Odesa, 1994

Odesa (Llun: Ian Berry/Magnum Photos)
Mae’r enw ‘Odesa’ yn anorfod yn ysgogi arogl arbennig, yn enwedig i’r rhai hynny nad ydynt erioed wedi gweld y dref. Faint o weithiau rydw i wedi digwydd ynganu ‘Odesa’ a gweld y bobl rydw i’n sgwrsio â nhw yn dechrau crynu drwyddynt, cymaint eu cyffro? Mae pawb yn adnabod Odesa. Neu’n fwy penodol, yn gwybod dim amdani, er ein bod bawb ohonom wedi clywed amdani. Mi fyddai’n fwy cywir dweud nad ydym yn adnabod Odesa, ond bod hynny’n wir dros y byd. Oherwydd mae pawb yn gwybod pethau amdani, yn arbennig diolch i ffilm Sergei Eisenstein. A finnau, diolch i wyliau haf 1969. Pentref Cotofsci oedd Odesa mewn gwirionedd, hynny ydi, Lwsanifca, doedd dim ynghylch y môr na’r traeth yn caniatáu cymhariaeth â De Crimea, a doedd yr un siop lyfrau yno â chopi o Jules Verne, er bod y dref wedi cael ei hystyried yn borthladd. Roedd y traeth yn anhraethol fudr, yn cosi dan bryfed a’u cynrhon, ond roedd y parc a’r sgwâr gerllaw yn waeth fyth â’u pentyrrau o ysgarthion hen a newydd dan bob llwyn.
Yna fe fu gwyliau haf eraill, ynghanol y saithdegau. Pan oedd y mwstás yn dechrau torri drwy’r wefus uchaf a rhyw yn dod yn obsesiwn go iawn. Yr adeg hon y cefais fy llosgi gan yr haul ac y deuthum yn fardd. Pan dwi’n siarad am losg haul, peidiwch â’i ddehongli yn llythrennol. Yn fyr, mi gefais fy ngwanu, fel petai rhywun wedi gyrru picell eirias drwof. A finnau mewn trowsus bach ar ganol y traeth.
Un o ganlyniadau’r gwanu hwn oedd i mi, ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach, ddychwelyd i Odesa, y tro hwn gan gyrraedd o’r môr. Cwch Groegaidd oedd o ac iddo chwe dec. Wedi gadael Pireas croesodd y cwch, heb stopio unwaith, y Môr Aegeaidd, Môr Marmara a’r Môr Du, nes docio yn Odesa. A dyna lle’r aeth ein torllwyth o awduron i lawr, pedwar cant ohonyn nhw.
Mae awduron y Gorllewin fel arfer ar y chwith, y rhai da yn gymaint â’r rhai derbyniol, neu hyd yn oed y rhai da-i-ddim. Tydi hynny ddim yn arwydd o dueddiadau pleidiol ond o fydolwg benodol neu, rhywbeth sydd yn fwy aneglur fyth i mi, rhyw ffug-rodres ynghylch hawliau’r bobl. Rydw i’n dychmygu bod yr anghydffurfiaeth ochr chwith hon yn fynegiant o gydymffurfiaeth sy’n nodweddiadol o’r milieu, sydd o’r farn bod peidio â bod ar y chwith i awdur yn warth. Mae peidio â bod ar y chwith yn golygu bod yn fochyn bwrgais. Beth allai fod yn waeth?
Ond nid dyna ydi o. Y noson wlyb honno yn Nhachwedd a’r glaw yn ddigon i’n gwlychu at ein crwyn, ychydig cyn machlud cynamserol yr haul, dyma nhw’n dechrau tywallt i borthladd Odesa, yn un fflyd tswnami ac iddi bedwar can pen. Roedden nhw’n ysu am Odesa, doedd dim dwywaith am hynny. Roedd angen grisiau Potemcin arnyn nhw, efo’r lando. Roedden nhw isio rhywbeth arall hefyd: baneri coch, y KGB, puteiniaid y porthladd. Mi ddechreuon nhw yn y bureaux de change gan eu boddi mewn pres mân. Yn gyfnewid am ddoleri, cafwyd sypynnau trwchus o gwponau pres carbonafets wedi eu dibrisio. Roedd papur pum doler yn gyfystyr â chant o bapurau crychlyd amryliw, cyn hylled â’i gilydd.
Ac am y tro cyntaf, mi wnaeth pob un ohonyn nhw rywbeth wnaeth fy nghymell i’w casáu. Mi ddechreuon nhw dynnu eu lluniau efo’r sypynnau erchyll amryliw hyn, gan eu hagor ar ffurf gwyntyll, eu stwffio ym mhob un boced bosib, a gwep wneud wedi ei thynnu dros eu hwynebau. Roedden nhw fel plant, wedi gwirioni ar y llwythi pres, ac mi roedd y plant hyn yn rhai milain.
Mi wnes eu casáu eilwaith pan wnaethon nhw ruthro at y mân werthwyr a oedd wedi gosod eu stolion y tu ôl i’r bureaux de change, er mwyn dechrau prynu gan y gwalchod hyn beth bynnag ddôi i law: matrioshcas, hetiau milwyr, bonedau bwni, hetiau tri chornel y Fyddin Goch, portreadau Lenin-Stalin, addurniadau urddo a medalau yr Undeb Sofietaidd, samofarau, bwtsias ffelt, siacedi wadin, gweiniau cleddyfau, lanswyr rocedi, épaulettes cadfridogion, ac wedyn mwy o fatrioshcas, a rownd arall eto, yr un pethau yn yr un drefn. Roedden nhw dan yr argraff eu bod wedi glanio yn arwerthiant olaf olion byd gorchfygedig, ond byd a oedd yn dal â’i apêl. Ac wrth fynd rhagddynt, doedd dim pall ar eu tynnu lluniau, yn y gwyll a hithau’n tywyllu, ac ynghanol y fflachiadau mwy a mwy cyson, dyna sesiwn olaf apocalyptaidd cyn i’r nos gau amdanynt o ddifri, a hwythau eisoes mewn capiau a chotiau, mewn trowsusau streip, medalau yn gorchuddio’r frest, ac yn eu dwylo balalaicas, bara kalach ac eiconau.
Yn union fel petaen nhw’n meddwl mai nhw yrrodd i gythraul yr holl gomiwnyddiaeth yma a’i bod hi’n bryd dawnsio rŵan ar ben yr adfeilion. Neu fel petaen nhw wedi bwrw iddi o ddifri i achub yr olion olaf hyn, er mwyn casglu ynghyd yr holl gomiwnyddiaeth yma, o’r newydd.
Diolch byth i ni adael Odesa am Constanța y noson honno.
Diolch i Suhrkamp Verlag Berlin a’r awdur am yr hawl i gyhoeddi’r cyfieithiad hwn. Daw’r gwreiddiol o’r gyfrol Лексикон інтимних міст a gyhoeddwyd yn 2011 gan wasg Meridian Czernowitz yn Tserniftsi. Y cyfieithiad Cymraeg gan Sioned Puw Rowlands. Hawlfraint y gwreiddiol ©Iwri Andrwchofits 2011, 2016.