Croesair

Croesair Bonws 1

Morus Venti
06·12·2016

Croesair OPG Rhagfyr 2016

Mae pedwar ateb yn cynnwys gair (pob un â'r un ystyr) nad yw wedi ei gliwio yn rhan gryptig eu cliwiau. Er enghraifft, mae BYDOL yn cynnwys y gair ŶD, ond gallai'r cliw fod yn ‘Crombil daearol’ - crombil = BOL; daearol = BYDOL.

Mae ateb llawn 13 ar draws yn ddyfyniad.

 

Ar Draws

1 Erfyniad: Mae 'na dai wedi'u troi drosodd yn y glaw mawr; be’ ddylen ni adeiladu gyntaf, Noa? (6)

4 Gornest Furry Animals yn cychwyn mewn gymnasiwm (6)

9 Mae'r haen hwn ar bwll ers glaw a drodd yn iâ (7)

10 Am yr ail hanner, trigfannwn yma gyda chŵn Arawn (5)

11 Rhiw ger yr Unol Daleithiau ar gyfer Cymro ar wasgar? (5)

12 Yn dda fel Dewi, er enghraifft (7)

13 Nid oes, ebe'r bardd, neb yn holi Pedwar Gwynt ynghylch lleoliad hwn a godwn wedi ei ddymchwel (5,1,5)

18 Efo llawer llwybr o darmac wedi'i gymysgu â lafa yn bennaf (7)

20 Merch fwyn y tenoriaid a merch arall (5)

22 Wrth droi'n ôl, mae'r ferch hon yn sarhau (5)

23 Mwy distaw yw mis bach Guto Ffowc (7)

24 Lindys efallai y bydd newid afreal i'w weld ynddynt (6)

25 Goronwy bach wedi ei amgylchynu gan ychydig dywod (6)

 

I Lawr

1 Darlun yn y meddwl neu ar bapur gyda sgwariau bychain (6)

2 Gwanc am galon yn gyntaf (5)

3 Un sy'n enllibio tiwtor ffrwd (7)

5 Braich naiad lledrithiol (5)

6 Uchafbwynt llwyddiant y môr? (7)

7 Trosglwyddo'r cyfarpar sy'n angenrheidiol ar gyfer cefnogi hys-bys yn Saesneg yn gyntaf (6)

8 Siomiant: cwt sy'n adfail wedi i hwn ei ladrata o ochr y ffordd? (3,4,4)

14 Masseur sy'n camddefnyddio nwy? Litr? (7)

15 Datguddwyr wyth oren amheus (7)

16 Cychwyn bwnsh o'r blodau melyn hyn (6)

17 Carreg wen; gwyn sy'n amgylchu rhyw fath o lech ydyw (6)

19 Gwlad enfawr er y gellir dweud mai pwtyn sy'n ei rhedeg (5)

21 Angel wedi cwympo a cholli ei halo mewn pedair llinell o farddoniaeth (5)

Pynciau:

#Croesair