Cerddinen
Natur heddiw
Un diwrnod roedd olion mynwent Capel Celyn yn y golwg, a drannoeth, roedd tymor y cymylau porffor a’r enfysau enfawr yma. Mae rhywbeth am yr awyr honno sy’n sêl ar liwiau’r ddaear ac yn cyhoeddi, dyma ni, ffanffer: hydref. Awyr inc biws uwch ben pinciau oriog y tri-lliw-ar-ddeg, rhwd y rhedyn gwlyb, a chri goch y griafolen, i enwi un coch ymysg y nifer. Ond coch y griafolen sy’n fy sodro i’r fan, heddiw.
Ar un daith gerdded, gwelaf griafolen eiddil yn meiddio gwreiddio mewn postyn giât, ac yna fy hoff gyrchfan ar ddiwrnod llaith: cerddinen yn tyfu o hollt mewn craig anghysbell. Dymunais, sawl tro, gael byw mewn tŷ â cherddinen wrth y drws. Mae sawl tŷ yng Nghymru yn dilyn y traddodiad hwn: arwydd o warchodfan rhag pob drwg a rhag gwrachod yn arbennig, mae’n debyg. Mae’r blodau gwynion yn gonffeti mor dlws ym mis Mai, a’r aeron yn anrheg arall, ar yr unfed awr ar hugain, cyn i bopeth gysgu. Gorau oll, yn ôl y sôn, os yw cerddinen yn gwreiddio yn fforch coeden arall – fe’i gelwir yn gerddinen hedog – a honno yw’r un gryfaf yn erbyn gwrachod a dewiniaeth.
Hydref, godre’r gaeaf. Af am dro i odre’r garth, fel y gwnes ers i mi gael yr hawl i grwydro ar fy mhen fy hun. Lle buais yn ymarfer hafaliadau a dyfyniadau ar gyfer arholiadau, hyd yn oed. Ei enw’n llawn yw Garth Goch. Coch gwaed meibion Llywarch Hen yn ôl rhai, a choch y rhedyn yn ôl eraill. Pwy a ŵyr pa un yw’r gwir: y ddau efallai. Yno’r af. A choch y gerddinen ddaw yno’n gyntaf. Eleni mae’r aeron yn dod mewn sypiau trymion. Gaeaf caled, meddech chi? Blwyddyn doreithiog, y mes yn enfawr. Y cyll yn melynu, bellach, a’r rheini hefyd yn gyfoethog y tro hwn. Mae’r gwahoddiad i ddod allan o’n tai yn glir. Ac allan o’n llefydd cynnes i dystio i ffrwydrad lliw olaf y tymor.
Daw’r amser i swatio wrth y lle tân yn ei dro, i droi sosbennaid fawr o siwgr ac aeron a chadw grym gwarchodol y griafolen mewn pot jam. Ai dyma oedd un o gynhwysion Ceridwen? Ydi fitamin C pwerus y gerddinen yn gwarchod rhag gwrachod neu rhag gwendidau’r gaeaf yn unig? Daw amser i hongian garlant goch wrth ein drysau. Tybed a oes rhai sy’n dal i adfer yr hen, hen draddodiad yma? Yn dotio ar y seren pum pwynt ar waelod pob aeronen wrth eu mela a’u rhoi ar edau goch – hynny yw gwraidd sawl cred fod y goeden yma’n un rymus – y pentogram yn symbol amddiffynnol, hynafol. Oes rhywun yn troi llaeth hefo pren cerddinen i atal y llaeth rhag ceulo? Neu’n cadw darn o’r pren fel swyn poced yn erbyn cryd cymalau?
Dof dan siffrwd drwy’r rhedyn at y griafolen gnotiog uchaf oll. Yn ôl chwedloniaeth Lychlynnaidd, dyma’r goeden a greodd y ddynes gyntaf. Yno llanwaf hwd hen gôt ag aeron gan mai dyna’r cwbl sydd gen i heddiw. Dof adref wedyn a chadw rhywbeth o lawnder yr haf, fel ei fod gyda mi, wastad, drwy’r gaeaf. Ta waeth beth ydi o – darn o bren cerddinen wedi’i ddwyn i’r tŷ, aeron am wddf, potiau jeli fel llusernau, stori, atgof, arogl, blas.
Mae’r goeden hon hefyd yn cael ei hadnabod fel un i’n helpu rhag mynd ar goll. Pwy fyddai’n gweld hon, ar y ffordd allan, yn ei hysblander llachar, heb hefyd sylwi arni a diolch am ei chymorth, wrth ddod yn ôl adref mewn glaw, mewn niwl, neu mewn dryswch? Be well na dilyn y gerddinen adref? Dof yn ôl at dŷ heb griafolen wrth ei ddrws, ond gosodaf aeron wrth y rhiniog, rhag ofn.
Nofel ddiweddaraf Siân Melangell Dafydd yw Filò (Gomer, 2020). Mae hi’n dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor.
Manylion y llun: 'O dan y gerddinen' gan Janis Rozentāls (Google Art Project)