Nâzim Hikmet, cyf. Mutlu Konuk Blasing


Life's Good Brother

W W Norton & Company, 192tt, £13.70, 2013

Her Gyfieithu 2017
Cyfansoddi

Her Gyfieithu 2017


Siân Cleaver

Amser darllen: 12 munud

10·08·2017

Cyfieithu cerdd o eiddo Nâzım Hikmet (1902–1963) oedd Her Gyfieithu 2017. Roedd Hikmet yn un o feirdd amlycaf Twrci yn yr ugeinfed ganrif ac fe’i carcharwyd am ei ddaliadau gwleidyddol. Cafodd ei waith ei gyfieithu i fwy na 50 o ieithoedd ond nid i'r Gymraeg - tan nawr.

 

Y gwaith buddugol

Yaşamaya Dair’ gan Nâzim Hikmet, cyfieithiad gan Siân Cleaver


Byw
 

I

Nid ar chwara’ bach y mae byw:

rhaid bod o ddifri calon yn ei gylch,

fel gwiwer, er enghraifft,

hynny yw, heb ddisgwyl dim

y tu hwnt i fyw ei hun,

fel bod byw yn mynd â’ch holl fryd.

Nid ar chwara’ bach y mae byw:

rhaid bod o ddifri calon yn ei gylch,

i’r fath raddau fel y medrwch,

a’ch cefn yn erbyn y wal, a’ch dwylo wedi’u clymu,

neu mewn labordy â chôt wen amdanoch a sbectol mawr,

farw dros eraill – hyd yn oed y sawl

nad ydych yn eu hadnabod,

a gwneud hynny o’ch gwirfodd,

er gwaetha’r ffaith bod byw yn bopeth,

bod byw yn hyfryd o beth.

Rhaid bod o ddifri calon ynghylch byw,

fel y dewiswch, hyd yn oed yn oed yr addewid,

blannu coed olewydd,

ac nid ar gyfer y plant chwaith,

ond am eich bod yn gwadu marwolaeth,

yn ogystal â’i hofni hi.

Am fod byw yn pwyso’n drymach

na marw.
 

II

Dychmygwch ein bod ni’n ddifrifol wael,

ac angen llawdriniaeth;

Dychmygwch na fyddwn, o bosib, yn codi

oddi ar fwrdd y llawfeddyg.

Ond, er ein pryder ynghylch marw’n annhymig,

mi fyddwn ni’n dal i chwerthin uwch ben jôc,

a sbio drwy’r ffenest i weld a ydy hi’n bwrw,

ac aros yn eiddgar am y Newyddion diweddara’.

Dychmygwch ein bod ni’n cwffio

dros achos gwerth chweil;

ein bod ni ar faes y gad,

ac yn y fan honno, ar y diwrnod cyntaf un,

yn y frwydr gyntaf un, yn syrthio’n glewt.

Os felly, mi deimlwn ni ryw chwerwder od,

ond mi ddaliwn ni i boeni’n arw

ynghylch hynt a helynt rhyfel allai bara cyhyd.

Dychmygwch ein bod ni yn y carchar,

yn tynnu at ein pum deg oed;

Dychmygwch fod yna ddeunaw mlynedd ar ôl

cyn iddynt agor y drysau haearn.

Hyd yn oed wedyn,

mi gofleidiwn ni’r byd y tu allan,

ei bobl, ei anifeiliaid, ei ymdrechion, a’i wyntoedd;

mi gofleidiwn ni’r byd y tu hwnt i walia’r carchar.

Rhaid byw

fel pe na bai marw yn bod.
 

III

Mi oerith y blaned hon,

sy’n un seren ymhlith nifer,

heb sôn am fod yn un o’r lleiaf.

Hon, ein daear ni,

rhyw ronyn euraid ar felfed glas.

Mi oerith ein daear ni ryw ddiwrnod,

nid fel talp o rew,

neu gwmwl wedi’i chwalu,

ond mi fydd hi fel cneuen Ffrengig wag

yn rowlio am byth yn y gofod pygddu.

Rhaid i chi alaru dros hyn rŵan –

rhaid i chi deimlo’r tristwch y funud hon –

cymaint â hyn y mae’n rhaid caru’r byd hwn

os ydych am ddweud,

‘Do, mi wnes i fyw’.

 

Am yr enillydd

Daw enillydd Her Gyfieithu 2017, Siân Cleaver, o Gastell-nedd yn wreiddiol, yn yr hen Sir Forgannwg, ond mae hi wedi ymgartrefu bellach yn Nhrefor ger Caernarfon. Mynychodd Ysgol Ramadeg y Merched, Castell-nedd, cyn mynd, yn ddeunaw oed, i Brifysgol Sussex lle’r astudiodd Seicoleg. Aeth yn ei blaen wedyn i weithio fel Seicolegydd Clinigol mewn ardaloedd gwahanol yn Lloegr.

Pan ddychwelodd i Gymru i fyw yn y flwyddyn 2000, roedd hi’n awyddus i wella ei Chymraeg, sy’n ail iaith iddi. I’r perwyl hwnnw, cwblhaodd radd yn y Gymraeg ac MA mewn Astudiaethau Cyfieithu yn y Brifysgol ym Mangor. Ers hynny, mae hi’n mwynhau cystadlaethau cyfieithu ac yn ymddiddori’n bennaf mewn cyfieithu llenyddol – o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg fel ei gilydd.


Ymateb Siân Cleaver i’r Her Gyfieithu

F’ymateb cychwynnol wrth weld natur Her Gyfieithu 2017 oedd teimlo rhyw fymryn bach yn amheus am fy mod i fel arfer yn teimlo mai’r ffordd fwyaf priodol o gyfieithu cerdd yw cael hyd i gyfieithydd sy’n siarad y ddwy iaith dan sylw, a hynny mor agos ag sy’n bosib at safon siaradwr brodorol. Wedi dweud hynny, roeddwn i’n ymwybodol iawn nad yw hyn bob amser yn bosib, yn enwedig pan fydd angen cyfieithu rhwng ieithoedd lleiafrifol. Roeddwn i’n gwbod hefyd fod cyfieithu trwy ddefnyddio testunau ‘pontio’ yn gyffredin iawn yn y byd cyfieithu rhyngwladol sydd ohoni ac nad oedd ’na reswm, felly, i beidio â rhoi cynnig ar yr Her.

Y peth nesa’ a feddyliais oedd mai defnyddiol fyddai cael trafod y gerdd efo siaradwr Tyrceg brodorol a fedrai ymateb mewn ffordd sensitif i’r gerdd wreiddiol a thrafod a dehongli ei chynnwys yn Saesneg neu yn Gymraeg. Fodd bynnag, wnes i ddim oedi’n hir uwch y posibilrwydd hwn am i mi sylweddoli’n fuan iawn nad ydw i’n troi mewn cylchoedd lle roedd hynny’n debyg o ddigwydd!

Penderfynais felly y byddwn i’n dibynnu’n bennaf ar y gerdd bontio Saesneg, ond cyn cychwyn ar y cyfieithiad ei hun, darllenais bob dim oedd ar gael ar-lein am y gerdd ac am awdur y gerdd. Mi wnes i hefyd edrych ar y gerdd wreiddiol (yn hytrach na’i darllen!), mynd drwy’r wybodaeth oedd ar gael ar wefan PEN, a gwrando ar y tâp o’r gerdd yn cael ei hadrodd. Ar ôl gwneud y pethau hyn, roeddwn i’n teimlo mai’r cam pwysig nesa’ oedd trio penderfynu a oedd y cyfieithiad Saesneg ar wefan PEN yn un dibynadwy (methais â dod o hyd i unrhyw gyfieithiadau eraill i’r Saesneg ar-lein). Darllenais y cyfieithiad Ffrangeg, felly, am fy ’mod i’n deall rhywfaint o Ffrangeg a chymharu ei gynnwys â’r cyfieithiad Saesneg. Wedyn, edrychais ar y cyfieithiadau eraill i ieithoedd nad ydw i ddim yn gyfarwydd â nhw – y Sbaeneg a’r Gatalaneg os ydw i’n cofio’n iawn – ac â chymorth Google Translate, roedd modd cymharu eu cynnwys hwythau â’r cyfieithiad Saesneg. Ar ddiwedd hyn i gyd, llwyddais i weld digon o gyfatebiaeth rhwng y cyfieithiadau gwahanol i gasglu bod y cyfieithiad i’r Saesneg yn un dilys (er ei bod hi’n bwysig nodi, wrth gwrs, y gallwn i fod wedi cael f’arwain ar gyfeiliorn os oedd y cyfieithiadau i’r ieithoedd eraill hefyd wedi’u seilio ar y gerdd bontio Saesneg!).

Ar ôl penderfynu bod y cyfieithiad pontio Saesneg yn debyg o fod yn gyfieithiad teg o’r gerdd wreiddiol, darllenais y gerdd bontio yn fanwl er mwyn sicrhau bod gen i ddehongliad personol digon sicr o’i hystyr. Nodais hefyd y pwyntiau canlynol:

  1. bod y llais barddol yn arbennig o afieithus ac angerddol a bod y bardd yn annog y darllenydd i uniaethu â’i brofiad a’i syniadaeth, heb foesoli neu swnio’n bregethwrol;
  2. bod yr ‘annog’ yn cael ei ategu gan ddefnydd helaeth o ailadrodd;
  3. bod yr arddull yn un sgyrsiol ac anffurfiol ac yn creu rhyw naws agos-atoch, er y gellid dadlau hefyd fod fframwaith y gerdd ar y cyfan yn eitha’ ffurfiol.

Wedi nodi’r pethau hyn, dechreuais gyfieithu gan ddilyn y patrwm y byddwn yn ei ddilyn ag unrhyw gerdd, sef aros mor driw â phosib i’r gerdd wreiddiol (yn yr achos hwn, y gerdd bontio Saesneg). Ceisiais sicrhau, ar yr un pryd, bod y cwestiwn, ‘Beth yw’r ffordd fwya’ naturiol o ddweud hyn yn Gymraeg?’ ar flaen fy meddwl drwy’r amser.

Er mwyn creu naws anffurfiol oddi mewn i’r fframwaith ffurfiol, defnyddiais sawl gair ac ymadrodd mwy tafodieithol eu naws fel ‘cwffio’, ‘sbio’ a ‘gwerth chweil’ yn ogystal ag iaith a chystrawen eitha’ ffurfiol. Roeddwn i hefyd yn effro iawn i gyffyrddiadau bychain a fyddai o bosib yn annog darllenwyr Cymraeg i glosio at y gerdd – ‘ oed yr addewid’, er enghraifft, yn hytrach na ‘saith deg oed’. A thrwy gydol y broses, byddwn yn darllen fy nghyfieithiad ar lafar, er mwyn gwneud yn siŵr fy mod yn cynnal y naws sgyrsiol ac nad oedd honno’n cyd-daro â’r elfennau mwy ffurfiol.

At ei gilydd, pan orffennais fy ngherdd i, roeddwn i’n hollol sicr mai ‘cyfieithiad o gyfieithiad’ yn hytrach na chyfieithiad o’r gerdd wreiddiol Dyrceg a oedd gen i. Wedi dweud hynny, fy nheimlad terfynol oedd bod cyfieithu drwy gyfrwng cyfieithiad pontio yn dderbyniol. Roeddwn i hefyd, wrth gwrs, yn llawn ymwybodol o’r ffaith nad yw unrhyw gyfieithiad penodol yn cau’r drws ar gyfieithiadau eraill yn y dyfodol – ac fe allai’r rheiny gael eu cyflawni trwy ddulliau hollol wahanol.


Trefnir yr Her Gyfieithu ar y cyd gan PEN Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru.

Partneriaid Her Gyfieithu 2017: Cyfnewidfa Lên Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Wales PEN Cymru a Phrifysgol Abertawe. Cefnogir Cyfnewidfa Lên Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.

Llun: portread o Nâzim Hikmet. Hawlfraint: Bundesarchiv, Bild 183-14809-0004 / Sturm, Horst / CC-BY-SA


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Roeddwn i'n effro iawn i gyffyrddiadau bychain a fyddai'n annog darllenwyr Cymraeg i glosio at y gerdd

Dyddiad cyhoeddi: 10·08·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Guto Dafydd

Mae cerddi arobryn cadair a choron eleni’n gweddu i’r dim i’r brifwyl agored, orfoleddus, herfeiddiol a gafwyd ym Mae Caerdydd. O ran arddull, maent yn hygyrch – yn rhwydd i’w darllen, a throeon ymadrodd yn pefrio oddi ar y dudalen. O ran cynnwys, maent yn…

Dadansoddi


Nathan Abrams

Ydw i o'r farn bod Jeremy Corbyn yn wrth-Semitaidd? Nac ydw. A yw'n fygythiad dirfodol i Iddewon y Deyrnas Unedig? Nac ydi. Ydi maniffesto Llafur yn wrth-Iddewig? Nac ydi. A oes gan Corbyn broblem gydag Israel? Oes, mae ganddo. Ond nid…

Adolygu


Ruth Richards

Wrth i gamerâu cryno a rhad gyrraedd y farchnad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwn y cwmni Kodak yn anelu eu nwyddau at ferched ifanc. Dyma grŵp demograffaidd a elwir ganddynt yn 'Kodak Girl', enw sy'n cyfleu a manteisio ar feiddgarwch ac…

Dadansoddi


Annwyl Olygyddion,

Yn yr awyrgylch anoddefgar sydd ohoni, hoffwn dynnu eich sylw at garreg fedd go arbennig ym mynwent Bethesda Manod, Blaenau Ffestiniog. Yn wynebu'r Moelwyn Mawr ceir carreg fedd syml o lechfaen 'Stiniog gyda'r arysgrif canlynol arni: In Loving Memory of Professor Achill Rappaport of Vienna,…

Dadansoddi


Fflur Arwel

Bore digon tebyg i’r arfer oedd y bore Sadwrn hwnnw yn y Shaftesbury Hand Car Wash yng Nghasnewydd. Roedd haul Mehefin yn crasu'r tarmac ac arogl coffi rhad yn cymysgu gyda sebon wrth i’r gweithwyr fynd ati i lanhau’r ceir. Yn eu plith yr oedd dyn ifanc tair ar hugain mlwydd oed o’r enw Mustafa Dawood.…

Adolygu


Diane Bailey

Fel cyfanwaith, mae'r arddangosfa hon yn rhoi i ni bortread o gymoedd de Cymru, heb y bobl. Meddai Stokes, ‘I was well into this endeavour before I saw that the Valleys people were absent. Or were they?' Mewn gwrthgyferbyniad gyda'r tai teras twt a…

Dadansoddi


Huw L Williams

Eisteddfod hamddenol oedd hi fod. Roedd y maes, yn gyfleus iawn, nepell o fy nghartref yn Grangetown. A minnau wedi cael hen ddigon o ruthro'n chwyslyd rhwng gormod o bebyll yn Eisteddfodau'r blynyddoedd diwethaf y bwriad y tro hwn oedd mwynhau’r adloniant,…

Adolygu


Elin Meredith

Nofel a ddatblygir ar gynfas eang yw Taith yr Aderyn. Mae’n ein tywys i diroedd pell, i fyd o lynnoedd, mynyddoedd a choedwigoedd. Dyma'r byd digyfnod y lluniodd Alun Jones yn wreiddiol yn Lliwiau’r Eira (Gomer, 2012). Mae’r amwysedd o ran lleoliad a chyfnod yn ei gosod ar wahân i…