Cyfansoddi

Adardy

Stori fer

Llŷr Gwyn Lewis

Amser darllen: 18 munud

27·07·2023

Cofeb wal Berlin, 2013 (Llun: Raymond Depardon/Magnum Photos).

 

Pan siaradais â Carys y noson honno, yn ystod yr awr yr oedden ni eisoes wedi dechrau’i galw’n ‘Awr Newsnight’, pan fyddwn i’n aml wrthi’n paratoi fy narlithoedd Zoom at y bore trannoeth a hithau’n cyfieithu rhyw ddatganiadau munud olaf i’r wasg, dyma hi’n digwydd sôn wrtha i ei fod wedi digwydd o’r diwedd: roedd hi wedi cyrraedd y pwynt enbyd hwnnw lle roedd hi’n teimlo mor gaeth rhwng ei phedair wal nes byddai hi wedi gwneud unrhyw beth am gael teithio i rywle eto. Yn hualau’r clo cyntaf hwnnw roedd hi wedi dechrau hiraethu am y profiadau odiaf a mwyaf annisgwyl: poendod tywod yn rhwbio rhwng ei thraed a’i sanau; arogl sudd biniau Paris peth cynta’n y bore cyn i’r haul godi uwchlaw’r toeau; sawr penodol metelig-lychlyd-sur brêcs yr Underground yn Llundain; neu erwinder pŵl hen gerrig oer cestyll, eglwysi, tai hŷn na’i thŷ hithau. Ac wrth gwrs allwn i mo f’atal fy hun rhag gofyn y cwestiwn mwya diddychymyg posib iddi: pe câi hi ddewis unrhyw le rŵan, yr ennyd hon, i ba le yr âi hi? Daeth yr ateb fel saeth, wrth i’r sêr tawel droi’n araf uwch ein cyfran fechan ni o Gaerdydd rhwng y parc a’r afon: Berlin. I Berlin yr âi hi.

Dim ond unwaith roeddwn i wedi bod yno, meddwn innau wrthi, a siom ddaethai drosof gyntaf yno. Roeddwn i wedi dod i Berlin yn naïf ac yn ffôl gan ddisgwyl yr addurnedig a’r baróc – roeddwn i’n chwilio am olion yr hen Almaen glasurol ac, ar yr un gwynt, am olion drylliedigaeth yr Almaen honno yn nhrasiedi’r Ail Ryfel Byd. Doedd gen i ddim diddordeb rywsut yn yr hyn a ddaethai wedyn: rhy ddiweddar, rhy ryddieithol, rhy oer. Ond roedd y ddinas a’i choncrit ciaidd a’i honglau wedi fy hudo’n llwyr dros un penwythnos, nes imi adael y lle a llond fy hafflau o lyfrau a lluniau, ar dân am gael dysgu rhagor am ei hanes mwy diweddar, y rhaniadau a’r ofn, yr uchelgais a’r arswyd, y modd yr aed ati i ddymchwel strydoedd a bywydau fel ei gilydd. Faswn i wrth fy modd yn ca’l mynd nôl ryw ddydd, meddwn wrthi, yn gwbod be dwi’n wbod rŵan. Teimlo fel taswn i’n gallu pilio haenau’r lle ryw fymryn yn rhagor: chwilota chydig yn nialwch hanas. Swn i’n licio mynd i’r Tränenpalast yn Friedrichstrasse neu grwydro mhellach mewn i’r dwyrain, heibio i’r Karl-Marx-Allee, gwthio allan i Lichtenberg a Hellersdorf. Fanno roedd hud y lle wedi bod i mi, yn y pen draw: yn y dwyrain glawog, garw, ei goncrit a’i haenau o hanes.

Es ti i Charlottenburg o gwbwl, gofynnodd Carys, pan oeddat ti yno? ‘The glittering heart of the West’, dyna sut roedd hi wedi gweld yr ardal yn cael ei disgrifio mewn llyfr tywys, ac fe gafodd hi ei hatynnu yno drwy orsafoedd gwydr uchel yr S-Bahn. Roedd hyn fymryn yn ddieithr i mi gan fod y llefydd roeddwn i wedi cael fy nenu atynt i gyd yn yr hen Ddwyrain — Porth Brandenburg, y Museumsinsel, Prenzlauer Berg ac Alexanderplatz. Roedd bron fel pe bai’r ddau ohonom, yn ein hatgofion ein hunain y noson honno, yn ailymweld â dwy ddinas gwbl wahanol i’w gilydd. Yn y Berlin arall hon yr oedd ei meddwl hi, dinas a chanddi sw a siop adrannol, ac adfail drylliedig o eglwys a adawyd yno’n rhybudd yn erbyn rhyfel nad oedd ond wedi hanner llwyddo. Un llawer mwy gorllewinol oedd ei dinas hi, yn llawn rhodfeydd deiliog. Fysat ti ddim wedi dod ar draws y Kranzler Eck, felly, teipiodd, a finnau’n ateb nad oeddwn i erioed wedi clywed am y lle hyd yn oed. Roedd y Café Kranzler, eglurodd hithau wrthyf, yn dŷ coffi enwog a ddaethai, yn ei ffordd ddihafal, art deco ei hun yn symbol o Orllewin Berlin yn ei gogoniant — rhyw fath o wrthbwynt crwn, byrdew i’r Café Moskau onglog, llym ar y Karl-Marx-Allee. Yn wir, roedd rhywbeth eironig yn y ffaith fod y Dwyrain, ers cwymp y wal, wedi tyfu yn ei apêl di-raen i dwristiaid, ond fod llefydd fel y Kranzler, heb ei ynysu bellach ac felly heb fod yn symbol o unrhyw beth unigryw, wedi mynd yn adfail bron. Aethai’r talismon cyfalafol yn brae i fuddugoliaeth cyfalafiaeth, tra dysgodd y cymdogaethau comiwnyddol gorchfygedig wisgo’u dieithrwch egsotig â math o falchter eironig. Diolch byth, meddai Carys, cawsai’r Kranzler ei achub yn y pen draw rhag distryw llwyr drwy gael ei ymgorffori mewn datblygiad mawr brawychus o fodern o’i amgylch. Roedd llawr isaf yr adeilad erbyn hyn yn gartref i gangen o siop SuperDry.     

Roedd hi wedi cyrraedd y Café Kranzler o ongl annisgwyl – wedi digwydd dod ar ei draws, mewn gwirionedd, o gyfeiriad Savignyplatz, bron fel pe bai’n sleifio ato o’r tu nôl, drwy’r ddrysfa honno o adeiladau dur a gwydr. Yn y cwrt y tu ôl i’r caffe, canfu fod yno adardy mawr yn ei ganol. Wrth gerdded o amgylch y perimedr gwelodd mai dau adardy oeddynt mewn gwirionedd, a llwybr yn torri drwy ganol y cowt rhwng y ddau. Rhyw fath o siâp côn pigfain oedd i’r ddau, a hwythau’n gwyro am i mewn rywfaint tuag at ei gilydd, gan hanner dynwared y nendyrau uwch o’u hamgylch. Rhwng hynny a’r ffaith ei bod yn anodd gweld, i ddechrau, rwyllwaith y rhwydi mân a hongiai oddi ar eu fframiau dur duon gan amgáu’r adar oddi mewn, drysai eu llinellau’r llygaid o bob ongl.
 

Llun: Rebecca Norris Webb/Magnum Photos
 

Yn wir, cyn iddi weld un dim, sŵn yr adar oedd wedi’i tharo gyntaf, wrth iddi rowndio’r gornel a dod i olwg y ddau strwythur tal. Dim ond wedyn y gwelodd hi’r adar eu hunain, ar ôl edrych ddwywaith fel petai, a sylwi ar eu fflachiadau amryliw yn pefrio a goleuo yn erbyn yr awyr lwyd. Roedd yno barotiaid a pharacitiaid, macawiaid, cocatŵod a byjis. Fel dwedodd hi, doedd hi ddim wedi sylweddoli i ddechrau y gallai aelodau’r cyhoedd gerdded rhwng y ddau gaets, ond sylwodd yn y man fod menyw ifanc yn sefyll yno rhyngddyn nhw a phram o’i blaen. Cadwodd Carys ei phellter, ddim am eu styrbio rywsut, gan ei bod yn amlwg y deuai’r ddau yma’n aml wrth i’r plentyn yn y pram straenio ac ymwthio yn erbyn y gwregys a’i daliai i mewn, wedi gwirioni ar gael dod i weld yr adar ac yn dyheu am gael dianc o’i gaethiwed ac ymuno â nhw yn yr adardy, i hedfan yn eu mysg. (Digwydd bod, teipiodd Carys wrth basio bron, pan welis i nhw mi feddylis amdanat ti, am mod i newydd glywed y newydd amdanat ti ac Ana, eich bod wedi cael hogyn bach. Dyma fi’n eich dychmygu chi’ch dau yn dod ag o yma ryw ddydd i weld yr adar, sut basa fo’n pwyntio ella atyn nhw, neu’n sgrwnsio’i lygaid rhag yr haul wrth sbio i fyny.) Roedd y plentyn wrth ei fodd yn cael bod mor agos at yr adar, yn cael gweld eu plu coch a glas, eu pigau ceimion a’u llygaid drwgdybus.

Ymhen hir a hwyr fe adawson nhw, gan adael y lle i Carys ar ei phen ei hun. Roedd y cwrt yma’n syfrdan o agos, esboniodd Carys, at y rhodfa brysur tu draw acw, o dan borth bwaog, ei ruthr o draffig a’i fflyd o siopwyr a gloddestwyr, ond yma roedd popeth yn ddistaw a llonydd ac anghyfannedd, fel Dinas Llundain ar y Sul, ac roedd hi a’r adar mewn byd yn gyfan gwbl oll iddyn nhw eu hunain. Dyma hi’n treulio chydig yn craffu, yn ceisio dilyn trywydd eu ehediad yn erbyn yr awyr wrth iddynt esgyn yn eu cyfyngder, ac yna trodd i astudio’r paneli gwybodaeth, gan geisio paru’r lluniau a’r enwau Lladin â’r creaduriaid gwibiog byw o’i blaen. Yna sylwodd â naid nad oedd y curo adenydd yn dod o’r tu mewn i’r adardy’n unig. Yn syfrdan o agos ati, roedd dau neu dri aderyn llai, llwytach — arlliwiau brith a brown yr hen adar to, rhyw fath o guddliw, bron, o gymharu — yn hedfan yn union tuag at rwydi’r adardy, yn eu taro’n ysgafn ac yn bownsio i ffwrdd, cyn rhoi cynnig arall arni. Pam ar y ddaear yr oedd yr adar hyn, trigolion cynhenid ffurfafen ddiffiniau’r ddinas, yn gwneud ymdrech mor lew i dorri i mewn i’r caethiwed hwnnw?

Tybiwn y gallwn synhwyro’r ateb fyddai gan Carys, ond yn ddirybudd fe deipiodd fod rhaid iddi fynd, a chyda ‘nos da’ swta fe ddiflannodd. Arhosais funud neu ddwy; teipiais ‘helô?’ bach ymholgar, ond gwelais na throdd y tic gwyn ‘delivered’ yn las ac felly fod y neges yn aros heb ei darllen. Rhoddais y gorau i’m gwaith am y noson ac es am fy ngwely.

Dros y dyddiau nesaf bûm yn pendroni pam roedd Carys wedi sôn yn benodol am yr adardy hwnnw. Ai rhyw fath o drosiad o Fur Berlin ei hun oedd hwn: a’r cewyll rhwyllog hynny, wrth ymwthio tuag i fyny, yn gwahanu’r awyr ei hun lle ceisiai’r adar esgyn, gan eu caethiwo yn eu cylchoedd? At hynny, sylweddolais, roedd rhyw eironi creulon yn y ddelwedd honno o’r adar eraill, llai, yn rhydd i hedfan i’r fan a fynnent ond yn ceisio torri i mewn i’r caets. Beth yn union roedd Carys wedi’i weld yn hyn — ai rhyw adlewyrchiad o’r modd yr oedd trigolion Dwyrain Berlin wedi milwrio’n erbyn y wal a amgylchynai eu cymdogion gorllewinol, efallai? Amgáu’r Gorllewin oedd diben y wal, wedi’r cyfan, a thrigolion y Dwyrain, fel y dymunai eu meistri iddyn nhw gredu, oedd y rhai rhydd. Neu efallai mai fel arall yn llwyr roedd Carys wedi’i gweld hi, fel alegori o’r modd yr oedd y Gorllewinwyr yn gynyddol, wrth i’r rheolau’n atal eu symudiadau gael eu llacio, wedi eu hatynnu i deithio ar draws y ffin, drwy’r wal, i ryfeddu at y Dwyreinwyr neu i’w cofleidio. Roeddwn i’n sicr fod Carys wedi bod yn ceisio tynnu rhyw fath o gymhariaeth, p’run bynnag, rhwng yr adar, yr adardy hwn, a hanes y ddinas ei hun, gan awgrymu efallai fod pobl, hyd yn oed yn achos rhywbeth mor absẃrd, artiffisial ac annynol â’r Wal, mewn difri wedi bod yn dynwared yr hyn y gellir ei ganfod hefyd ym myd natur (yr an-nynol).

Roeddwn yn awyddus i ofyn iddi a oeddwn ar y trywydd cywir ai peidio, ond aeth rhai dyddiau heibio a’u hanhrefn arferol, wrth i Ana a minnau geisio cadw cydbwysedd rhwng gofalu am ein mab dyflwydd a’n dyletswyddau gwaith. Roedd ein cyflogwyr wedi rhoi rhywfaint o raff inni yn nyddiau cynnar y pandemig, ond erbyn hyn, o’m rhan i o leiaf, roedd y myfyrwyr wedi dechrau cwyno a mynd i sôn am werth am arian ac am ad-daliad, ac roedd fy mhennaeth adran wedi
dweud yn ddigon plaen wrthyf fod angen imi ddechrau rhoi rhagor o sglein ar fy narlithoedd Zoom. Roedd yn gyfnod o ruthro lloerig ac o gwsgrodio yr un pryd rywsut, a thueddai Ana a minnau i basio heibio i’n gilydd; byddai un yn mynd â’r bychan allan am ei dro dyddiol wrth i’r llall geisio setlo i lawr i wneud rhywfaint o waith. Yna byddem yn ei basio o’r naill i’r llall, yn taflu cipolwg ar ein gilydd, cyn i bawb fynd ei ffordd ei hun eto, un tua’r ddesg i fyny’r grisiau a’r llall at fwrdd y gegin, yr ardd, y becws ar y gornel os gallem gyfiawnhau hynny.

*

Yn y ffordd honno fe basiodd wythnos gyfan cyn imi fy nghanfod fy hun, unwaith eto, wrth fy nesg yn yr atig wrth i Awr Newsnight daro, a minnau’n ceisio dod o hyd i luniau hanner call o awduron i fywiogi fy sleidiau, pan sylwais fod Carys ar-lein a smotyn gwyrdd wrth ochr ei llun. Helow streinjyr, cynigiais yn ffwrdd-â-hi, ac am ryw ychydig ni ddaeth ateb; efallai fy mod newydd ei cholli. Yn y man fe atebodd â Haia! a gofynnodd imi sut roeddwn i. Roedd rhai o’i hatebion yn ddigon swta: roedd hi’n ‘ffain’, a phan ofynnais iddi a oedd yr ysfa honno i grwydro wedi pylu bellach, gofynnodd yn syth: pam, be ti di glywad? Ar ôl ei sicrhau nad oeddwn wedi clywed unrhyw beth, nad oeddwn i hyd yn oed wedi’i gweld o ben pella’r parc yn ddiweddar, fe ymddiheurodd ei bod wedi blino a’i bod yn debyg y byddai rhaid iddi fynd yn fuan. 

Roeddwn i wedi bod yn ceisio canfod ffordd o droi’r sgwrs yn ôl yn raddol o ddidaro at Berlin a’r wal, ond roedd amser yn brin bellach a dyma felly grybwyll y peth ar ei ben a gofyn iddi a gofiai’r sgwrs; a hefyd pa un a oedd fy nyfaliad i o ran arwyddocâd yr adardy hwnnw iddi, a pham yr oedd wedi aros mor fyw yn ei meddwl, yn weddol agos ati ai peidio.

Ar hyn roedd fel petai hi wedi ymlacio a meddalu fymryn, er ei bod hi wastad yn anodd dweud, wrth siarad ar-lein fel hyn. Ond roedd hi’n teipio, yn helaeth yn ôl yr olwg: fflachiai’r tri dotyn bychan. Yn y man, ymddangosodd ei neges: roedd hi’n eitha hoff o’m cyffelybiaeth i o ddwy ran yr adardy i ddau hanner rhanedig y ddinas, ond roedd hi heb ei hargyhoeddi gan y rhan olaf honno am yr adar yn trio torri i mewn. Ti’n gwbod be, ychwanegodd Carys, os dwi’n bod yn onast, meddwl bron yn llwyr am y presennol ro’n i wrth gofio am yr adardy na, am y llanast dan ni ynddo fo rŵan. O’n i’n meddwl am y pandemig ma, am sut mae o’r peth mwya creulon, mympwyol, annynol rywsut, ond mewn ffordd gwbl angenrheidiol na elli di mo’i osgoi. Ffor’ ma cariadon ifanc jyst yn ffindio’u hunain wedi’u gwahanu, am fisoedd, wedi’u cloi i ffwrdd odd’wrth ei gilydd, neu sut ma hen ddynion yn gweld isio’u mêts o’r pyb, di gorfod ymgilio i yfad eu hun’in i gysgu ar soffas yn eu tai oer. Ac oedd, ychwanegodd, yr oedd hi wedi bod yn meddwl yn benodol am yr adar bach hynny a fu’n brwydro mor daer i gael torri i mewn i’r adardy, ond gwneud iddi feddwl wnaethon nhw am y teuluoedd truain hynny oedd â rhywun annwyl iddyn nhw mewn cartra gofal. Y meibion a’r merched hynny, wyrion ac wyresau sy wedi gorfod cyffwrdd dwylo drwy wydr, gwneud siâp ceg arnyn nhw y bydd pob dim yn iawn, rhai hyd yn oed yn trio’u gora glas i gael y bobl tu mewn i’w nabod nhw o gwbl... Ti’n gweld nhw ar y newyddion ac maen nhw’n edrach mor ddiymadferth. Yn debyg i’r adar bach hynny welis i y dwrnod hwnnw. Ma jyst yn ’y ngneud i mor drist. A dio’m fatha bod na rywun cas, sadistig di meddwl am y rheola ma jyst i fod yn greulon, dyfeisio set o gyfyngiada i arteithio pobol, i’w tormentio nhw’n fwriadol. Ond ma jyst — dwni’m, ma’n rhwbath na fedar ’y mhen i — ’y nghalon i ella — fedra i jyst ddim dirnad y peth rwsud, fedra i’m gwneud synnwyr ohono fo. Mae o fatha rwbath o oes arall, dwi’n meddwl, ydi ddim? Yr ymdeimlad na o aberth. Do’n i’m fatha swn i’n meddwl y gallai hynna fodoli y dyddia ma, felly mewn ffor’ mi na’th fi’n falch, ond eto — pwy fysa’n dymuno hyn? Ar unrhyw un?

Wyddwn i ddim wir beth i’w ddweud wrthi. Roeddwn i hefyd, wrth gwrs, wedi gweld y delweddau ar y newyddion, wedi uniaethu, cydymdeimlo, teimlo trugaredd a thrallod. Ond efallai mai fy ffordd i o ddelio â’r peth oedd drwy ymatal rhag meddwl gormod amdano o gwbl; roedd hi i’w gweld yn ymboeni gymaint am yr holl beth ac allwn i ddim cweit gweld pam. Ceisiais ysgafnhau pethau drwy gytuno. Oedd, felly, mi oedd fy nehongliad i o’r adardy wedi bod yn reit bell ohoni.

I ffwrdd â hithau i gyfeiriad arall eto fodd bynnag, ac ar ôl saib byr gofynnodd imi a allwn i gadw cyfrinach. Dim probs, atebais. Dw i o ddifri, teipiodd hithau — elli di’m deud wrth neb, ddim un enaid byw. Ddim hyd yn oed Ana. Os dw i’n deutha chdi rŵan ac yn dod i ddallt wedyn... Ac fe deipiodd hi’r peth fel yna hefyd, gan dorri’i brawddeg ar ei hanner. Ddim hyd yn oed Ana, ailadroddais innau. Cris croes, tân poeth. 

Dim geiriau, am dipyn. Yna dechreuodd y tri smotyn bach fflachio, cyn diflannu eto. Roedd hi’n teipio, yna’n dileu: yn petruso. Yna: Dw i di bod adra, meddai hi. Wel blincin ec, lle arall fysa chdi mewn locdown?? coethais innau. Na, nid adra — adra adra, eglurodd hithau. Dw i di torri’r locdown. Dw i’n teimlo’n ofnadwy. Ond oedd rhaid imi fynd. Dwn i’m, Dad dio sdi, mae o mor, wel... ti byth yn gwbod, nagwyt? Pryd fydd hyn i gyd yn dod i ben, pryd fyswn i’n ca’l cyfle i’w weld o. Roedd ei brawddegau hi dros bob man; roedd fel pe bai hi’n ceisio cyfiawnhau ei gweithredoedd i mi, iddi hi ei hun. Dwedais wrthi am beidio â phoeni, wrth gwrs, mai greddf gwbl naturiol oedd honno, na fyddwn i’n dweud wrth yr un enaid byw, nad oedd o’n beth cynddrwg â hynny, wir, fod rhaid bod llwyth o bobl wedi gwneud rhywbeth tebyg. O’n i jyst yn poeni gymaint amdano fo, ychwanegodd, hynny ydi dwi’n gwbod bod o wedi arfer bod ar ei ben ei hun ers i Mam fynd ond oedd hyn yn wahanol, yn fath gwahanol o unigrwydd. Ydi dy frawd ddim yn byw’n agos ato fo fyny na? holais. Yndi, chwara teg, symudodd o fewn jyst cyn iddyn nhw gyhoeddi bob dim, gweld pa ffor’ oedd y gwynt yn chwythu. Ond o’dd gin i angan ei weld o drostaf fi’n hun. Nei di’m deud wrth neb? Na wnaf siŵr, atebais hi eto. Ond be am Will? Ma Will yn iawn, mae o ar ffyrlo, meddai hi. Nes i jyst penderfynu y noson honno, wrth sôn am yr adar na — oedd rhaid imi fynd felly dyma fi jyst yn deud wrtho fo, dw i’n mynd, dw i angen mynd, ac i ffwrdd â fi. Pacio bag, sleifio i’r car, ac i ffwrdd. Dan gwrlid y nos...

Be roedd hi’n olygu, gofynnais — y noson honno, felly, pan oedden ni wedi siarad? Ia, yr union noson. Doedd hi ddim yn hoff o gyfaddef y peth, ond roedd yr euogrwydd, yr ofn, wedi graddol droi’n fath o gyffro, yn gynnwrf bron. Roedd hi wedi gwasgu’r sbardun a rasio drwy Bowys, er gwybod na ddylai hi dynnu sylw ati’i hun. Ond doedd neb yn unlle wedi’i stopio hi. Cafodd ei drysu bron gan hynny, a hithau’n argyhoeddedig rywle, ryw ben, y byddai rhyw olau glas yn dod i’r golwg yn fflachio y tu ôl iddi, a’i gyrru hi’n ôl i’r ddinas efo’i chwt rhwng ei choesau a dirwy, y byddai’r holl syniad gwallgo’n cael ei stopio drosti fel na fyddai’n bosib iddi ddal ati, y byddai rhaid iddi fynd nôl at ei gŵr. Ond wnaeth neb mo hynny, ac felly fe gyrhaeddodd hi Nant Gwynant, i dŷ ei thad yng nghysgod y mynydd, tua 4:30 y bore trannoeth. Gafodd y ddau uffar o sioc, meddai hi, pan ddechreuis i dapio ar ffenast y gegin.

Gofynnais iddi am faint roedd hi wedi aros yno gyda’i thad. Saib yn y cwmwl, tri dot yn fflachio; yna: Dw i’n dal yma rŵan, atebodd. Cwbwl fedrwn i feddwl amdano wrth ateb oedd jôc wael: be, ma gynnyn nhw signal y we yn Nant Gwynant??

*

Bu farw mam Carys pan oedd hithau yn ei hugeiniau cynnar; roedd y teulu wedi tynnu ynghyd, ar y dechrau, wedi’u closio gan mor amrwd y boen. Roeddwn i’n astudio i ffwrdd ar y pryd ac roeddem wedi colli cysylltiad, mewn gwirionedd, ac felly wnes i ddim anfon ati ryw lawer, dim ond i fynegi rhyw gydymdeimlad digon tila, ac am wn i fy mod yn dal i deimlo rhywfaint o euogrwydd am hynny’n awr, er nad oedd hi erioed wedi gwneud na dweud dim i wneud imi feddwl ei bod hi’n dannod hynny imi. Ac yn y ffordd honno sydd gan alar o fudlosgi, o orwedd yno fel ci tawel yn aros ei gyfle, roedd wedi hollti a chwalu’r uned fach deuluol oedd ar ôl mewn amryfal ffyrdd mân, crintachlyd a dirdynnol. Roedd ei brawd wedi aros, wedi priodi merch leol ac wedi symud i bentref cyfagos, un o’r rhai a redai’n gylch o amgylch Caernarfon; roedd hithau Carys wedi cyfarfod Will tra oedd yn Llundain ar ôl coleg ac roedd symud nôl i Gaerdydd wedi bod yn gam digon anodd tuag adref nes bod symud i unrhyw le nes na hynny — rhywle mwy plwyfol, efallai, fyddai golwg Will ar y peth — yn gyfan gwbl annhebygol. Felly roeddwn wedi synnu braidd at benderfyniad Carys, ar yr union noson honno ar ôl inni fod yn sgwrsio, i adael mor ddisyfyd, i adael Will ar ei ben ei hun hefyd, i fynd yn groes i’r gyfraith ac i’r ffordd yr oedd cymdeithas wedi plygu mor rhwydd i’r drefn newydd. Rhaid bod rhywbeth cryf wedi ei thynnu, ac roedd ei wraidd yn yr atgof o’r adardy hwnnw yn Berlin a ddaethai iddi y noson honno wrth inni siarad. Bron nad oeddwn yn teimlo’n euog am chwarae rhan fechan yn plannu’r hedyn hwnnw yn ei meddwl.

Roeddwn ar-lein yn hwyr drachefn ryw wythnos yn ddiweddarach, pan ddechreuodd tab a oedd ar agor fflachio’n las mwyaf sydyn. Haia, meddai Carys. Wel helo’na, sut ma Nant Gwynant y diawl lwcus? meddwn innau. Sut ma hi fyny fanna a chditha efo’r mynyddoedd i chdi dy hun, dim pobol ddŵad, dim angen cadw pellter cymdeithasol wrth giwio i gopa’r Wyddfa?

Dw i nôl, atebodd, a rhoddodd fy nghalon lam. Mwyaf sydyn gallwn deimlo’r agosrwydd lle na bu eiliad ynghynt. Roedd Carys i lawr y lôn drachefn. Roedd hi’n ymddiheurgar, yn teimlo embaras, bron fel pe buasai’r holl gybôl yn ddim ond rhyw anterliwt o bensyndod. Roedd ei thad a’i brawd wedi’i chroesawu, yn betrusgar, i ddechrau, ond wedi’i thrin â rhyw amheuaeth hefyd, bron fel pe bai arnynt ofn ei bod wedi dod â’r firws hefo hi o Gaerdydd. Ti yn gwbod bo fi’n mynd nôl at Elin a’r plant weithia wyt? gofynasai’i brawd, yn gyhuddgar bron. Ond roedd yr ambell ddiwrnod cyntaf wedi bod yn ddigon dedwydd. Dim ond ar ôl rhyw wythnos a hanner yr oedd drwgdeimlad ei brawd ati wedi tyfu nes na allai mo’i gelu mwyach, ac roedd wedi ffrwydro a gweiddi’n filain arni un noson. Allai hi ddim bellach, pan bwysais arni, ddweud wrtha i’n union am beth roedd o wedi gwylltio â hi; ond fe wyddai hi nad oedd o erioed wedi maddau iddi go iawn am fynd i ffwrdd ar ôl colli eu mam, am adael eu tad, fel y gwelai’r brawd bethau, i’w dynged, am ei hembaras ymddangosiadol ohonynt i gyd am feiddio bodoli hyd yn oed. Wrth gwrs roedd y pandemig a’i gyni wedi dwysáu’r teimladau hyn ynddo; medrai hi ddeall hynny, a medrai weld hefyd pam y gallai yntau fod yn amheus o’i bwriadau hithau, yn glanio fel y gwnaeth hi i’w côl ar noson dywyll o Ebrill.

Hynny, fe allai hi ei oddef; ond yr hyn oedd wedi ei syfrdanu hi, ac wedi ei brifo, oedd y modd yr ochrodd ei thad â’i fab, rhywbeth na fuasai byth wedi’i wneud fel arfer. Ond aeth ati i’w cheryddu am ei habsenoldeb o’i fywyd, am nad oedd hi byth braidd yn galw heibio mwyach, er gwybod pa mor anodd oedd hi i’w thad drafaelio i lawr i’r ddinas. Cofiai mor chwerw roedd o wedi swnio pan ddywedodd o ei bod wedi cymryd pandemig byd-eang i wneud iddi yrru i fyny i’w weld. Yn benodol, roedd wedi dannod iddi y modd yr oedd yn dysgu mwy am ei bywyd y dyddiau hyn drwy Facebook nag a wnâi drwyddi hi ei hun. Dau beth, meddai hithau wrth ateb: yn gynta i gyd, pwy dach chi’n meddwl sy’n postio petha ar ’y nhudalen Facebook i? Dach chi’n meddwl mod i’n talu rhywun i edrach ar ôl ’y nghyfrifon cyfrynga cymdeithasol i ne wbath? Os dach chi’n ca’l gwbod wbath amdana i ar Facebook, yna gin i rydach chi YN ca’l gwbod amdano fo! Ac yn ail, do’n i’m hyd yn oed yn gwbod bod gynnoch chi gyfri Facebook, Dad... Roedd yntau wedi ateb yn herllyd: ddaru mi ond ymuno efo’r bali peth er mwyn gallu cadw mewn cysylltiad efo chdi. Ac ar hynny fe wyddai hithau ei bod wedi colli. Safai ei brawd y tu ôl i’w thad, yn edrych i lawr bellach ar y llawr. Roedd y tad wedi sychu deigryn dramatig oddi ar ei rudd. Roedd hithau wedi pacio’i bag y prynhawn hwnnw ac wedi llithro i ffwrdd drachefn, gyda’r nos, gan deimlo rhywbeth yn codi tu cefn iddi yn nrych y car fel yr oedd y cymylau weithiau’n codi dros y mynyddoedd, gan ei gadael hithau’n ysgafnach. Teimlasai gymaint o ryddhad, meddai, o gael cyrraedd nôl i’w chartre bach yng Nghaerdydd, efo Will, ymhell i ffwrdd o grechwen ei brawd a merthyrdod ei thad, ac fe adewais i mi fy hun ddychmygu am eiliad fechan fach fod gan y teimlad hwnnw o ryddhad rywbeth i’w wneud â finnau hefyd.

Sôn am Berlin, teipiodd Carys allan o nunlle wedyn, dw i di bod yn meddwl am y Stasi... Iasgob, di dy frawd ddim cynddrwg â hynna, nadi? gofynnais. Roeddwn i’n reit falch ei bod wedi newid y pwnc, a cheisiais ysgafnhau pethau fymryn. Ha, atebodd, na, o’n i jyst yn meddwl. ’Y nhad, yn ymuno efo Facebook fel’na jyst i allu busnesa yn ’y mywyd i. Ma’n teimlo’n od rywsut, gwbod ei fod o di bod yn... rhyw fath o... loetran yna yr holl amsar. Ddylsa fo fod jyst wedi gofyn! Wedi’n adio fi’n ffrind hyd yn oed. Be swn i di neud, gwrthod? Sa di bod lot gwell gen i tae o jyst wedi gofyn. Swn i wedi gallu, dwn i’m, curadu — God, gas gynna’i’r gair na. Ond tasa fo ond di deud, swn i’n licio ca’l mwy o ran yn dy fywyd di. Swn i’n licio gwbod mwy am sut ti’n dod mlaen. Swn i di bod yn hapus i... Ond wnaeth o rioed, dydi o ddim. Felly mi a’th o ati i ddefnyddio’r ffyrdd llechwraidd ma, y... wyliadwriaeth ma... i ffeindio allan sut fath o fywyd dwi’n fyw. A dyma hynna’n gneud ifi feddwl: y ffordd dan ni’n eu rhoi nhw ar blât, y dyddia hyn, ein dyddia, ein bywyda, ein manylion, ein wyneba a’n meddylia. Sna’m rhaid i neb drio’u cymell nhw allan ohonan ni. Dim angan i neb hyd yn oed ddyfeisio’r dyfeisiau ma na’u plannu nhw, ti’n gwbod, y camera yn yr het, y weiran yn y wal. Ma’r cwmnïa mawr ma’n eu rhoi nhw inni am ddim, achos maen nhw’n gwbod bod be dan ni’n estyn nôl iddyn nhwytha, o’n gwirfodd, yn lot lot mwy gwerthfawr. Y ffordd y gwrthsafodd pobol Dwyrain yr Almaen eu gwladwriaeth, gwrthwynebu ymyrraeth y Stasi yn eu bywyda nhw. Y modd y brwydron nhw fo ac y cwffion nhw fo ac y marwon nhw wrth wthio’n ei erbyn o. A rŵan sbia arnan ni! Yn rhoi’n holl lunia i Google i’w cadw am fod hynny’n haws na mynd drwyddyn nhw’n dileu’r rhai sgynnon ni mo’u hisio. Neu am y gora i ddeud wrth y cops bod Mrs Williams ddau ddrws lawr di bod am ddau dro heddiw mewn difri. Twt-twtian ar Strava am bod yr hogan wirion na oedd yn coleg efo ni di bod am reid beics sy di mynd â hi dri deg milltir i ffwrdd ac yn ôl a’i bod hi wedi bod allan am bump awr. Neu fod rhyw foi sy mewn band ti’n hannar ei nabod wedi dechra cyhoeddi fideos efo cefndir gwahanol, papur wal blodeuog tro ma, a ti’n ama ella ei fod o wedi symud i rwla arall i fyw. Efo cymdogion fel’na, pwy sy angan y Stasi?

Roedd hi’n swnio’n drist. Swniai fel petai wedi ei gorchfygu. Roedd hi wedi blino, a bod yn deg. On’d oedden ni oll? Doedd hon ddim yn ffordd naturiol o fyw, wedi’n cau i mewn fel hyn. Os di o unrhyw gysur ichdi, meddwn, dw i di bod yn teimlo fatha un o dy barots di’n ddiweddar, ers ichdi fod ffwrdd, felly dwi di cenfigennu lot ata chdi fyny fanna yn y mynyddoedd. Ma’n dechra deud arna i, a dim ond y côn cul hwnnw o awyr i ledu’n adenydd ynddo fo. Ond ma’n teimlo fatha bod na chydig bach mwy o le i anadlu rŵan bo chdi nôl, hyd yn oed os ydan ni jyst yn siarad ar-lein fel’ma. 

Dw i’m yn meddwl bod dy gymhariaeth di mor bell â hynny oddi wrthi yn diwadd, atebodd hithau. Dw i’n meddwl bo chdi’n iawn sdi — mi oedd na rywfaint o’r hen fur yn yr adardy na, doedd? Ma raid bod nhw wedi gwbod y bysa fo... be sa chdi’n ddeud... y bysa fo’n canu cloch. Yn atseinio. Doeddan nhw? Pan oeddan nhw’n dylunio’r peth.

Ella wir, meddwn innau, ond ydi’r gwahaniaeth ddim yn y deunydd? Oedd y wal na wedi’i gwneud o ddur, concrit trwchus, weiran bigog. Allat ti ddim gweld drwyddi, drosti, heblaw o’r platfforms hynny gododd y Gorllewinwyr i sbecian drosodd. Ond yr adardy ma – onid yr holl syniad ydi dy fod di’n gallu sbiad i mewn a theimlo nad oes na ddim byd yn dy wahanu di a’r adar? Dw i di bod yn sbio ar lunia o’r adardy ma ar y we. Ma’r rhwyd mor dena nes sat ti’n taeru nad ydi hi yno o gwbl.

Ond dyna di’r peth! atebodd hithau. Dyna’n union di’r peth. Dan ni’n licio meddwl bo ni’n wahanol — yn wahanol iddyn nhw. Bod rwbath wedi newid, ers y chwedega, deud, neu hyd yn oed ers yr wythdega. Dan ni’n licio meddwl nad oes gynnon ni walia ddim mwy: san ni di rhwygo’r horwth na i lawr mewn eiliad, on’ bysan ni? Dan ni’n rhannu, dan ni’n curadu, dan ni’n ‘dal fyny’ a ‘touch base’. Dan ni’n estyn allan, dan ni’n cysylltu. Fedrwn ni’m stopio’n hunain! Dyna be ma’n holl fyd ni wedi’i adeiladu arno fo dyddia ma. Dan ni’n cythru am y sgrin, yr allweddell, drw’r amser, er mwyn bod mewn cyswllt efo bodau dynol erill. Fedrwn ni’m para eiliad yn effro heb hynny. Ac eto fedra i’m peidio meddwl... ma na gelwydd yn fanna hefyd, does, wrth galon y peth. Dan ni’m wir yn gwbod be sy’n mynd mlaen ochor arall, nac’dan? Efo neb. Ma’r walia’n dal yna, heb ffordd o’u croesi nhw, ond dy fod di’n medru gweld drwyddyn nhw rŵan. Maen nhw mor dena nes nad ydan ni’n sylwi arnyn nhw. Maen nhw wedi’u dylunio i fod felly’n union. Ond yno maen nhw, mor gydnerth ag erioed... Eniwe, dwni’m. Dwi di blino, dwi’n athronyddu, mae’n amsar gwely. Ond diolch am y sgwrs heno... ma’n braf bod nôl.

Ac ar hynny, roedd hi wedi mynd. Eisteddais yno, yn y pwll o olau a deflid gan y sgrin a’r lamp, am dipyn. Yna sefais ac agor ffenestr y to, ac edrych allan dros y parc a’r tai tywyll a’r ceir llonydd a gwrandewais ar lonyddwch y byd a gwyliais y sêr, yn dal i droi’n eu cylchoedd fel o’r blaen. Ac edrychais ar draws y toeau at lle gwyddwn fod ei thŷ hithau, er na allwn cweit mo’i weld, a meddyliais am y wal a safai rhyngom, yno, yn y nos, cyn deneued â gwawn a’r un mor anorchfygol bob tamaid.

Mae Llŷr Gwyn Lewis yn un o olygyddion cyfranogol O’r Pedwar Gwynt. Mae ei gyfrolau yn cynnwys Fabula (2017) a rhwng dwy lein drên (2020). Cafodd ei gyfrol Rhyw Flodau Rhyfel (2014) ei chyhoeddi yn Saesneg gan wasg Parthian fis Gorffennaf 2021. Cyfieithwyd Flowers of War gan Katie Gramich.

Comisiynwyd y stori hon gan ŵyl Metropolis Bleu 2023 fel rhan o brosiect Québec-Cymru ar y cyd â Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau. 

Pam ar y ddaear yr oedd yr adar hyn, trigolion cynhenid ffurfafen ddiffiniau’r ddinas, yn gwneud ymdrech mor lew i dorri i mewn i’r caethiwed hwnnw?

Pynciau:

#Rhifyn 22
#Llŷr Gwyn Lewis
#Stori fer
#Adar
#Berlin
#Pandemig