Llysiau’r gymalwst
Natur heddiw

Llysiau'r gymalwst, neu ddail yr esgob (Llun: Bas Kers/Flickr)
Daw'r gwanwyn â dyddiau gaeafol weithiau. Heddiw: cenllysg mwy na phys yn peltio blodau eiddil y coed afalau. Cawn loches yng nghwt yr ardd. Tan rai dyddiau’n ôl, doedd neb yn cael dod i mewn yma ar ôl i robin goch nythu mewn agoriad bag compost. Ond cael ei ysbeilio gan rywbeth arall, llai na ni, dwi’n siŵr, gafodd y nyth. Yma’r ydym ni rŵan yn nhrydedd storm rew y gwanwyn.
Mae hi’n dymor dal anadl a gweld y byd yn trawsnewid rhwng un gawod a’r llall, rhwng un diwrnod a’r llall. Dros nos, agorodd yr holl ddant y llew. Ar hyn o bryd, mae’r ddraenen ddu yn ei blodau, draenen wen yn ddail, ond wedi blodeuo, sylwais, tua Beddgelert. O, da yw cael gadael y filltir sgwâr o’r diwedd! Uwch ein pennau, mae masarnen enfawr a hithau’n colli croen allanol ei heginau hefo’r cenllysg: daw cawod binc fel petalau magnolia bychain hyd y ddaear i gyd. Mewn ebychiad, mae ein masarnen yn ddail.
Mwy na phinc un goeden afal neu ffiwsia un goeden arall yn ffrwydro o’r pren, mwy na chandi-fflos coed ceirios ar y ffordd i Landderfel, y gwyrdd yma yw gwanwyn, a’r rheswm i orfoleddu. Dim ond gwyrdd. Pan fydd llygaid y dydd a’r llygaid doli dan drwch o gonffeti’r coed ffrwythau af tu hwnt, at gwt yr ardd.
Iawn, felly: dyma’r coed yn agor eu dyrnau a dangos gwyrdd na welwn fyth eto hefo llygaid heddiw. Wedi i ni arfer hefo moelni canghennau, mae neon yn y gwyrdd ifanc yma uwch ein pennau. A dyma’r tir hefyd yn bloeddio’n debyg, fel petai o’r diwedd yn rhoi popeth.
Llysiau’r gymalwst sydd dan draed (iachäwr gowt, y gymalwst). Pryd o fwyd be-wna-i-heno, hawdd ydi o, i mi. Sbigoglys heb siopa. Mae’n flasus, ond i chi ei gasglu cyn iddo flodeuo. Ond mae hefyd yn cael ei adnabod fel pla’r amaethwr. Y dail yma sy’n tyfu’n drwch ac ym mhobman, chwedl fy nhad. Wrth i John Gerard, y botanegydd, ysgrifennu amdano yn y 16g, mae’n cael ei ddisgrifio gyda gwylltineb tebyg i wylltineb fy nhad, ‘where it hath once taken roote it will hardly be gotten out againe, spoiling and getting every yeere more ground, to the annoying of better herbes.’ Mae bellach yn y cennin pedr a blodau ‘del’ eraill, a gwaeth fyth, yn y rhiwbob! Mae’r rhisomau tanddaearol yna’n lledu o dan y tŷ, dybiwn i, a daw dail hyd yn oed o doriad pitw ohonynt.
Er ei duedd i fynd yn bla, gelwir o hefyd yn ddail yr esgob gan mai yr esgobion ddaeth ag o i Ogledd Ewrop, fel llysieuyn llesol. Y Rhufeiniaid ddaeth ag o i Brydain. Neu efallai fod yr enw hwnnw’n cael ei fagu gan fod esgobion yn fwy tebyg o ddioddef o’r gymalwst, wedi’r cwbl, o fod yn bwyta llawer mwy o gig a bwydydd llawn protein na gwerinwyr y cyfnod.
Heibio’r cwt coed, o droed y fasarnen ac i lawr at ben-draw’r ardd lle does dim byd ond coelcerth o frigau gwynt y gaeaf, mae tonnau llysiau’r gymalwst yn gymysg â danadl poethion. Y planhigion sy’n dygnu arni ydyn nhw, yn bustachu bod, yn cael eu sathru ac yn dychwelyd. Daw’r gôt werdd ta waeth beth wnaeth y gaeaf i ni. Dyma’r gwahoddiad i ninnau hefyd fod mor ddygn, mor ystyfnig, os oes rhaid, ac mor eofn. I gofio cryfder ein gwreiddiau, fel y bwgan, llysiau’r gymalwst. Dyma nhw, yn troedio at ddrysau ein cartrefi.
Mae Siân Melangell Dafydd yn ysgrifennu am fyd natur i O'r Pedwar Gwynt.
Ffotograffydd yr ail lun: Robert Flogaus-Faust / Wikimedia Commons