Cyfansoddi

Her Gyfieithu 2019


Elin Haf Gruffydd Jones

Amser darllen: 3 munud

12·06·2019

Julia Fiedorczuk. Hawlfraint y llun: Edyta Dufaj

Meddai bardd Her Gyfieithu 2019, Julia Fiedorczuk o Wlad Pwyl: ‘Yr hyn sy'n ddelfrydol i mi ydy barddoniaeth sydd yn ymgomio gyda disgyblaethau eraill, er enghraifft bioleg; barddoniaeth sydd yn agored i ystod eang o fodau ac emosiynau, ond sydd hefyd ar yr un pryd yn ostynedig ac yn teimlo pwysau geiriau. Mae fy meistri felly yn cynnwys nid yn unig nifer (fawr!) o feirdd, ond gwyddonwyr yn ogystal, gan fod rhaid i wyddonwyr hefyd edrych ar y byd fel petaent yn ei weld am y tro cyntaf.' 

✒︎

Ers degawd bellach, mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn cynnal cystadleuaeth yr Her Gyfieithu gyda’r bwriad o hybu cyfieithu creadigol fel crefft artistig, sydd yn ei thro yn pontio’r berthynas rhwng y Gymraeg a ieithoedd eraill y byd. Dros y blynyddoedd, dewiswyd testunau gwreiddiol – barddoniaeth a rhyddiaith – yn Ffrangeg, Saesneg, Sbaeneg ac yn fwy diweddar yn y Gatalaneg a Thwrceg i geisio ysgogi cystadleuwyr, boed yn Brifeirdd neu’n awduron a chyfieithwyr newydd, i roi tro ar y gystadleuaeth unigryw hon. 

Hyd yn oed cyn yr ‘argyfwng dysgu ieithoedd tramor modern’ prin fyddai’r siaradwyr rhugl, heb sôn am y cyfieithwyr llenyddol profiadol, rhwng rhai o’r ieithoedd hyn a’r Gymraeg. Faint o gyfleoedd sydd, mewn gwirionedd, i gyfieithu testunau creadigol i’r Gymraeg o ieithoedd ag eithrio Saesneg? Ni chyhoeddwyd y ganrif hon yr un cyfieithiad i’r Gymraeg o unrhyw nofel o glasuron iaith arall. Dyna ddweud mawr amdanom. Rydym ni, ar y llaw arall, am i’n llenyddiaeth ninnau deithio, a chael ei chyhoeddi mewn cyfieithiad i ddarllenwyr mewn ieithoedd eraill.

Ers tair blynedd erbyn hyn, mae’r Her Gyfieithu’n caniatáu – yn wir, yn annog – cyd-gyfieithu, cyfieithu cymunedol, cyfieithu cydweithredol, torfoli cyfieithiadau ac hefyd yn cydnabod technolegau cyfieithu fel adnoddau i’r cystadleuwyr. Hwyl, nid arholiad, yw’r Her Gyfieithu. Rhan o’n cenadwri yw cymell cystadleuwyr i ymestyn eu cyhyrau cyfieithu creadigol y tu hwnt i gyfyngiadau presennol eu rhugledd ieithyddol. Ymgais felly ar osod ‘amlieithrwydd goddefol’, chwedl sosioieithyddion, ar waith a hynny mewn cyd-destun ble mae angen mireinder a manylder i gynhyrchu testun newydd. Ond er mor chwyldroadol yw’n rheolau cystadlu, mae’r Her Gyfieithu wedi glynu’n glir iawn at egwyddor draddodiadol wrth fynnu meistrolaeth gan y beirniaid o’r iaith wreiddiol a’r iaith darged fel ei gilydd. 

Pwyleg yw iaith yr Her eleni. Blwyddyn Brexit oedd 2019 i fod, ac efallai mai dyna fydd hi o hyd. Beth bynnag fo’n tynged, pa well dewis na Phwyleg? Y Pwyliaid, wedi’r cyfan, yw ein cyd-ddinasyddion Ewropeaidd mwyaf niferus ac amlycaf yma yng Nghymru, o gyfrif ym mha wladwriaeth y cawsom ein geni. Ac y berthynas honno rhwng y Cymry a'r Pwyliaid, ddoe a heddiw, fydd testun trafodaeth Mercator Rhyngwladol ar faes y Brifwyl, gyda Dr Karolina Rosiak o Brifysgol Poznań yn cyflwyno’i hymchwil ar agweddau Pwyliaid cyfoes yng Nghymru at y Gymraeg ynghyd ag olrhain hanes y Pwyliaid yma yn yr ugeinfed ganrif. 

Ond faint o gyfnewid fu rhyngom? Faint o gystadleuwyr yr Her eleni fydd yn gallu cyfieithu heb ddefnyddio’r fersiynau Saesneg neu Sbaeneg fel ieithoedd pont? Faint fydd yn troi at gymdogion, cydweithwyr neu gyd-rieni Pwyleg eu hiaith am gymorth neu am sgwrs wrth geisio bwrw iddi?

✒︎

Manylion Her Gyfieithu 2019

Dwy gerdd – ‘Szuflada’ a ‘Relentlessly craving’ – gan fardd Pwyleg cyfoes, Julia Fiedorczuk, yw darnau gosod Her Gyfieithu 2019. Mae Julia Fiedorczuk yn fardd, yn awdur, yn gyfieithydd ac yn ddarlithydd mewn llenyddiaeth Americanaidd ym Mhrifysgol Warsaw. Ysgrifennodd, ar y cyd â Gerardo Beltrán, ysgrif dairieithog ar farddoniaeth ac ecoleg ac mae'n aelod o'r gymdeithas er budd astudio iaith a'r amgylchfyd, ASLE (Association for the Study of Language and the Environment). Mae'r berthynas rhwng y ddynoliaeth a byd natur yn ganolog i'w gwaith, yn ogystal â hunaniaeth, aralledd a'r cysyniad o gyfrifoldeb moesegol. Cyfieithodd i'r Bwyleg ysgrifau John Asherby, Other Traditions, yn ogystal â gwaith Wallace Stevens, Forrest Gander a Laurie Anderson.

Cyflwynir gwobr o £200 ynghyd â Ffon yr Her Gyfieithu a noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw 24 Mehefin 2019. Rhaid cystadlu drwy wefan Wales PEN Cymru. Codir ffi o £6 am bob ymgais. Beirniad Her Gyfieithu 2019 yw Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor. 

Cyhoeddir enw’r enillydd ddydd Iau 8 Awst 2019 yn yr Eisteddfod Genedlaethol mewn digwyddiad arbennig yn stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cyhoeddir y cyfieithiad buddugol a’r feirniadaeth ar wefan O’r Pedwar Gwynt ar y diwrnod. 

Trefnir y gystadleuaeth gan Gyfnewidfa Lên Cymru a Wales PEN Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, The Polish Cultural Institute a chylchgrawn llyfrau Cymru, O’r Pedwar Gwynt.

✒︎

Mae’r Her Gyfieithu yn rhan o raglen waith Cyfnewidfa Lên Cymru a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Cyffordd gyfieithu yw Cyfnewidfa Lên Cymru sy'n cysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a thramor. 

Mae Wales PEN Cymru yn un o 145 canolfan PEN mewn mwy na 100 o wledydd ar draws y byd. Mae’n gysylltiedig â PEN Rhyngwladol, sy’n rhoi llais blaenllaw i lenyddiaeth ar draws y byd. Mae PEN yn hyrwyddo llenyddiaeth ac yn amddiffyn rhyddid mynegiant. Mae’n ymgyrchu ar ran awduron ar draws y byd sy’n cael eu herlyn, eu carcharu, eu herlid neu sydd dan ymosodiad yn sgil eu gwaith ysgrifenedig.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


‘Mae fy meistri yn cynnwys nid yn unig nifer fawr o feirdd, ond gwyddonwyr yn ogystal, gan fod rhaid i wyddonwyr hefyd edrych ar y byd fel petaent yn ei weld am y tro cyntaf’

Dyddiad cyhoeddi: 12·06·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Owain Schiavone, Toni Schiavone ac Y Cyrff

Roedd y bws ola i Lanrwst o Ganolfan Aberconwy, Llandudno nos Sadwrn 12 Awst 1989 dan ei sang. Wrth deithio i lawr y dyffryn trwy Glan Conwy ac ymlaen i Maenan roedd pawb mewn hwyliau da ar ddiwedd noson gofiadwy…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

Fe lynai’r smwclaw’n styfnig at ffensys dur y gwaith ac arwydd ‘stop’ annhymig y reilwe’n grachen-graith pan o’wn heb styried clywed clais ym mhen y lein, mond cwmni’i lais ... 

Adolygu


Morgan Owen

Er mwyn creu hanes, sef naratif yn y bôn, mae’r hanesydd yn dethol o blith digwyddiadau di-ben-draw nad ydynt o anghenraid yn gysylltiedig â'i gilydd yn yr ystyr wrthrychol, ddilyniannol. Yn yr un modd, mae’r ffotograffydd, wrth dynnu a threfnu lluniau at gasgliad, yn dethol o blith…

Cyfansoddi


Qing Niao

Yn Tsieina, ceir diwylliant y sgwâr cyhoeddus: Sgwâr Tiananmen, Sgwâr y Weriniaeth, sgwariau bychain mewn trefi, a’r gerddi, a ddefnyddir ar gyfer ymgynulliadau mawr, cyhoeddus. Mae’r gofod hwn ar gyfer pawb; yn ystod y bore, maent yn aml wedi eu llenwi gan bensiynwyr, o bump tan…

Dadansoddi


Rhys Llwyd

Yn 1974, bu R Tudur Jones yn ddylanwadol wrth i Blaid Cymru geisio penderfynu lle y safai ar y sbectrwm dde-chwith. Roedd Tudur Jones, fel Gwynfor, yn credu na ddylai Plaid Cymru ildio i rethreg yr oes, hynny yw na ddylai ddatgan a…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Meddai bardd Her Gyfieithu 2019, Julia Fiedorczuk o Wlad Pwyl: ‘Yr hyn sy'n ddelfrydol i mi ydy barddoniaeth sydd yn ymgomio gyda disgyblaethau eraill, er enghraifft bioleg; barddoniaeth sydd yn agored i ystod eang o fodau ac emosiynau, ond sydd hefyd ar yr un pryd yn ostynedig ac yn…

Dadansoddi


Aled Gruffydd Jones

‘La verdad no le interesa a nadie’, nid yw’r gwir o ddiddordeb i neb. Rhain oedd geiriau rhybuddiol ac iasoer un o gyfeillion Javier Cercas pan glywodd am fwriad disyfyd yr awdur i gychwyn cloddio i hanes ac ymdreiddio i feddylfryd ewythr ei fam, y ffasgydd brwdfrydig Manuel…

Dadansoddi


Gareth Leaman

Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i'r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw'r adain Gymreig i'r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn…