywun byw gydag asid niwclëig yn gyntaf (7)
34 Robert Lloyd yn gwneud y mynydd bach yn frith (10, tri gair)
35 A fu’r ardal hon ar dân yn ddiweddar? Gallai Cerrigydrudion fod mewn gwell trefn heb yr ogedu diofal (7)
I Lawr
1 Dyma fo’n anwesu merch yn y lle hwnnw (5)
2 Ganwyd o, yn anffodus, yn tisian (7)
3 Eos gyda llusern a allasai gael trefn ar galon mewn drysni? (4)
5 Eu cainc yn swynol fel hogiau a genethod (7)
6 Llandudno! Rhaid tynnu llun a pharatoi rhywbeth i’w ddweud yn y capel (5)
7 Gweler 1 ar draws (6)
8 Pwy allasai fod wedi gwneud llanast llwyr o’r Crimean War? Trump? (10)
9 Mwy nag un ffordd o ddarparu ffisig i chi (6)
11 Fyddai map cyntaf Runnymede yn dangos safle arwyddo un mawr? (6)
12 Un sy’n gwneud gwêr diwerth yn esgeulus (10)
20 Adfywio a gildio’n gywrain (7)
21 Dyddiau gorau’r brenin Midas? Go brin (6, dau air)
22 Dyrnwch ychydig o us a grawn i wneud lle i anifeiliaid orwedd arno (7)
23 Cyfyngiad anghyfleustra’n cyflwr sy’n rhoi sterics i ni (6)
24 Os buaswn yn anifail anwes, byddwn yn mynd ymaith (6)
27 Gwiriondeb y deyrnas sy’n cyfrannu at swm sy’n ddyledus (5)
29 Dilledyn roedd 'Rolant Ronsyfál' yn ei wisgo (5)
32 Gwgu wrth sefyll ar ei ben yn ystod aerobics (4)