Croesair Haf 2023
Daeth tro ar fyd

Wedi llenwi’r darlun dylech ganfod, yn sgwariau 1 hyd 36, yn eu trefn, ddyfyniad o ddarn o’n llenyddiaeth. Rhaid ysgrifennu’r atebion i bedwar o’r cliwiau O Amgylch o chwith (h.y. gan ddechrau gyda’r llythyren olaf). Mae naw o’r atebion Rheiddiol yn rhedeg o’r ymyl i’r canol, a’r gweddill o’r canol i’r ymyl. Awgrymir defnyddio Geiriadur Prifysgol Cymru.
O Amgylch
37 Gwaelodion sgidiau/heb Ddechrau/Gofidiau. Beth ydynt? (5)
38 Bu grawn ddoe rywsut (5)
39 O siarad am O3 (4)
40 Dod yn nes at ffin, ac yna tro pedol (5)
41 Yn dychwelyd o Poitiers, mae’n eithaf (4)
42 Owain Clark yn gyntaf yn nofio ac yna’n rhwyfo (6)
43 Llygadu pen gwyllt Osian anystywallt (6)
44 Brecwast HRH, ond nid pan yw’n hwyrhau ... ? (4)
45 ... Diben rhai sy’n darparu’r brecwast uchod? Byddir yn mynd (3)
46 Ffrwythau sy’n tyfu ar goed ym Meiringen? (5)
Rheiddiol
Chwe llythyren bob un.
1 Angerdd ysgol Penyberth efallai ...
2 ... Saunders ac oll, wrth gwrs, yn danbaid
3 Ymddwyn fel cath a chael Katherina rownd ato ...
4 ... Daw’n un sy’n difwyno Katherina ac ennill calon myfyrwragedd
5 Heb frifo tywysoges foesgar yn bennaf
6 Eithriadol od yw eira du!
7 Cwrtais ydyw yn Y Grand tra’n dawnsio
8 Gwareiddio gŵr gyda chalon broliwr
9 Un o 37 mewn lido da yn nofio (6)
10 Marc: un adnod ryfeddol
11 Cyfoeswr sy’n tyfu Indian corn yn y fforest?
12 Cartref un sy’n gofalu am sawl canon rhydd hyd yn oed, ond heb, h.y., ...
13 ... arf cludadwy o faw llwm digalon sy’n ffrwydro
14 Heb fysedd, dyma fydd gennych, a bydd yn anodd ysgrifennu’n y dull talfyredig hwn
15 Siarcol yw lliw digalon pentref T H Parry-Williams wedi mynd â’i ben iddo ...
16 ... Creadur cefnder THPW sy’n lliw digalon o fewn peiriant fferm
17 Fel buasai pum can ennyd
18 Un a godwyd yn flaenor doncia allan o diwn
19 Gyda chychwyn digon tenau, yn eiddil y daw nifer ohonynt
20 Gwedd o lwyth stalwyn yn y pen draw?
21 Dyma reolau anghyffredin ar gyfer cludwyr eirch
22 Brecwast bregus mewn mannau uwchben y cymylau
23 Egin a allai ddatblygu i fod yn blant drwg?
24 Oes diwrnod ar ôl dydd Mercher?
25 Thema ryfedd y ddrama’n bennaf yw un sy’n cynnal gyda bwyd
26 Diben fferm sy’n darparu lle ffafriol i dyfiant bwyd
27 Lleoliad German rhyfelgar
28 Gwrthrych dibwys drama gydag arweinydd Cawdor yn mynd a sicrhau diwedd Duncan
29 Actio’n dawel o’r galon boen Mimi druan
30 Giamster anhygoel nad oes ganddo galon ysgafn?
31 Dŵr fan draw – Lledr ydyw
32 Welwch chi mo arf fel cyllell yn troi yn e.e. Trafalgar?
33 Amrywiaeth lliw mewn bara gyda ffrwythau ynddo?
34 Paentiwr un o’r Ffichtiaid
35 Poenydio er mwyn ei gael o i ateb ryw ffordd
36 Cilfach fôr Colwyn i gyrraedd trigolion gwryw Mochdre?
Gyrrwch eich atebion, ynghyd â'ch enw, eich cyfeiriad a'ch ebost, erbyn 1 Hydref 2023, at: O'r Pedwar Gwynt, Dôl Bebin, Rhydypennau, Aberystwyth SY24 5BE. Bydd tocyn llyfr gwerth £25 i'r datrysiad cywir cyntaf a ddaw allan o'r het.