Croesair

Croesair Gaeaf 2020

Croesair Rhifyn 14 / Gaeaf 2020

Morus Venti
12·12·2020

Anfonwch eich ateb, gyda'ch enw, eich cyfeiriad a'ch ebost, erbyn 15 Chwefror 2021, os gwelwch yn dda: O’r Pedwar Gwynt, Dôl Bebin, Rhydypennau, Aberystwyth SY24 5BE. Bydd tocyn llyfr gwerth £25 i’r datrysiad cywir cyntaf a ddaw allan o’r het. Byddwn yn cyhoeddi enillydd croesair Rhifyn 13 / Haf 2020 yng nghylchlythyr y flwyddyn newydd. Nid yw'r enw wedi ei dynnu allan o'r het eto!

Mae gofyn am ddoniau arlunio gennych y tro hwn. Wedi llenwi’r grid, edrychwch yn ôl a chwiliwch yn rhywle go uchel ynddo am enw aderyn saith llythyren, a lliwiwch ei sgwariau yn goch. Yn y rhes oddi tano, tynnwch linell euraid syth, lorweddol drwy ganol 11 sgwâr gan ddechrau yng nghanol yr ail golofn o’r chwith. Yna tynnwch linell euraid yn syth i lawr drwy ganol tri sgwâr fel bod ei chanol yn cyffwrdd yn ochr dde’r llinell lorweddol. Cysylltwch ben a gwaelod yr ail linell â dwy linell euraid o golofn 12 i 13, a 13 i 12. Tynnwch linell ddu o ganol yr aderyn i waelod y grid. Chwiliwch am bedwar grŵp addas o sgwariau ar draws gyda 3, 3, 3 a 4 llythyren a lliwiwch nhw yn wyrdd. Talfyriadau yw 1, 2 a 3, ond gair llawn yw 4. Gyda llinellau syth, glas, cysylltwch lythyren gyntaf grŵp 1 â thrydedd lythyren grŵp 4, a chysylltwch lythyren gyntaf grŵp 3 â thrydedd lythyren grŵp 2.

Ar Draws

2          Ymarweddiad un i ddianc rhagddo (5)
9          Tric cant ac un gwleidydd yn Lloegr (4)
13        Aiff yr ateb i’r wal wrth deithio’r ffordd anghywir (5, dau air)
14        Cors bron cyn lleied (5)
15        Fel un sy’n llawn syniadau a ddatblyga ei ddarn pren (9)
16        Peipen gludo yn Llundain? (4)
20        Brigau, dau efo rhew arnynt (5)
22        Gallai’r Amason yma fod yn fwyn a thirion, fel dynes a grefwch rŵan yn bennaf rywsut (7)
24        Lliw tywyll fu mathau o fetel cryf (6)
26        Disgybl a gelyn Othello (4)
27        Dirnad delw yn rhedeg ar ôl Giovanni’n gyntaf (5)
29        Dangos tristwch wrth ddychwelyd o Holywell (4)
30        Colc ym mis Hydref sy’n creu diwrnod 25 awr (13, pedwar gair)
33        Y fo biau fo; rho fo i’r dyn! (4)
34        Er gwaethaf tymor byr, glawog, aeth hwn allan i hau (5)
35        Cain a nifer o rai gwaharddedig (4)
36        28 ac yntau’n troi drosodd a throsodd (6)
39        Yn ystod y prosesau hyn o eneinio brenin y duwiau mae ’na 3 menyw’n dychwelyd (7)
41        Fe enilli bwyntiau am gantorion sy’n mwmian (5)
45        Llwybr ar ben draw rhyw ardal boblog (4)
47        Allweddau a allai fod yn ddryslyd i organydd ofnus ar y dechrau (9)
49        Heb ddêt yn sydyn (5)
50        Symud y pen i fyny ac i lawr er mwyn marcio (5)
51        Cerflunio addurn rhyfeddol heb ddefnyddio marmor yn y pen draw (4)
52        Pryd o fwyd yn Dallas sydd hanner ffordd at fod yn ddigalon. Gyrrwch o’n ôl (5)

I Lawr

1          Baginet i drywanu o’r gwn yn bennaf oll (5)
3          Penfras gwyllt; nid pêr ei geg (4)
4          John yr arlunydd ac yntau ger trosglwyddydd yn ymyl Caerdydd (6)
5          Saib fach i El Bandito (4)
6          Pren i rai unigolion gael dringo (3)
7          Eli ar gyfer nam ar sodlau ceffylau (5)
8          Chwyn yn yr ŷd meddw euraf (5)
10        Ychwanega ddyrchafiad tywysoges o Ethiopia (4)
11        Cawell i hebog sydd yn berfformiwr (3)
12        Pobl dda a gafodd dröedigaeth sy’n perthyn i’r Eglwys Gatholig (7)
17        Talu pres am wraig syrthiedig y cylch? (6)
18        Cael cam a wna cwrcath truenus sy’n colli ei gynffon (5)
19        Â chledr, i fod yn sgrialu dan Bedol yr Wyddfa a’i chriw, er enghraifft (7)
21        Aderyn bychan yw, wedi codi fel canlyniad i ...  (4)
23        ... Ger yn troi’n greulon (3)
25        Mae yna reolau cymhleth ynghylch cludo’r meirw ar y rhain (6)
28        Merch a Phantycelyn mewn cerbyd? (5)
30        Ffyrnig yw’r Frenhines wrth i holwr a stiliwr ei chornelu (7)
31        Edward Williams neu Williams y naturiaethwr (4)
32        Gwaedd heb lefain (3)
35        Teilwng fyddai cael heol dda, er yn droellog (6)
37        Ffres yw Gershwin i ddyn – neu i ddynes – ar y cychwyn (5)
38        Wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei phedolwr, a hwnnw ddim yn gall (5, dau air)
40        Heno a chychwyn trannoeth a fydd gola lleuad? (5)
42        Tipyn o wres ar PhD? (4)
43        Dacw’r gŵr cyntaf? (4)
44        Merch operatig deg; mae pedair o Bahir Dar ar wasgar (4)
46        Cyn belled ag y bo calon Barti yn codi (3)
48        Yn lloerig ond heb fod yn danbaid o bell ffordd (3)
 

Pynciau:

#Rhifyn 14
#Morus Venti
#Croesair