Croesair

Croesair Gwanwyn 2023

Fi a’m cydymaith

Morus Venti
19·04·2023


Mae 8 a 10 yn tywyll sôn am yr hyn a wneuthum i fachgen gyda chymorth fy nghydymaith, sef 4, yn ôl pennill byr. Cyfeirir at y bachgen ac atom ninnau yn y trydydd person. Gellid ffurfio YFED PI GEE JOHN PUW o’r llythrennau nad ydynt wedi eu gwirio gan atebion sy’n croesi yn 8,10 a 4.

Ar Draws

8          Gweler rhaglith 
9          Nefoedd annwyl! Llamu a griddfan (8)
10        Gweler rhaglith (anagram bag i ŵy epa)
11        Ysbryd Diane yn dychwelyd (5)
13        Twrw Ifan o’r Alban yn achwyn (6)
14        Anghyson yw drysu Deiniol a Phantycelyn (8)
15        Roeddynt â naws amheus yn arddangos twyll (11)
20        Cnawdol yw cyfansoddwr Almaenig ymysg cantorion, wedi ei leoli yn y cefn (8)
22        Gerbron ynadon, yn bennaf, mae melan yn datblygu (6)
23        Llais Wil, y cyntaf i dorri o’r niferoedd hyn (5)
24        Darllediad o Live Earth na fyddai’r Almaenes hon (1912–45) wedi ei weld (3,6)
26        Gyrru da i farchnadoedd Clwyd ac Ynys Môn (8)
27        Caseid yn arw un fraith (6)

I Lawr

1          Betiwr yw dyn sy’n bwyta’n fynych o gwmpas bwrdd yn bennaf (7)
2          Sgleinio’n rhyfeddol fel tîm pêl-droed Caerdydd? (8)
3          Tenau yw ar ganolfan hamddena yng nghanol Llanfair wedi effaith daeargryn (6)
4          Fy nghydymaith (8,7; anagram Plesian un Jehova)
5          Er hynny, dyma dipyn o galondid i chi (3)
6          To bach yn ymestyn dros bellter maith. Targed? (6)
7          Pigog yw peiriant gyda dannedd nesaf at ei phen ôl (7)
12        Ydy o’n gwybod beth yw nwyon? (4)
16        Gallu Arglwydd cyn diwedd bendith (4)
17        Potio megis llawer perthynas sy’n ymddangos â’i wyneb i waered (8)
18        Efaill Deian efo diod fyrlymus a losin ar ffon? (7)
19        Medret rhywsut, o gwmpas canol daear, ddarganfod mam Persephone (7)
21        Dechrau ffynnu a recordiwyd 8 oren yn gyntaf (6)
22        Wedi huno tipyn yn anghyfforddus tu mewn i’r Wysg fyrlymus (6)
25        Cylchgrawn blynyddol Cymraeg sy’n ffwlbri pa ffordd bynnag y darllenwch o (3)

 

Gyrrwch eich atebion, ynghyd â'ch enw, eich cyfeiriad a'ch ebost, erbyn 1 Mehefin 2023, at: O'r Pedwar Gwynt, Dôl Bebin, Rhydypennau, Aberystwyth SY24 5BE. Bydd tocyn llyfr gwerth £25 i'r datrysiad cywir cyntaf a ddaw allan o'r het.

Pynciau:

#Rhifyn 21
#Croesair
#Morus Venti