Cyfansoddi

Cyrff yn hedfan

Wrth fy ngwaith: paentio dawns

Carl Chapple
25·09·2019

Stiwdio'r artist, Carl Chapple


'Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, sef dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf. Anelu i greu darlun a fyddai'n cyfleu synwyrusrwydd ac ymwybyddiaeth John fel perfformiwr yr oeddwn i i gychwyn. Roedd ei symudiadau ar ffurf dilyniannau araf, byrfyfyr – gan rewi bob hyn a hyn mewn ystum deinamig – yn gweithio'n dda wrth i mi fynd ati efo'r siarcol. Trwy'r broses hon y daethom o hyd i ystum penodol ar gyfer darlun llawer mwy sylweddol.

Mae darlunio yn ystod ymarferion dawns yn creu heriau penodol – cyrff yn hedfan ar draws y llwyfan, yn prin aros yn llonydd am fwy nag eiliad ddau. Mi roedd fy mrasluniau'n anorfod arwynebol o'r herwydd. Gan chwilio am ffyrdd o greu darluniau llai bras, dechreuais arbrofi â ffilm a recordio'r dawnswyr wrth iddynt ymarfer, fel bod modd gwylio rhai symudiadau drosodd a throsodd yn fy stiwdio. 

Mae'r ffigwr dynol wedi bod yn ganolog i fy ngwaith artistig erioed – gweithiais am flynyddoedd gyda modelau noeth, ac yna ar bortreadau – ond roedd cydweithio gyda model byw yn y ffordd hon yn wahanol. Mi newidiodd y profiad fy nhrywydd. Roeddwn yn tynnu ar hanes a diddordebau creadigol John yn gymaint ag ar fy rhai i, ac mi roedd hynny'n chwa o awyr iach. Mi werthfawrogais am y tro cyntaf y gorgyffwrdd rhwng dawns fel celfyddyd a fy nghonsýrn innau fel artist.'
 

Mae arddangosfa o baentiadau a darluniadau Carl Chapple i'w gweld yn Oriel Ffin y Parc, Llanrwst hyd 9 Hydref 2019 ac yna yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o 31 Tachwedd 2019 hyd 5 Ionawr 2020, lle bydd gweithdai darlunio yn cael eu cynnig am ddim ganddo, ar y cyd â dawnswyr Ballet Cymru.

Mae'r gwaith yn ffrwyth preswyliad Carl Chapple gyda chwmni rhyngwladol Ballet Cymru.