Cyfansoddi

Domino

Stori Fer Iawn

Aled Jones Williams

Amser darllen: 2 funud

21·07·2021

Y clêm-tw-ffêm yn nyddiau fy maboed oedd iddo ef a Dylan Thomas un noson ganfod eu hunain yn chwildrins tu allan i dafarn yng Nghaerdydd. Pa dafarn, ni wyddai, oherwydd yr oedd yn chwildrins. Ond cofiai’r flwyddyn, 1950.

Ond yr oedd digwyddiad llawer pwysicach, yn fy nhyb i, flynyddoedd lawer ynghynt. Mewn tŷ tafarn eto. Un o dafarndai Bangor lle roedd pedwar ohonynt yn llymeitian rownd y bwrdd ac yn chwarae dominos. Ac i un o’r pedawr, sef Robert Williams Parry, holi’n sydyn: ‘Sut, hogia, fyddach chi’n disgrifio rhyw ddigwyddiad byr ei barhad?’ Fel rhywun yn mynd heibio ffenasd, cynigiodd un o’r giang. Fel haf plentyndod, oedd cynnig un arall. Digwyddodd, darfu, megis seren wib, ebe fy nhaid. ‘Ew,’ meddai Williams Parry wrth bocedu - yr oedd fy nhaid hyd y diwedd yn grediniol iddo weld hyn yn digwydd - domino.

Fy nhaid, James Barraclough Huws. Y bardd. Erioed wedi clywed amdano? Wel, naddo mwn. Heblaw, efallai, am y bryddest ‘goll’ yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, a’r halibalŵ ynglŷn â hi. Sut y medrid fod wedi creu y ffasiwn stŵr am gerdd nas gwelwyd erioed, ni wn, ond dyna Gymru i chi. Y gred yw i fy nhaid roi’r gorau i farddoni’n llwyr ar ôl darllen cofiant i’r bardd Ffrangeg, Arthur Rimbaud, a chael lle wedyn fel prentis hefo dyn papur papuro, gan yn y man etifeddu’r busnes.

‘Rŵan ta, daeth hyn i gyd yn ôl i mi y dydd o’r blaen wrth ddarllen am rywun yn y cwr yma oedd newydd symud i dŷ a phenderfynu ailbapuro. Yn ôl y cofnod yn y papur bro, y ‘gwreiddiol’ oedd y papur wal drwy’r tŷ i gyd. Wrth grafu’r papur yn yr ystafell wely fwyaf yn y tŷ, daeth y perchennog newydd ar draws pwt o gerdd oedd wedi ei gludo ar y plastar cyn ei gorchuddio â’r papur blodeuog, ymffrostgar. A dyma’r llinellau:

drwy hydref fy llygaid
gwelaf eto wanwyn
dy wêdd.

Tybed, holai’r ysgrifennwr y papur bro, a wyddai unrhyw un pwy oedd awdur y geiriau hyn, a pham eu bod wedi eu cuddio a’u gorchuddio? A wyddai unrhyw un am enghreifftiau cyffelyb o rywbeth tebyg?

Meddyliais innau’n syth bin, wrth gwrs, am taid, y cyn-fardd a’r dyn papur papuro.

Y mae fy nghariad at fy nhaid yn fy llesteirio rhag ymateb.

Bydd cyfrol o straeon byrion iawn Aled Jones Williams yn cael ei chyhoeddi nes ymlaen eleni gan Carreg Gwalch.

Llun: Manylyn o'r darlun olew ar ganfas 'Arthur Rimbaud' (1987) gan Christiaan Tonnis/Flickr

Y ‘gwreiddiol’ oedd y papur wal drwy’r tŷ i gyd

Pynciau:

#Aled Jones Williams
#Stori fer
#R Williams Parry