Cyfansoddi

dŵr ar y lleuad

sgyrion

Llŷr Gwyn Lewis
26·05·2021

Llun gan Mert Kahveci / Unsplash
 

Fe hoffwn allu dweud, fel sawl un arall, fod agor ffenestri’r to ar noson loergan glir a syllu ar y lleuad yn fy helpu i deimlo’n well am bopeth, gan fod synio amdani yno yn peri i ddyn ymdeimlo ag anferthedd yr hyn sydd o’i gwmpas a’i fychander ef ei hun a pha mor wibiol o fyrhoedlog yw hyn oll. Ond ni allaf ddweud hynny gan na allaf goelio ynddi, waeth pa mor hir y syllaf ar y lloer.

Hynny yw, gallaf weld ei bod yno, a gallaf fwynhau edrych arni, ceisio dirnad ac amlinellu ei chrateri a’i chysgodion, a’i gwyn llachar sydd mor lân nes gyrru syched ar ddyn. Ond ni all fy ymennydd, er ei waethaf, ei gweld am yr hyn ydyw, sef talp anferthol o graig yn hongian ynghanol y gofod ac yn adlewyrchu goleuni’r haul. Rhaid i’m hymennydd fy mherswadio ei bod yn cynhyrchu ac yn llosgi ei goleuni ei hun, neu ei bod wedi ei gosod neu ei pheintio ar yr awyr; ei bod yn ddisgen fflat, nid pelen gron, a’i bod bron iawn o fewn gafael, nid ddau gant a hanner o filoedd o filltiroedd i ffwrdd. Neu’n waeth byth, ymdeimlo â hi fel absenoldeb yn unig: twll yn y nos lle torrwyd cylch i adael y dydd i mewn, neu’r haul mewn negydd. Yn syml, mae fel pe bai f’ymennydd, wrth weld y lleuad, yn dod nôl ataf â’r neges: does not compute.

Tan i mi edrych arni neithiwr, a dal cip ar gornel ohoni rhwng cymylau gwibiol oedd wedi dod â’r glaw. Tan y prynhawn 'ma pan ddaeth y newydd eu bod wedi dod o hyd i ddŵr ar y lleuad. Y fath bosibiliadau: efallai rŵan y gallwn sefydlu gorsaf yno. Efallai y gallwn fynd oddi yno, â hwb, cam a naid, i blanedau a galaethau dirifedi. Y peth cyntaf feddyliais i oedd, ‘diolch byth – mae ’na ddihangfa i rywrai, rywbryd, felly; ffordd arall, cyfle arall’. Ond ar gynffon hynny wedyn daeth rhyw dristwch mawr: un talp arall o graig i’w dinistrio fel gwnaethon ni â hon.

Mwya sydyn gallwn edrych arni a’i dirnad yn union fel mae, pelen anferthol yn hongian allan yn fanna yn y gofod. A dyma feddwl, damia ni, rydan ni wedi gwneud rhywbeth iddi rŵan: wedi ei thynnu i mewn i gwmpas ein deall, fel petai disgyrchiant yn rhy gryf, ei llusgo i mewn i orbit ein helbulon a’n llanast. Yn lle gadael iddi yno, yn syched annirnad gwyn i gyd.

Cyfrolau diweddaraf Llŷr Gwyn Lewis yw Fabula (2017) a rhwng dwy lein drên (2020). Bydd ei gyfrol Rhyw Flodau Rhyfel (2014) yn cael ei chyhoeddi yn Saesneg gan wasg Parthian fis Gorffennaf 2021. Cyfieithwyd Flowers of War gan Katie Gramich.

Mwya sydyn gallwn edrych arni a’i dirnad yn union fel mae

Pynciau:

#Y lleuad
#Cerddi pros
#Llŷr Gwyn Lewis
#Sgyrion