Croesair

Croesair Gaeaf 2022

Disg a rhod gyda nifer o gogs

Morus Venti
28·12·2022

Mae’r hen Forus yn dychmygu gwrthrych a ddylai fodoli yn rhywle yng ngogledd Cymru, i gofio rhan o dafodiaith rhai o’r trigolion. Wedi llenwi’r darlun dylsech ganfod yn sgwariau 1 hyd 32, yn eu trefn, deitl record Gymraeg (pedwar gair), enw cyntaf y caniedydd ac enw dychmygol y gwrthrych dychmygol a gynrychiolir gan y darlun (tri gair).

Rhaid ysgrifennu’r atebion i dri o’r cliwiau ‘O Amgylch’ o chwith (hynny yw, gan ddechrau gyda’r llythyren olaf). Mae 19 o’r atebion ‘Rheiddiol’ yn mynd o’r ymyl i’r canol, a’r gweddill o’r canol i’r ymyl. Awgrymir defnyddio Geiriadur Prifysgol Cymru.

Anfonwch eich ateb, gyda'ch enw, eich cyfeiriad a'ch ebost, erbyn 1 Mawrth 2023 at: 
O'r Pedwar Gwynt, Dôl Bebin, Rhydypennau, Aberystwyth SY24 5BE. Bydd tocyn llyfr £25 i'r datrysiad cywir cyntaf a ddaw allan o'r het. Llongyfarchiadau i Ceri Davies, Abertawe – enillydd croesair Rhifyn 19 / Haf 2022 Morus Venti. Mae tocyn llyfr ar ei ffordd ato!
 

O Amgylch

33 Pwyso a mesur busnesau prysur nad oes bun yn gweithio ynddynt (5)
34 Teclyn torri gwallt, heb sôn am ffêr (4)
35 Mynydd ar gyfer mynd yn noeth (5)
36 Nid yw’n stereo, a chlywa i ____ fo’n dda iawn (4)
37 Gair efo dyn gyda Saesnes ddigalon o’i amgylch (5)
38 Yn llawn cyffro, gwelo’r haul yn machlud ar hwn (6)
39 Rhif metrig (3)
40 Edrychwch ar y ddynes mewn carnifal (4)
41 Rwyt ti’n amgyffred gwaelod afon, ys dywed nifer fawr o ddeheuwyr (5)


Rheiddiol

1 Mewn cyn lleied o amser, te mini o ryw fath gewch chi (6)
2 Mis i ni gofio sant (6)
3 O grëyr beiddgar, yn dwyn aderyn ysglyfaethus! (6)
4 Morthwyl gydag ymyl ar gyfer drws bychan (6)
5 Gorchuddio’r corff oherwydd Gogs hurt sy’n amgylchynu sefydliad merched Seisnig (6)
6 Ga’ i liw dychrynllyd o’m curo ar fy mhen ôl â’r rhain? (6)
7 Paratoi diod, gyda llaw, ger afon ar gyfer eisteddfod 2024? (6)
8 Dyffryn Fflur gyda dail yn murmur? (6)
9 Heb ddull o siarad? Gog wyt ti? Anghywir; naci, de ydw i (6)
10 Dim ond mymryn o amser cyn i ti biso dy bais! (6)
11 Lwc dda yw cael ‘starter’ o ffa o’r cynhwysydd gwreiddiol (6)
12 Coedwig aur yn rhan o Ffestiniog (6)
13 Dryswch ysbryd afon? (6)
14 Drysu, a rheda ynghylch dwrn cas (6)
15 Sitting Bull er enghraifft yn dod â rhinwedd moesol yn ôl gyda chychwyn dewr yn lle ofn yn bennaf (6)
16 Hawl Dafydd bach i gael Dychwelyd ar ôl cerdd arall gan yr un bardd (6)
17 Deuair hynod ysblennydd (6)
18 Damwain sy’n flêr a digalon yn digwydd mewn amrantiad (6)
19 Cwtogiad oherwydd actio gwael ar ddechrau drama (6)
20 Cynulliad yn gwasgar cyn i lywodraeth Iwerddon godi (6)
21 Mwy nag un 32 sy’n rhan o ddelw lodes? (6)
22 Cae gwair y rhoddir lamas yn bennaf ynddo (6)
23 Rhoi’r gorau i waith a dewis moelydd gwyllt (6)
24 Dawnsio bolero yn blygeiniol (6)
25 Salwch y hwligan anystywallt wedi iddo gael gwared â’r bwmps (6)
26 Hynod swynol noson cyn ’Dolig (6)
27 Nid fel bardd Ellis Wynne yw record sy’n cynnwys dechreuadau Gweledigaeth (6)
28 Heb roi chwip din anorchfygol ... (6)
29 ... bocsiwr sy’n gwahanu grawn a gwellt (6)
30 Rhyddhau arian o le bas mewn afon (6)
31 Rhyw letysen wyllt heb galon bêr (6)
32 Wele leinin gwag truenus aren (6)

 

 

Pynciau:

#Rhifyn 20
#Morus Venti
#Croesair