Cyfansoddi

Milddail

Natur heddiw

Siân Melangell Dafydd
27·09·2023

Milddail (Llun: Flickr/Randi Hausken)

 

Mae dyddiau arafaidd yr haf wedi hen fynd. Gwylltineb yr hydref sydd yma bellach, amserlenni gwaith, afonydd gorlawn, cegin yn llawn jariau jam yn lliwiau’r aeron. Mae’r llwyni’n goch – yn gochach nag erioed, rydw i’n credu, ond eto, mae byd natur yn gwneud i ni synnu bob tro daw tymor newydd, fel petaen ni erioed wedi gweld ei debyg o’r blaen. Byddwn i’n taeru ’mod i’n profi bloedd goch egroes ac aeron moch am y tro cyntaf. 

Mae marw’r haf yn dod hefo lliw gwaed, sy’n addas. Ond gan ’mod i’n benderfynol o ddal yn dynn yn naioni’r haf rhyw ychydig bach yn hirach, rydw i’n mynd am dro lle sylwais rai dyddiau yn ôl fod y milddail yn dal i flodeuo’n gryf. 

Mi fydda i’n caru’r rhain am herio hyd yn oed y bobl sy’n mynnu torri eu lawnt yn gwta. Er na fydd y blodau’n cael cyfle i dyfu’n dal yno, daw’r dail – y ‘mil’ o ‘ddail’ – fel plu i dyfu rhwng y glaswellt. Mae’n amhosib cymysgu’r milddail hefo unrhyw beth arall. Fflwff fydd fy mab pump oed yn ei galw, gan fynnu ei bwyta, er mor chwerw ydi hi.

Rydw i’n ei charu hefyd am ei bod yn tyfu’n drwch ar lan yr afon Hirnant lle roedd fy hen Nain yn byw, dim ond tafliad carreg o’m cartref heddiw, ond hefyd am ei bod yn tyfu yn fy atgof o lannau llawer sychach y Seine lle buais i’n byw ychydig flynyddoedd yn ôl. Er mai basged o afalau fydda i’n eu casglu yr amser yma o’r flwyddyn fan hyn, a basgedaid o afalau gwlanog yno, er bod gwahaniaeth o fis a mwy rhwng tymor y mwyar yma ac yno, mae’r milddail yn blanhigyn bach ystyfnig ac yn blodeuo drwy’r haf ac i’r hydref yn y ddau le. I mi, blodyn hiraeth yw milddail; un sy’n gadael i mi ddychmygu bod yn y lle arall. Ac mi fydda i’n hiraethu ddwy ffordd. 

Felly, cefn llaith ai peidio, rydw i’n gorwedd ymysg y milddail ac yn dychmygu sut y byddai Marged Jones – hen Nain – yn dod i olchi ei dillad yn yr afon hon. Yn trampio heibio i flodau fel rhain. Edrychaf yn ôl at y tŷ ond nid cartref sydd yno ond cwt i gadw tractors marw. Mwsogl, duegredyn gwallt y forwyn, a blodyn pinc y goesgoch sy'n tyfu o’r waliau. Nid yno, ond yn y milddail mae ei hysbryd hi, rywsut. Yn sŵn iach y dŵr gwyn hefyd. Ac yn ewyn hufennog y blodau milddail. 

Nid gwyn, nid hufen, ond pinc ydi rhai ohonynt, fel ar lannau’r Seine. Pob clwstwr o flodau pitw pum-petal yn dynn yn erbyn ei gilydd, gan greu to blodeuog o bob coesyn. Mae blodau eraill wedi ildio amser yr aeron, y ffwng a chnau. Ond dyma flodyn sy’n aros gyda ni’n hirach. Blodyn mamolaeth ydi o i mi, yn datgan yn gysurus, ‘Mae Mam yma’. ‘Llysiau’r gwaedlif’ neu ‘Lysiau’r gwaed’ yw rhai enwau eraill arni, er na fyddaf yn clywed neb yn defnyddio’r enwau gwych hyn. Ydi gwaed yn ych-a-fi? Mae’r milddail yn gofalu am hanfod bywyd. 

Mewn afon wedi ei thrwytho â’r planhigyn hwn y rhoddodd Thetis, yn chwedloniaeth Groeg, ei baban, Achilles. Achilea Milefolium fyddai’n gwarchod ei mab rhag anafiadau cleddyfau, saethau a gwaywffyn. Bydd sawl un wedi clywed am ‘sawdl Achilles’ – ymadrodd i gyfeirio at unrhyw fan gwan gan berson. Beth yw eich sawdl Achilles chi? Beth fethodd gael ei drwytho yn nŵr iachol Mam? Dyma wir allu’r blodyn y tu hwnt i chwedl – mae’r milddail yn trwsio o’r tu mewn, yn sicrhau llif iach gwaed ond hefyd yn ceulo gwaed mewn anaf. Dyma Merba Militaris, ymysg enwau eraill. Dyma blanhigyn sy’n medru helpu i oeri’r corff, mynd i’r afael â thwymyn, chwydd, neu’n syml atal trwyn sy’n gwaedu.  

A dweud y gwir, credaf fod yr herba yma wedi bod yng nghrochan Ceridwen wrth iddi greu diod hud i roi pwerau i’w mab hithau. Er mai doethineb roedd hi am ei roi fel mantell warchodol i Morfran, meddyliaf amdani yn troedio yma, lle’r ydw i, lle’r oedd fy hen nain, yn y bryniau uwchben Llyn Tegid, yn casglu planhigion o’r cloddiau. Does dim un planhigyn allai warchod ein meibion gystal â milddail. Siawns iddo fod yn un o’r cynhwysion, y blodyn del yma, y darian wen? 

Nofel ddiweddaraf Siân Melangell Dafydd yw Filò (Gomer, 2020). Mae hi’n dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor.

Mae byd natur yn gwneud i ni synnu bob tro daw tymor newydd, fel petaen ni erioed wedi gweld ei debyg o’r blaen

Pynciau:

#Natur heddiw
#Siân Melangell Dafydd
#Byd natur